Canllawiau

Sut i uno elusennau

Darganfyddwch sut y gall elusennau uno ag elusennau eraill.

Yn berthnasol i England and Gymru

Dogfennau

Manylion

Mae elusennau’n uno am lawer o resymau, gan gynnwys gwella eu gwasanaethau a lleihau costau.

Darllenwch ganllawiau i ddeall sut y gall elusennau uno, gan gynnwys:

  • defnyddio’r pwerau a’r prosesau cyfreithiol cywir
  • ymdrin yn briodol â gwaddol parhaol, tir dynodedig ac ymddiriedolaethau arbennig
  • gwirio addasrwydd yr elusen rydych yn uno â hi
  • pryd y gallech fod angen cyfranogiad y Comisiwn Elusennau

Gall CIOs ddefnyddio proses gyfreithiol syml i uno â CIOs eraill. Eglurir hyn yn ‘Sut i uno CIO â CIOs eraill’.

Os ydych yn ymddiriedolwr CIO sy’n ceisio uno â CIO arall, darllenwch ganllawiau ‘Sut i uno elusennau’ yn gyntaf, i ddeall meysydd fel gwirio addasrwydd. Yna, os penderfynwch fwrw ymlaen a’ch bod am ddilyn y broses gyfreithiol syml, darllenwch ‘Sut i uno CIO â CIOs eraill’.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 September 2009
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 March 2024 + show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  3. First published.

Sign up for emails or print this page