Guidance

ID derbyniol wrth ymweld â charchar yng Nghymru a Lloegr (Atodiad A)

Updated 23 July 2024

Applies to England and Wales

Mae Atodiad A isod, rhan o bolisi HMPPS, Fframwaith Polisi Rheoli Diogelwch yn ystod Ymweliadau: Ystad agored

Rhaid i bawb brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i mewn i garchar yng Nghymru a Lloegr am ymweliad cymdeithasol neu swyddogol, oni bai am blant o dan 16 oed sy’n mynd yno gydag oedolyn arall.

Mae’r rhestr hon nodi’r mathau o ID sy’n cael eu derbyn wrth ymweld â charchar yng Nghymru a Lloegr.

Rhaid i oedolyn ddod gydag ymwelwyr o dan 16 oed, ac mae’n rhaid i’r oedolyn ddilyn y gofynion ID a nodir uchod. Mae’r oedolyn hwnnw’n gyfrifol am y plentyn, am gefnogi perthynas y plentyn â’r carcharor, ac am ein sicrhau pwy ydy’r plentyn.

Cewch ddefnyddio unrhyw un math o ID o Restr A.

Os na allwch chi wneud hyn, gallwch ddefnyddio un ddogfen o Restr B ac un math o ID o Restr C.

Os na allwch chi ddangos unrhyw fath o ID o’r rhestrau hyn, mae hi’n bosibl y byddwch chi’n dal i allu gwneud cais o dan amgylchiadau eithriadol.

Mae’n debygol na chewch chi fynd i mewn i’r carchar heb ddangos unrhyw un o’r dogfennau ID gofynnol adeg eich ymweliad, neu os nad ydych wedi gwneud trefniadau gyda’r carchar cyn eich ymweliad.

1. Rhestr A

  • pasbortau
  • cardiau adnabod o un o wledydd yn yr UE neu Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
  • Trwyddedau gyrru cerdyn-llun y DU
  • Trwyddedau gyrru’r UE neu’r AEE
  • Cardiau Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon
  • cerdyn pasbort UDA
  • cerdyn profi oedran sy’n cael ei gydnabod o dan PASS gyda chyfeirnod unigryw (Mae hyn yn cynnwys cerdyn ID Dinesydd)
  • cerdyn adnabod y lluoedd arfog
  • hawlen preswylio fiometrig (BRP) y DU

2. Rhestr B

Un math o ID o’r rhestr hon, ynghyd â rhestr C.

  • dogfen deithio’r Swyddfa Gartref (dogfen deithio confensiwn, dogfen person heb wladwriaeth, dogfen unffordd neu dystysgrif teithio)
  • pàs bws person hŷn
  • Freedom Pass
  • cerdyn profi oedran sy’n cael ei gydnabod o dan y Cynllun Safonau Profi Oedran (PASS) heb gyfeirnod unigryw (edrychwch ar Restr A lle mae cyfeirnod unigryw)

3. Rhestr C

Un math o ID o’r rhestr hon, ynghyd â rhestr B.

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu
  • tystysgrif addysg gan sefydliad addysgol cydnabyddedig sy’n cael ei reoleiddio (ee NVQ, Awdurdod Cymwysterau’r Alban, TGAU, Safon Uwch neu dystysgrif gradd)
  • cytundeb rhentu neu brynu ar gyfer eiddo preswyl (wedi’i lofnodi a’i ddyddio)
  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • cerdyn cyfrif cyfredol banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd (sy’n dangos manylion adnabod)

4. Amgylchiadau Eithriadol

Os nad oes gennych chi ID o’r rhestrau uchod, efallai byddwch chi’n dal yn gallu ymweld drwy gael caniatâd y carchar ymlaen llaw. Cysylltwch â’r carchar yn uniongyrchol i drefnu hyn. Mae manylion cyswllt y carchardai ar gael ar dudalennau gwybodaeth carchardai.

5. Ymwelwyr Swyddogol - ID Derbyniol

Mae’r dogfennau canlynol yn enghreifftiau o ID derbyniol ar gyfer ymwelwyr proffesiynol:

  1. Aelodau’r naill Dŷ Seneddol neu’r llall: Cerdyn ID Dau Dŷ’r Senedd neu gardiau ID y Llywodraeth;
  2. Cynghorwyr cyfreithiol: Dogfen adnabod o Restr A uchod, neu o Restrau B ac C. Rhaid i hyn fod gyda naill ai a. dogfen papur pennawd o’u practis cyfreithiol yn datgan eu bod yn cynrychioli’r carcharor maen nhw’n gofyn am ymweliad ag ef, neu b. os nad ydyn nhw’n cynrychioli’r carcharor eto, dogfen papur pennawd o’u practis cyfreithiol yn egluro pwrpas yr ymweliad
  3. Yr Heddlu, Asiantaeth Ffiniau’r DU a swyddogion Cyllid a Thollau EF: cerdyn gwarant
  4. Swyddogion Prawf a’r Tîm Troseddwyr Ifanc: cerdyn adnabod y gwasanaeth prawf / TTI
  5. Staff o garchardai eraill, pencadlys, Ystad Ddiogel Plant a Phobl Ifanc, yr arolygiaethau (gan gynnwys Arsyllwyr Lleyg) neu’r Swyddfa Gartref: cerdyn diogelwch gyda llun arno wedi’i gyhoeddi gan (neu ar ran) y Weinyddiaeth Gyfiawnder, HMPPS, neu’r Swyddfa Gartref
  6. Swyddogion consylaidd: cerdyn ID consylaidd
  7. Swyddogion cyhoeddus eraill: cerdyn adran neu awdurdod lleol neu gerdyn ID (ond rhaid iddo ddangos enw’r ymwelydd ac enw’r adran neu’r awdurdod lleol)
  8. Gweithwyr cymdeithasol: cardiau adnabod gweithwyr cymdeithasol
  9. Ymchwilwyr: Pàs diogelwch â llun neu lythyr swyddogol (rhaid trefnu ymweliadau ymlaen llaw)
  10. Staff gofal iechyd: Bathodyn/cerdyn adnabod y GIG gyda llun arno neu gerdyn adnabod gofal iechyd gyda llun arno yn y sector annibynnol