Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes Gogledd Iwerddon
Cynllun newydd ar gyfer pobl sy’n mynd â’u ci, cath, ffured anwes, neu gi cymorth o Brydain i Ogledd Iwerddon.
Dogfennau
Manylion
Mae Fframwaith Windsor yn darparu ffordd newydd o deithio gyda chŵn anwes (neu gŵn cymorth), cathod a ffuredau o Brydain (Cymru, Lloegr a’r Alban) i Ogledd Iwerddon o 4 Mehefin 2025 ymlaen.
Mae’r papur polisi hwn yn darparu gwybodaeth cyn i’r cynllun agor ar 4 Mehefin 2025. Os ydych chi’n byw ym Mhrydain, mae’r cynllun yn eich galluogi i deithio o Brydain i Ogledd Iwerddon gyda dogfen syml am deithio gydag anifeiliaid anwes gydol oes. Mae hyn yn para am oes yr anifail anwes ac mae’n rhad ac am ddim. Yr unig beth sydd angen yw gwneud yn siŵr bod eich anifail anwes neu’ch ci cymorth wedi cael ei ficrosglodynnu (yn Saesneg) cyn i chi deithio.
Nid yw hyn yn berthnasol
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon
Nid oes angen unrhyw ddogfennau arnoch i deithio yn ôl ac ymlaen o Brydain gyda’ch anifail anwes neu’ch ci cymorth. Yr unig beth sydd angen yw gwneud yn siŵr bod eich anifail anwes neu’ch ci cymorth yn cael ei ficrosglodynnu (yn Saesneg) cyn i chi deithio.
Os ydych chi’n teithio y tu hwnt i Ogledd Iwerddon ac i mewn i Iwerddon neu wlad arall yn yr UE gyda’ch anifail anwes neu’ch ci cymorth
Bydd angen i chi barhau i ddilyn gofynion iechyd a dogfennol presennol yr UE (yn Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Tachwedd 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Added Welsh translations.
-
Added translation