Cynllun teithio anifeiliaid anwes Gogledd Iwerddon: sut bydd y cynllun yn gweithio
Diweddarwyd 28 Tachwedd 2024
Cynllun newydd ar gyfer pobl sy’n mynd â’u ci, cath, ffured anwes, neu gi cymorth o Brydain i Ogledd Iwerddon
Mae Fframwaith Windsor yn darparu ffordd newydd o deithio gyda chŵn anwes (neu gŵn cymorth), cathod a ffuredau o Brydain (Cymru, Lloegr a’r Alban) i Ogledd Iwerddon.
O 4 Mehefin 2025 ymlaen [footnote 1], os ydych chi’n byw ym Mhrydain, gallwch elwa o gynllun teithio newydd anifeiliaid anwes Gogledd Iwerddon. Mae’r cynllun yn eich galluogi i deithio o Brydain i Ogledd Iwerddon gyda dogfen syml ar gyfer teithio gydag anifail anwes gydol oes. Mae hyn yn para am oes yr anifail anwes ac mae’n rhad ac am ddim. Yr unig beth sydd angen yw gwneud yn siŵr bod eich anifail anwes neu’ch ci cymorth wedi cael ei ficrosglodynnu (yn Saesneg) cyn i chi deithio.
Mae’r trefniadau cyfredol ar gyfer teithio gyda chŵn anwes (neu gŵn cymorth), cathod a ffuredau o Brydain i Ogledd Iwerddon ar gael ar yn wefan Adran yr Amgylchedd Amaethyddiaeth a Materion Gwledig (yn Saesneg).
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, nid oes angen unrhyw ddogfennau arnoch i deithio yn ôl ac ymlaen o Brydain gyda’ch anifail anwes neu’ch ci cymorth. Nid oes angen i chi wneud cais am ddogfen teithio anifail anwes o dan gynllun teithio anifeiliaid anwes Gogledd Iwerddon. Yr unig beth sydd angen yw gwneud yn siŵr bod eich anifail anwes neu’ch ci cymorth wedi cael ei ficrosglodynnu (yn Saesneg) cyn i chi deithio.
Os ydych chi’n teithio y tu hwnt i Ogledd Iwerddon ac i mewn i Iwerddon neu wlad arall yn yr UE gyda’ch anifail anwes neu’ch ci cymorth, bydd angen i chi barhau i ddilyn gofynion iechyd a dogfennol presennol yr UE (yn Saesneg).
Teithio o Brydain i Ogledd Iwerddon
Preswylwyr Prydain
O 4 Mehefin 2025 ymlaen [footnote 1], os ydych chi’n byw ym Mhrydain ac yn teithio i Ogledd Iwerddon gyda’ch anifail anwes neu’ch ci cymorth, bydd angen i chi gael dogfen teithio anifail anwes. Byddwch yn gallu gwneud cais i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am eich dogfen teithio anifail anwes unwaith y bydd y cofrestru’n dechrau ym mis Ebrill 2025. Nid yw’n costio dim arian i wneud cais. Unwaith y bydd dogfen teithio eich anifail anwes wedi’i rhoi gan APHA, gallwch deithio gyda’ch anifail anwes neu’ch ci cymorth o Brydain i Ogledd Iwerddon cyn belled â’ch bod yn:
- gwneud yn siŵr bod manylion eich anifail anwes (rhif microsglodyn a pherchennog) yn gyfredol ar y ddogfen teithio anifail anwes cyn i chi deithio
- dod â chopi digidol neu gopi wedi’i argraffu o ddogfen teithio eich anifail anwes. Mae hyn yn cynnwys datganiad na fyddwch yn teithio ymlaen i Iwerddon neu wlad arall yn yr UE gyda’ch anifail anwes neu’ch ci cymorth
Bydd angen i bob anifail anwes neu gi cymorth gael ei ddogfen teithio ei hun. Mae hyn yn ddilys am oes yr anifail anwes neu’r ci cymorth. Os byddwch yn newid eich manylion, fel eich cyfeiriad, bydd angen i chi wneud cais am ddogfen teithio newydd ar gyfer eich anifail anwes.
Dylech wneud cais am ddogfen teithio anifail anwes cyn gynted â phosibl cyn eich taith. Ar ôl i ni dderbyn eich cais, bydd dogfennau teithio’r anifail anwes yn cael eu rhoi o fewn 5 diwrnod gwaith fel arfer. Rydym yn prosesu ceisiadau yn ystod ein horiau busnes arferol (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm).
Ni allwch deithio i Ogledd Iwerddon o dan y cynllun os ydych yn symud anifeiliaid am reswm masnachol (fel symud cŵn bach i’w gwerthu neu ailgartrefu, neu deithio gyda mwy na 5 anifail anwes i bob perchennog). Ystyrir bod symudiad yn fasnachol os ydych chi’n teithio gyda mwy na 5 anifail anwes.
Mae’r canllawiau DAERA canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am symudiadau masnachol: Canllawiau ar ddod â Chŵn, Cathod a Ffuredau yn fasnachol i Ogledd Iwerddon o Brydain Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (yn Saesneg).
Fodd bynnag, cewch ddefnyddio’r cynllun a theithio gyda mwy na 5 anifail anwes os ydych chi’n mynychu neu’n hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth, arddangosfa neu ddigwyddiad chwaraeon yng Ngogledd Iwerddon ac yn dychwelyd i Brydain wedyn. Bydd angen i chi ddangos prawf ysgrifenedig eich bod wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad, neu gyda chymdeithas sy’n trefnu digwyddiadau o’r fath, pan fyddwch yn teithio. Bydd angen i bob anifail anwes gael ei ddogfen teithio ei hun a bod dros 6 mis oed.
Preswylwyr Gogledd Iwerddon
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon ac yn dychwelyd yno ar ôl aros ym Mhrydain gyda’ch anifail anwes neu’ch ci cymorth, nid oes rhaid i chi wneud cais am ddogfen teithio anifail anwes. Nid oes angen unrhyw ddogfennau eraill arnoch i deithio adref chwaith. Yr unig beth sydd angen yw gwneud yn siŵr bod eich anifail anwes neu’ch ci cymorth wedi cael ei ficrosglodynnu (yn Saesneg) cyn i chi deithio.
Teithio o Ogledd Iwerddon i Brydain
Nid oes angen unrhyw ddogfennau arnoch wrth deithio’n ôl o Ogledd Iwerddon i Brydain. Nid oes angen i breswylwyr Gogledd Iwerddon wneud cais am ddogfen teithio anifail anwes o dan gynllun teithio anifeiliaid anwes Gogledd Iwerddon. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw gwneud yn siŵr bod eich anifail anwes neu’ch ci cymorth wedi cael ei ficrosglodynnu (yn Saesneg).
Gwneud cais am ddogfen teithio anifail anwes
Bydd ceisiadau ar gyfer cynllun teithio anifeiliaid anwes Gogledd Iwerddon yn agor ym mis Ebrill 2025. I wneud cais ar-lein, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- bod yn 16 oed neu’n hŷn
- bod yn breswylydd ym Mhrydain (Cymru, Lloegr, yr Alban)
- bod yn berchennog (neu gael caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog i deithio gyda’i anifail anwes). Yn y rhan fwyaf o achosion, y perchennog fydd y ceidwad cofrestredig
- cael cyfrif Porth y Llywodraeth neu wneud cais amdano, oni bai eich bod yn defnyddio’r gwasanaethau digidol â chymorth.
- gwneud yn siŵr fod eich anifail anwes wedi’i ficrosglodynnu a bod gwybodaeth ei ficrosglodyn (yn Saesneg) yn gyfredol (er enghraifft, bod eich cyfeiriad yn gywir ar y gronfa ddata berthnasol)
- darparu rhif microsglodyn eich anifail anwes a gwybod y dyddiad y cafodd y microsglodyn ei osod neu ei sganio ddiwethaf - gallwch ofyn i’ch milfeddyg am yr wybodaeth hon os nad ydych yn ei gwybod
- llofnodi datganiad fel rhan o ddogfen teithio’r anifail anwes yn cadarnhau na fyddwch yn teithio gyda’ch anifail anwes i Iwerddon neu wlad arall yn yr UE gan ddefnyddio’r cynllun hwn
Bydd cymorth ychwanegol ar eich cais yn cael ei ddarparu ym mis Ebrill 2025. Yn y cyfamser, trowch at yr adran cymorth a chefnogaeth.
Teithio gydag anifeiliaid anwes at ddibenion masnachol
Trowch at ganllawiau DAERA (yn Saesneg) os ydych chi eisiau symud anifeiliaid i Ogledd Iwerddon am resymau masnachol, megis newid perchnogaeth. Ystyrir ailgartrefu elusennol yn newid perchnogaeth, hyd yn oed os nad oes elw ariannol na chyfnewid arian. Ystyrir bod symudiad yn fasnachol hefyd os ydych chi’n teithio gyda mwy na 5 anifail anwes am bob perchennog.
Os ydych chi’n mynd i gystadleuaeth, arddangosfa neu ddigwyddiad chwaraeon yng Ngogledd Iwerddon ac yn dychwelyd i Brydain wedyn gyda mwy na 5 anifail anwes, ystyrir bod hwn yn symud anfasnachol ac fe’i caniateir dan gynllun teithio anifeiliaid anwes Gogledd Iwerddon. Bydd angen i chi ddangos prawf ysgrifenedig eich bod wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad, neu gyda chymdeithas sy’n trefnu digwyddiadau o’r fath, pan fyddwch yn teithio. Bydd angen i bob anifail anwes gael ei ddogfen teithio ei hun a bod dros 6 mis oed.
Teithio o Brydain i Iwerddon, gwlad arall yn yr UE neu wlad a restrir yn rhan 1 o dan 577/2013
Os ydych chi’n byw ym Mhrydain neu yng Ngogledd Iwerddon a’ch bod yn teithio i mewn i Iwerddon neu wlad arall yn yr UE neu wlad a restrir yn rhan 1 (yn Saesneg), bydd angen i chi ddilyn y gofynion perthnasol o hyd. Mae’r gofynion hyn hefyd yn berthnasol os ydych chi’n teithio drwy Iwerddon ar eich ffordd i Ogledd Iwerddon neu Brydain.
Ar gyfer y teithiau hyn, rhaid i chi ddilyn gofynion iechyd yr UE (yn Saesneg) megis brechiadau rhag y gynddaredd ar gyfer pob anifail anwes, a thriniaeth llyngyr ar gyfer cŵn. Bydd angen i chi hefyd gael Tystysgrif Iechyd Anifeiliaid (AHC) yr UE neu basbort anifail anwes dilys yr UE (yn Saesneg).
Nid yw’r ddogfen teithio anifail anwes yn ddilys ar gyfer y math hwn o daith.
Cymorth a chefnogaeth
Gallwch gysylltu ag Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon (DAERA) os oes gennych gwestiynau am deithio gydag anifeiliaid i Ogledd Iwerddon.
Tîm Mewnforion Masnachol DAERA
Daeratradeimports@daera-ni.gov.uk
Rhif ffôn: 0289 0524 588