Ein siarter cwsmer
Diweddarwyd 28 Mawrth 2014
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Dywedoch wrthym beth sy’n bwysig i chi.
Cael eich trin yn dda
Gallwch ymddiried ynom i:
- gwneud yr hyn yr ydym yn dweud y byddwn yn ei wneud
- bod yn ddefnyddiol, yn gwrtais, a’ch trin yn deg a chyda pharch
- ceisio ddeall eich amgylchiadau
- dilyn prosesau’n gywir
- dweud wrthych beth i’w wneud nesaf os ydych yn anfodlon â’r ffordd y cawsoch eich trin
- diogelu eich gwybodaeth bersonol (bydd ein siarter wybodaeth yn dweud sut wrthych)
- ymchwilio i bob adroddiad o dwyll, er mwyn amddiffyn arian cyhoeddus
Cael pethau’n iawn
Byddwn yn:
- rhoi’r penderfyniad, gwybodaeth neu daliad cywir i chi
- esbonio pethau’n glir os nad yw’r canlyniad yr hyn y byddech yn gobeithio amdano
- ymddiheuro ac unioni pethau os gwnawn amgymeriad
- defnyddio eich adborth i wella sut rydym yn gwneud pethau
Rhoi gwybodaeth i chi
Byddwn yn:
- delio â’ch cais y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni, neu cyn gynted ag y gallwn
- dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf, ac erbyn pryd
- rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd
Hawdd i gysylltu
Byddwn yn:
- darparu mwy o’n gwasanaethau ar-lein i’w defnyddio ar amser sy’n gyfleus i chi
- cyhoeddi gwybodaeth am fudd-daliadau a gwasanaethau ar-lein yn www.gov.uk/cymraeg
- esbonio’n glir sut i gysylltu â ni mewn ffyrdd eraill
Yn gyfnewid am hyn, mae angen i chi:
- rhoi’r wybodaeth gywir i ni ar yr adeg gywir
- dweud wrthym pan fydd rhywbeth yn newid
- bod ar amser ar gyfer unrhyw apwyntiadau
- trin ein staff â pharch