Symudedd uwch heb ei dalu: newidiadau i gyfraith PIP o 30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd 22 May 2024
Cefndir
Mewn asesiadau Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ystyried eich gallu i symud o gwmpas.
Newid i gyfraith PIP
Mae’r newid yn y gyfraith yn ymwneud â hawlwyr dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a’u hawl i’r dyfarniad symudedd uwch.
Mae’r newid hwn yn y gyfraith yn dilyn dyfarniad tribiwnlys ar 22 Mai 2020 a nododd fwlch anfwriadol yn rheoliad 27 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliad Annibyniaeth Personol) 2013.
Nid oedd gan DWP y pwerau cyfreithiol i gyfyngu ar y dyfarniad symudedd i hawlwyr a oedd yn derbyn y gyfradd safonol o’r dyfarniad symudedd ac a oedd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ar sail tystiolaeth feddygol newydd. Mae tystiolaeth feddygol newydd yn adroddiad gan weithiwr iechyd proffesiynol y gofynnwyd amdano gan DWP a argymhellodd gyfradd uwch o’r dyfarniad symudedd.
Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau ond yn gallu cyfyngu’r dyfarniad symudedd i hawlwyr os nodwyd newid perthnasol mewn amgylchiadau ar ôl iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Daeth newidiadau i reoliadau PIP i rym o 30 Tachwedd 2020 i gywiro’r bwlch anfwriadol hwn.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Os ydych yn meddwl eich bod yn cael eich effeithio, gallwch ddarganfod am y meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais am adolygiad o’ch dyfarniad symudedd.
Gall hyn hefyd fod yn berthnasol i hawlwyr sydd wedi marw. Os mai chi yw’r person sy’n delio â’r ystâd ac yn meddwl eu bod wedi cael eu heffeithio gallwch gysylltu â’r DWP.
Help gyda PIP
Gallwch gysylltu â sefydliad cymorth lleol neu Cyngor ar Bopeth i gael help i ddeall PIP.