Canllawiau

Trallod seicolegol llethol a theithiau: newidiadau i gyfraith PIP o 28 Tachwedd 2016

Diweddarwyd 26 Tachwedd 2024

Cefndir

Mewn asesiadau PIP, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ystyried eich gallu i gynllunio a dilyn taith.

Newid i gyfraith PIP

O 28 Tachwedd 2016, bu newid i’r ffordd y mae’r DWP yn ystyried sut mai trallod seicolegol llethol yn effeithio ar eich gallu i gynllunio a dilyn taith.

Bydd DWP nawr yn ystyried sut mae hyn yn effeithio ar eich gallu i gynllunio a dilyn taith pan fydd yn penderfynu a ddylid dyfarnu elfen symudedd PIP. Bydd DWP hefyd yn ystyried hyn pan fydd yn penderfynu a ddylid dyfarnu:

  • cyfradd safonol o’r elfen symudedd
  • cyfradd uwch o’r elfen symudedd

Beth mae hyn yn ei olygu I chi

Rydym yn edrych ar yr holl hawliadau PIP cyfredol I wirio a yw’r newid hwn yn golygu y gallech fod yn gymwys I gael rhagor o gefnogaeth o dan PIP.

Rydym hefyd yn edrych t oar hawliadau a benderfynwyd gennym ar neu ar ôl 28 Tachwedd 2016 lle na wnaethom ddyfarnu PIP.

Ni fyddwn yn edrych ar eich cais PIP eto os ydych wedi bod yn cael y gyfradd well o elfennau bywyd bob dydd a symudedd PIP ers 28 Tachwedd 2016.

Unwaith y byddwn wedi edrych ar eich hawliad eto byddwn yn ysgrifennu atoch I roi gwybod I chi am y canlyniad. Oherwydd y nifer fawr o achosion y bydd angen I’r DWP eu hadolygu, efallai y bydd yn cymryd peth amser I chi gael y llythyr hwn.

Efallai na fyddwch yn cael mwy o PIP o dan y newid hwn. Os penderfynwn y dylech gael mwy o PIP, bydd eich dyfarniad fel arfer yn cael ei ôl-ddyddio I 28 Tachwedd 2016, neu os gwnaethoch hawlio PIP ar ôl 28 Tachwedd 2016, wedi’I ôl-ddyddio I’r dyddiad y dechreuoch gael PIP.

Nid ydym yn bwriadu’ch gwahodd I asesiad wyneb yn wyneb fel rhan o’r adolygiad hwn.

Mae’r newid I sut y mae trallod seicolegol llethol yn cael ei ystyried o ganlyniad I farn Uwch Dribiwnlys ar drallod seicolegol llethol a theithiau .

Gallwch wneud cais am PIP eto os credwch y gallech fod yn gymwys erbyn hyn. Bydd y newid I gyfraith PIP yn berthnasol I bob cais newydd.

Help gyda PIP

Gallwch gysylltu â sefydliad cymorth lleol neu Gyngor ar Bopeth i gael help i ddeall PIP.