Canllawiau

Deiet arbennig fel therapi: newidiadau i gyfraith PIP o 28 Tachwedd 2016

Diweddarwyd 26 Tachwedd 2024

1. Cefndir

Wrth wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ystyried eich gallu i reoli therapi a monitro cyflwr iechyd.

2. Newid i gyfraith PIP

O 28 Tachwedd 2016 bu newid yn y ffordd yr ydym yn ystyried yr help ychwanegol sydd ei angen arnoch i ddilyn diet arbennig. Bellach gellir ystyried yr help hwn fel therapi. Mae diet arbennig yn un sydd wedi’i ragnodi neu ei argymell gan weithiwr iechyd proffesiynol.

Bydd DWP nawr yn ystyried mewn rhai amgylchiadau’r oruchwyliaeth, yr anogaeth neu’r cymorth yr oedd eu hangen arnoch gyda’r amseriad a’r math o gymeriant bwyd a diod er mwyn osgoi dirywiad ar unwaith yn eich cyflwr meddygol.

3. Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Rydym yn edrych ar hawliadau PIP sydd, yn ein barn ni, yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y newid hwn ac yn gymwys i gael mwy o gefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys edrych eto ar rai hawliadau y gwnaethom benderfynu arnynt ar neu ar ôl 28 Tachwedd 2016 a chyn 16 Mawrth 2017 lle na wnaethom ddyfarnu PIP.

Ni fyddwn yn edrych eto ar hawliadau os dyfarnwyd cyfradd uwch rhan bywyd bob dydd i PIP:

  • yn barhaus ers 28 Tachwedd 2016
  • o ddechrau eich cais os gwnaethoch hawlio PIP ar ôl 28 Tachwedd

Os penderfynwn y dylech gael mwy o PIP yna bydd eich dyfarniad fel arfer yn cael ei ôl-ddyddio i 28 Tachwedd 2016, neu os gwnaethoch hawlio PIP ar ôl 28 Tachwedd 2016 wedi’i ôl-ddyddio i’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael PIP.

Nid ydym yn bwriadu eich gwahodd i asesiad wyneb yn wyneb fel rhan o’r adolygiad hwn.

Mae’r newid i sut y gellid ystyried diet arbennig yn therapi yn ganlyniad i ddyfarniad Uwch Dribiwnlys.

Newidiodd y dyfarniad hwn hefyd gyfraith PIP ar gyfer rheoli meddyginiaeth a monitro cyflwr iechyd am gyfnod byr rhwng 28 Tachwedd 2016 a 15 Mawrth 2017.

Gallwch wneud cais am PIP eto os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys nawr. Bydd y newid i gyfraith PIP yn berthnasol i bob hawliad newydd.

Mae’r newid i gyfraith PIP hefyd wedi’i gymhwyso i bob Adolygiad PIP ers 17 Mehefin 2019.

4. Help gyda PIP

Gallwch gysylltu â sefydliad cymorth lleol neu Cyngor ar Bopeth i gael help i ddeall PIP.