Adroddiad ar effaith cyfyngiadau ar werthu plastigau untro ar weithrediad Marchnad Fewnol y DU
Mae Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) wedi cyhoeddi adroddiad ar effaith cyfyngiadau ar blastig untro (SUP) ar farchnad fewnol y DU.
Dogfennau
Manylion
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau’r OIM o adolygiad dewisol o gyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro (SUP) dan adran 33(1) o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (y Ddeddf). Mae adran 33(1) o’r Ddeddf yn caniatáu i’r OIM adolygu unrhyw fater sy’n berthnasol i asesu neu hybu gweithrediad effeithiol y farchnad fewnol yn y DU.
Am ragor o fanylion, ewch i dudalen prosiect Adroddiad Plastigau Untro.