Crynodeb Gweithredol
Cyhoeddwyd 12 Chwefror 2025
Diben Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) yw cefnogi gweithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU drwy roi cyngor economaidd a chyngor technegol arall ar waith. Mae’r OIM yn rhan o’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau’r OIM o adolygiad dewisol o gyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro (SUP) dan adran 33(1) o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (y Ddeddf). Mae adran 33(1) o’r Ddeddf yn caniatáu i’r OIM adolygu unrhyw fater sy’n berthnasol i asesu neu hybu gweithrediad effeithiol y farchnad fewnol yn y DU.
Ffocws yr adroddiad hwn
Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf ag effeithiau rheoliadau cynhyrchion plastig untro ar fusnesau, gyda ffocws penodol ar weithrediad marchnad fewnol y DU. Mae llywodraethau wedi bod yn gweithredu i reoleiddio cynhyrchion plastig untro nad ydynt yn cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu’n gyffredinol oherwydd eu heffaith ar yr amgylchedd. Yn aml, nid yw deunyddiau plastig untro yn diraddio, a gallant bara am ganrifoedd mewn safleoedd tirlenwi, neu fel arall cânt eu taflu fel sbwriel yn yr amgylchedd naturiol, sydd yn ei dro yn gallu llygru priddoedd, afonydd a moroedd, a niweidio’r bywyd gwyllt sy’n byw yno.
Mae ein hadolygiad wedi ystyried gwahanol fathau o reoliadau, megis gwaharddiadau a chyfyngiadau prisio, gan gwmpasu ystod o gynhyrchion plastig untro (e.e. gwellt yfed, platiau, powlenni, cyllyll a ffyrc), gan edrych ar gadwyni cyflenwi sy’n cynnwys amrywiaeth o gyflenwyr megis gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr. O ran y cyfnod dan sylw, rydym wedi canolbwyntio ar reoliadau cynhyrchion plastig untro yn dilyn cyflwyno’r ffi am fagiau plastig a godwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011, ac yn cynnwys rheoliadau plastig untro penodol a gynigir ar gyfer y dyfodol, e.e. gwaharddiad arfaethedig ar weips gwlyb sy’n cynnwys plastig a gwerthu fêps untro.
Er mwyn deall effaith rheoliadau plastigau untro ar y farchnad fewnol, rydym wedi archwilio’r materion canlynol, ymysg eraill:
-
dealltwriaeth busnesau o’r Ddeddf
-
sut mae busnesau wedi addasu eu strategaethau mewn ymateb i’r rheoliadau plastigau untro presennol a disgwyliedig
-
costau ac effeithiau gwahaniaethau rheoleiddio ar fusnesau ar wahanol lefelau o’r gadwyn gyflenwi
-
unrhyw wersi y gellir eu dysgu o gyflwyno’r rheoliadau plastigau untro i helpu i lywio gweithrediad y farchnad fewnol yn y dyfodol
Rydym wedi casglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ymgynghoriadau llywodraeth ac asesiadau effaith. Rydym hefyd wedi derbyn gwybodaeth gan bedair llywodraeth y DU, gan gynnwys gan swyddogion gyda gwybodaeth benodol am reoliadau cynhyrchion plastigau untro. Ein prif ffynhonnell dystiolaeth oedd cyfweliadau ansoddol manwl gyda busnesau a sefydliadau masnach. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a’r cymorth a gawsom.
Prif ganfyddiadau
Mae ein prif ganfyddiadau mewn perthynas â gweithrediad marchnad fewnol y DU fel a ganlyn:
-
Mae rheoliadau sy’n rheoli cynhyrchion unigol wedi cael eu cyflwyno yn bennaf mewn gwahanol genhedloedd yn y DU ar adegau digon tebyg, gan olygu bod cyflenwyr ar draws cadwyni cyflenwi a’r cenhedloedd wedi addasu ar yr un pryd i bob pwrpas. Gyda rhai eithriadau, nid ydym wedi canfod gwahaniaethau materol cyn ac ar ôl cyflwyno’r rheoliadau yn hunaniaeth y cyflenwyr sy’n weithredol ar draws y gadwyn gyflenwi yn y DU neu yn y cenhedloedd unigol. Mewn rhai achosion, mae’n ymddangos mai cwmnïau mawr ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi yw prif arweinwyr y trawsnewidiad i gynnyrch amgen yn hytrach na chynhyrchion plastig untro, gan fod y cwmnïau hyn yn gallu cyfrif am gyfran fawr o’r galw, ac yn aml, mae ganddynt ymrwymiadau cynaliadwyedd cyhoeddus
-
Mae busnesau o bob maint yn ffafrio aliniad rheoliadau plastig untro o ran cwmpas a dyddiadau gweithredu, a hynny ar draws y DU, a gyda rheoliadau’r UE (lle mae busnesau’n gwerthu i mewn i’r UE a/neu’n dibynnu ar gadwyni cyflenwi’r UE). Mae hyn er bod busnesau’n gweld rhywfaint o fuddion o gyfleoedd i dreialu cynhyrchion newydd mewn cenhedloedd sydd wedi cyflwyno cyfyngiadau ar blastigau untro yn y lle cyntaf a/neu’n gallu symud stoc heb ei ddefnyddio i genhedloedd gyda dyddiadau gweithredu hwyrach ar gyfer cyfyngiadau ar blastigau untro
-
Er bod costau cydymffurfio gyda rheoliadau cynhyrchion plastig untro wedi bod yn sylweddol i rai busnesau, mae’r costau ychwanegol o gydymffurfio gydag unrhyw wahaniaethau yn y farchnad fewnol wedi bod yn gymharol fach, gan fod mwyafrif y rheoliadau cynhyrchion plastig untro hyd yma wedi alinio o ran cwmpas. Mae hyn wedi galluogi’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n masnachu ar draws marchnad fewnol y DU i fabwysiadu dull unffurf sy’n sicrhau bod eu cynhyrchion/gwasanaethau yn cydymffurfio gyda rheoliadau cynhyrchion plastig untro ym mhob un o’r cenhedloedd, yn hytrach na theilwra gwahanol ddulliau gan ddibynnu ar reoliadau cynhyrchion plastig untro penodol ym mhob cenedl
-
Cawsom wybod gan randdeiliaid bod cyflenwyr i’w gweld yn dangos gwahanol agweddau tuag at gydymffurfiaeth, gyda busnesau mwy yn aml yn mynd y tu hwnt i ofynion cyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro, ac adroddiadau bod rhai busnesau llai ddim yn cydymffurfio gyda gwaharddiadau ar gynhyrchion plastig untro penodol
-
Mae llywodraethau’n cydweithio’n effeithiol ar gyfyngiadau cynhyrchion plastig untro ar ôl ystyried gwersi a ddysgwyd o gyflwyniad rheoliadau cynhyrchion plastig untro blaenorol (er enghraifft, rhannu data ar waith ymchwil ac effeithiau a hysbysu ei gilydd am eu cynlluniau polisi cynhyrchion plastig untro. Mae llywodraethau’n defnyddio Fframweithiau Cyffredin i reoli cynigion rheoleiddio, gan gynnwys cydweithio ar waharddiad arfaethedig ar weips gwlyb sy’n cynnwys plastig a fêps untro
-
Dywedodd busnesau wrthym nad yw’r gwahaniaethau mewn rheoliadau cynhyrchion plastig untro hyd yn hyn wedi cael effaith negyddol sylweddol nac wedi cyfrannu at arloesi cynnyrch neu brosesau. Clywsom fod rhai busnesau mwy eisoes yn symud ymlaen i ddefnyddio cynhyrchion mwy cynaliadwy yn unol ag ymrwymiadau gwirfoddol i leihau nifer yr eitemau plastig untro, a bod rhai busnesau gyda chadwyni cyflenwi Ewropeaidd yn cymryd camau tuag at gydymffurfio gyda deddfwriaeth yr UE - er enghraifft, gwerthu poteli plastig yn y DU gyda chaeadau plastig yn sownd iddynt
Mae’r wybodaeth a gasglwyd gennym hefyd yn caniatáu arsylwadau ehangach ynglŷn â rheoleiddio cynhyrchion plastig untro ar draws y DU:
-
Mae’r rheoliadau plastig untro wedi arwain at newid ymddygiad, er, fel y nodir uchod, roedd rhai busnesau mawr eisoes wedi gwneud ymrwymiadau gwirfoddol i leihau’r defnydd o blastig untro cyn cyflwyno’r rheoliadau
-
Er bod ymchwil cwsmeriaid ac adborth gan randdeiliaid eraill yn awgrymu bod cwsmeriaid yn cefnogi nodau cynaliadwyedd ar y cyfan, gan gynnwys cyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro, clywsom fod nifer o gwsmeriaid yn gyndyn o dalu prisiau uwch
-
Dywedodd rhai busnesau a rhanddeiliaid eraill wrthym fod diffyg cydymffurfiaeth gyda rhai o’r rheoliadau plastig untro gan olygu bod rhai o’r cynhyrchion plastig untro gwaharddedig (cynwysyddion bwyd polystyren a chyllyll a ffyrc plastig yn bennaf) yn dal i fod ar gael, a allai effeithio ar fusnesau sy’n cydymffurfio gyda’r gwaharddiadau perthnasol drwy golli gwerthiannau cynhyrchion eraill sy’n cydymffurfio
-
Dywedodd rhai busnesau wrthym am yr heriau maen nhw wedi’u hwynebu o ran rheoliadau plastig untro, e.e. gwahaniaeth yn y diffiniadau ar gyfer ‘plastig’ mewn gwahanol reoliadau a materion megis diffyg ymgynghori yn gynt, canllawiau amserol a/neu amserlenni ymarferol, yn eu barn nhw
Ar y cyfan, daethom i’r casgliad, er bod rhai busnesau unigol wedi cael eu heffeithio’n sylweddol, mae effeithiau cyffredinol rheoliadau plastig untro ar fasnach y farchnad fewnol wedi bod yn gymedrol. Mae hyn yng nghyd-destun yr aliniad eang presennol mewn cyfyngiadau plastig untro ar draws Prydain, gyda disgwyliad y bydd Gogledd Iwerddon yn cyflwyno cyfyngiadau tebyg maes o law.
Rydym wedi canfod potensial ar gyfer gwahaniaethau rheoleiddio mewn perthynas â chynhyrchion plastig untro eraill a allai weld cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno yn y dyfodol, e.e. y gwaharddiad arfaethedig ar blastigau ocso-ddiraddadwy yng Nghymru a’r Alban. Er ein bod yn rhagweld y bydd llawer o fusnesau - yn enwedig cwmnïau mawr sy’n masnachu ar draws y DU yn ei gyfanrwydd - yn ceisio mabwysiadu cyfres o safonau ar draws y busnes, gallai rhai cwmnïau eraill sy’n masnachu mewn mwy nag un genedl wynebu costau ychwanegol er mwyn rheoli’r gwahaniaeth.
Argymhellion
Er mwyn cefnogi gwneuthurwyr polisi ar draws y DU i reoli gwahaniaeth o ran rheoleiddio neu aliniad rhwng cenhedloedd, yn ddibynnol ar y polisi plastig untro penodol dan ystyriaeth, rydym wedi datblygu argymhellion ymarferol, gan ddefnyddio’r mewnwelediadau a’r ymgysylltiad â rhanddeiliaid a gafwyd fel rhan o’r astudiaeth hon.
Rydym wedi ystyried ein hargymhellion drwy gyfeirio at ddau senario, gan ddibynnu ar raddfa aliniad polisi rhwng llywodraethau. Wrth ddatblygu’r senarios hyn, rydym yn cydnabod y bydd pob llywodraeth yn gwneud penderfyniadau polisi er budd ei dinasyddion ei hun, ac yn rhoi sylw i ystod o ystyriaethau polisi cyhoeddus wrth benderfynu sut i weithredu rheoliadau’n ymwneud â chynhyrchion plastig untro. Gwneir yr argymhellion isod felly o fewn cyd-destun sut y gallai llywodraethau gyflawni eu nodau polisi gan hefyd gefnogi gweithrediad effeithiol y farchnad fewnol yn y DU.
Mewn achosion lle mae nod polisi pob cenedl yn y DU yr un fath i bob pwrpas, a’u bod yn bwriadu cyflwyno gwaharddiadau neu gyfyngiadau ar yr un cynhyrchion plastig untro, rydym yn argymell cydweithio agos rhwng y llywodraethau drwy Fframweithiau Cyffredin perthnasol a mecanweithiau eraill i ddatblygu’r rheoliadau plastig untro perthnasol, gan gynnwys (lle bo’n bosibl) mewn perthynas ag unrhyw eithriadau i’r rheoliadau, gofynion adrodd a chanllawiau cysylltiedig. Gallai cydweithrediad o’r fath gynnwys trafodaethau rhwng llywodraethau i ystyried cynnal ymgynghoriadau ar y cyd i leihau syrffed posibl gan randdeiliaid ac osgoi dryswch ynglŷn â chwestiynau tebyg, ac er mwyn i lywodraethau geisio cyflawni dyddiadau gweithredu cyffredin, fel sydd wedi digwydd gyda’r gwaharddiadau arfaethedig ar werthu fêps untro a weips gwlyb sy’n cynnwys plastig.
I’r gwrthwyneb, pan fo gan lywodraethau nodau gwahanol mewn perthynas â rheoliadau plastig untro, rydym yn argymell y dylai llywodraethau gydweithio i ystyried effeithiau posibl y gwahaniaethau hyn ar gyfer busnesau sy’n masnachu ar draws ffiniau cenedlaethol, gan fod busnesau o’r fath mewn perygl o wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i orfod cydymffurfio gyda gwahanol ofynion cenedlaethol. Yn y senario hwn, rydym yn argymell y dylai llywodraethau gydweithio i edrych ar opsiynau ar gyfer dylunio rheoliadau mewn modd sy’n galluogi busnesau, pe byddent yn dymuno, i fabwysiadu model busnes unigol sy’n gallu cydymffurfio gydag unrhyw wahaniaethau mewn rheoliadau cenedlaethol.
canllawiau clir ar newidiadau i reoliadau plastig untro i sefydliadau masnach a busnesau, a sut i gydymffurfio â nhw, cyn gynted â phosibl i gynorthwyo’r busnesau i gynllunio ar gyfer newid i’r cynhyrchion amgen. Gall ymgysylltu â sefydliadau masnach fod yn enwedig o bwysig gan fod busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn dibynnu’n helaeth arnynt am wybodaeth.