Canllawiau statudol

Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat

Rhaid i awdurdodau trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat ddefnyddio eu pwerau trwyddedu i amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed.

Manylion

Cyflwyniad

Mae yna dystiolaeth i ategu’r farn bod tacsis a cherbydau llogi preifat yn amgylchedd risg uchel.

O ran risgiau i deithwyr, gellir gweld hyn wrth gam-drin ac ecsbloetio plant ac oedolion sy’n agored i niwed a hwylusir ac mewn rhai achosion a gyflawnir gan y fasnach a nifer y troseddau rhywiol a riportiwyd sy’n cynnwys gyrwyr tacsi a cherbydau llogi preifat.

Mae cysylltiadau rhwng y fasnach a cham-drin rhywiol ac ecsbloetio plant wedi’u sefydlu mewn sawl maes ac mae ymchwiliadau eraill yn parhau.

Mae data ar ymosodiadau rhywiol gan yrwyr tacsi a cherbydau llogi preifat a riportiwyd yn dangos y risg i deithwyr; mae data o Fanceinion Fwyaf a Glannau Mersi yn awgrymu, os cymhwysir patrymau troseddu tebyg ledled Lloegr, bod 623 o ymosodiadau rhywiol y flwyddyn yn cael eu riportio. Fodd bynnag, nid yw’r ffigurau hyn yn egluro’r tangofnodi o droseddu yr amcangyfrifir ei fod mor uchel ag 83 y cant yn Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr.

Mae Deddf Plismona a Throsedd 2017 yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i gyhoeddi canllawiau statudol ar arfer swyddogaethau trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat i amddiffyn plant ac unigolion sy’n agored i niwed sydd dros 18 oed rhag niwed wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

At ddibenion y ddogfen hon, diffinnir plentyn fel unrhyw un nad yw eto wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 18 oed; ac mae i’r term “unigolyn bregus” yr un ystyr â’r diffiniad o ‘oedolyn bregus’ at ddibenion adran 42 o Ddeddf Gofal 2014, sy’n berthnasol lle mae gan awdurdod lleol achos rhesymol i amau bod oedolyn yn ei ardal (p’un a yw’n preswylio yno fel arfer ai peidio):

  • angen gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio),
  • yn profi, neu mewn perygl o, gamdriniaeth neu esgeulustod, a
  • o ganlyniad i’r anghenion hynny yn methu ag amddiffyn ei hun rhag y cam-drin neu’r esgeulustod neu’r risg

Er bod y Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat yn canolbwyntio ar amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed, bydd pob teithiwr yn elwa o’r argymhellion sydd ynddynt.

Mae yna gonsensws bod angen safonau sylfaenol craidd cyffredin i reoleiddio’r sector tacsis a cherbydau llogi preifat yn well, ac mae’r argymhellion yn y ddogfen hon yn ganlyniad trafodaethau manwl gyda’r fasnach, rheoleiddwyr a grwpiau ymgyrchu diogelwch.

Felly mae’r Adran yn disgwyl i’r argymhellion hyn gael eu gweithredu oni bai bod rheswm lleol cymhellol i beidio â gwneud hynny.

Dylid nodi, gan nad yw plismona a chyfiawnder troseddol yn fater datganoledig, y bydd y Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 yn parhau i gael effaith yng Nghymru er i’r cyfrifoldeb am bolisi tacsis a cherbydau llogi preifat gael ei ddatganoli i Gynulliad Cymru ym mis Ebrill 2018.

Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio ar y materion hyn, byddai’r safonau yn y ddogfen hon yn peidio â bod yn berthnasol.

Mae gan bob awdurdod lleol a chynghorau rhanbarthol sy’n darparu gwasanaethau plant a mathau eraill o wasanaethau, gan gynnwys awdurdodau trwyddedu, ddyletswydd statudol i wneud trefniadau i sicrhau bod eu swyddogaethau ac unrhyw wasanaethau y maent yn eu contractio i eraill yn cael eu cyflawni gan ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.

Mae hyn yn golygu y dylai fod gan awdurdodau trwyddedu drefniadau ar waith sy’n adlewyrchu pwysigrwydd diogelu a hyrwyddo lles plant.

Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau chwythu’r chwiban clir, arferion recriwtio diogel a pholisïau clir ar gyfer delio â honiadau yn erbyn pobl sy’n gweithio â phlant, fel y nodir yn y canllawiau statudol Cydweithio i Ddiogelu Plant.

Mae Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat yn adlewyrchu’r newidiadau sylweddol yn y diwydiant a’r gwersi a ddysgwyd o brofiadau mewn ardaloedd lleol ers fersiwn 2010 o Ganllaw Arfer Gorau’r Adran.

Mae hyn yn cynnwys cyngor helaeth ar wirio addasrwydd unigolion a gweithredwyr i gael eu trwyddedu; diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed; Deddf Mewnfudo 2016 a Datgeliad Cyfraith Gwlad yr Heddlu (a ddisodlodd y Cynllun Galwedigaethau Hysbysadwy).

Mae’r safonau yn y ddogfen hon yn disodli adrannau perthnasol o’r Canllaw Arfer Gorau a gyhoeddwyd gan yr Adran yn 2010; lle mae gwrthdaro rhwng y Safonau Statudol Tacsis Cherbydau Llogi Preifat a’r Canllaw Arfer Gorau y mae’r Adran yn eu cyhoeddi ar drwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat, mae’r safonau yn y ddogfen hon yn cael blaenoriaeth.

Terminoleg

Cyfeirir at dacsis mewn deddfwriaeth, rheoliadau ac iaith gyffredin fel ‘cerbydau hacni’, ‘cabiau duon’ a ‘chabiau’. Defnyddir y term ‘tacsi’ trwy gydol y ddogfen hon ac mae’n cyfeirio at bob cerbyd o’r fath. Gellir llogi tacsis ar unwaith trwy alw ar y stryd neu mewn safleoedd tacsis.

Mae cerbydau llogi preifat yn cynnwys ystod o gerbydau gan gynnwys cabiau bychain, ceir gweithredol, gwasanaethau chauffeur, limwsinau a rhai gwasanaethau cludo ysgolion a chanolfannau dydd.

Rhaid archebu pob taith cerbyd llogi preifat ymlaen llaw trwy weithredwr cerbydau llogi preifat trwyddedig ac maent yn destun ‘clo trwyddedu triphlyg’ h.y. rhaid i’r gweithredwr sy’n cyflawni’r archeb ddefnyddio cerbydau a gyrwyr sydd wedi’u trwyddedu gan yr un awdurdod â’r awdurdod a roddodd ei drwydded.

Defnyddir y term ‘cerbyd llogi preifat’ trwy gydol y ddogfen hon ac mae’n cyfeirio at bob cerbyd o’r fath.

Ystyried Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat

Rhaid peidio byth ag ailadrodd methiannau cyfundrefnau trwyddedu’r gorffennol. Mae’r Adran wedi ystyried yn ofalus y mesurau a gynhwysir yn Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat ac wedi argymell y dylid rhoi’r rhain ar waith a’u gweinyddu’n briodol i liniaru’r risg a berir i’r cyhoedd.

Pwrpas gosod safonau yw amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed, a thrwy hynny’r cyhoedd yn ehangach, wrth ddefnyddio tacsis a cherbydau llogi preifat.

Nododd y Llywodraeth yn y Strategaeth Atal Troseddu Modern (PDF, 857KB) y dystiolaeth y gall hyn sicrhau toriadau sylweddol a pharhaus mewn rhai troseddau, lle mae’r Llywodraeth, gorfodaeth cyfraith, busnesau a’r cyhoedd yn gweithio gyda’i gilydd ar atal.

Mae hynny’n newyddion da i ddioddefwyr a chymunedau ac mae’n gwneud synnwyr economaidd clir hefyd. Bydd addysgu’r cyhoedd am y risgiau o ddefnyddio gyrwyr a cherbydau didrwydded, sut i nodi’r fasnach drwyddedig a’r mesur priodol i’w cymryd wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hyn yn amddiffyn a helpu pob teithiwr; mae rhagor o wybodaeth wedi’i hatodi i’r ddogfen hon (Atodiad - Cadw’n Ddiogel: Canllawiau i Deithwyr).

Ymrwymodd y Strategaeth i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag y risg o gam-drin plant yn rhywiol ac ecsbloetio (CSAE), trwy weithio gydag awdurdodau lleol i gyflwyno cyfundrefnau trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat trwyadl. Amlygodd adroddiadau Jay a Casey ar CSAE enghreifftiau o yrwyr tacsi/cerbydau llogi preifat yn cael eu cysylltu’n uniongyrchol â phlant a gafodd eu cam-drin, gan gynnwys achosion pan oedd plant yn cael eu codi o ysgolion, cartrefi plant neu o gartrefi teulu ac yn cael eu cam-drin yn rhywiol neu eu hecsbloetio.

Gwnaeth Adroddiad Casey yn glir bod trefniadau gwan ac aneffeithiol ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat wedi gadael y plant a’r cyhoedd mewn perygl.

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi gweithio gyda’r Swyddfa Gartref, Cymdeithas Llywodraeth Leol (LGA), elusennau diogelwch personol, undebau llafur a chyrff llafur, gan gynnal gweithdai a fforymau, a rhannu tystiolaeth ac arfer da gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo i osod y safonau.

Cyhoeddir y ddogfen hon gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth o dan adran 177(1) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 yn dilyn ymgynghori yn unol ag adran 177(5).

Mae’r ddogfen yn nodi fframwaith o bolisïau y mae’n rhaid i awdurdodau trwyddedu, o dan adran 177(4), eu hystyried wrth arfer eu swyddogaethau.

Mae’r swyddogaethau hyn yn cynnwys datblygu, gweithredu ac adolygu eu cyfundrefnau trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat.

Mae “ystyried” yn fwy na chael cipolwg cyflym ar ddogfen cyn dod i gasgliad rhagdybiedig.

Mae “ystyried” y safonau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth lunio polisi, ystyried mewn ffordd sy’n gymesur o dan yr amgylchiadau.

O ystyried bod y safonau wedi’u gosod yn uniongyrchol i fynd i’r afael â diogelu’r cyhoedd ac effaith bosibl methiannau yn y maes hwn, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ystyried y safonau hyn yn drylwyr. Nid yw’n fater o dicio blychau; rhaid ystyried y safonau’n drylwyr a chyda meddwl agored.

Er ei bod yn dal yn wir fod yn rhaid i awdurdodau trwyddedu ddod i’w penderfyniadau eu hunain, ar bolisïau cyffredinol ac ar faterion trwyddedu unigol yng ngoleuni’r gyfraith berthnasol, efallai y bydd y Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat yn cael eu defnyddio mewn unrhyw her gyfreithiol i arfer awdurdod, ac y gallai unrhyw fethiant i gadw at y safonau heb gyfiawnhad digonol fod yn niweidiol i amddiffyniad yr awdurdod.

Er budd tryloywder, dylai pob awdurdod trwyddedu gyhoeddi ei ystyriaeth o’r mesurau a gynhwysir yn Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat, a’r polisïau a’r cynlluniau cyflenwi sy’n deillio o’r rhain.

Mae’r Adran wedi ymrwymo i fonitro effeithiolrwydd y safonau wrth sicrhau diogelwch plant ac oedolion sy’n agored i niwed (a thrwy hynny pob teithiwr).

Nid yw Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat yn honni rhoi datganiad diffiniol o’r gyfraith ac mae unrhyw benderfyniadau a wneir gan awdurdod trwyddedu yn parhau i fod yn fater i’r awdurdod hwnnw.

Gweinyddu’r Gyfundrefn Drwyddedu

Polisïau trwyddedu

Mae’r Adran yn argymell bod pob awdurdod trwyddedu yn sicrhau bod dogfen bolisi gydlynol ar gael i’r cyhoedd sy’n dwyn ynghyd eu holl weithdrefnau ar drwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat.

Dylai hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i bolisïau ar euogfarnau, prawf person ‘addas a phriodol’, amodau trwydded a safonau cerbydau.

Wrth lunio polisi tacsis a cherbydau llogi preifat, rhaid i amddiffyn y cyhoedd fod y prif amcan. Ni ellir goramcangyfrif pwysigrwydd sicrhau bod y gyfundrefn drwyddedu yn amddiffyn pobl fregus. Amlygwyd hyn yn yr adroddiad gan y Fonesig Louise Casey CB (PDF, 1MB) ym mis Chwefror 2015 ar fethiannau diogelu.

Bydd yn amlwg o’r adroddiad hwn bod gweithgareddau tramgwyddwyr yn digwydd mewn cylchoedd sy’n cael eu rheoleiddio gan y Cyngor mewn llawer o achosion - mae tacsis wedi bod yn ganolbwynt pryder penodol.

Byddai gorfodi’r swyddogaethau rheoleiddio sydd ar gael i’r cyngor yn gyson ac yn drylwyr, gan gynnwys gosod amodau ar drwyddedau gweithredwyr tacsi llogi preifat lle bo hynny’n briodol, yn anfon arwydd cryf bod y fasnach yn cael ei monitro ac y byddai’n cwtogi ar weithgareddau tramgwyddwyr manteisgar lle mae gyrwyr tacsi wedi deisyfu ar blant i ddarparu rhyw yn gyfnewid am sigaréts, alcohol neu reid heb dalu.

Crynhowyd y dinistr tymor hir a achoswyd gan CSAE yn yr un adroddiad:

Mae dioddefwyr yn dioddef o deimladau hunanladdol ac yn aml yn hunan-niweidio. Mae llawer yn dod yn feichiog.

Mae’n rhaid i rai rheoli canlyniadau emosiynol camesgoriadau ac erthyliadau tra bod gan eraill blant nad ydyn nhw’n gallu bod yn rhiant yn briodol iddynt. Mae’r cam-drin a’r trais yn parhau i effeithio ar ddioddefwyr pan fyddant yn oedolion.

Mae llawer yn mynd i mewn i berthnasoedd treisgar a sarhaus. Mae llawer yn dioddef iechyd meddwl gwael a dibyniaeth.

Mae Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Rotherham (‘Cyngor Rotherham’) yn darparu enghraifft o sut y gall adolygiad systematig o bolisïau a gweithdrefnau a gweithredu cynllun i yrru gwelliannau mewn ymarfer arwain at sector tacsis a cherbydau llogi preifat sy’n ailadeiladu’n hyder lleol yn y diwydiant.

Mae hanes methiannau’r gorffennol yma ac mewn mannau eraill yn hysbys iawn, ond y tryloywder a’r penderfyniad y mae Cyngor Rotherham wedi’u dangos a’r safonau uchel maent yn eu gosod bellach sy’n ailadeiladu hyder y cyhoedd.

Un o’r gwersi allweddol a ddysgwyd yw ei bod yn hanfodol adolygu polisïau ac adlewyrchu newidiadau yn y diwydiant yn lleol ac yn genedlaethol.

Dylai awdurdodau trwyddedu adolygu eu polisïau trwyddedu bob pum mlynedd, ond dylent hefyd ystyried adolygiadau dros dro pe bai materion sylweddol yn codi yn eu hardal, a’u perfformiad yn flynyddol.

Hyd y trwyddedau

Dadl flaenorol yn erbyn rhoi trwyddedau am fwy na blwyddyn oedd y gallai trosedd gael ei chyflawni, ond dim ei riportio, yn ystod y cyfnod hwn; gall hyn fod yn wir hefyd yn ystod hyd trwydded fyrrach.

Gall awdurdodau liniaru’r risg hon i yrwyr trwy gynnal gwiriadau interim rheolaidd.

Er mwyn helpu awdurdodau i fonitro addasrwydd dalwyr trwyddedau, dylai awdurdodau trwyddedu ymgysylltu â’u heddlu i sicrhau, pan fydd yr heddlu’n credu bod daliwr trwydded yn cyflwyno risg i’r cyhoedd sy’n teithio, eu bod yn defnyddio eu pwerau Datgeliad Cyfraith Gwlad yr Heddlu (gweler paragraffau 4.9 - 4.11) i’w cynghori.

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (fel y’i diwygiwyd) yn gosod hyd safonol ar ôl tair blynedd ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat a phum mlynedd ar gyfer gweithredwyr cerbydau llogi preifat.

Dim ond pan fydd yr awdurdod trwyddedu o’r farn ei bod yn briodol o dan amgylchiadau penodol yr achos y dylid rhoi unrhyw drwydded hyd fyrrach, os yw daliwr trwydded wedi gofyn am un neu lle bo angen (e.e. pan fydd caniatâd daliwr y drwydded i aros yn y DU â therfyn amser) neu pan nad oes angen y drwydded ond i ateb galw tymor byr; ni ddylid eu cyhoeddi ar sail ‘prawf’.

Chwythu’r chwiban

Wrth gymhwyso polisïau awdurdod trwyddedu (a hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sy’n eu cymhwyso) y darperir amddiffyniad. Lle mae pryderon nad yw polisïau’n cael eu gweithredu’n gywir, mae’n hanfodol bod y rhain yn cael eu codi, eu hymchwilio a bod camau adfer yn cael eu cymryd os oes angen.

Dylai fod gan awdurdodau trwyddedu weithdrefnau mewnol effeithiol ar waith i staff godi pryderon ac i ddelio ag unrhyw bryderon yn agored ac yn deg.

Mae adroddiad ar drwyddedu gyrwyr gan Gyngor Bwrdeistref De Ribble yn tynnu sylw at oblygiadau peidio â chymhwyso’r polisïau y cytunwyd arnynt.

Yn gynnar ym mis Awst 2015, codwyd pryderon ynghylch penderfyniadau i adnewyddu trwyddedau gyrwyr lle gallai fod digwyddiadau posib o ecsbloetio plant yn rhywiol.

Daeth adolygiad mewnol i’r casgliad y bu methiannau mewn gweithdrefnau ymchwilio lleol a allai fod wedi effeithio ar allu’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol i wneud penderfyniadau cywir, ac nid oedd rhannu gwybodaeth gyda’r heddlu a chofnodi data yn foddhaol.

Daeth yr ymchwiliad allanol yn South Ribble i’r casgliad “y bu diffyg ymwybyddiaeth a blaenoriaeth i ddiogelu a diogelwch teithwyr tacsi [a cherbydau llogi preifat] yn y modd yr aethpwyd i’r afael â materion trwyddedu”.

Rydym yn falch o nodi bod yr adroddiad yn dod i’r casgliad, “Mae’r Cyngor wedi bod yn weithgar ar bob cam wrth ymateb i faterion a phryderon a nodwyd.

Mae wedi cymryd camau i fynd i’r afael â materion gweithredol yn y swyddogaeth drwyddedu ac wedi ymgysylltu’n llawn ag asiantaethau eraill wrth wneud hynny. Yng ngoleuni’r uchod, nid oes angen gwneud unrhyw argymhellion pellach.

Y gobaith yw y bydd pob awdurdod trwyddedu wedi dysgu o’r camgymeriadau hyn ond er mwyn atal ailadrodd, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt bolisi ‘chwythu’r chwiban’ effeithiol a bod yr holl staff yn ymwybodol ohono.

Os yw gweithiwr yn ymwybodol o weithdrefnau mewnol effeithiol ar gyfer codi pryderon, ac yn gallu cael gafael arnynt, yna mae’n annhebygol y bydd angen ‘chwythu’r chwiban’.

Mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (PIDA), y cyfeirir ati’n gyffredin fel deddfwriaeth chwythu’r chwiban, yn amddiffyn y rhai sydd â chred resymol o gamwedd difrifol, gan gynnwys methu â chydymffurfio â safonau proffesiynol, polisïau’r cyngor neu godau ymarfer/ymddygiad.

Mae’r PIDA yn rhan o gyfraith cyflogaeth. Yn ystod digwyddiadau arferol, os yw gweithiwr yn datgelu gwybodaeth nad yw ei gyflogwr am ei datgelu, gallai fod yn drosedd ddisgyblu.

Pe bai rhywun yn gollwng gwybodaeth gyfrinachol eu cyflogwr i’r wasg, efallai y byddent yn disgwyl cael ei ddiswyddo am hynny.

Mae’r PIDA yn galluogi gweithwyr sy’n ‘chwythu’r chwiban’ ynglŷn â chamwedd i gwyno i dribiwnlys cyflogaeth os cânt eu diswyddo neu os ydynt yn dioddef unrhyw fath arall o anfantais am wneud hynny.

Mae’n amddiffyniad cymwys a byddai’n rhaid cwrdd â rhai amodau er mwyn i’r gweithiwr gael ei amddiffyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein i gyflogai a chyflogwyr (PDF, 95.6KB)

Ymgynghori ar lefel leol

Dylai awdurdodau trwyddedu ymgynghori ar newidiadau arfaethedig mewn rheolau trwyddedu a allai gael effeithiau sylweddol ar deithwyr a/neu’r fasnach.

Dylai ymgynghoriad o’r fath gynnwys nid yn unig y masnachau tacsis a cherbydau llogi preifat ond hefyd grwpiau sy’n debygol o fod yn gwsmeriaid y ‘masnachau’.

Enghreifftiau yw grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl, Siambrau Masnach, sefydliadau sydd â diddordeb trafnidiaeth ehangach (e.e. yr Ymgyrch dros Well Trafnidiaeth a darparwyr trafnidiaeth eraill), grwpiau menywod, masnachwyr lleol a’r trefniadau diogelu amlasiantaeth lleol. Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol ymgynghori â grwpiau economi’r nos (fel Pubwatch) os yw’r fasnach yn elfen bwysig o wasgaru o weithgareddau’r economi nos leol.

Mae unrhyw benderfyniad a wneir i newid y drefn drwyddedu yn debygol o gael effaith ar weithrediad y sector tacsis a cherbydau llogi preifat mewn ardaloedd cyfagos; a dylai awdurdodau trwyddedu ymgysylltu â’r meysydd hyn i nodi unrhyw bryderon a materion a allai ddeillio o newid arfaethedig.

Mae llawer o ardaloedd yn cynnull grwpiau ymgynghori swyddogion rhanbarthol neu, yn fwy ffurfiol, cyfarfodydd cyswllt cynghorwyr; dylai hyn gael ei fabwysiadu gan bob awdurdod.

Newid polisi a gofynion trwyddedu

Dylai unrhyw newidiadau i’r gofynion trwyddedu gael eu dilyn gan adolygiad o’r trwyddedau a gyhoeddwyd eisoes.

Os nodwyd yr angen i newid gofynion trwyddedu, mae’r un angen hwn yn berthnasol i’r rhai sydd eisoes â thrwydded.

Fodd bynnag, nid yw hynny’n awgrymu y dylid dirymu trwyddedau yn awtomatig dros nos, er enghraifft os yw manyleb cerbyd yn cael ei newid mae’n gymesur i ganiatáu i’r rhai na fyddai’n cwrdd â’r meini prawf gael cyfle i addasu neu newid eu cerbyd.

Dylid cymryd yr un dull pragmatig o newid trwyddedau gyrwyr - os newidir y gofynion i gynnwys cwrs hyfforddi neu gymhwyster, dylid caniatáu amser rhesymol i hyn gael ei gyflawni neu ei ennill.

Rhaid i amserlen weithredu unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar ddalwyr trwyddedau cyfredol fod yn dryloyw ac yn cael eu cyfleu’n brydlon ac yn eglur.

Pan gyflwynwyd newid mwy goddrychol, er enghraifft polisi diwygiedig ar gollfarnau blaenorol, rhaid i awdurdod trwyddedu ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun.

Lle mae rhesymau eithriadol, clir a chymhellol i wyro oddi wrth bolisi, dylai awdurdodau trwyddedu ystyried gwneud hynny.

Dylai awdurdodau trwyddedu gofnodi’r rhesymau dros unrhyw wyro oddi wrth y polisïau sydd ar waith.

Casglu a Rhannu Gwybodaeth

Rhaid i awdurdodau trwyddedu ystyried ystod lawn o wybodaeth sydd ar gael iddynt wrth wneud penderfyniad a ddylid rhoi trwydded a chyflawni eu rhwymedigaeth barhaus i sicrhau bod daliwr trwydded yn parhau i fod yn addas i ddal trwydded.

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn darparu mynediad at wybodaeth cofnodion troseddol trwy ei wasanaeth datgelu ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae’r GDG hefyd yn cadw’r rhestrau o unigolion sydd wedi’u gwahardd rhag gweithio mewn gweithgaredd rheoledig gyda phlant neu oedolion.

Mae’r GDG yn gwneud penderfyniadau gwahardd annibynnol am bobl sydd wedi niweidio plentyn, neu le yr ystyrir eu bod yn peri risg o niwed i blentyn neu berson bregus yn y gweithle.

Mae’r GDG yn galluogi sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i wneud penderfyniadau cyflogaeth mwy diogel trwy nodi ymgeiswyr a allai fod yn anaddas ar gyfer gwaith penodol, yn enwedig yr hyn sy’n cynnwys grwpiau sy’n agored i niwed gan gynnwys plant.

Mae tystysgrifau uwch gyda gwiriad o’r rhestrau gwaharddedig yn cynnwys manylion euogfarnau sydd wedi darfod a heb eu cofnodi a gofnodwyd ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC), unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae prif swyddog heddlu yn credu sy’n berthnasol ac y dylid ei datgelu, ynghyd â nodi a yw’r unigolyn wedi’i wahardd rhag gweithio mewn gweithgaredd rheoledig gyda phlant neu oedolion.

Datgelir collfarnau a rhybuddion sydd wedi darfod ar dystysgrifau safonol ac uwch yn unol â rheolau a nodir mewn deddfwriaeth.

Bydd euogfarnau a arweiniodd at ddedfryd o garchar, ac euogfarnau neu rybuddion am drosedd ddifrifol benodol megis y rhai sy’n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol, bob amser yn cael eu datgelu ar dystysgrif safonol neu uwch.

Mae manylion llawn y rheolau datgelu, a’r troseddau hynny a fydd bob amser yn cael eu datgelu, ar gael o’r GDG.

Yn ogystal ag euogfarnau a rhybuddion, gall tystysgrif uwch gynnwys gwybodaeth ychwanegol y mae prif heddwas yn credu’n rhesymol ei bod yn berthnasol ac y dylid ei datgelu.

Rhaid i brif swyddogion yr heddlu ystyried y canllawiau statudol a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref wrth ystyried datgelu.

Mae crynodeb o’r wybodaeth a ddarperir ar bob lefel o wiriadau DBS wedi’i atodi i’r ddogfen hon (Atodiad - Gwybodaeth am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Dylid nodi na ddylai awdurdodau trwyddedu osgoi’r broses GDG a cheisio cael manylion euogfarnau troseddol blaenorol a gwybodaeth arall na fyddent fel arall yn cael eu datgelu ar dystysgrif GDG.

Er bod deddfwriaeth diogelu data (nid Deddf Diogelu Data 2018 neu Reoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn unig) yn rhoi ‘hawl mynediad’ i unigolion (neu wrthrychau data) i’r data personol sydd gan sefydliad yn eu cylch, mae’n drosedd i’w gwneud yn ofynnol i unigolyn arfer ei hawliau mynediad pwnc er mwyn cael gwybodaeth am unrhyw euogfarnau a rhybuddion.

Gallai hyn arwain o bosibl at yr awdurdod yn derbyn gwybodaeth nad oes ganddo hawl iddo. Y ffordd briodol o gyrchu cofnodion troseddol unigolyn yw trwy wiriad GDG uwch a rhestrau gwaharddedig.

Gwasanaeth Diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae tanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru’r GDG yn caniatáu i’r rheini sydd â thystysgrifau safonol ac uwch gadw’r rhain yn gyfredol ar-lein a, gyda chaniatâd yr unigolyn, mae’n caniatáu i enwebeion wirio statws tystysgrif ar-lein ar unrhyw adeg.

Mae tanysgrifio i’r gwasanaeth yn dileu’r angen i ofyn am dystysgrifau newydd, yn lleihau’r baich gweinyddol ac yn lliniaru oedi posibl wrth ail-drwyddedu.

Bydd y GDG yn chwilio’n rheolaidd i weld os derbyniwyd unrhyw wybodaeth newydd berthnasol ers cyhoeddi’r dystysgrif.

Mae’r amlder yn amrywio yn dibynnu ar y math o wybodaeth; am wybodaeth euogfarnau troseddol a gwybodaeth wahardd, bydd y GDG yn chwilio am ddiweddariadau yn wythnosol.

Am wybodaeth nad yw’n euogfarn, bydd y GDG yn chwilio am ddiweddariadau bob naw mis.

Gall awdurdodau trwyddedu ofyn am nifer fawr o wiriadau statws yn ddyddiol.

Mae’r GDG wedi datblygu Cyfleuster Gwirio Statws Lluosog (MSCF) y gellir ei gyrchu trwy wasanaeth gwe.

Mae’r MSCF yn galluogi sefydliadau i wneud nifer bron yn ddiderfyn o Wiriadau Statws ar yr un pryd.

Mae rhagor o wybodaeth am yr MSCF ar gael o’r GDG.

Pe bai’r MSCF yn cynghori bod gwybodaeth newydd ar gael, ni ddylid dibynnu mwyach ar y dystysgrif GDG a gofyn am dystysgrif GDG newydd.

Datgeliad Cyfraith Gwlad yr Heddlu

Nid y DBS yw’r unig ffynhonnell wybodaeth y dylid ei hystyried fel rhan o asesiad addas a phriodol ar gyfer trwyddedu gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat.

Mae Datgeliad Cyfraith Gwlad yr Heddlu yn sicrhau, lle mae risg i ddiogelwch y cyhoedd, y bydd yr heddlu’n trosglwyddo gwybodaeth i’r cyflogwr neu’r corff rheoleiddio i’w galluogi i weithredu’n gyflym i liniaru unrhyw berygl.

Disodlodd Datgeliad Cyfraith Gwlad yr Heddlu y Cynllun Galwedigaethau Hysbysadwy (NOS) ym mis Mawrth 2015 ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth amserol a pherthnasol a allai ddynodi risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Mae gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo adeg arestio neu gyhuddo, yn hytrach nag adeg euogfarn a allai fod gryn amser ar ôl hynny, gan ganiatáu i unrhyw fesurau i liniaru risg gael eu rhoi ar waith ar unwaith.

Mae’r weithdrefn hon yn darparu trefniadau diogelu cadarn wrth sicrhau mai dim ond gwybodaeth berthnasol sy’n cael ei throsglwyddo i gyflogwyr neu gyrff rheoleiddio.

Dylai awdurdodau trwyddedu gynnal cysylltiadau agos â’r heddlu i sicrhau bod gweithdrefnau a phrotocolau rhannu gwybodaeth effeithiol ac effeithlon ar waith ac yn cael eu defnyddio.

Hunan-riportio dalwyr trwydded

Dylai fod yn ofynnol i ddalwyr trwydded hysbysu’r awdurdod dyroddi cyn pen 48 awr ar ôl arestio a rhyddhau, cyhuddo neu euogfarn o unrhyw drosedd rywiol, unrhyw drosedd sy’n ymwneud ag anonestrwydd neu drais ac unrhyw drosedd foduro.

Dylai arestio am unrhyw un o’r troseddau o fewn y cwmpas hwn arwain at adolygiad gan yr awdurdod dyroddi ynghylch a yw daliwr y drwydded yn addas i barhau i wneud hynny.

Fodd bynnag, rhaid peidio â gweld hyn fel cyfarwyddyd y dylid tynnu trwydded yn ôl; mater i’r awdurdod trwyddedu yw ystyried pa gamau, os unrhyw gamau o gwbl, y dylid eu cymryd o ran y drwydded ar sail cydbwysedd tebygolrwydd.

Pe bai awdurdod yn gosod rhwymedigaeth ar ddalwyr trwydded i hysbysu o dan yr amgylchiadau hyn, dylai awdurdodau hefyd sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith i’w galluogi i weithredu o fewn amserlen addas os a phan fo angen.

Yn bwysig, gallai methiant gan ddaliwr trwydded i ddatgelu arestiad y cynghorir yr awdurdod dyroddi amdano gael ei weld fel ymddygiad sy’n cwestiynu gonestrwydd ac felly addasrwydd dalwyr y drwydded waeth beth fydd canlyniad yr honiad cychwynnol.

Cyfeiriadau at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a’r Heddlu

Mewn rhai amgylchiadau gall fod yn briodol o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau sy’n Agored i Niwed 2006 i awdurdodau trwyddedu atgyfeirio i’r GDG.

Dylid cyfeirio penderfyniad i wrthod neu ddirymu trwydded gan y credir bod yr unigolyn yn cyflwyno risg o niwed i blentyn neu oedolyn bregus, at y GDG.

Mae’r pŵer i’r awdurdod trwyddedu atgyfeirio yn y cyd-destun hwn yn deillio o ymgymryd â rôl ddiogelu.

Mae’r GDG wedi darparu arweiniad pellach.

Mae’r Adran yn argymell y dylai awdurdodau trwyddedu atgyfeirio i’r GDG pan gredir:

  • mae unigolyn wedi niweidio neu’n peri risg o niwed i blentyn neu oedolyn bregus
  • mae unigolyn wedi bodloni’r ‘prawf niwed’
  • wedi derbyn rhybudd neu euogfarn am drosedd berthnasol a
  • mae’r person y mae’n ei atgyfeirio yn gweithio mewn gweithgaredd rheoledig, wedi bod, neu gallai fod yn y dyfodol
  • os bodlonir yr amodau uchod, gall y GDG ystyried ei bod yn briodol i’r unigolyn gael ei ychwanegu at restr waharddedig

Gall yr atgyfeiriadau hyn arwain at ychwanegu’r person at restr waharddedig a galluogi awdurdodau trwyddedu eraill i ystyried hyn pe bai ceisiadau pellach yn cael eu gwneud i awdurdodau eraill.

Mae mwy o wybodaeth am atgyfeiriadau at GDG ar gael. 

Gweithio â’r Heddlu

Mae’r heddlu’n ffynhonnell wybodaeth amhrisiadwy wrth asesu a yw ymgeisydd trwyddedu yn berson ‘addas a phriodol’.

Mae’n hanfodol bod gan awdurdodau trwyddedu bartneriaeth gyda’r gwasanaeth heddlu i sicrhau bod gwybodaeth briodol yn cael ei rhannu cyn gynted â phosibl.

Fel rhan o adeiladu perthynas waith effeithiol rhwng yr awdurdod trwyddedu a’r heddlu, dylid gadael gwybod i’r heddlu am y camau a gymerwyd gan yr awdurdod trwyddedu o ganlyniad i’r wybodaeth a dderbyniwyd. Bydd cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith heddluoedd o’r gwerth y mae awdurdodau trwyddedu yn ei roi ar y wybodaeth a dderbynnir, yn enwedig ar wybodaeth nad yw’n wybodaeth am euogfarnau, yn cynorthwyo i hyrwyddo’r perthnasoedd hyn ac yn atgyfnerthu’r buddion o rannu gwybodaeth yn fwy.

Gall y berthynas hon fod o fudd i’r ddwy ochr, gan gynorthwyo’r heddlu i atal troseddu. Gall yr heddlu gael gwybodaeth werthfawr gan yrwyr a gweithredwyr, er enghraifft, nodi sefydliadau sy’n gwerthu alcohol i blant dan oed neu feddwon, neu gludo camdrinwyr sylweddau yn aml i adeiladau.

Er mwyn cynorthwyo ymhellach ansawdd y wybodaeth sydd ar gael i bob parti sydd â dyletswydd diogelu, dylid cynghori dirymu neu wrthod ar sail diogelwch y cyhoedd i’r heddlu hefyd.

Rhannu gwybodaeth drwyddedu ag awdurdodau trwyddedu eraill

Fel sydd wedi cael ei ddatgan mewn llefydd eraill yn y ddogfen hon, yn dangos y mwyaf o wybodaeth sy’n lleihau’r amheuaeth os fydd ymgeisydd neu rywun sy’n rhoi trwyddedu yn ‘iach ac yn gallu.’ Ffynhonnell amlwg o wybodaeth berthnasol yw unrhyw hanes trwyddedu blaenorol. Dylai ymgeiswyr a thrwyddedwyr fod yn ofynnol i ddatgelu os oes ganddyn nhw, neu os oedd ganddyn nhw drwydded yn flaenorol gydag awdurdod gwahanol. Dylai ymgeisydd hefyd fod yn ofynnol i ddatgelu os ydy ymgais ganddyn nhw wedi cael ei gwrthod, ei ddiddymu, neu ei ddiarddel gan unrhyw awdurdod arall. Dylai awdurdodau trwyddedu gynghori yn glir ar eu ffurflenni ymgeisio fod gwneud datganiad anwir neu fethu i gynnig y wybodaeth sydd wedi ei ofyn yn gallu bod yn drosedd.

Mae’r ddeddf Tacsis a llogi preifat o gerbydau (diogelu a diogelwch heol) yn 2022 (“y ddeddf 2022”), yn gofyn am bob awdurdod trwyddedu yn Lloegr i ddefnyddio’r Gofrestr Diddymiadau Gwladol, Gwrthodiadau a Gwaharddiadau (NR3S) sydd i gofnodi, a chwilio am, gwrthodiadau gyrwyr, gwaharddiadau a diddymiadau. O dan y ddeddf, mae’n rhaid i bob awdurdod trwyddedu yn Lloegr hefyd grybwyll pryderon arbenigol am gyrrwyr o’r awdurdod wnaeth gyhoeddi trwydded y gyrrwr yna. Mae’n rhaid i awdurdod trwyddedu Saesneg ystyried gwahardd neu ddiddymu trwydded rhywun ar sail y pryderon sydd wedi eu hadrodd iddyn nhw gan awdurdod arall y DU. Mae’r adran ar gyfer Trafnidiaeth wedi cyhoeddi arweiniad statudol i gefnogi trwyddedu gan awdurdodau o dacsis a llogi preifat o gerbydau yn Lloegr mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth ac mae’n rhaid i bob awdurdod trwyddedu Saesneg angen bod mewn sylw o hyn.

Nid yw’r ddeddf 2022 yn gosod unrhyw oblygiadau ar awdurdodau trwyddedu Cymraeg ond mae pob awdurdod yng Nghymru yn gallu chwilio am y bas data a chreu cofnodion ynddo. Dylai awdurdodau trwyddedu Cymraeg ddefnyddio offerynnau fel yr NR3S i rannu gwybodaeth yn fwy rheolaidd i leddfu’r risg o ddiffyg datguddio gwybodaeth berthnasol gan ymgeiswyr neu drwyddedwyr. Dylai awdurdodau trwyddedu Cymraeg ddilyn yr un egwyddorion wrth ddefnyddio’r NR3S ac yn rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau trwyddedu eraill fel sydd wedi ei gosod allan yn y canllawiau statudol ar gyfer trwyddedu awdurdodau Saesneg. Pan fod awdurdod trwyddedu Cymraeg yn gofyn am wybodaeth o awdurdod trwyddedu arall (naill ai yn Lloegr neu yng Nghymru) fel canlyniad o ddefnyddio’r NR3S i gefnogi eu penderfyniad am gais neu adnewyddiad, mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu sydd â’r wybodaeth ystyried i ddatgelu’r wybodaeth i’r awdurdod trwyddedu Cymraeg ynghlwm â’i goblygiadau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data.

Mae’r ddeddfwriaeth diogelu data yn cynnig eithriad o’r hawliau gwrthrych data ar gyfer prosesu data personol mewn cysylltiad â gweithgareddau rheoleiddio. Mae hyn yn cynnwys trwyddedu tacsis a llog cerbydau preifat. Mae’r eithriad ond yn berthnasol i’r wybodaeth sydd wedi ei brosesu am weithredoedd craidd sefydliadau priodol; ni all gael ei ddefnyddio mewn modd cyffredinol. Mae’r eithriad ond yn berthnasol i’r radd y mae cais yr hawliau gwrthrych data i’r wybodaeth dan sylw fydd yn debygol o niweidio gollyngiad y swyddogaethau rheoleiddiol. Mae’r wybodaeth y mae swyddfa’r Comisiynydd Wybodaeth wedi cyhoeddi er mwyn rhoi cymorth i sefydliadau i ddeall eu goblygiadau yn llwyr ac awgrymu arferion da.

Er mwyn i’r prosesau hyn fod yn effeithiol, mae’n rhaid i bob awdurdod trwyddedu gadw cofnod cyflawn a chywir o’r rhesymau am wrthodiad, ataliad, neu ddiddymiad trwydded, fel ei bod yn gallu cael ei rannu os ydy’n cael ei ofyn am ac yn briodol i wneud. Mae’r ddeddf 2022 yn gofyn am awdurdodau trwyddedu yn Lloegr i gadw cofnod o unrhyw wybodaeth berthnasol i ymwneud â phenderfyniadau a gofnodwyd ar bas data’r NR3S am 11 mlynedd o ddyddiad y penderfyniad. Tra bod y gofyniad hwn ddim yn berthnasol i awdurdodau trwyddedu yng Nghymru, dylai’r awdurdodau yna gadw cofnodion perthnasol am o leiaf 11 mlynedd.

Pe bai awdurdod trwyddedu yn derbyn newyddion nad oedd daliwr trwydded wedi datgelu gwybodaeth berthnasol, er enghraifft gan edrych ar fas data’r NR3S, byddai’n rhaid i’r awdurdod ystyried a yw’r diffyg datgeliad yn cynrychioli diffyg gonestrwydd a byddai’n rhaid ystyried os yw’r daliwr trwydded yn parhau i fod yn ‘addas a phriodol.’

Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH)

Mae Hybiau Diogelu Amlasiantaeth yn ffordd o wella’r ymateb diogelu i blant ac oedolion sy’n agored i niwed trwy rannu gwybodaeth yn well ac ymatebion diogelu amserol ac o ansawdd uchel.

Dylai MASHau (neu fodelau tebyg) weithredu ar dair egwyddor gyffredin: rhannu gwybodaeth, gwneud penderfyniadau ar y cyd ac ymyrraeth gydlynol.

Argymhellodd adroddiad y Swyddfa Gartref ar Weithio a Rhannu Gwybodaeth Amlasiantaeth (PDF, 316KB) fod angen i weithio amlasiantaethol effeithiol ddod yn fwy eang o hyd. Canfu Ymchwiliad Comisiynydd Plant 2013 i Ecsbloetio Rhywiol Plant mewn Gangiau a Grwpiau (PDF, 778KB) fod yr heddlu ac awdurdodau lleol yn dal i nodi’r anallu i rannu gwybodaeth fel rhwystr allweddol i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol a’u hecsbloetio.

Dylai pob awdurdod trwyddedu weithredu neu sefydlu modd i hwyluso amcanion MASH (h.y. rhannu gwybodaeth angenrheidiol a pherthnasol rhwng rhanddeiliaid).

Fel y pwysleisiwyd trwy’r ddogfen hon, un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r risg i blant ac oedolion sy’n agored i niwed wrth ddefnyddio tacsis a cherbydau llogi preifat yw sicrhau bod penderfyniadau ar drwyddedu unigolion yn cael eu gwneud gyda’r wybodaeth lawnaf bosibl.

Cwynion yn erbyn dalwyr trwydded

Mae cwynion am yrwyr a gweithredwyr yn darparu ffynhonnell wybodaeth wrth ystyried adnewyddu trwydded neu i nodi problemau yn ystod cyfnod y drwydded.

Gall patrymau ymddygiad megis cwynion yn erbyn gyrwyr, hyd yn oed pan nad ydynt yn arwain at gamau pellach mewn ymateb i gwyn unigol, fod yn arwydd o nodweddion sy’n codi amheuon ynghylch yr addasrwydd i ddal trwydded.

Dylai fod gan bob awdurdod trwyddedu system gadarn ar gyfer cofnodi cwynion, gan gynnwys dadansoddi tueddiadau ar draws pob daliwr trwydded yn ogystal â chwynion yn erbyn dalwyr trwydded unigol.

Bydd system o’r fath yn helpu awdurdodau i adeiladu darlun llawnach o’r risgiau posibl y gallai unigolyn eu peri a gallai gwthio’r asesiad ‘cydbwysedd tebygolrwydd’ y mae’n rhaid i awdurdodau trwyddedu ei gymryd i un cyfeiriad.

Dylai’r awdurdod trwyddedu gysylltu â dalwyr trwydded sydd â nifer uchel o gwynion yn eu herbyn a chodi pryderon gyda’r gyrrwr a’r gweithredwr (os yw’n briodol).

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu benderfynu ar gamau pellach o ran dalwyr y drwydded, a allai gynnwys dim camau pellach, cynnig hyfforddiant, adolygiad ffurfiol o’r drwydded, neu gam gorfodi ffurfiol.

Er mwyn sicrhau bod teithwyr yn gwybod at bwy i gwyno, dylai awdurdodau trwyddedu gynhyrchu canllawiau i deithwyr ar wneud cwynion yn uniongyrchol i’r awdurdod trwyddedu a ddylai fod ar gael ar eu gwefan.

Dylai ffyrdd o gwyno i’r awdurdod gael eu harddangos ym mhob cerbyd trwyddedig.

Mae hyn yn debygol o arwain at waith ychwanegol i’r awdurdod trwyddedu ond mae ganddo’r fantais o sicrhau cysondeb wrth drin cwynion.

Ar hyn o bryd, mae’n fwy tebygol y byddai cwyn yn erbyn gyrrwr tacsi yn cael ei gwneud yn uniongyrchol i’r awdurdod trwyddedu tra bod cwyn yn erbyn gyrrwr cerbyd llogi preifat yn fwy tebygol o gael ei gwneud i’r gweithredwr.

Anogir partneriaeth effeithiol lle gall gweithredwyr rannu pryderon ynghylch gyrwyr.

Yn bwysig, bydd y dull hwn yn cynorthwyo i gyfarwyddo cwynion a gwybodaeth ynghylch ymddygiad gyrwyr a allai fod yn cludo teithiwr y tu allan i’r ardal lle mae’r gyrrwr wedi’i drwyddedu i’r awdurdod a gyhoeddodd y drwydded.

Er mwyn i hyn fod yn effeithiol rhaid i awdurdodau sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o ofyniad i arddangos gwybodaeth ar sut i gwyno a chymryd sancsiynau priodol yn erbyn y rhai nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn.

O ran ymchwilio i gwynion gall lluniau teledu cylch cyfyng o ddigwyddiad ddarparu mewnwelediad amhrisiadwy, gan ddarparu ‘tyst annibynnol’ i ddigwyddiad.

Gall hyn gynorthwyo yn y penderfyniad p’un ai i atal neu ddirymu trwydded. Trafodir buddion posibl gorfodi ym mharagraffau 7.7 - 7.12.

Euogfarnau tramor

Ni all y GDG gael gafael ar gofnodion troseddol a gedwir dramor, a dim ond euogfarnau tramor a gedwir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu y gellir eu datgelu, yn ddarostyngedig i’r rheolau datgelu.

Felly, efallai na fydd gwiriad GDG yn rhoi darlun cyflawn o gofnod troseddol unigolyn lle bu cyfnodau yn byw neu’n gweithio dramor; mae’r un peth yn berthnasol pan fydd ymgeisydd o’r blaen wedi treulio cyfnod estynedig (tri mis neu fwy parhaus) y tu allan i’r DU.

Fodd bynnag, dylid nodi na fydd rhai gwledydd yn darparu ‘Tystysgrif Cymeriad Da’ oni bai bod yr unigolyn wedi bod yn breswyl yn y wlad am chwe mis neu fwy.

Dylai awdurdodau trwyddedu geisio neu, lle bo hynny’n bosibl, ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth cofnodion troseddol neu ‘Dystysgrif Cymeriad Da’ o dramor o dan yr amgylchiadau hynny er mwyn asesu risg yn iawn a chefnogi’r broses benderfynu.

Cymeriad yr ymgeisydd fel oedolyn sydd o ddiddordeb arbennig, felly gall cyfnod estynedig y tu allan i’r DU cyn 18 oed fod yn llai perthnasol.

Yn yr un modd â phob penderfyniad trwyddedu, rhaid ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun. I gael gwybodaeth am wneud cais am wybodaeth cofnodion troseddol dramor neu ‘Tystysgrifau Cymeriad Da’ gweler canllawiau’r Swyddfa Gartref.

Pan fydd unigolyn yn ymwybodol ei fod wedi cyflawni trosedd dramor a allai fod yn gyfwerth â’r rhai a restrir yn yr atodiad i’r ddogfen hon (Atodiad - Asesiad o Euogfarnau Blaenorol), dylai’r awdurdodau trwyddedu gynghori’r ymgeisydd i geisio cyngor arbenigol neu gyfreithiol annibynnol i sicrhau ei fod yn darparu gwybodaeth sy’n wir ac yn gywir.

Gwneud Penderfyniadau

Gweinyddu’r fframwaith trwyddedu

Dim ond os yw’n cael ei weinyddu’n iawn y mae polisi’n effeithiol.

Mae swyddogaethau trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat cynghorau lleol yn swyddogaethau anweithredol h.y. maent yn swyddogaethau’r cyngor yn hytrach na’r weithrediaeth (fel y Cabinet).

Mae’r swyddogaethau’n cynnwys penderfynu ar geisiadau am drwydded, adolygiadau ac adnewyddiadau, ynghyd ag atodi amodau pan ystyrir eu bod yn briodol.

Gellir dirprwyo’r swyddogaeth i bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog – y dylid ei nodi o fewn cynllun dirprwyo clir. Yn Llundain cyflawnir y swyddogaeth trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat gan Transport for London.

Dylai awdurdodau trwyddedu sicrhau bod gan yr holl unigolion sy’n penderfynu a yw trwydded yn cael ei rhoi neu ei gwrthod adnoddau digonol i ganiatáu iddynt gyflawni’r swyddogaeth yn effeithiol ac yn gywir.

Hyfforddi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau

Dylai fod yn ofynnol i bob unigolyn sy’n penderfynu a roddir trwydded dderbyn hyfforddiant digonol.

Dylai hyfforddiant i aelod o bwyllgor trwyddedu o leiaf gynnwys: gweithdrefnau trwyddedu, cyfiawnder naturiol, deall risgiau CSAE, ymwybyddiaeth anabledd a chydraddoldeb a gwneud penderfyniadau anodd a allai fod yn ddadleuol.

Ni ddylai hyfforddiant ymwneud â gweithdrefnau yn unig, ond dylai gynnwys defnyddio deunydd astudiaeth achos i ddarparu cyd-destun a senarios go iawn.

Dylai’r awdurdod trwyddedu gofnodi pob hyfforddiant yn ffurfiol a gofyn am lofnod gan yr unigolyn sydd wedi derbyn yr hyfforddiant.

Mae hyfforddiant ar gael gan nifer o sefydliadau gan gynnwys y Sefydliad Trwyddedu a Chyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol; efallai y bydd yr LGA hefyd yn gallu cynorthwyo i ddatblygu pecynnau hyfforddi.

Diogelwch y cyhoedd yw’r brif ystyriaeth ond mae’n rhaid cyflawni swyddogaethau trwyddedu yn unol â’r egwyddorion cyffredinol canlynol:

  • dylid defnyddio polisïau fel canllawiau mewnol, a dylid eu cefnogi gan god ymddygiad aelod/swyddog
  • dylid ystyried unrhyw oblygiadau’r Ddeddf Hawliau Dynol
  • dylid cadw at reolau cyfiawnder naturiol
  • rhaid i benderfyniadau fod yn rhesymol ac yn gymesur
  • lle mae angen gwrandawiad dylid ei gynnal yn deg a chaniatáu i’r holl ffactorau perthnasol gael eu hystyried yn briodol
  • rhaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau osgoi rhagfarn (neu hyd yn oed ymddangos yn fias) a rhagderfynu
  • deddfwriaeth diogelu data

Pan fydd gan y sawl sy’n gwneud penderfyniad fuddiant niweidiol mewn achos, p’un a yw’n berthynas ariannol neu’n berthynas bersonol â’r rhai dan sylw, dylent ddatgan eu budd ar y cyfle cyntaf; rhaid i hyn fod cyn unrhyw drafodaethau neu bleidleisiau ac, ar ôl ei ddatgan, rhaid iddynt adael yr ystafell trwy gydol y drafodaeth neu’r bleidlais.

Y strwythur rheoleiddio

Argymhellir bod cynghorau’n gweithredu gyda Phwyllgor Rheoleiddio neu Fwrdd sy’n cael ei gynnull o bryd i’w gilydd i benderfynu ar faterion trwyddedu, gydag achosion unigol yn cael eu hystyried gan banel o gynghorwyr etholedig sydd wedi’u hyfforddi’n addas o Bwyllgor neu Fwrdd Rheoleiddio mwy.

Mae’r model hwn yn debyg i’r un a fabwysiadir yn aml mewn perthynas â materion trwyddedu eraill.

Er mwyn hwyluso’r broses o gyflawni’r swyddogaethau’n effeithiol, gellir dirprwyo materion llai dadleuol i swyddogion cyngor sydd wedi’u hawdurdodi’n briodol trwy gynllun dirprwyo tryloyw.

Ystyrir bod y dull hwn hefyd yn sicrhau’r lefel briodol o wahanu rhwng y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r rhai sy’n ymchwilio i gwynion yn erbyn dalwyr trwydded, a dyma’r dull mwyaf effeithiol o ganiatáu cyflawni’r swyddogaethau yn unol â’r egwyddorion cyffredinol y cyfeirir atynt yn 5.4. Yn benodol, mae model y Pwyllgor/Bwrdd yn caniatáu i:

  • bob achos gael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun. Mae’n anghyffredin i’r un cynghorwyr fod yn rhan o wrandawiadau mynych – felly bydd gan y cynghorwyr sy’n rhan o’r broses benderfynu lai o wybodaeth am benderfyniadau blaenorol ac felly maent yn llai tebygol o gael eu dylanwadu ganddynt. Gellir darparu goruchwyliaeth ac archwiliad mewn perthynas â’r gwasanaeth trwyddedu yn gyffredinol, a all ddarparu goruchwyliaeth annibynnol a diduedd o’r ffordd y mae’r swyddogaethau’n cael eu cyflawni o fewn yr awdurdod
  • gwahanu clir rhwng yr ymchwilydd a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau – mae hyn yn dangos annibyniaeth, ac yn sicrhau y gall uwch swyddogion geisio datrys anghydfodau mewn perthynas â chamau gweithredu gwasanaeth heb y canfyddiad y bydd yr ymglymiad hwn yn effeithio ar eu dyfarniad mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir yn ddiweddarach

Mae osgoi rhagfarn neu hyd yn oed ymddangos yn fias yn hanfodol i sicrhau bod penderfyniadau da yn cael eu gwneud c i fagu a/neu gynnal hyder yn y drefn drwyddedu gan deithwyr a dalwyr trwydded.

Yn wahanol i swyddogion, nid yw aelodau etholedig fel arfer yn ymwneud â gweithrediad y gwasanaeth o ddydd i ddydd ac o’r herwydd nid oes ganddynt berthnasoedd â dalwyr trwydded a allai roi’r argraff bod y berthynas rhwng y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a’r dalwyr trwydded yn effeithio ar gyflawni swyddogaeth.

Efallai y bydd rhai awdurdodau trwyddedu yn penderfynu gweithredu system lle mae pob mater yn cael ei ddirprwyo i banel o swyddogion; fodd bynnag, ni argymhellir y dull hwn a dylid bod yn ofalus.

Rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud yn wrthrychol, a gweld eu bod yn cael eu gwneud, gan osgoi unrhyw ragfarn. Yn ogystal, gallai fod yn anoddach dangos cydymffurfiad â’r egwyddorion y cyfeirir atynt uchod oherwydd y cysylltiad agos rhwng y swyddogion ar y panel, a’r rhai sy’n ymwneud â chyflawni’r swyddogaethau trwyddedu yn weithredol.

P’un a yw’r strwythur arfaethedig yn cael ei gyflwyno neu fod model amgen yn fwy priodol mewn amgylchiadau lleol, dylai’r amcan aros yr un fath - gwahanu’r ymchwiliad i bryderon trwyddedu a rheolaeth y broses drwyddedu.

Waeth pa ddull a fabwysiadir, dylai pob awdurdod trwyddedu ystyried trefniadau ar gyfer delio â materion difrifol a allai olygu bod angen dirymu trwydded ar unwaith.

Argymhellir dirprwyo’r rôl hon i uwch swyddog/rheolwr sy’n gyfrifol am y gwasanaeth trwyddedu.

Prawf addas a phriodol

Mae dyletswydd ar awdurdodau trwyddedu i sicrhau bod unrhyw berson y maent yn rhoi trwydded gyrrwr tacsi neu gerbyd llogi preifat iddo yn berson ‘addas a phriodol’ i fod yn ddaliwr trwydded.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol wrth ystyried a yw ymgeisydd neu ddalwyr trwydded yn addas ac yn briodol i ofyn y cwestiwn canlynol i chi’ch hun:

Heb unrhyw ragfarn, ac yn seiliedig ar y wybodaeth sydd o’ch blaen, a fyddech chi’n caniatáu i berson rydych chi’n gofalu amdano, waeth beth yw ei gyflwr, deithio ar ei ben ei hun mewn cerbyd sy’n cael ei yrru gan y person hwn ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos?

Os, ar sail cydbwysedd tebygolrwydd, yr ateb i’r cwestiwn yw ‘na’, ni ddylai’r unigolyn ddal trwydded.

Rhaid i awdurdodau trwyddedu wneud penderfyniadau anodd ond (yn ddarostyngedig i’r pwyntiau a wneir ym mharagraff 5.4) mae diogelu’r cyhoedd o’r pwys mwyaf.

Dylid gwneud pob penderfyniad ar addasrwydd ymgeisydd neu ddalwyr trwydded yn ôl cydbwysedd tebygolrwydd.

Mae hyn yn golygu na ddylid rhoi ‘mantais yr amheuaeth’ i ymgeisydd neu ddalwyr trwydded.

Os mai “50/50” yn unig yw’r pwyllgor neu’r swyddog dirprwyedig ynghylch a yw’r ymgeisydd neu’r daliwr trwydded yn ‘addas a phriodol’, ni ddylent ddal trwydded.

Mae’r trothwy a ddefnyddir yma yn is nag ar gyfer euogfarn droseddol (hynny y tu hwnt i amheuaeth resymol) a gall ystyried ymddygiad nad yw wedi arwain at gollfarn droseddol.

Euogfarnau troseddol ac adsefydlu

Wrth ystyried cofnod troseddol unigolyn, rhaid i awdurdodau trwyddedu ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod, ond dylent gymryd golwg arbennig o ofalus ar unrhyw droseddau yn erbyn unigolion ag anghenion arbennig, plant a grwpiau bregus eraill, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys trais, y rhai o natur rywiol a’r rhai sy’n gysylltiedig â throsedd cyfundrefnol.

Er mwyn sicrhau cysondeb, ac i liniaru’r risg o her gyfreithiol lwyddiannus, dylai fod gan awdurdodau trwyddedu bolisi clir ar gyfer ystyried cofnodion troseddol.

Dylai hyn gynnwys, er enghraifft, pa droseddau a fyddai’n atal ymgeisydd rhag cael ei drwyddedu, gwaeth beth yw’r cyfnod a aeth heibio ym mhob amgylchiad heblaw amgylchiadau wir eithriadol.

Yn achos troseddau llai, dylai polisi ystyried nifer y blynyddoedd y bydd angen fod wedi mynd heibio, yn ôl yr awdurdod, ers cyflawni mathau penodol o droseddau cyn y byddant yn rhoi trwydded.

Ynghlwm wrth y ddogfen hon mae argymhellion yr Adran ar asesu euogfarnau blaenorol (Atodiad - Asesiad o Euogfarnau Blaenorol).

Mae hyn yn tynnu ar waith y Sefydliad Trwyddedu, mewn partneriaeth â’r LGA, Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Gorfodi Trwyddedu (NALEO) a Chyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol, wrth gyhoeddi ei ganllaw ar bennu addasrwydd dalwyr trwydded tacsis a cherbydau llogi preifat.

Dylai’r cyfnodau hyn gael eu hystyried yn fan cychwyn wrth ystyried a ddylid rhoi neu adnewyddu trwydded ym mhob achos.

Barn yr Adran yw bod hyn yn blaenoriaethu diogelwch teithwyr wrth alluogi cyn-droseddwyr i ddangos tystiolaeth ddigonol eu bod wedi cael eu hadsefydlu’n llwyddiannus fel y gallent gael trwydded.

Fodd bynnag, atgoffir awdurdodau bod gan ymgeiswyr hawl i ystyriaeth deg a diduedd o’u cais.

Trwyddedu Gyrwyr

Gwiriadau troseddoldeb i yrwyr

Mae gan awdurdodau trwyddedu hawl i ofyn am dystysgrif cofnod troseddol uwch gyda gwiriad o’r rhestrau gwaharddedig gan y GDG ar gyfer pob daliwr trwydded yrru neu ymgeisydd.

Mae arolwg 2019 DfT o awdurdodau trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat yn dangos bod yn ofynnol i bob awdurdod trwyddedu yng Nghymru a Lloegr wneud gwiriad GDG uwch ar y cais cyntaf neu gais i adnewyddu.

Dylai pob unigolyn sy’n gwneud cais am drwydded neu’n adnewyddu trwydded tacsi neu gerbyd llogi preifat fod yn destun gwiriad o’r Rhestrau Gwaharddedig plant ac oedolion gan yr awdurdodau trwyddedu yn ogystal â bod yn destun gwiriad GDG uwch (yn adran x61 o’r cais GDG ‘Gweithlu Arall’ dylid ei nodi yn llinell 1 a dylid nodi ‘Trwyddedu Tacsi’ ar linell 2).

Dylai fod yn ofynnol i bob gyrrwr trwyddedig hefyd dystiolaethu cofrestriad parhaus gyda’r gwasanaeth diweddaru GDG i alluogi’r awdurdod trwyddedu i wirio am wybodaeth newydd yn rheolaidd bob chwe mis.

Dylai gyrwyr nad ydynt yn tanysgrifio i’r Gwasanaeth Diweddaru barhau i fod yn destun gwiriad bob chwe mis.

Nid yw gyrru tacsi neu gerbyd llogi preifat ynddo’i hun yn weithgaredd rheoledig at ddibenion y rhestr waharddedig.

Mae hyn yn golygu na fyddai unigolyn sy’n destun gwahardd yn cael ei atal yn gyfreithiol rhag bod yn yrrwr tacsi neu gerbyd llogi preifat ond dylai’r awdurdod trwyddedu ystyried statws gwaharddedig unigolyn ochr yn ochr â gwybodaeth arall sydd ar gael.

Er budd diogelwch y cyhoedd, ni ddylai awdurdodau trwyddedu, fel rhan o’u polisïau, roi trwydded i unrhyw unigolyn sy’n ymddangos ar y naill restr waharddedig.

Pe bai awdurdod trwyddedu yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol sy’n golygu, ar sail cydbwysedd tebygolrwydd, eu bod yn ystyried unigolyn a enwir ar restr waharddedig yn ‘addas a phriodol’, dylid cofnodi’r rhesymau dros ddod i’r casgliad hwn.

Efallai bod gyrwyr sy’n gweithio o dan drefniant i gludo plant yn gweithio mewn ‘gweithgaredd rheoledig’ fel y’i diffinnir gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Bregus 2006.

Mae’n drosedd caniatáu yn fwriadol i unigolyn sydd wedi’i wahardd weithio mewn gweithgaredd rheoledig. Dylid ystyried y canllawiau ar deithio a chludiant o’r cartref i’r ysgol a gyhoeddir gan yr Adran Addysg ochr yn ochr â’r ddogfen hon. Gweler y canllawiau ar gymhwysedd GDG gyrwyr a sut i wneud cais.

Ymwybyddiaeth diogelu

Dylai awdurdodau trwyddedu ystyried y rôl y gall y rhai yn y diwydiant tacsis a cherbydau llogi preifat ei chwarae wrth sylwi ar gam-drin, camfanteisio neu esgeuluso plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Yn yr un modd ag unrhyw grŵp o bobl, mae’n amlwg iawn y gall y rhai yn y diwydiant fod yn ased wrth ganfod ac atal cam-drin neu esgeuluso plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Fodd bynnag, dim ond os ydynt yn ymwybodol o arwyddion o gam-drin posibl ac yn gwybod ble i droi atynt os ydynt yn amau bod plentyn neu oedolyn bregus mewn perygl o niwed neu mewn perygl enbyd y mae hyn yn wir.

Dylai pob awdurdod trwyddedu ddarparu cyngor ac arweiniad diogelu i’r fasnach a dylent ei gwneud yn ofynnol i yrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat ymgymryd â hyfforddiant diogelu.

Cynhyrchir hwn yn aml ar y cyd â’r heddlu ac asiantaethau eraill. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u datblygu i helpu gyrwyr a gweithredwyr:

  • darparu gwasanaeth diogel ac addas i deithwyr bregus o bob oed
  • cydnabod yr hyn sy’n gwneud person yn agored i niwed
  • deall sut i ymateb, gan gynnwys sut i riportio pryderon diogelu a ble i gael cyngor

Ers 2015, mae’r Adran Addysg (DfE) wedi bod yn cynnal ymgyrch genedlaethol – ‘Gyda’n gilydd gallwn fynd i’r afael â cham-drin plant’, a’i nod yw cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o sut i gydnabod cam-drin ac esgeuluso plant a’u hannog i’w riportio.

Mae’r Adran Addysg yn parhau i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o ddeunydd yr ymgyrch drwy ei becyn cymorth ar-lein i awdurdodau lleol, elusennau a sefydliadau eraill ei ddefnyddio ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Ecsbloetio ‘llinellau sirol’

Mae llinellau sirol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio gangiau a rhwydweithiau troseddol cyfundrefnol sy’n ymwneud ag allforio cyffuriau anghyfreithlon (crac cocên a heroin yn bennaf) i un neu fwy o ardaloedd mewnforio [yn y DU], gan ddefnyddio llinellau ffôn symudol pwrpasol neu fath arall o “linell fargen”.

Mae ecsbloetio yn rhan annatod o’r model troseddu llinellau sirol gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed yn cael eu hecsbloetio i gludo (a storio) cyffuriau ac arian rhwng lleoliadau.

Plant rhwng 15-17 oed yw mwyafrif y bobl sy’n agored i niwed sy’n ymwneud â llinellau sirol, ond gallant fod yn llawer iau hefyd.

Rydym yn gwybod bod merched a bechgyn yn cael eu paratoi a’u hecsbloetio a bydd troseddwyr yn aml yn defnyddio gorfodaeth, bygwth, trais (gan gynnwys trais rhywiol) ac arfau i sicrhau cydymffurfiaeth dioddefwyr. Efallai y bydd gan blant sy’n cael eu hecsbloetio gan gangiau llinellau sirol wendidau ar wahân i’w hoedran, megis problemau iechyd meddwl ehangach, cartrefi trwblus neu ddi-drefn, problemau camddefnyddio sylweddau, cael eu gwahardd o’r ysgol neu fynd ar goll yn aml.

Nododd asesiad bygythiad llinellau sirol 2018 yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol fod y rhwydwaith ffyrdd cenedlaethol yn allweddol i gludo dioddefwyr, cyffuriau ac arian parod llinellau sirol; gyda cherbydau llogi yn un o’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer cludo rhwng lleoliadau.

Dylai hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu diogelwch gynnwys y ffyrdd y gall gyrwyr helpu i adnabod ecsbloetio llinellau sirol. Yn gyntaf, dylent fod yn ymwybodol o’r arwyddion rhybudd canlynol:

  • plant a phobl ifanc sy’n teithio mewn tacsis neu gerbydau llogi preifat ar eu pen eu hunain
  • teithio yn ystod oriau anarferol (yn ystod amser ysgol, yn gynnar yn y bore neu’n hwyr yn y nos)
  • teithio pellteroedd maith
  • anghyfarwydd â’r ardal leol neu nad oes ganddynt acen leol
  • talu am deithiau ag arian parod neu’n rhagdalu

Mae’r Swyddfa Gartref yn gweithio â phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o linellau sirol ac mae wedi darparu deunydd i helpu staff tacsis a cherbydau llogi preifat i adnabod dioddefwyr a riportio pryderon i amddiffyn y rhai sy’n cael eu hecsbloetio trwy’r gweithgaredd troseddol hwn.

Dylai gyrwyr (neu unrhyw berson) fod yn ymwybodol o beth i’w wneud os ydyn nhw’n credu bod plentyn neu berson bregus mewn perygl o niwed.

Os yw’r risg yn enbyd dylent gysylltu â’r heddlu. Fel arall, dylent:

  • defnyddio’r broses ddiogelu leol, a’i cham cyntaf fel arfer yw cysylltu â’r arweinydd diogelu o fewn yr awdurdod lleol
  • ffonio Crime Stoppers ar 0800 555 111

Hyfedredd iaith

Gallai diffyg hyfedredd iaith effeithio ar allu gyrrwr i ddeall dogfennau ysgrifenedig, megis polisïau a chanllawiau, sy’n ymwneud ag amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed a’i allu i gymhwyso hyn i adnabod a gweithredu ar arwyddion o ecsbloetio.

Bydd hyfedredd llafar yn berthnasol wrth nodi ecsbloetio posibl trwy gyfathrebu â theithwyr a’u rhyngweithiadau ag eraill.

Dylai prawf awdurdod trwyddedu o hyfedredd gyrrwr gwmpasu sgiliau iaith lafar ac ysgrifenedig Saesneg i gyflawni’r amcanion a nodwyd uchod. 

Trwyddedu Cerbydau

Yn yr un modd â thrwyddedu gyrwyr, amcan trwyddedu cerbydau yw amddiffyn y cyhoedd, sy’n ymddiried bod y cerbydau sy’n cael eu hanfon yn anad dim arall yn ddiogel.

Mae’n bwysig felly bod awdurdodau trwyddedu yn sicr nad yw’r rhai sy’n derbyn trwydded cerbyd hefyd yn fygythiad i’r cyhoedd ac nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau â gweithgaredd troseddol difrifol.

Er efallai na fydd gan berchnogion cerbydau gysylltiad uniongyrchol â theithwyr, maent yn dal i gael eu hymddiried i sicrhau bod y cerbydau a’r gyrwyr a ddefnyddir i gludo teithwyr wedi’u trwyddedu’n briodol ac felly’n cynnal buddion diogelwch y drefn drwyddedu.

Gwiriadau troseddoldeb ar gyfer perchnogion cerbydau

Nid oes gwiriadau DBS uwch na gwiriadau rhestrau gwaharddedig ar gael ar gyfer trwyddedu cerbydau. Dylai awdurdodau trwyddedu ofyn am ddatgeliad sylfaenol gan y GDG a bod gwiriad yn cael ei gynnal yn flynyddol.

Gall unrhyw unigolyn wneud cais am wiriad sylfaenol a bydd y dystysgrif yn datgelu unrhyw gollfarnau heb eu darfod a gofnodwyd ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC).

Dylai awdurdodau trwyddedu ystyried a yw ymgeisydd neu ddaliwr trwydded sydd ag euogfarn am droseddau a ddarperir yn yr atodiad i’r ddogfen hon (Atodiad - Asesiad o Euogfarnau Blaenorol), ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â gyrru, yn cwrdd â’r trothwy ‘addas a phriodol’.

Fodd bynnag, mae’n bwysig bod awdurdodau’n cydnabod y gall unigolion sy’n trwyddedu cerbyd eisoes bod yn ddalwyr trwydded fel gyrrwyr mewn llawer o achosion.

Ni ddylai awdurdod sy’n cynnal y gwiriadau GDG bob dwy flynedd a argymhellir ar gyfer ei yrwyr ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n ceisio trwyddedu cerbyd ddarparu gwiriad GDG sylfaenol fel rhan o’r broses ymgeisio; ni fyddai GDG sylfaenol yn darparu unrhyw wybodaeth yn ychwanegol at yr hyn a ddatgelir o dan y gwiriad GDG a rhestrau gwaharddedig uwch a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad gyrrwr.

Yn yr amgylchiadau hyn, dylai’r awdurdod yn hytrach ddibynnu ar y ffaith yr ystyrir bod yr ymgeisydd yn addas ac yn briodol i ddal trwydded yrru wrth ystyried ei addasrwydd i ddal trwydded cerbyd.

Pe bai’r unigolyn yn peidio â bod yn ddaliwr trwydded yrru, dylai fod angen tystysgrif sylfaenol ar unwaith.

Nid yw gwrthod trwyddedu unigolyn fel gyrrwr neu atal neu ddirymu trwydded yrru yn golygu’n awtomatig na all yr unigolyn hwnnw dderbyn trwydded na pharhau i ddal trwydded gweithredwr cerbyd neu gerbyd llogi preifat; rhaid i’r penderfyniadau hyn fod yn annibynnol o wrthod trwydded yrru ac yn seiliedig ar y wybodaeth briodol h.y. ni ddylai ystyried gwybodaeth a fyddai ar gael dim ond trwy wiriad GDG uwch; dim ond y wybodaeth hynny a fyddai’n cael ei datgelu ar wiriad sylfaenol.

Dim ond at y diben penodol y gofynnwyd amdano, ac y rhoddwyd caniatâd llawn yr ymgeisydd ar ei gyfer, y gellir defnyddio gwybodaeth tystysgrif GDG.

Gall cwmni neu bartneriaeth wneud cais am drwyddedau gweithredwr cerbydau llogi preifat a thrwyddedau cerbyd; dylai awdurdodau trwyddedu ddefnyddio’r prawf ‘addas a phriodol’ i bob un o’r cyfarwyddwyr neu bartneriaid yn y cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

Er mwyn i hyn fod yn effeithiol, dylai fod yn ofynnol i weithredwyr cerbydau llogi preifat a’r rhai sydd angen trwydded cerbyd gynghori’r awdurdod trwyddedu am unrhyw newid o ran y cyfarwyddwyr neu bartneriaid.

Fel yr eglurwyd yn gynharach yng nghyd-destun trwyddedu gyrwyr, ni all y GDG gael mynediad at gofnodion troseddol a gedwir dramor felly mae’n rhaid ystyried gwiriadau eraill ble mae’r ymgeisydd wedi byw neu weithio dramor (gweler paragraff 4.34 - 4.36).

Recordio gweledol a sain mewn cerbyd - teledu cylch cyfyng

Mae’r Llywodraeth wedi cydnabod y risg bosibl i ddiogelwch y cyhoedd pan fydd teithwyr yn teithio mewn tacsis a cherbydau llogi preifat.

Yn anffodus, ni waeth pa mor gyflawn yw’r wybodaeth sydd ar gael i awdurdodau trwyddedu wrth asesu a ddylid rhoi unrhyw drwydded tacsi neu gerbyd llogi preifat, na pha mor gadarn yw’r polisïau sydd ar waith a pha mor drylwyr y cânt eu cymhwyso, ni fydd byth yn dileu’r posibilrwydd o niwed i deithwyr gan yrwyr yn llwyr.

Barn yr Adran yw y gall teledu cylch cyfyng ddarparu ataliaeth ychwanegol i atal hyn a gwerth ymchwiliol pan fydd yn gwneud hynny.

Gall defnyddio teledu cylch cyfyng ddarparu amgylchedd mwy diogel er budd teithwyr a gyrwyr tacsis/llogi preifat trwy:

  • rhwystro ac atal troseddau rhag digwydd
  • lleihau ofn trosedd
  • cynorthwyo’r heddlu i ymchwilio i ddigwyddiadau trosedd
  • cynorthwyo cwmnïau yswiriant i ymchwilio i ddamweiniau cerbydau modur

Dylai pob awdurdod trwyddedu ymgynghori i nodi a oes amgylchiadau lleol sy’n dangos y byddai gosod teledu cylch cyfyng mewn cerbydau naill ai’n cael effaith net gadarnhaol neu andwyol ar ddiogelwch defnyddwyr tacsis a cherbydau llogi preifat, gan gynnwys plant neu oedolion sy’n agored i niwed, ac ystyried problemau preifatrwydd posib.

Er mai dim on lleiafrif bach o awdurdodau trwyddedu sydd hyd yma wedi gorfodi pob cerbyd i gael systemau teledu cylch cyfyng, mae profiad yr awdurdodau hynny wedi bod yn gadarnhaol i deithwyr a gyrwyr.

Yn ogystal, gall buddion tystiolaethol teledu cylch cyfyng gynyddu lefel riportio troseddau rhywiol.

Yn ôl yr Arolwg Troseddau yng Nghymru a Lloegr dim ond 17 y cant o ddioddefwyr sy’n riportio eu profiadau i’r heddlu, a nododd 28 y cant o ddioddefwyr trais rhywiol neu ymosodiadau rhywiol fod ofn na fyddent yn cael eu credu fel ffactor wrth beidio â riportio’r drosedd.

Felly mae’r buddion tystiolaethol y gallai teledu cylch cyfyng eu darparu yn ffactor pwysig wrth ystyried teledu cylch cyfyng mewn cerbydau.

Gall gorfodi teledu cylch cyfyng mewn cerbydau atal pobl rhag ceisio trwydded tacsi neu gerbyd llogi preifat gyda’r bwriad o achosi niwed.

Gellir atal y rhai sy’n ennill trwydded ac sy’n ystyried cyflawni ymosodiad manteisgar yn erbyn teithiwr bregus ar ei ben ei hun rhag gwneud hynny.

Fodd bynnag, yn anffodus mae’n wir y gall troseddau ddigwydd hyd yn oed gyda theledu cylch cyfyng yn gweithredu.

Gall systemau teledu cylch cyfyng sy’n gallu recordio sain yn ogystal â data gweledol hefyd helpu i adnabod gyrwyr sy’n dangos ymddygiad amhriodol tuag at deithwyr yn gynnar.

Dylai recordio sain fod yn agored (h.y. dylai pob parti fod yn ymwybodol pan fydd recordiadau’n cael eu gwneud) ac yn dargedig (h.y. dim ond pan fydd teithwyr (neu yrwyr) yn ei ystyried yn angenrheidiol).

Dylid defnyddio recordio sain i ddarparu cofnod gwrthrychol o ddigwyddiadau megis anghydfodau neu ymddygiad amhriodol ac ni ddylai fod yn weithredol yn barhaus yn ddiofyn a dylai gydnabod yr angen am breifatrwydd mewn sgyrsiau preifat rhwng teithwyr.

Gellir troi gallu system i recordio sain ymlaen pan fydd naill ai’r teithiwr neu’r gyrrwr yn gweithredu switsh neu fotwm.

Mae gosod gofyniad cyffredinol i atodi teledu cylch cyfyng fel amod i drwydded yn debygol o arwain at bryderon ynghylch cymesuredd dull o’r fath ac felly bydd angen cyfiawnhad cryf priodol a rhaid ei adolygu’n rheolaidd.

Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar asesu effeithiau teledu cylch cyfyng ac ar awdurdod sy’n gorfodi teledu cylch cyfyng wedi’i atodi i’r ddogfen hon (Atodiad - Canllawiau teledu cylch cyfyng).

Limwsinau Estynedig

Weithiau gofynnir i awdurdodau trwyddedu drwyddedu limwsinau bach (y rhai a adeiladwyd neu a addaswyd i gario llai na naw o deithwyr) fel cerbydau llogi preifat, a gellir defnyddio’r cerbydau hyn ar gyfer cludo i ‘broms ysgol’ yn ogystal ag ar gyfer teithiau i oedolion.

Awgrymir y dylai awdurdodau trwyddedu ymdrin â cheisiadau o’r fath ar y sail bod gan y cerbydau hyn – lle mae ganddynt lai na naw sedd i deithwyr – rôl gyfreithlon i’w chwarae yn y fasnach llogi breifat, gan ateb galw’r cyhoedd.

Barn yr Adran yw nad yw’n gam gweithredu dilys i awdurdodau trwyddedu fabwysiadu polisïau sy’n eithrio limwsinau fel mater o egwyddor a thrwy hynny eithrio’r gwasanaethau hyn o gwmpas y drefn cerbydau llogio preifat a’r buddion diogelwch y mae hyn yn eu darparu.

Gall polisi cyffredinol o eithrio limwsinau greu risg annerbyniol i’r cyhoedd sy’n teithio, oherwydd gallai arwain at lefelau uwch o weithredu heb oruchwyliaeth.

Y ffordd orau o gefnogi ystyriaethau diogelwch cyhoeddus yw polisïau sy’n caniatáu i weithredwyr parchus, diogel gael trwyddedau ar yr un sail â gweithredwyr cerbydau llogi preifat eraill.

Ni ddylid trwyddedu limwsinau mawr estynedig sy’n amlwg yn eistedd mwy nag wyth o deithwyr fel cerbydau llogi preifat oherwydd eu bod y tu allan i’r drefn drwyddedu ar gyfer cerbydau llogi preifat. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau gellir trwyddedu cerbyd â lle i fwy nag wyth o deithwyr fel cerbyd llogi preifat lle mae’n anodd pennu union nifer y seddi teithwyr.

Yn yr amgylchiadau hyn, dylai’r awdurdod ystyried yr achos yn ôl ei deilyngdod wrth benderfynu a ddylid trwyddedu’r cerbyd o dan yr amod caeth na fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gario mwy nag wyth o deithwyr, gan gofio y gallai gwrthod annog gweithrediad llogi preifat anghyfreithlon.

Trwyddedu Gweithredwyr Cerbydau Llogi Preifat

Yn yr un modd â thrwyddedu gyrwyr, amcan trwyddedu gweithredwyr cerbydau llogi preifat yw amddiffyn y cyhoedd, a allai fod yn defnyddio adeiladau gweithredwyr ac yn ymddiried bod y gyrwyr a’r cerbydau a anfonir yn anad dim arall yn ddiogel.

Mae’n bwysig felly bod awdurdodau trwyddedu yn sicr nad yw’r rhai sy’n derbyn trwydded gweithredwr cerbydau llogi preifat hefyd yn fygythiad i’r cyhoedd ac nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau â gweithgaredd troseddol difrifol.

Er efallai na fydd gan weithredwyr cerbydau llogi preifat gysylltiad uniongyrchol â theithwyr, maent yn dal i gael eu hymddiried i sicrhau bod y cerbydau a’r gyrwyr a ddefnyddir i gludo teithwyr wedi’u trwyddedu’n briodol ac felly’n cynnal buddion diogelwch y drefn trwyddedu gyrwyr.

Gwiriadau troseddoldeb ar gyfer gweithredwyr cerbydau llogi preifat

Nid oes gwiriadau DBS uwch na gwiriadau rhestrau gwaharddedig ar gael ar gyfer trwyddedu gweithredwyr cerbydau llogi preifat.

Dylai awdurdodau trwyddedu ofyn am ddatgeliad sylfaenol gan y GDG a bod gwiriad yn cael ei gynnal yn flynyddol.

Gall unrhyw unigolyn wneud cais am wiriad sylfaenol a bydd y dystysgrif yn datgelu unrhyw gollfarnau heb eu darfod a gofnodwyd ar PNC.

Dylai awdurdodau trwyddedu ystyried a yw ymgeisydd neu ddaliwr trwydded sydd ag euogfarn am droseddau a ddarperir yn yr atodiad i’r ddogfen hon (Atodiad - Asesiad o Euogfarnau Blaenorol), ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â gyrru, yn cwrdd â’r trothwy ‘addas a phriodol’.

Fodd bynnag, mae’n bwysig bod awdurdodau’n cydnabod y gall unigolion sy’n trwyddedu fel gweithredwr cerbydau llogi preifat eisoes bod yn ddalwyr trwydded fel gyrrwyr mewn llawer o achosion.

Ni ddylai awdurdod sy’n cynnal y gwiriadau GDG bob dwy flynedd a argymhellir ar gyfer ei yrwyr ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n ceisio trwydded gweithredwr cerbydau llogi preifat ddarparu gwiriad GDG sylfaenol fel rhan o’r broses ymgeisio; ni fyddai GDG sylfaenol yn darparu unrhyw wybodaeth yn ychwanegol at yr hyn a ddatgelir o dan y gwiriad GDG a rhestrau gwaharddedig uwch a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad gyrrwr.

Yn yr amgylchiadau hyn, dylai’r awdurdod yn hytrach ddibynnu ar y ffaith yr ystyrir bod yr ymgeisydd yn addas ac yn briodol i ddal trwydded yrru wrth ystyried ei addasrwydd i ddal trwydded cerbyd.

Pe bai’r unigolyn yn peidio â bod yn ddaliwr trwydded yrru, dylai fod angen tystysgrif sylfaenol ar unwaith.

Nid yw gwrthod trwyddedu unigolyn fel gyrrwr neu atal neu ddirymu trwydded yrru yn golygu’n awtomatig na all yr unigolyn hwnnw dderbyn trwydded na pharhau i ddal trwydded gweithredwr cerbydau llogi preifat; rhaid i’r penderfyniad hwn fod yn annibynnol o wrthod trwydded yrru ac yn seiliedig ar y wybodaeth briodol h.y. ni ddylai ystyried gwybodaeth a fyddai ar gael dim ond trwy wiriad GDG uwch; dim ond y wybodaeth hynny a fyddai’n cael ei datgelu ar wiriad sylfaenol.

Dim ond at y diben penodol y gofynnwyd amdano, ac y rhoddwyd caniatâd llawn yr ymgeisydd ar ei gyfer, y gellir defnyddio gwybodaeth tystysgrif GDG.

Gall cwmni neu bartneriaeth wneud cais am drwydded gweithredwr cerbydau llogi preifat; dylai awdurdodau trwyddedu ddefnyddio’r prawf ‘addas a phriodol’ i bob un o’r cyfarwyddwyr neu bartneriaid yn y cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

Er mwyn i hyn fod yn effeithiol, dylai fod yn ofynnol i weithredwyr cerbydau llogi preifat gynghori’r awdurdod trwyddedu am unrhyw newid o ran y cyfarwyddwyr neu bartneriaid.

Fel yr eglurwyd yn gynharach yng nghyd-destun trwyddedu gyrwyr, ni all y GDG gael gafael ar gofnodion troseddol a gedwir dramor.

Mae gwybodaeth bellach ar asesu addasrwydd y rhai sydd wedi treulio cyfnodau estynedig dramor ar gael ym mharagraffau 4.34 - 4.36.

Staff archebu ac anfon

Nid gyrwyr cerbydau llogi preifat yw’r unig gyswllt uniongyrchol sydd gan ddefnyddwyr cerbydau llogi preifat â staff gweithredwyr cerbydau llogi preifat, er enghraifft person sy’n cymryd archebion (boed hynny dros y ffôn neu yn bersonol).

Mae anfonwr cerbyd yn penderfynu pa yrrwr i’w anfon at ddefnyddiwr, swydd y gallai’r rhai sy’n ceisio ecsbloetio plant ac oedolion sy’n agored i niwed ei hecsbloetio.

Mae’n briodol felly na ddylai’r holl staff sydd â chysylltiad â defnyddwyr cerbydau llogi preifat ac anfon cerbydau beri risg gormodol i’r cyhoedd na diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Dylai awdurdodau trwyddedu fod yn fodlon y gall gweithredwyr cerbydau llogi preifat ddangos nad yw’r holl staff sydd â chysylltiad â’r cyhoedd a/neu’n goruchwylio anfon cerbydau yn peri risg i’r cyhoedd.

Dylai awdurdodau trwyddedu, fel amod i roi trwydded gweithredwr, ei gwneud yn ofynnol bod cofrestr o’r holl staff a fydd yn cymryd archebion neu’n anfon cerbydau.

Dylai fod yn ofynnol i weithredwyr dystiolaethu eu bod wedi cael golwg ar wiriad GDG Sylfaenol ar gyfer pob unigolyn a restrir ar eu cofrestr o staff archebu ac anfon a sicrhau bod gwiriadau GDG Sylfaenol yn cael eu cynnal ar unrhyw unigolion sy’n cael eu hychwanegu at y gofrestr a bod hyn yn gydnaws â’u polisi ar gyflogi cyn-droseddwyr.

Dylai tystysgrifau GDG a ddarperir gan yr unigolyn fod wedi cael eu cyhoeddi’n ddiweddar wrth edrych arnynt, fel arall gallai’r gweithredwr ddefnyddio ‘sefydliad cyfrifol’ i ofyn am y gwiriad ar eu rhan.

Pan fydd unigolion yn dechrau cymryd archebion ac anfon cerbydau ar gyfer gweithredwr, dylai fod yn ofynnol iddynt, fel rhan o’u contract cyflogaeth, gynghori’r gweithredwr am unrhyw euogfarnau tra’u bod yn cael eu cyflogi yn y rôl hon.

Dylai’r gofrestr fod yn ‘ddogfen fyw’ sy’n cadw cofnodion o bawb yn y rolau hyn am yr un hyd ag y mae’n ofynnol cadw cofnodion archebu; bydd hyn yn galluogi croesgyfeirio rhwng y ddau gofnod.

Dylid cadw cofnod bod y gweithredwr wedi gweld tystysgrif wirio GDG sylfaenol (er na ddylid cadw’r dystysgrif ei hun) am y cyfnod y mae’r unigolyn yn aros ar y gofrestr. Pe bai gweithiwr yn peidio â bod ar y gofrestr ac yn cael ei ail-gofnodi’n ddiweddarach, dylid gofyn am dystysgrif GDG sylfaenol newydd a chofnodi hyn.

Gall gweithredwyr allanoli swyddogaethau archebu ac anfon ond ni allant drosglwyddo’r rhwymedigaeth i amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Dylai fod yn ofynnol i weithredwyr dystiolaethu bod amddiffyniadau tebyg yn cael eu cymhwyso gan y cwmni y maent yn allanoli’r swyddogaethau hyn iddo.

Dylai awdurdodau trwyddedu hefyd ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr neu ymgeiswyr am drwydded ddarparu eu polisi ar gyflogi cyn-droseddwyr mewn rolau a fyddai ar y gofrestr fel uchod.

Yn yr un modd â’r trothwy i gael trwydded gweithredwr cerbydau llogi preifat, efallai na fydd y rhai sydd ag euogfarn am droseddau a ddarperir yn yr atodiad i’r ddogfen hon (Atodiad - Asesiad o Euogfarnau Blaenorol), ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â gyrru, yn addas i benderfynu pwy sy’n cael eu hanfon i gario plentyn. neu oedolyn bregus ar ei ben ei hun mewn car.

Cadw cofnodion

Mae adran 56 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cerbydau llogi preifat gadw cofnodion o fanylion pob archeb a wahoddir neu a dderbynnir, p’un ai oddi wrth y teithiwr neu ar gais gweithredwr arall. Dylai awdurdodau trwyddedu ei gwneud yn ofynnol o leiaf i weithredwyr cerbydau llogi preifat gofnodi’r wybodaeth ganlynol ar gyfer pob archeb:

  • enw’r teithiwr
  • amser y cais
  • y pwynt codi
  • y gyrchfan
  • enw’r gyrrwr
  • y rhif trwydded yrru
  • rhif cofrestru cerbyd y cerbyd
  • enw unrhyw unigolyn a ymatebodd i’r cais archebu
  • enw unrhyw unigolyn a anfonodd y cerbyd

Bydd y wybodaeth hon yn galluogi olrhain y teithiwr os daw hyn yn angenrheidiol a dylai wella diogelwch gyrwyr a hwyluso gorfodaeth. Awgrymir y dylid cadw cofnodion archebu am o leiaf chwe mis.

Mae gan weithredwyr cerbydau llogi preifat ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth diogelu data i ddiogelu’r wybodaeth y maent yn ei chofnodi.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu canllawiau cynhwysfawr ar-lein ar gofrestru fel rheolwr data a sut i gyflawni eu rhwymedigaethau.

Defnyddio gyrwyr trwyddedig cerbydau sy’n cludo teithwyr (PCV)

Mae gyrwyr trwyddedig PCV yn destun gwiriadau gwahanol i yrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat gan nad yw’r gwaith a wneir fel arfer, h.y. gyrru bws, yn cyflwyno’r un risg i deithwyr.

Mae gan aelodau’r cyhoedd hawl i ddisgwyl wrth archebu gyda gweithredwr cerbyd hurio preifat y byddant yn derbyn cerbyd a gyrrwr sy’n drwyddedig ar gyfer cerbydau llogi preifat.

Ni ddylid caniatáu defnyddio gyrrwr sy’n dal trwydded PCV na defnyddio cerbyd gwasanaeth cyhoeddus (PSV) megis bws mini i ymgymryd ag archeb cerbyd llogi preifat fel un o amodau’r drwydded gweithredwr cerbyd llogi preifat heb ganiatâd gwybodus yr archebwr.

Pan fo cerbyd llogi preifat yn anaddas, er enghraifft lle mae angen cerbyd mwy oherwydd bod angen mwy nag wyth sedd i deithwyr neu i ddarparu ar gyfer bagiau, dylid hysbysu’r archebwr bod angen PSV, ac y bydd gyrrwr PCV trwyddedig yn cael ei ddefnyddio a fydd yn destun i wahanol wiriadau ac nid yw’n ofynnol iddo gael gwiriad GDG uwch.

Gorfodi’r Gyfundrefn Drwyddedu

Mae gweithredu fframwaith effeithiol er mwyn i awdurdodau trwyddedu sicrhau bod ystod lawn o wybodaeth ar gael i wneuthurwyr penderfyniadau sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ac a gefnogir gan swyddogion ag adnoddau da, yn hanfodol i sector tacsis a cherbydau llogi preifat sy’n gweithredu’n dda.

Bydd y camau hyn yn helpu i atal trwyddedu’r rhai nad ydynt yn cael eu hystyried yn ‘addas a phriodol’ ond nid yw’n sicrhau bod y rhai sydd eisoes wedi’u trwyddedu yn parhau i arddangos yr ymddygiadau a’r safonau a ddisgwylir.

Cyd-awdurdodi swyddogion gorfodi

Dylai awdurdodau trwyddedu, lle bo’r angen yn codi, awdurdodi swyddogion o awdurdodau eraill ar y cyd fel y gellir cymryd camau cydymffurfio a gorfodi yn erbyn dalwyr trwydded o’r tu allan i’w hardal.

Mae cytundeb rhwng awdurdodau trwyddedu i awdurdodi swyddogion ar y cyd yn galluogi defnyddio pwerau gorfodi ni waeth pa awdurdod o fewn y cytundeb y mae’r swyddog yn cael ei gyflogi ganddo a pha un a gyhoeddodd y drwydded.

Bydd hyn yn lliniaru’r cyfleoedd i yrwyr osgoi rheoleiddio. Bydd cytundeb o’r fath yn galluogi’r awdurdodau hynny i weithredu yn erbyn cerbydau a gyrwyr sydd wedi’u trwyddedu gan yr awdurdod arall pan fyddant yn croesi ffiniau. Mae model ar gyfer cytuno ar gyd-awdurdodi wedi’i gynnwys yn llawlyfr Cynghorwyr LGA.

Pennu disgwyliadau a monitro

Dylai awdurdodau trwyddedu sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o’r polisïau y mae’n rhaid iddynt eu dilyn a’u bod yn cael gwybod yn iawn am yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r ôl-effeithiau am fethu â gwneud hynny.

Mae rhai awdurdodau trwyddedu yn gweithredu system sy’n seiliedig ar bwyntiau, sy’n caniatáu i fân doriadau gael eu cofnodi a’u hystyried yn eu cyd-destun wrth gyfeirio’r rheini sydd â thoriadau parhaus neu ddifrifol i’r pwyllgor trwyddedu.

Mantais hyn yw cysondeb wrth orfodi ac mae’n gwneud defnydd gwell o amser y pwyllgor trwyddedu.

Bydd darparu proses glir, syml a chyhoeddus iawn i’r cyhoedd wneud cwynion am yrwyr a gweithredwyr yn galluogi awdurdodau i dargedu gweithgaredd cydymffurfio a gorfodi (gweler paragraffau 4.29 - 4.33).

Bydd hyn yn darparu ffynhonnell wybodaeth bellach wrth ystyried adnewyddu trwyddedau ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol y gallai fod ei angen. Yna, yr awdurdod trwyddedu sydd i ystyried a yw unrhyw wybodaeth yn nodi bod angen atal neu ddirymu trwydded er budd diogelwch y cyhoedd.

Atal a dirymu trwyddedau gyrwyr

Mae adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn galluogi awdurdod trwyddedu i atal neu ddirymu trwydded yrru ar y seiliau a ganlyn:

  • ei fod, ers dyfarnu’r drwydded—
    • wedi ei gael yn euog o drosedd yn ymwneud ag anonestrwydd, anwedduster neu drais
    • wedi ei gael yn euog o drosedd o dan, neu wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau Deddf 1847 neu’r Rhan hon o’r Ddeddf hon
  • ei fod, ers dyfarnu’r drwydded, wedi’i gael yn euog o drosedd mewnfudo neu ei bod yn ofynnol iddo dalu cosb mewnfudo
  • unrhyw achos rhesymol arall

Mae gan awdurdodau trwyddedu’r opsiwn i atal neu ddirymu trwydded pe bai gwybodaeth yn cael ei derbyn sy’n peri pryder ynghylch a yw gyrrwr yn berson addas a phriodol.

Pan fydd daliwr y drwydded wedi derbyn cosb mewnfudo neu’n euog o drosedd mewnfudo dylid dirymu’r drwydded ar unwaith. Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau trwyddedu i atal gweithio’n anghyfreithlon yn y sector tacsis a cherbydau llogi preifat.

Yn yr un modd â’r penderfyniad cychwynnol i drwyddedu gyrrwr, rhaid dod i’r penderfyniad hwn ar sail cydbwysedd tebygolrwydd, nid ar faich y tu hwnt i amheuaeth resymol.

Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi ystyriaeth lawn i’r dystiolaeth sydd ar gael a dylid rhoi cyfle i’r gyrrwr nodi ei achos.

Os gosodir cyfnod atal dros dro, ni ellir ei ymestyn na’i newid i’w ddirymu yn ddiweddarach.

Fodd bynnag, nid yw penderfyniad i ddirymu trwydded yn atal ailgyhoeddi trwydded pe bai gwybodaeth bellach yn cael ei derbyn sy’n newid cydbwysedd tebygolrwydd penderfyniad a wnaed yn flaenorol.

Roedd y penderfyniad i atal neu ddirymu yn seiliedig ar y dystiolaeth a oedd ar gael ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad. Efallai y bydd tystiolaeth newydd ar gael yn nes ymlaen wrth gwrs.

Gellir cyflwyno tystiolaeth newydd mewn gwrandawiad apêl a allai arwain at y llys yn dod i benderfyniad gwahanol i’r un y daeth y cyngor iddo neu gellir setlo apêl trwy gytundeb rhwng yr awdurdod trwyddedu a’r gyrrwr ar delerau sydd, yng ngoleuni tystiolaeth newydd, yn dod yn ffordd o weithredu briodol.

Er enghraifft, pe bai’r honiadau yn erbyn gyrrwr bellach, ar sail cydbwysedd tebygolrwydd, yn cael eu hystyried yn ddi-sail, gellid codi ataliad neu, pe bai’r drwydded yn cael ei dirymu, dylid defnyddio proses ail-drwyddedu gyflym.

Efallai y bydd ataliad yn dal yn briodol os credir y gellir mynd i’r afael â mater bach trwy hyfforddiant ychwanegol.

Yn yr achos hwn, byddai’r drwydded yn cael ei dychwelyd i’r gyrrwr unwaith y byddai’r hyfforddiant wedi’i gwblhau heb ystyriaeth bellach.

Mae’n amlwg nad yw’r dull hwn yn briodol lle mae’r awdurdod trwyddedu o’r farn, ar sail y wybodaeth a oedd ar gael ar yr adeg honno ac ar sail cydbwysedd tebygolrwydd, yr ystyrir bod y gyrrwr yn peri risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Atodiad - Asesiad o Euogfarnau Blaenorol

Mae deddfwriaeth yn nodi’n benodol troseddau sy’n ymwneud ag anonestrwydd, anwedduster neu drais fel pryder wrth asesu a yw unigolyn yn ‘addas a phriodol’ i ddal trwydded tacsi neu drwydded cerbyd llogi preifat.

Mae’r argymhellion canlynol i awdurdodau trwyddedu ar euogfarnau blaenorol yn adlewyrchu hyn.

Rhaid i awdurdodau ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun, ac mae gan ymgeiswyr/dalwyr trwydded hawl i ystyriaeth deg a diduedd o’u cais.

Pan roddir cyfnod isod, dylai gael ei ystyried yn fan cychwyn wrth ystyried a ddylid rhoi neu adnewyddu trwydded yn y rhan fwyaf o achosion.

Barn yr Adran yw bod hyn yn blaenoriaethu diogelwch teithwyr wrth alluogi cyn-droseddwyr i ddangos tystiolaeth ddigonol eu bod wedi cael eu hadsefydlu’n llwyddiannus fel y gallent gael neu gadw trwydded.

Troseddau sy’n arwain at farwolaeth

Pan fydd ymgeisydd neu ddaliwr trwydded wedi ei gael yn euog o drosedd a arweiniodd at farwolaeth rhywun arall neu y bwriadwyd iddo achosi marwolaeth neu anaf difrifol i berson arall ni fydd yn cael ei drwyddedu.

Ecsbloetio

Pan fydd ymgeisydd neu ddaliwr trwydded wedi ei gael yn euog o drosedd yn ymwneud â cham-drin, camfanteisio, defnyddio neu drin unigolyn arall, neu yn gysylltiad â’r uchod, p’un a oedd y dioddefwr neu’r dioddefwyr yn oedolion neu’n blant, ni fydd yn cael ei drwyddedu.

Mae hyn yn cynnwys caethwasiaeth, cam-drin plant yn rhywiol, ecsbloetio, meithrin perthynas amhriodol, cam-drin seicolegol, emosiynol neu ariannol, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Troseddau sy’n ymwneud â thrais yn erbyn yr unigolyn

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn am drosedd trais yn erbyn yr unigolyn, neu sy’n gysylltiedig ag unrhyw drosedd trais, ni roddir trwydded nes bod o leiaf 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

Meddu ar arf

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn am feddu ar arf neu unrhyw drosedd arall sy’n gysylltiedig ag arfau, ni roddir trwydded nes bod o leiaf saith mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

Troseddau rhywiol

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â gweithgaredd rhywiol anghyfreithlon neu’n gysylltiedig ag ef, ni roddir trwydded.

Yn ychwanegol at yr uchod, ni fydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi trwydded i unrhyw ymgeisydd sydd ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw ar hyn o bryd neu ar unrhyw restr waharddedig.

Anonestrwydd

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn am drosedd lle mae anonestrwydd yn elfen o’r drosedd, ni roddir trwydded nes bod o leiaf saith mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

Cyffuriau

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn am gyflenwi cyffuriau, neu euogfarn sy’n gysylltiedig â chyflenwi, neu feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, neu sy’n gysylltiedig â meddiant gyda’r bwriad i gyflenwi, ni roddir trwydded nes bod o leiaf 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn am feddu ar gyffuriau, neu euogfarn sy’n gysylltiedig â meddu at gyffuriau, ni roddir trwydded nes bod o leiaf pum mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd gael profion cyffuriau am gyfnod ar ei draul ei hun i ddangos nad yw’n defnyddio cyffuriau rheoledig.

Gwahaniaethu

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar unrhyw ffurf neu’n gysylltiedig ag ef, ni roddir trwydded nes bod o leiaf saith mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a osodwyd.

Euogfarnau moduro

Mae gyrwyr cerbydau hacni a cherbydau llogi preifat yn yrwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am gludo’r cyhoedd. Derbynnir y gellir cyflawni troseddau yn anfwriadol, ac ni fyddai un achos o fân drosedd traffig yn gwahardd rhoi trwydded.

Fodd bynnag, gall ymgeiswyr sydd ag euogfarnau moduro lluosog nodi nad yw ymgeisydd yn arddangos ymddygiadau defnyddiwr ffordd diogel nac un sy’n addas i’w yrru’n broffesiynol.

Mae unrhyw euogfarn moduro tra bod gyrrwr yn yrrwr trwyddedig yn dangos nad yw daliwr y drwydded yn cymryd ei gyfrifoldebau proffesiynol o ddifrif o bosib.

Fodd bynnag, derbynnir y gellir cyflawni troseddau yn anfwriadol, ac efallai na fydd un achos o fân drosedd traffig yn golygu bod angen dirymu trwydded gyrrwr tacsi neu drwydded gyrrwr cerbyd llogi preifat ar yr amod bod yr awdurdod o’r farn bod daliwr y drwydded yn parhau i fod yn berson addas a phriodol i gadw trwydded.

Gyrru ac yfed/gyrru dan ddylanwad cyffuriau

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn am yfed a gyrru neu yrru dan ddylanwad cyffuriau, ni roddir trwydded nes bod o leiaf saith mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd neu waharddiad gyrru a osodwyd.

Yn achos gyrru dan ddylanwad cyffuriau, efallai y bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd gael profion cyffuriau ar ei draul ei hun i ddangos nad yw’n defnyddio cyffuriau rheoledig.

Defnyddio dyfais law wrth yrru

Pan fydd gan ymgeisydd euogfarn am ddefnyddio ffôn symudol llaw neu ddyfais law wrth yrru, ni roddir trwydded nes bod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers euogfarnu neu gwblhau unrhyw ddedfryd neu waharddiad gyrru a osodwyd, p’un bynnag yw’r hwyrach.

Atodiad - Gwybodaeth am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Gwybodaeth a gynhwysir mewn gwiriadau cofnod troseddol

Gwybodaeth a gynhwysir Sylfaenol GDG Safonol GDG Uwch GDG Uwch (gan gynnwys gwiriad rhestr waharddedig)
Euogfarnau heb eu darfod Ydy Ydy Ydy Ydy
Rhybuddion heb eu darfod1 Ydy Ydy Ydy Ydy
Euogfarnau wedi darfod Nac ydy Ydy Ydy Ydy
Rhybuddion wedi darfod 1, 2 Nac ydy Ydy Ydy Ydy
Gwybodaeth ychwanegol yr heddlu 3 Nac ydy Nac ydy Ydy Ydy
Rhestr(au) (g)waharddedig Gwybodaeth 4 Nac ydy Nac ydy Nac ydy Ydy

1: Nid yw’n cynnwys hysbysiadau cosb sefydlog, hysbysiadau cosb am anhrefn nac unrhyw warediadau eraill gan yr heddlu neu y tu allan i’r llys.

2: Nid yw euogfarnau a rhybuddion sydd wedi darfod ac sydd wedi cael eu gwarchod o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Gorchymyn Eithriadau) 1975, fel y’i diwygiwyd, yn cael eu datgelu’n awtomatig ar unrhyw lefel o dystysgrif. Mae arweiniad pellach ar gael yma.

3: Dyma unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd gan yr heddlu y mae prif heddwas yn credu’n rhesymol ei bod yn berthnasol ac yn ystyried y dylid ei datgelu.

4: Dyma wybodaeth ynghylch a yw’r unigolyn dan sylw wedi’i gynnwys yn y rhestrau gwaharddedig plant neu oedolion a gynhelir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Atodiad - Canllawiau teledu cylch cyfyng

Mae’n bwysig nodi, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mai awdurdod trwyddedu sy’n gorfodi gosod systemau teledu cylch cyfyng mewn tacsis a cherbydau llogi preifat fydd yn gyfrifol am y data – y rheolwr data.

Mae’n bwysig bod rheolwyr data yn ystyried yn llawn y pryderon ynghylch preifatrwydd a dylai awdurdodau trwyddedu ystyried sut mae systemau wedi’u ffurfweddu, pe baent yn gorfodi teledu cylch cyfyng (gyda neu heb recordio sain).

Er enghraifft, efallai na fydd cerbydau’n cael eu defnyddio ar gyfer busnes yn unig, ac hefyd yn gweithredu fel car at ddefnydd personol - felly dylai fod yn bosibl diffodd y system â llaw (recordiad clywedol a gweledol) pan na chânt eu defnyddio i’w llogi.

Dylai awdurdodau ystyried barn y Comisiynydd Gwybodaeth ar y ffaith ei bod, yn y rhan fwyaf o achosion, yn annhebygol y bydd gofyniad i weithredu’n barhaus yn golygu prosesu data personol yn deg ac yn gyfreithlon.

Mae ‘Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth’ y Swyddfa Gartref yn cynghori bod y llywodraeth yn gwbl gefnogol i ddefnyddio camerâu gwyliadwriaeth gweladwy mewn man cyhoeddus pryd bynnag y mae’r defnydd hwnnw:

  • ar gyfer pwrpas dilys
  • yn angenrheidiol i ddiwallu angen dybryd
  • yn gymesur
  • yn effeithiol
  • yn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol perthnasol

Mae’r Cod hefyd yn nodi 12 egwyddor arweiniol y mae’n rhaid i awdurdodau trwyddedu, fel ‘awdurdod perthnasol’ o dan adran 33(5) o Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012, roi sylw iddynt. Rhaid nodi, pan roddir trwydded yn ddarostyngedig i amodau system teledu cylch cyfyng, bod yr awdurdod trwyddedu yn ysgwyddo rôl a chyfrifoldeb fel ‘Gweithredwr y System’.

Mae’r rôl yn gofyn am ystyried yr holl egwyddorion arweiniol yn y cod hwn.

Gall y methiant i gydymffurfio â’r egwyddorion hyn fod yn niweidiol i’r defnydd o dystiolaeth teledu cylch cyfyng yn y llys oherwydd gellir codi hyn wrth ei ddatgelu i Wasanaeth Erlyn y Goron a gellir ei ystyried.

Mae’r Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth (SCC) wedi darparu arweiniad ar y Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth yn ei ‘Basbort i Gydymffurfiaeth’ sy’n darparu arweiniad ar y camau angenrheidiol wrth gynllunio, gosod a gweithredu system camerâu gwyliadwriaeth i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r cod.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) hefyd wedi cyhoeddi cod ymarfer sydd, yn y cyd-destun hwn, yn canolbwyntio ar y gofyniad llywodraethu data sy’n gysylltiedig â defnyddio teledu cylch cyfyng, megis cadw a gwaredu data, y mae’n bwysig ei ddilyn er mwyn cydymffurfio â’r egwyddorion diogelu data.

Mae’r SCC yn darparu offeryn hunanasesu i gynorthwyo gweithredwyr i sicrhau cydymffurfiad â’r egwyddorion a osodir yn y Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth.

Mae’r SCC hefyd yn gweithredu cynllun achredu; gall awdurdodau sy’n sicrhau’r achrediad hwn ddangos yn glir bod eu systemau’n cydymffurfio ag arfer gorau’r SCC ac yn cydymffurfio’n llawn â’r Cod ac yn cynyddu hyder y cyhoedd bod unrhyw risgiau i’w preifatrwydd wedi’u hystyried a’u lliniaru’n llawn.

Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn rheoleiddio’r defnydd o ddata personol.

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf Diogelu Data yn berthnasol i brosesu data personol yn gyffredinol, ac mae’n cyfeirio ac yn ategu’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Rhaid i awdurdodau trwyddedu, fel rheolwyr data, gydymffurfio â phob agwedd berthnasol ar gyfraith diogelu data. Dylid rhoi sylw arbennig i hawliau unigolion sy’n cynnwys yr hawl i gael eu hysbysu, yr hawl i fynediad a’r hawl i ddileu.

Mae’r ICO wedi darparu canllawiau manwl ar sut y gall rheolwyr data sicrhau cydymffurfiad â’r rhain.

Cyn gweithredu cynnig sy’n debygol o arwain at risg uchel i hawliau a rhyddid pobl, mae’n ofyniad pellach yn y gyfraith diogelu data i gynnal asesiad effaith ar amddiffyn data personol.

Mae’r ICO yn argymell mewn canllawiau, os oes unrhyw amheuaeth a oes angen Asesiad Effaith Diogelu Data (DPIA), dylid cynnal un i sicrhau cydymffurfiaeth ac annog arfer gorau.

Bydd DPIA hefyd yn helpu i asesu’n iawn y buddion disgwyliedig o osod teledu cylch cyfyng (i deithwyr a gyrwyr) a’r risgiau preifatrwydd cysylltiedig; gellir lliniaru’r risgiau hyn trwy gynnig gwybodaeth ac arwyddion preifatrwydd priodol, rheolaethau storio a mynediad diogel, polisïau cadw, hyfforddiant i staff ar sut i ddefnyddio’r system, ac ati.

Mae’n hanfodol sicrhau bod yr holl recordiadau a wneir yn ddiogel ac mai dim ond y rhai sydd â sail gyfreithlon i wneud hynny sy’n gallu eu cyrchu.

Yr heddlu fyddai hyn fel rheol pe bai’n ymchwilio i drosedd honedig neu’r awdurdod trwyddedu os yw’n ymchwilio i gŵyn neu gais mynediad at ddata.

Mae amgryptiad o’r recordiad, y mae’r awdurdod trwyddedu, sy’n gweithredu fel rheolwr data, yn dal yr allwedd iddo, yn lliniaru’r broblem hon ac yn diogelu yn erbyn lladrad y cerbyd neu ddyfais.

Mae’n un o egwyddorion arweiniol deddfwriaeth diogelu data bod data personol (gan gynnwys yn y cyd-destun hwn, recordiadau teledu cylch cyfyng a gwybodaeth teithwyr arall a allai fod yn sensitif) yn cael eu trin yn ddiogel mewn ffordd sy’n ‘sicrhau diogelwch priodol’, gan gynnwys amddiffyniad rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon, ac yn erbyn colled, dinistr neu ddifrod damweiniol, gan ddefnyddio mesurau technegol neu sefydliadol priodol.

Rhaid i bob teithiwr fod yn gwbl ymwybodol os yw teledu cylch cyfyng yn gweithredu mewn cerbyd.

O ystyried bod recordio sain yn cael ei ystyried yn fwy ymwthiol i breifatrwydd, mae’n bwysicach fyth bod unigolion yn gwbl ymwybodol a’i fod yn gyfyngedig i achlysuron pan fydd teithwyr (neu yrwyr) yn ei ystyried yn angenrheidiol.

Dylid defnyddio recordio sain i ddarparu cofnod gwrthrychol o ddigwyddiadau megis anghydfodau neu ymddygiad amhriodol ac ni ddylent fod yn weithredol yn barhaus yn ddiofyn a dylent gydnabod yr angen am breifatrwydd sgyrsiau preifat rhwng teithwyr.

Gellir ysgogi gallu recordio sain system pan fydd naill ai’r teithiwr neu’r gyrrwr yn gweithredu switsh neu botwm. Yn ogystal ag arwyddion clir mewn cerbydau, dylid dangos gwybodaeth ar systemau archebu.

Gall hyn fod yn destun ar wefan, sgriptiau neu negeseuon awtomataidd ar systemau ffôn; mae ICO wedi cyhoeddi canllawiau ar wybodaeth preifatrwydd a’r hawl i gael eich hysbysu ar ei gwefan.

Atodiad - Cadw’n Ddiogel: Canllawiau i Deithwyr

Dylai awdurdodau trwyddedu ddarparu canllawiau i gynorthwyo teithwyr i adnabod cerbydau trwyddedig a’r risgiau cynyddol o ddefnyddio cerbydau didrwydded.

Gallai’r canllawiau gynnwys cyngor ar:

  • sut i wybod a yw tacsi neu gerbyd llogi preifat wedi’i drwyddedu

Addysgu’r cyhoedd ar y gwahaniaethau rhwng tacsis a cherbydau llogi preifat e.e.:

  • gellir galw tacsi ar ochr y ffordd neu ei archebu ymlaen llaw
  • ni ddylid defnyddio cerbyd llogi preifat nad yw wedi’i archebu ymlaen llaw gan na fydd wedi’i yswirio ac efallai na fydd wedi’i drwyddedu
  • sut olwg ddylai fod ar gerbyd llogi preifat e.e. lliw, arwyddion, platiau trwydded ac ati
  • mantais archebu cerbyd i ddychwelyd cyn mynd allan
  • trefnu i gael eich casglu o fan cyfarfod diogel
  • gofyn ar adeg archebu beth yw’r pris yn debygol o fod

Wrth ddefnyddio cerbyd llogi preifat, dylai teithwyr bob amser:

  • archebu gyda gweithredwr trwyddedig
  • cadarnhau eu harcheb gyda’r gyrrwr pan fydd ef/hi’n cyrraedd
  • nodi rif y drwydded
  • eistedd yn y cefn, y tu ôl i’r gyrrwr
  • rhoi gwybod i drydydd parti fanylion eu taith

Wrth ddefnyddio tacsi, lle bo hynny’n bosibl, dylai teithwyr:

  • defnyddio safle tacsis a dewis un sydd wedi’i staffio gan farsialiaid tacsis os yw ar gael

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 November 2022 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Sign up for emails or print this page