Trosolwg o Gynllun Turing, 2025 i 2026
Diweddarwyd 14 Mawrth 2025
Mae Cynllun Turing yn cynnig cyfle i ddarparwyr addysg wneud cais am gyllid i gefnogi eu myfyrwyr gyda lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd.
Mae cyllid yn agored i sefydliadau yn y DU a thiriogaethau tramor Prydeinig o bob rhan o’r sector addysg a hyfforddiant, gan gynnwys:
- ysgolion
- darparwyr addysg bellach (AB).
- darparwyr addysg uwch (AU).
Mae Gwneud Cais am gyllid Cynllun Turing yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y broses a dolen i wneud cais am gyllid.
Rhaid i fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn lleoliadau Cynllun Turing fod yn derbyn eu haddysg neu hyfforddiant gan sefydliad cymwys yn y DU neu diriogaethau tramor Prydeinig
Nid oes angen i fyfyrwyr fod yn wladolion y DU i gymryd rhan. Rhaid iddynt fod wedi’u lleoli yn y DU neu diriogaeth dramor Brydeinig, ac yn astudio yn y sefydliad sy’n derbyn cyllid Cynllun Turing, neu’n astudio mewn sefydliad sy’n rhan o gais consortiwm.
Rheolir y cynllun gan yr Adran Addysg (DfE). Bydd sefydliad annibynnol yn asesu ceisiadau.
Pwrpas a nodau
Mae cyllid drwy Gynllun Turing yn galluogi darparwyr addysg i roi cyfle i’w myfyrwyr:
- datblygu eu sgiliau
- ennill profiad rhyngwladol
- rhoi hwb i’w cyflogadwyedd
Gall myfyrwyr hefyd ddatblygu eu sgiliau iaith a dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliannau eraill.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026, mae Cynllun Turing wedi’i gynllunio i fodloni’r nodau:
- gwella sgiliau
- hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol
- sicrhau gwerth am arian
Gwella sgiliau
Dylai prosiectau Cynllun Turing gynnig cyfleoedd meithrin gyrfa a darparu canlyniadau addysgol cryf. Dylent roi’r sgiliau caled a meddal i fyfyrwyr y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, p’un a ydynt ar lwybr academaidd neu dechnegol.
Hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol
Dylai prosiectau Cynllun Turing gefnogi symudedd cymdeithasol ac ehangu cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr ar draws y DU a thiriogaethau tramor Prydeinig, yn enwedig ar gyfer y rhai na fyddent o bosibl yn cael y cyfle i astudio a gweithio dramor fel arall.
Mae cyllid ychwanegol gan Gynllun Turing ar gael i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a heb gynrychiolaeth ddigonol, a’r rhai ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol ac anableddau (SEND). Dylai darparwyr ddangos sut y bydd lleoliadau o fudd i’r myfyrwyr hynny a mynd i’r afael â’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn eu cais.
Sicrhau gwerth am arian
Dylech sicrhau bod eich prosiectau Cynllun Turing yn defnyddio cyllid yn effeithiol i wella sgiliau myfyrwyr a gwella eu canlyniadau addysgol.
Mae proses ymgeisio Cynllun Turing yn gwobrwyo ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut y byddant yn sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr y DU yn y ffordd y maent yn rheoli eu prosiectau.
Er mwyn helpu i sicrhau gwell gwerth am arian, rydym yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ddarparwyr o ran sut y maent yn defnyddio cyllid teithio, ac yn darparu canllawiau cliriach ar ba gostau sefydliadol y gellir eu hariannu.
Cefnogi blaenoriaethau eraill y llywodraeth
Mae Cynllun Turing yn rhan o’n huchelgais hirdymor i gefnogi symudedd rhyngwladol myfyrwyr.
Mae’r cynllun yn:
- annog ymgysylltu rhyngwladol a pherthnasoedd newydd
- gwella partneriaethau presennol
- helpu i feithrin perthnasoedd newydd ar gyfer y DU
Darparwyr cymwys
Mae ysgolion, darparwyr AB ac AU yn gymwys i wneud cais am gyllid Cynllun Turing os ydynt:
- wedi’u cofrestru neu wedi’u cydnabod yn y DU neu diriogaethau tramor Prydeinig
- cyfrifol am ddarparu addysg neu hyfforddiant i’r myfyrwyr sy’n mynd ar leoliadau
Yn unol â canllawiau ar reoli arian cyhoeddus Trysorlys EF a Safon Swyddogaethol y Llywodraeth ar gyfer grantiau, rhaid i ymgeiswyr fod yn ariannol hyfyw a bod â’r gallu i gyflenwi i gael eu cymeradwyo ar gyfer arian Cynllun Turing.
Ni ellir defnyddio arian Cynllun Turing tuag at weithgareddau Sefydliadau Confucius.
Partneriaethau consortiwm
Gall ysgolion a darparwyr AB bartneru â darparwyr eraill o’u sector a gwneud cais am gyllid fel consortiwm. Gall nifer cyfyngedig o fathau eraill o sefydliadau ymuno â’r consortiwm os ydynt yn cyflawni’r rôl gydgysylltu.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl consortia ar gyfer ysgolion a darparwyr AB.
Cyllid sydd ar gael
Mae cyllid Cynllun Turing yn gyfraniad tuag at gostau lleoliadau addysgol rhyngwladol. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe’i darperir ar sail fesul myfyriwr.
Mae cyllid ar gael ar gyfer:
-
costau teithio ar gyfer un daith ddwyffordd rhwng y DU neu diriogaeth dramor Brydeinig y mae’r darparwr ynddi a’r gyrchfan y mae’r lleoliad yn digwydd ynddi, gan gynnwys trosglwyddiadau
- cyfraniadau at gostau byw
- cymorth sefydliadol
- pasbortau, ffioedd ymgeisio am fisa, brechlynnau, tystysgrifau meddygol ac yswiriant teithio ar gyfer myfyrwyr difreintiedig (a elwir yn gyllid parodrwydd i deithio)
- dysgu iaith i fyfyrwyr ar leoliadau AB
- cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag AAAA – gan gynnwys myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru ac anghenion cymorth ychwanegol (ASN) yn yr Alban
- staff sy’n mynd gyda myfyrwyr ar leoliadau ysgol ac AB
Mae symiau cyllid gwahanol ar gael yn dibynnu ar:
- a yw myfyriwr yn yr ysgol, mewn AB neu AU
- a yw myfyriwr o gefndir difreintiedig, neu ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol neu anabledd
- lle mae’r myfyriwr yn bwriadu teithio
- pa mor hir y disgwylir i’r lleoliad barhau
Darperir cyllid teithio ar gyfradd benodol ar gyfer pob gwlad neu diriogaeth gyrchfan.
Lle mae costau teithio gwirioneddol yn is na’r gyfradd a awgrymir, gall darparwyr ddefnyddio’r gwahaniaeth i dalu am gostau teithio mewn lleoliadau eraill.
Mae’r ffordd rydym yn dyrannu cyllid i ysgolion a darparwyr AB llwyddiannus wedi newid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ar gyfer ysgolion, darparwyr addysg bellach a darparwyr addysg uwch.
Sut y gellir defnyddio cyllid Cynllun Turing
Gan mai bwriad cyllid Cynllun Turing yw bod yn gyfraniad tuag at gost lleoliadau, gallwch hefyd roi cyllid ychwanegol i fyfyrwyr o ffynonellau eraill ar gyfer costau nad ydynt yn cael eu talu gan y cynllun. Ni fydd angen i chi adrodd am y cyllid hwn i’r DfE.
Ni ddylid defnyddio cyllid Cynllun Turing ar gyfer gweithgareddau sydd eisoes wedi’u hariannu gan ffynhonnell arall, megis gan awdurdod lleol, cyllid myfyrwyr neu lywodraeth ddatganoledig.
Dim ond o fewn y flwyddyn academaidd honno y gellir defnyddio cyllid a ddyfarnwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 a rhaid i chi ddychwelyd unrhyw arian nas defnyddiwyd i’r Adran Addysg. Ni ellir trosglwyddo arian i’r flwyddyn academaidd nesaf.
Rhaid i chi:
- adrodd yn rheolaidd faint o’r cyllid hwn rydych yn ei wario
- cadw tystiolaeth o wariant
- bod yn barod i ddarparu dadansoddiad manwl o hyn ar gais
Os bydd eich cais yn llwyddiannus bydd angen i chi gyflwyno cynllun manwl cyn y gallwch dderbyn cyllid. Rhaid i’r cynllun gynnwys:
- sut rydych chi’n bwriadu ei ddefnyddio
- y dyddiad erbyn pryd y mae angen i chi fod wedi darparu’r lleoliadau’n llwyddiannus
Byddwch yn cael eich monitro yn erbyn y cynllun hwn.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael arweiniad manwl ar sut y gallant ddefnyddio eu cyllid, a pha dystiolaeth y bydd angen iddynt ei chasglu.
Mae mwy o wybodaeth ar sut y gall ysgolion, darparwyr AB a darparwyr AU ddefnyddio’r cyllid.
Cwynion
Gall darparwyr addysg, cydlynwyr consortiwm, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd sydd wedi rhyngweithio â ni wneud cwynion.
Gallwch gyflwyno cwynion ffurfiol i’r DfE ar unrhyw adeg mewn perthynas ag unrhyw gam o’r cais neu gylch oes y prosiect drwy cysylltu â ni.