Cynllun Turing: lleoliadau rhyngwladol, 2025 i 2026
Canllawiau ar gyllid ar gyfer astudiaethau rhyngwladol a lleoliadau gwaith trwy Gynllun Turing, i ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch.
Dogfennau
Manylion
Mae ceisiadau Cynllun Turing ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 bellach wedi cau.
Mae Gwneud Cais am gyllid Cynllun Turing yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y broses a dolen i wneud cais am gyllid.
Ariennir Cynllun Turing gan lywodraeth y DU.
Mae’n helpu darparwyr addysg i gefnogi eu myfyrwyr, gan gynnwys prentisiaid, i ymgymryd â lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd.
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer darparwyr. Mae’n amlinellu:
- beth yw Cynllun Turing
- ar gyfer pwy y mae
- yr hyn y mae angen i ddarparwyr ei wybod cyn gwneud cais am gyllid
Mae’r cynllun yn agored i:
- ysgolion
- darparwyr addysg bellach
- darparwyr addysg uwch
Nid ydym yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr. Os ydych yn fyfyriwr sydd â diddordeb mewn gwneud cais i Gynllun Turing, siaradwch â’ch ysgol, coleg neu brifysgol.
Dylai darparwyr ddilyn y canllawiau ar gyfer 2024 i 2025 ar gyfer unrhyw brosiectau a gynhelir cyn 31 Awst 2025.
Updates to this page
-
Updated to reflect that Turing Scheme applications for the 2025 to 2026 academic year are now closed.
-
Added Welsh translation.
-
Updated as applications for the Turing Scheme are now open.
-
First published.