Policy paper

Datganiad polisi ar y cyd ar gyfer y Deyrnas Unedig ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith

Published 27 February 2025

Diben y ddogfen

Mae’r datganiad polisi yma yn cael ei wneud ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, DAERA yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban (‘y Pedair Gwlad’).  Mae’n ofynnol yn ôl Rheoliadau Pecynwaith 2024[1] ac mae’n nodi effeithiau amgylcheddol arfaethedig y polisi ynghylch Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) a sut y bwriedir i’r polisi gyflawni’r effeithiau hynny. Yn benodol, mae’n ymwneud â’r dogfennau llywodraethu craidd y mae’n rhaid i Weinyddwr y Cynllun eu cyhoeddi yn 2025; canlyniadau rydyn ni’n disgwyl i Weinyddwr y Cynllun weithio tuag atynt; a’r cyflawniadau y mae’r Pedair Gwlad yn disgwyl eu gweld yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu.

Dogfennau Llywodraethu Gweinyddwr y Cynllun

Ym mlwyddyn gyntaf pEPR, rhaid i Weinyddwr y Cynllun gyhoeddi’r dogfennau canlynol sy’n mynegi, ar lefel uchel, ei ddull o gyflawni’r canlyniadau a’r cyflawniadau a nodir yn y ddogfen yma.

  • Strategaeth (y “Strategaeth”) erbyn mis Mehefin 2025 fan bellaf yn bodloni’r gofynion y manylir arnynt yn Atodlen 7 i’r Rheoliadau.  Mae hyn yn cynnwys amcanion a swyddogaethau Gweinyddwr y Cynllun, y canlyniadau y mae’n ceisio’u cyflawni, trefniadau llywodraethu, trefniadau cyflawni, sut mae’r rhain yn ategu canlyniadau’r cynllun; sut mae Gweinyddwr y Cynllun yn bwriadu ymwneud â’r rhai sydd â diddordeb dilys yn y ffordd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau; a sut mae’n bwriadu mesur ac adrodd ar gyflawni ei amcanion a chanlyniadau’r cynllun.
  • Cynllun gweithredol (y “Cynllun Gweithredol”) bob blwyddyn erbyn 28 Chwefror fan bellaf gan fodloni’r gofynion y manylir arnynt yn Atodlen 7 i’r Rheoliadau.  Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod gan ddechrau ar 1 Ebrill (y flwyddyn weithredol), rhagolygon o gostau gwaredu’r awdurdodau lleol a chostau ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus, ei ddull o gyfrifo’r ffioedd gwaredu sy’n daladwy gan y cynhyrchwyr atebol, a gweithgareddau gwybodaeth gyhoeddus a gweithgareddau cyfathrebu eraill y mae’n bwriadu eu cynnal yn y flwyddyn weithredol.

Bydd y Pedair Gwlad yn gweithio gyda Gweinyddwr y Cynllun dros y cyfnod ymsefydlu a chyflawni cychwynnol yma, gan gynnwys mewn perthynas â strategaeth gyntaf Gweinyddwr y Cynllun.  Bydd y llywodraethau hefyd yn diweddaru’r datganiad polisi yn ôl yr angen, er enghraifft, i ystyried datblygiadau yn y dyfodol ynglŷn â pholisi economi cylchol ar gyfer pecynwaith a rôl Gweinyddwr y Cynllun wrth gyflawni hwnnw.

Crynodeb o’r canlyniadau arfaethedig

Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Reoliadau Pecynwaith 2024, rhaid i Weinyddwr y Cynllun weithredu yn unol â’r angen i hwyluso cyflawni’r effeithiau amgylcheddol a nodir yn y datganiad polisi yma[2]. Yr effeithiau amgylcheddol hyn yw:

  • Defnyddio pecynwaith sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol;
  • Atal pecynwaith rhag mynd yn wastraff;
  • Cynnydd mewn ailddefnyddio pecynwaith, ac ym maint ac ansawdd y deunyddiau pecynwaith sy’n cael eu hailgylchu; a gostyngiad yn y pecynwaith a roddir ar y farchnad.

Mae’r Pedair Gwlad o’r farn bod cyflawni’r canlyniadau hyn, gan gynnwys trwy Weinyddwr y Cynllun, yn ganolog i gefnogi’r newid i economi cylchol, ac ar yr un pryd cynyddu’r arbedion carbon sy’n gysylltiedig â chylch bywyd pecynwaith i’r eithaf.

Y mesurau polisi allweddol – cyflawniadau Blwyddyn 1

Ffioedd sylfaenol y cynhyrchwyr a modiwleiddio

Mae’r polisi ynghylch pEPR yn cyflwyno rhwymedigaeth i’r cynhyrchwyr dalu am gostau casglu a gwaredu eu pecynwaith cartref pan ddaw’n wastraff. Mae hyn yn cysoni cyfrifoldeb y cynhyrchwyr dros becynwaith â’r egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu. Wrth bennu ffioedd y cynhyrchwyr, dylai Gweinyddwr y Cynllun gyflawni’r amcanion perthnasol a’r canlyniadau a ddymunir yn y polisi.

Dylai Gweinyddwr y Cynllun gyhoeddi ffioedd sylfaenol terfynol ar gyfer y flwyddyn 2025/26 erbyn mis Mehefin 2025 fan bellaf, ar y sail y bydd digon o ddata cynhyrchwyr yn cael ei gyflwyno’n brydlon ar ôl iddo gael ei roi i wasanaeth digidol pEPR (Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith), gan ganiatáu gwiriadau rheoleiddio boddhaol. Bydd cyflwyno ffioedd sylfaenol yn cymell cynhyrchwyr i wella dyluniadau a gosod llai o ddeunydd ar y farchnad, gan arwain at atal pecynwaith rhag mynd yn wastraff.  Rhaid i Weinyddwr y Cynllun ddefnyddio dull modiwleiddio ffioedd o 2026/27 ymlaen i gymell y cynhyrchwyr i symud i becynwaith a all gael ei ailgylchu a’i ailddefnyddio. 

Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinyddwr y Cynllun gyhoeddi datganiad polisi ar fodiwleiddio cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu ac yna adolygu’r polisi hwnnw o leiaf bob tair blynedd wedyn.  Mae’r Pedair Gwlad yn disgwyl i’r datganiad polisi cyntaf hwn gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â Strategaeth Gweinyddwr y Cynllun, erbyn mis Mehefin 2025 fan bellaf.  Dylai’r datganiad polisi cyntaf ar fodiwleiddio geisio:

  • Gyrru’r cynhyrchwyr i ddefnyddio pecynwaith cartref sy’n haws i’w ailgylchu neu i’w ailddefnyddio,
  • Dosrannu’r ffioedd i grwpiau o ddeunyddiau mewn ffordd sy’n helpu i gyflawni canlyniadau arfaethedig y cynllun, gan ystyried costau gwaredu a gwell canlyniadau amgylcheddol, gan gynnwys yr effaith ar garbon pan fo’n ymarferol,
  • Mynegi sut y bydd modiwleiddio yn benodol yn rhoi hwb i ddefnyddio pecynwaith sy’n haws i’w ailgylchu a symud at ddewisiadau amgen a all gael eu hailddefnyddio, a hefyd
  • Mynegi sut y bydd y ffioedd yn helpu ailgylchu ar raddfa fawr.

Mae’r Pedair Gwlad hefyd yn disgwyl i Weinyddwr y Cynllun fynd i’r afael â chynaliadwyedd yn ehangach wrth ddatblygu ei Strategaeth. Disgwylir i Weinyddwr y Cynllun ystyried sut y gall helpu i leihau effeithiau amgylcheddol cynhyrchu, cludo a defnyddio’r pecynwaith, yn ogystal ag effaith amgylcheddol y pecynwaith pan ddaw’n wastraff. Disgwylir hefyd iddo gyfrannu’n llawn at gyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol a domestig i ddatgarboneiddio.[3]

Methodoleg asesu ailgylchadwyedd 

I helpu’r cynhyrchwyr i wneud y trawsnewidiad hwn mewn pecynwaith, rhaid i Weinyddwr y Cynllun ddatblygu a chynnal methodoleg asesu ailgylchadwyedd a dylai gyhoeddi hon cyn gynted â phosibl ar ôl cael ei sefydlu[4]. Bydd y fethodoleg yn darparu dull safonol i gynhyrchwyr asesu ailgylchadwyedd pecynwaith a bydd yn llywio’r broses o fodiwleiddio ffioedd y cynhyrchwyr. Dylid diweddaru’r fethodoleg yn flynyddol yn unol â chylchoedd adrodd pEPR.

Rheoli gwastraff pecynwaith yn effeithlon ac effeithiol gan yr awdurdodau lleol

Rhaid i Weinyddwr y Cynllun gyfrifo a dosbarthu taliadau i’r awdurdodau lleol am gasglu a gwaredu gwastraff pecynwaith cartref yn effeithlon. Dylai’r taliadau alluogi gwasanaethau’r awdurdodau lleol i gyflawni’r amcanion a nodir yn y datganiad yma a bodloni’r polisïau domestig perthnasol ym mhob gwlad[5].  

Wrth wneud asesiad o gostau gwaredu effeithlon, bydd Gweinyddwr y Cynllun yn ystyried y costau gwaredu y byddai’r awdurdod lleol yn eu talu pe bai’n darparu gwasanaeth rheoli gwastraff effeithlon, sef gwasanaeth lle mae’r costau mor isel ag sy’n rhesymol bosibl, gan ystyried unrhyw ffactorau eraill sy’n benodol i’r awdurdod hwnnw, gan ategu canlyniadau gofynnol y cynllun yr un pryd.

Rhaid i Weinyddwr y Cynllun lunio canllawiau ar y fethodoleg a’r weithdrefn y bydd yn eu defnyddio a, lle bo’n berthnasol, y ffactorau y bydd yn eu hystyried wrth asesu effeithlonrwydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael ei sefydlu.  Mae’r Pedair Gwlad yn disgwyl i’r canllawiau hyn ffurfio rhan o’r Cynllun Gweithredol. Rhaid rhoi amcangyfrif i’r awdurdodau lleol o’r taliadau a wneir iddyn nhw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar gyfer blwyddyn asesu 2025. Ar gyfer y blynyddoedd dilynol, rhaid i Weinyddwr y Cynllun ddarparu amcangyfrif o’r taliadau erbyn 1 Tachwedd fan bellaf cyn y flwyddyn asesu honno[6].

O dan Reoliadau Pecynwaith 2024, o 2028 ymlaen rhaid i Weinyddwr y Cynllun asesu i ba raddau y mae pob awdurdod perthnasol yn darparu gwasanaeth rheoli gwastraff effeithiol mewn perthynas â gwastraff pecynwaith cartref. Er hynny, mae’r Pedair Gwlad yn disgwyl i Weinyddwr y Cynllun gychwyn yr asesiadau hyn cyn hyn pan fo’n fodlon bod ganddo ddigon o ddata i wneud yr asesiadau hynny.  Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn cael cefnogaeth a chymorth cynnar i wella perfformiad lle bo modd.

Cafodd y metrigau cychwynnol arfaethedig ar gyfer asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd costau gwaredu’r awdurdodau lleol eu cynnwys wrth hysbysu taliadau dangosol i’r awdurdodau lleol ar 28 Tachwedd 2024.  Dylai Gweinyddwr y Cynllun adolygu o leiaf bob blwyddyn y dull a’r fethodoleg ar gyfer asesu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol y cynllun, ac yn y pen draw, cadw deunyddiau o ansawdd uchel mewn defnydd am fwy o amser. Yn ei strategaeth, dylai Gweinyddwr y Cynllun nodi sut mae’n bwriadu datblygu’r asesiad yma wrth i ddata am gostau a pherfformiad wella dros amser.

Ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus

Rhaid i Weinyddwr y Cynllun ddarparu ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr a busnesau am sut i ailgylchu, ailddefnyddio a gwaredu pecynwaith, ac atal pecynwaith rhag dod yn sbwriel. Wrth ddatblygu ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus, dylai gweinyddwr y cynllun ystyried sut y bydd y rhain yn ategu ymgyrchoedd a ddarperir ar y lefel leol a chenedlaethol ochr yn ochr â’r wybodaeth sydd ar gael ar draws yr ecosystem rheoli gwastraff er mwyn galluogi defnyddwyr a busnesau i chwarae eu rhan, cynyddu ansawdd y deunydd ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio, a lleihau sbwriel a gwaredu pecynwaith gweddilliol diangen.

Dylai Gweinyddwr y Cynllun nodi ei gynlluniau ar gyfer ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus yn ei Strategaeth a nodi’r ymgyrchoedd a’r gweithgareddau cyfathrebu penodol y mae’n bwriadu eu cynnal ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ei Gynllun Gweithredol, gan gynnwys sut y bydd y rhain yn cael eu targedu i wella perfformiad ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau pecynwaith penodol a sut y bydd y rhain yn cael eu teilwra i fynd i’r afael â’r cyd-destun ym mhob gwlad. Dylai’r Strategaeth hefyd amlinellu sut y bydd strwythurau llywodraethu ffurfiol yn goruchwylio ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus a gweithgareddau cyfathrebu.

Mesur cynnydd ac adrodd arno

Yn ei Strategaeth, mae’n ofynnol i Weinyddwr y Cynllun nodi sut y bydd yn mesur ac yn adrodd ar gyflawni ei amcanion a’i ganlyniadau. Bydd y dangosyddion perfformiad allweddol y bydd yn eu defnyddio yn cael eu nodi yn ei Gynllun Gweithredol blynyddol.

Yn ychwanegol, mae’r Pedair Gwlad yn disgwyl i Weinyddwr y Cynllun ddefnyddio’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredol i osod amcanion, nodau a safonau perfformiad ymestynnol sy’n ystyried disgwyliadau a nodir yn y datganiad polisi yma a chyflawni canlyniadau’r cynllun a gwasanaeth o safon i fusnesau ac awdurdodau lleol sy’n rhyngweithio â Gweinyddwr y Cynllun.

Bydd y Pedair Gwlad yn monitro perfformiad Gweinyddwr y Cynllun, gan gynnwys drwy adroddiad blynyddol Gweinyddwr y Cynllun, a disgwylir yr adroddiad cyntaf erbyn 30 Medi 2026 ar gyfer blwyddyn 1 pEPR a phob blwyddyn wedyn.

Os bydd Gweinyddwr y Cynllun yn methu â gosod amcanion, nodau neu ddangosyddion perfformiad sy’n briodol o ymestynnol, neu’n methu eu cyflawni, bydd y Pedair Gwlad yn ystyried a yw’n briodol dibynnu ar eu pwerau yn rheoliad 59 o Reoliadau Pecynwaith 2024 i gyfarwyddo Gweinyddwr y Cynllun yn ffurfiol i gymryd camau neu i beidio â chymryd camau penodedig er mwyn gwella perfformiad.


[1] Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith a Phecynwaith) 2024.

[2] Rheoliadau Pecynwaith 2024, rheoliad 127

[3] Rheoliadau Pecynwaith 2024, rheoliad 64(7)

[4] Rheoliadau Pecynwaith 2024, Atodlen 7(7)

[5] Rheoliadau Pecynwaith 2024, rheoliad 73, paragraff 1(c)(v)

[6] Rheoliadau Pecynwaith 2024, rheoliad 74