Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025: Gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy
Cyhoeddwyd 21 Mawrth 2025

Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol hwn wedi’i fframio yn erbyn ein rhwymedigaethau statudol i reoleiddio plaladdwyr. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth rhwng Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn y ddogfen hon fel ‘ni’ neu ‘ein’ neu ‘4 llywodraeth’), ac mae’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig i gyd. Mae hefyd yn cydymffurfio â’r Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar Gemegau a Phlaladdwyr sy’n ffurfioli’r ffyrdd o weithio rhwng y 4 llywodraeth ar bolisi plaladdwyr.
Mae plaladdwyr, a pholisi amgylcheddol ehangach, yn feysydd a ddatganolwyd i bob llywodraeth. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau gwahanol a dilyn polisïau gwahanol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Er yn parchu rhyddid statudol a gweithredol y gweinyddiaethau unigol i gyflwyno gwahanol ddulliau polisi a gwneud penderfyniadau gwahanol, mae’r 4 gweinyddiaeth, ynghyd â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fel y rheoleiddiwr sy’n gweithredu ar ran pob rhan o’r DU, yn ceisio sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau lle mae hyn yn briodol ac yn ddymunol.
Cyflwyniad
Mewn byd lle mae diogelwch bwyd, adfer natur a chynaliadwyedd amgylcheddol yn dod yn fwyfwy cysylltiedig, mae defnyddio plaladdwyr yn gyfrifol, a elwir hefyd yn gynhyrchion diogelu planhigion (PPPs), yn hanfodol i gynnal y cydbwysedd bregus.
Mae plaladdwyr yn chwarae rhan bwysig o ran diogelu cnydau i gefnogi cynhyrchu bwyd domestig, gwarchod tirweddau naturiol, a chynnal mannau cyhoeddus hanfodol, fel ffyrdd, rhwydweithiau rheilffyrdd a meysydd chwaraeon.
Fodd bynnag, gall gorddefnydd neu ddefnydd anghywir o blaladdwyr gyfrannu at golli bioamrywiaeth a lefelau annerbyniol o gyswllt i bobl. Gall defnydd estynedig o blaladdwyr hefyd arwain at ymwrthedd i blaladdwyr fel y nodwyd yn achos chwynladdwyr cynffonwellt du (Va Rah A ac eraill, 2020).
Rydym wedi ymrwymo i leihau’r risg wrth ddefnyddio plaladdwyr. Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn nodi’r strategaeth ar gyfer rheoli’r defnydd o blaladdwyr a lleihau’r risg. Mae’n adlewyrchu blaenoriaethau ac uchelgeisiau pob un o’r pedair llywodraeth yn y DU, a’i nod yw hyrwyddo defnydd cynaliadwy o blaladdwyr i leihau’r effeithiau ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl, gan reoli plâu ac ymwrthedd i blaladdwyr yn effeithiol a sicrhau bod gan ffermwyr yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu bwyd.
Mae’r cynllun gweithredu hwn yn canolbwyntio ar ein rhwymedigaethau statudol (gweler Atodiad 1), ac mae’n ymdrin â’r canlynol:
-
annog datblygu a defnyddio rheolaeth integredig ar blâu (IPM) a dulliau neu dechnegau eraill i leihau dibyniaeth ar ddefnyddio plaladdwyr
-
sefydlu amserlenni a thargedau ar gyfer lleihau risgiau ac effeithiau defnyddio plaladdwyr, gan gynnwys monitro a gosod targedau ar gyfer lleihau’r defnydd o blaladdwyr sy’n cynnwys sylweddau actif sy’n peri pryder penodol
-
sicrhau nad yw gweithrediadau storio, trin, glanhau a gwaredu yn peryglu iechyd pobl na’r amgylchedd drwy archwilio, gorfodi a gweithgareddau rheoli swyddogol eraill effeithiol
Yng 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (COP 15) ym mis Rhagfyr 2022, gosodwyd targed byd-eang i “haneru o leiaf y risg gyffredinol o blaladdwyr a chemegau peryglus iawn” erbyn 2030, fel rhan o Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal.
Mae’r DU eisoes yn perfformio’n dda o ran faint o blaladdwyr sy’n cael eu defnyddio o’i chymharu â gweddill y byd. Er bod cyfanswm pwysau’r sylwedd plaladdwyr actif a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth wedi cynyddu tua 90% yn fyd-eang rhwng 1990 a 2020, gwelodd y DU ostyngiad o bron 60% dros yr un cyfnod (gweler Atodiad 3 am ragor o fanylion).
Fodd bynnag, er mwyn cyfrannu hyd yn oed ymhellach at y targed byd-eang, mae’r cynllun gweithredu hwn yn cyflwyno’r targed domestig cyntaf i leihau’r defnydd o blaladdwyr yn y DU. Mae’r targed yn seiliedig ar Ddangosydd Llwyth Plaladdwyr y DU (PLI), sy’n cyfuno data ar ddefnydd o blaladdwyr â gwybodaeth am briodweddau plaladdwyr (perygl ac ymddygiad amgylcheddol) i ddangos a thracio tueddiadau yn y pwysau posibl y mae plaladdwyr yn eu rhoi ar yr amgylchedd. Mae’r PLI yn cynnwys 20 metrig sy’n cwmpasu’r niwed posibl y mae plaladdwyr yn ei achosi i wahanol rywogaethau dangosol (er enghraifft, pa mor wenwynig ydynt i wenyn) a’u hymddygiad yn yr amgylchedd (er enghraifft, pa mor hir maent yn parhau). Rydym yn gosod targed o leihau o leiaf 10% ar bob un o’r 20 metrig o’r PLI erbyn 2030, gan ddefnyddio 2018 fel blwyddyn sylfaen. Bydd cyflawni’r targed yn dangos bod y camau yr ydym yn eu cymryd yn lleihau’r effaith bosibl sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr.
Rydym yn benderfynol o archwilio sut gallwn fynd ymhellach o ran lleihau ein defnydd o blaladdwyr ar draws pob sector a sicrhau gwelliant parhaus yn erbyn ein dangosyddion tra ar yr un pryd yn cefnogi cynhyrchu cnydau’n gynaliadwy a rheoli amwynder. Bydd hyn yn golygu adolygu cynnydd yn rheolaidd, a chydweithio â defnyddwyr plaladdwyr a defnyddwyr cynnyrch i ganfod ble gallai fod cyfleoedd yn y dyfodol.
Byddwn hefyd yn ystyried ffyrdd o wella’r system reoleiddio fel ei bod yn gweithio mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, yn rhoi mwy o eglurder a rhagweladwyedd ac yn gwneud yn well o ran sicrhau bod opsiynau diogelu cnydau ar gael wrth gynhyrchu bwyd. Bydd unrhyw newidiadau i’r system reoleiddio yn y dyfodol yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried Fframwaith Windsor.
Dyma gychwyn taith newydd ac uchelgeisiol. Bwriadwn ategu’r cynllun gweithredu gyda manylion pellach a fydd yn amlinellu ein blaenoriaethau wrth iddynt ddatblygu a darparu fframwaith mwy cynhwysfawr ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth o ran plaladdwyr yn y dyfodol.
Amcan 1: Annog defnyddio Rheolaeth Integredig ar Blâu (IPM)

Mae angen amrywiaeth eang o atebion rheoli plâu ar ffermwyr, tyfwyr, coedwigwyr a rheolwyr amwynderau i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy neu reoli ardaloedd amwynder. Mae gorddibyniaeth ar gynhyrchion unigol yn sbardun i ymwrthedd i blaladdwyr, a allai olygu bod llai o sylweddau actif effeithiol ar gael i fynd i’r afael â phroblemau plâu dros amser.
Mae IPM yn ddull cyfannol a chynaliadwy sy’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau, ac yn hyrwyddo mesurau ataliol, i gadw’r defnydd o blaladdwyr cemegol confensiynol i lefelau y gellir eu cyfiawnhau’n ecolegol ac yn economaidd, gan leihau risgiau ac effeithiau ar iechyd pobl a’r amgylchedd (gweler Atodiad 2 am ragor o wybodaeth).
Ym maes ffermio, gall mesurau ataliol leihau’r risg o blâu yn ymsefydlu neu’n cyrraedd lefelau peryglus, a gallant gynnwys:
-
cylchdroi cnydau
-
arferion trin ac aredig (sut mae’r tir yn cael ei baratoi i dyfu cnydau)
-
tyfu mathau sy’n gwrthsefyll plâu
-
mesurau hylendid (fel glanhau peiriannau ac offer yn rheolaidd)
-
annog ysglyfaethwyr naturiol
Mae dulliau IPM hefyd yn cynnwys defnyddio technolegau gwasgaru manwl wrth ddefnyddio plaladdwyr cemegol mewn ffordd wedi’i thargedu lle bo angen, pan fydd dulliau amgen yn aneffeithiol neu ddim ar gael.
Mae IPM yn cyd-fynd â chysyniadau economi gylchol a defnyddio adnoddau’n gynaliadwy. Mae’n lleihau’r ddibyniaeth ar ddefnyddio plaladdwyr cemegol drwy reoli’r risg o ddifrod gan blâu, defnyddio dulliau eraill, er enghraifft, rheolaeth fiolegol neu ffisegol a hyrwyddo prosesau naturiol. Gall arwain at fanteision sylweddol o ran lleihau’r pwysau ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd. Pan gaiff ei ddefnyddio fel rhan o ddull rheoli fferm gyfan tymor hwy, dangoswyd bod nifer o dechnegau IPM yn gwella cyfalaf naturiol, gan gynnwys iechyd pridd ac ansawdd dŵr, a hynny’n arwain at nifer uwch o bryfed buddiol a rhywogaethau eraill nad ydynt yn dargedau a’r amrywiaeth ohonynt, sy’n hanfodol er mwyn gwella cynaliadwyedd ecosystemau a gwarchod diogelwch bwyd. Dangoswyd hefyd bod IPM yn cefnogi cydnerthedd, iechyd a chynhyrchiant cnydau, ac mae felly yn helpu i gynnal a chynyddu’r cynnyrch a lleihau costau mewnbwn (He ac eraill, 2016).
Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr a thyfwyr eisoes yn defnyddio arferion IPM, ond mae’n bosibl y bydd i ba raddau y gwneir hynny yn dibynnu ar y sector cnydau, maint y fferm a ffynonellau cyngor, fel y mae’r astudiaethau achos IPM hyn yn dangos. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhai ffermwyr yn ystyried IPM yn ddull risg uwch o ddiogelu eu cnydau, a allai beryglu elw economaidd, a gall canfyddiadau o risg ariannol fod yn rhwystr rhag defnyddio IPM. Mae Defra wedi sefydlu IPM NET, ar y cyd ag ADAS, sef rhwydwaith o ffermwyr sy’n defnyddio IPM. Mae data agronomig ac economaidd yn cael eu casglu o’r ffermydd hyn i geisio deall unrhyw effeithiau ariannol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i review of evidence on IPM.
Prosiectau ymchwil a datblygu IPM
Mae’r 4 llywodraeth eisoes yn cefnogi ystod eang o brosiectau ymchwil a datblygu IPM ledled y Deyrnas Unedig.
Yn Lloegr, mae rhaglen Ymchwil a Datblygu Iechyd Planhigion Defra ar hyn o bryd hefyd yn cefnogi nifer o brosiectau ymchwil sy’n blaenoriaethu IPM a dulliau amgen o reoli plâu, yn enwedig y rhai sy’n defnyddio atebion seiliedig ar natur. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth hefyd wedi cefnogi nifer o brosiectau drwy’r Tree Production Innovation Fund (TPIF) ac Woods into Management Forestry Innovation Funds (WiMFIF), er enghraifft, prosiectau ‘Autonomous Smart Spot-Precision Application of Herbicide’, a ‘Will earwigs predate green spruce aphid over winter to provide early season control?’.
Mae Forest Research (rhan o’r Comisiwn Coedwigaeth) yn cynnal ymchwil sydd â’r nod o wella’r defnydd o ddulliau gweithredu IPM yng nghoedwigoedd y DU, ac ymchwil i leihau’r defnydd o blaladdwyr yn uniongyrchol yn y sector.
Mae Defra, mewn partneriaeth ag Innovate UK, wedi ymrwymo dros £127 miliwn drwy’r Farming Innovation Programme (FIP) ar gyfer ymchwil a datblygu a arweinir gan y diwydiant ym maes amaethyddiaeth a garddwriaeth. Nod y rhaglen hon yw sbarduno arloesi a fydd yn trawsnewid cynhyrchiant, proffidioldeb a chynaliadwyedd amgylcheddol ffermio yn Lloegr. Mae enghreifftiau o brosiectau a ariennir drwy FIP yn cynnwys dylunio a phrofi chwynwyr robotig i gael gwared ar gynffonwellt du a datblygu gwenith sy’n gwrthsefyll gwlithod.
Yng Nghymru, mae Defra a Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau drwy’r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddoniaeth Ryngwladol (CABI) sy’n treialu defnyddio bioreolaeth i reoli planhigion ymledol, er enghraifft defnyddio ffwng rhwd i reoli Jac y Neidiwr (Pollard ac eraill, 2021).
Yn yr Alban, nod y Ganolfan Iechyd Planhigion yw gwella gwytnwch rhag bygythiadau iechyd i blanhigion drwy gysylltu gwyddoniaeth ag ymchwil gymhwysol i lywio polisïau, ymatebion cynllunio ac atebion. Mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o brosiectau sy’n gysylltiedig ag IPM, gan gynnwys, er enghraifft, canfyddiadau o risg plâu a gwahaniaethau o ran defnydd o IPM gan ffermwyr âr ac agronomegwyr (Creissen ac eraill, 2021). Mae hefyd yn cynnal templedi cynllun IPM sydd ar gael i’w defnyddio gan fusnesau yn yr Alban. Mae’r cynlluniau IPM a ddiweddarwyd yn ddiweddar ar gyfer tyfwyr yn yr Alban yn gwella ar y fersiwn flaenorol drwy ganiatáu i gynnydd tyfwyr o ran mabwysiadu IPM gael ei fesur.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae cydweithrediad rhwng y Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau (AFBI), DAERA a’r Coleg Amaethyddiaeth, Bwyd a Mentrau Gwledig (CAFRE) wedi arwain at ddatblygu rhwydwaith monitro ar gyfer y pryf glas, a all achosi niwed difrifol i datws a chnydau grawnfwyd. Mae canlyniadau’r gwaith monitro hwn, a gyhoeddir bob wythnos ar dudalen we AFBI ac a rennir drwy gyfryngau cymdeithasol, yn adnodd hygyrch i wneud penderfyniadau – gyda rhai tyfwyr eisoes yn nodi arbedion economaidd drwy ddefnyddio llai o bryfladdwyr.
Cefnogi cynnydd yn y defnydd o IPM mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pawb sy’n defnyddio plaladdwyr i gofleidio dulliau IPM. Yn Lloegr, ar hyn o bryd mae 4 cam gweithredu IPM a 3 gweithred defnyddio plaladdwyr yn fanwl gywir ar gael yn y cynllun Sustainable Farming Incentive (SFI). Mae’r cynllun yn talu ffermwyr i fabwysiadu a chynnal arferion ffermio cynaliadwy sy’n gallu gwarchod a gwella’r amgylchedd. Mae camau gweithredu’r SFI ar gyfer IPM yn canolbwyntio ar gynyddu gwybodaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer dull IPM, er enghraifft:
-
creu cynefinoedd ar gyfer ysglyfaethwyr naturiol plâu cnydau
-
defnyddio cyd-gnydau i atal chwyn, lleihau clefydau a darparu amddiffyniad rhag plâu cnydau
-
lleihau’r defnydd o blaladdwyr
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu cynlluniau amaeth-amgylchedd i ddisodli’r cynlluniau blaenorol i’r UE gyfan. Mae’n debygol y bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys mesurau i gefnogi pobl i ymgymryd â chamau gweithredu IPM.
Yn yr Alban, bydd y Rhaglen Diwygio Amaethyddiaeth yn trawsnewid sut rydyn ni’n cefnogi ffermio a chynhyrchu bwyd i gyflawni’r Vision for Agriculture a dod yn arweinydd byd-eang mewn amaethyddiaeth gynaliadwy ac adfywiol.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws y DU hefyd i annog a chefnogi’r nifer sy’n defnyddio IPM drwy ddarparu gwybodaeth. Er enghraifft, mae pob llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn o adnoddau IPM defnyddiol ar eu gwefannau. Nod hyn yw cefnogi ffermwyr a thyfwyr drwy ddarparu gwybodaeth am ddulliau IPM sy’n gweithio, creu cynllun IPM a defnyddio systemau cefnogi penderfyniadau i reoli ac ymateb i wahanol fathau o bwysau yn sgil plâu, chwyn a clefydau. Mae Defra hefyd wedi gweithio gydag ADAS i ddatblygu cyfres o fideos sy’n darparu gwybodaeth fanwl am theori ac ymarfer IPM i gefnogi ffermwyr, tyfwyr ac agronomegwyr. Mae’r fideos hyn ar gael i ffermwyr ledled y DU.
Astudiaethau achos: IPM mewn amaethyddiaeth
Fferm Nonington, James Loder-Symonds
Drwy ddefnyddio dulliau ataliol a naturiol o reoli plâu, mae’r ffermwr a’r agronomegydd James Loder-Symonds wedi gallu gweithio heb bryfladdwyr ar ei fferm am y 4 blynedd diwethaf.
Mae wedi mabwysiadu technegau fel creu cynefinoedd ar gyfer pryfed buddiol, plannu mathau o gnydau sy’n gallu gwrthsefyll cor-firws haidd melyn (BYDV), tarfu llai ar y pridd, ymestyn cylchdroadau a gorchudd a chyd-gnydio. Lle mae angen mewnbynnau cemegol, mae defnyddio chwistrellu manwl drwy beiriannau sydd â chysylltiad System Leoli Fyd-eang wedi cynyddu effeithlonrwydd. O ganlyniad, bu gostyngiad o tua £200 yr hectar yn ei gostau amrywiol ar gyfer gwenith y gaeaf heb unrhyw ostyngiad o ran cynhyrchiant ac ansawdd yn y cynhaeaf rhwng 2020 a 2022. Mae James yn disgwyl i’w gostau ostwng ymhellach wrth i iechyd cnydau a phridd barhau i wella, ac i broffidioldeb ffermydd fod yn fwy cyson o un flwyddyn i’r llall.
Fferm âr 400 erw, sy’n cael ei rheoli gan J Llewellin & Co
Mae’r teulu Llewellin wedi ffermio Trewarren ers 1955. Mae cyflwyno IPM wedi galluogi’r teulu Llewellin i dyfu cnydau’n gynhyrchiol ac yn broffidiol a gwella iechyd y pridd a’r amgylchedd naturiol ar yr un pryd – gan gynnal cynhyrchiant cnydau, neu ei gynyddu yn achos rêp had olew.
Defnyddir tri chwarter Fferm Trewarren ar gyfer cynhyrchu cnydau âr, gan gynnwys gwenith, rêp had olew’r gaeaf a ffa. Mae’r arferion IPM a gyflwynwyd ar y fferm yn cynnwys plannu cnydau gorchudd, llai o amaethu a chylchdroi cnydau i gynnal pryfed buddiol, a thorri cylchoedd plâu, chwyn a chlefydau. Defnyddir technoleg monitro plâu a GPS i sicrhau bod mewnbynnau cemegol yn cael eu targedu a’u bod yn gymesur, a dim ond pan fydd poblogaethau plâu yn mynd y tu hwnt i drothwyon y byddant yn defnyddio pryfladdwyr.
Bu gwelliant sylweddol yn iechyd y pridd ar y fferm ers cyflwyno technegau IPM, sydd yn ei dro wedi cael effaith ddramatig ar boblogaethau adar a phryfed buddiol. Datgelodd cyfrif diweddar o’r fuwch goch gota fod yna 5 o wahanol rywogaethau a nododd cyfrif o’r pili-pala fod yna 12 math gwahanol ohonynt. Gan eu bod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y pridd, bu cynnydd yn y poblogaethau o bryfed genwair sy’n tyrchu’n ddwfn, ac mae priodweddau hidlo dŵr y pridd wedi gwella. Mae’r teulu hefyd wedi plannu gwrychoedd a phyllau ar gyfer dyfrhau ac i ddarparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a phryfed peillio.
Gwyddoniaeth a thechnoleg yw’r sail i lawer o’r arferion rheoli IPM ar y fferm. Mae technoleg GPS wedi caniatáu i’r fferm leihau mewnbynnau a chynyddu effeithlonrwydd drwy ddiffodd y chwistrell awtomatig, ac mae mapio caeau yn ôl y math o bridd a maeth yn golygu bod modd drilio cnydau gan ddefnyddio cyfraddau hadu amrywiol er mwyn i blanhigion gael eu sefydlu’n hafal. Rhoddir ystyriaeth ofalus i sgoriau ymwrthedd amrywogaethau o hadau, er mwyn bod yn llai agored i glefydau.
Monitro Crach Afalau (Venturia) yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r cyfuniad o hinsawdd a’r ffaith mai Bramley yw’r cyltifar afal pennaf a dyfir yn y rhanbarth, a hwnnw’n weddol dueddol o gael crach afalau, yn golygu ei fod yn cael ei ystyried fel y prif glefyd sy’n effeithio ar berllannau yng Ngogledd Iwerddon. Mae heintiau crach afalau yn digwydd yn ystod cyfnodau gwlychu pan fydd lleithder yn ysgogi’r sborau i egino a threiddio i feinwe planhigion. Mae methu â rheoli heintiau yn lleihau cynhyrchiant ac ansawdd yr afalau yn sylweddol, ac o ganlyniad mae bron i 87% o’r holl ffwngladdwyr a ddefnyddir gan dyfwyr yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer rheoli’r crach. Mae monitro’n cael ei wneud gan ddefnyddio trapiau sborau cyfeintiol Bukard.
Er mwyn helpu tyfwyr i fanteisio i’r eithaf ar effeithiolrwydd eu rhaglen chwistrellu, mae’r Coleg Amaeth, Bwyd a Mentrau Gwledig (CAFRE) yn anfon rhybuddion a elwir yn gyfnodau heintio’r crach (ASIPs) at dyfwyr yn ystod cyfnodau o bwysau uchel oherwydd y clefyd fel y gellir gwneud penderfyniadau chwistrellu priodol. Cynhyrchir y rhybuddion hyn gan y Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau (AFBI) sydd â chanolfan ymchwil yn Loughgall yn Swydd Armagh.
Mae ASIPs yn seiliedig ar gyfuniad o dabl Mills diwygiedig (tabl rhagfynegi crach a ddefnyddir i benderfynu a yw’r amodau wedi bod yn ddigonol ar gyfer haint) ynghyd ag asesu’r datganiad asgosbor dyddiol o’r data a gasglwyd mewn trap sborau cyfeintiol Bukard. Mae’r data amgylcheddol (gwlypter a thymheredd dail) sydd ei angen i gyfrifo cyfnodau heintio gyda’r tabl Mills yn cael ei gasglu ar y safle yn Loughgall.
Mae modd amcangyfrif difrifoldeb yr haint ar sail nifer y sborau sy’n cael eu cyfrif ar y sleid ac mae’r pwysau’n cael eu categoreiddio fel ysgafn (llai na 5 sbôr), canolig (5 i 10 sbôr) a thrwm (mwy na 10 sbôr). Mae’r cyfrif sborau’n dechrau ar 17 Mawrth bob blwyddyn ac yn parhau hyd nes y cynhyrchir dim mwy o asgosborau. Yng Ngogledd Iwerddon, ym mis Mehefin y bydd hyn fel arfer, ond gallai barhau ymhell i fis Gorffennaf, yn dibynnu ar y tywydd.
Cefnogi’r defnydd o IPM yn y sectorau amwynder ac amatur
Er y datblygwyd llawer o fesurau IPM i ddechrau ar gyfer defnyddiau amaethyddol a garddwriaethol, mae’n ddull cynaliadwy y gellir ei ddefnyddio hefyd yn y sectorau amwynder ac amatur, yn ogystal â choedwigaeth.
Mae’r sector amwynder yn amrywiol, gan gynnwys, er enghraifft:
-
seilwaith trafnidiaeth
-
caeau chwaraeon
-
cyrsiau golff
-
ardaloedd cyfleustodau
-
ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol, fel parciau a strydoedd cyhoeddus
Gwyddom fod materion fel effeithiolrwydd, argaeledd dewisiadau eraill, canfyddiad y cyhoedd, diogelwch a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol i gyd yn chwarae rhan wrth ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch rheoli plâu, chwyn a chlefydau yn y sector amwynder (Garthwaite ac eraill, 2020).
Rydym eisiau mynd i’r afael â rhai o’r prif rwystrau sy’n atal pobl rhag defnyddio dulliau IPM yn y sector amwynder a lleihau’r ddibyniaeth ar blaladdwyr, gan gydnabod y bydd rôl plaladdwyr yn parhau, er enghraifft, i sicrhau bod priffyrdd cyhoeddus yn hygyrch ac yn ddiogel.
Rhaid i’r rheini sy’n gweithio gyda phlaladdwyr proffesiynol sicrhau eu bod wedi ymgymryd â’r hyfforddiant plaladdwyr perthnasol neu eu bod yn cael eu goruchwylio gan rywun sydd wedi gwneud hynny, a bod yr offer yn cael ei brofi a’i raddnodi’n rheolaidd. Er mwyn cynnal arferion da, mae’n bwysig bod mudiadau ac unigolion sy’n ymwneud â’r sector yn diweddaru eu hyfforddiant. Rydym am annog gweithredwyr i ddiweddaru eu hyfforddiant a’u hardystiad yn rheolaidd i gynnwys elfennau o IPM. Mae ymaelodi â chynllun sicrwydd yn un ffordd o sicrhau bod arferion gorau’n cael eu dilyn a bod safonau’r diwydiant yn cael eu bodloni.
Mae rhai plaladdwyr yn cael eu llunio a’u hawdurdodi at ddefnydd amatur, er enghraifft, mewn gerddi yn y cartref ac yn y gymuned, yn ogystal â rhandiroedd. Mae’r term IPM yn debygol o fod yn anghyfarwydd i lawer o’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae yna ddiddordeb ac mae hynny’n rhoi cyfle i ni i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan sefydliadau fel y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol gyda’u ‘Guide to controlling pests and diseases without chemicals’ a Dŵr Cymru.
Astudiaeth achos: IPM yn y sector amwynder
Cynllun Lleihau’r Defnydd o Chwynladdwyr, Cyngor Dinas Caergrawnt
Rhoddodd Cyngor Dinas Caergrawnt ddull IPM ar waith fel rhan o’i Gynllun Lleihau’r Defnydd o Chwynladdwyr yn sgil datgan Argyfwng Bioamrywiaeth yn 2019. Nod y cynllun hwn oedd lleihau’r defnydd o chwynladdwyr mewn mannau cyhoeddus fel lleiniau ymyl ffordd a phalmentydd, gan chwilio am ddulliau eraill o reoli chwyn.
Roedd strategaeth y cyngor yn cynnwys sefydlu parthau heb chwynladdwyr, gan ddechrau gydag ardaloedd treialu yn Newnham ac Arbury, ac ehangu i wardiau eraill. Archwiliodd y treial y defnydd o offer mecanyddol arbenigol i lanhau strydoedd a thriniaethau ewyn poeth. Roedd dulliau mecanyddol yn arbennig o effeithiol, gan leihau’r angen i ddefnyddio chwynladdwyr. Arweiniodd hyn at ostyngiad nodedig yn y defnydd o chwynladdwyr, o’u defnyddio 3 gwaith yn 2021 i ddim o gwbl yn 2023.
Roedd y Cynllun Lleihau’r Defnydd o Chwynladdwyr yn pwysleisio ymgysylltu â’r gymuned drwy’r ‘Happy Bee Street Scheme,’ gan feithrin cyfranogiad lleol yn y gwaith o gynnal ardaloedd heb chwynladdwyr. Roedd adborth gan randdeiliaid, yn cynnwys grwpiau cymunedol a phreswylwyr, wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o fireinio’r prosiect. Mae’r dull IPM hwn yn dangos sut gall dewisiadau mecanyddol amgen gynnal mannau gwyrdd trefol yn effeithiol gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Arolwg Rheoli Chwyn Awdurdodau Lleol yr Alban, Llywodraeth yr Alban
Cynhaliodd Llywodraeth yr Alban arolwg o weithgareddau rheoli chwyn awdurdodau lleol yr Alban yn ystod 2019. Hwn oedd yr arolwg cyntaf o’i fath i’w gynnal yn yr Alban, ac o’r 32 awdurdod lleol y cysylltwyd â hwy, derbyniwyd data am ddefnyddio chwynladdwyr gan 27 a chafwyd manylion am arferion rheolaeth integredig ar chwyn gan 28.
Roedd pob awdurdod lleol a ymatebodd yn defnyddio dulliau rheoli integredig, gan fabwysiadu cyfuniad o strategaethau rheoli â chwynladdwyr a rheoli heb gemegau. Y dulliau heb gemegau a ddefnyddiwyd amlaf oedd rheolaeth fecanyddol (er enghraifft, strimio, torri, brwsio chwyn a rhwygo), chwynnu â llaw a mygu twf chwyn â thomwellt.
Adroddwyd ar amryw o resymau dros ddefnyddio dulliau heb gemegau, a’r prif ffactorau sbarduno oedd pryder am effeithiau amgylcheddol ac awydd i leihau cysylltiad gweithredwyr a’r cyhoedd â chwynladdwyr.
Lle cafodd chwynladdwyr eu defnyddio, dywedodd yr holl ymatebwyr eu bod wedi cymryd camau i leihau’r defnydd ohonynt, yn bennaf drwy werthuso a oedd yna fesurau rheoli amgen heb gemegau a thrwy dargedu’r defnydd o chwynladdwyr.
Gyda’i gilydd, defnyddiodd yr awdurdodau lleol a arolygwyd 15.2 tunnell o sylwedd chwynladdwr actif yn 2019. Dywedodd wyth deg chwech y cant o’r awdurdodau a ymatebodd eu bod yn bwriadu parhau i leihau faint o chwynladdwr a ddefnyddir yn y dyfodol.
Rôl arloesi mewn IPM
Fel rhan o ddull IPM, gellir defnyddio technolegau newydd i atal yr angen am reolaeth gemegol gonfensiynol (er enghraifft, chwynnu robotig) neu i sicrhau bod unrhyw ddefnydd angenrheidiol o blaladdwyr yn cael ei dargedu (er enghraifft, defnyddio technolegau defnydd manwl i leihau risgiau amgylcheddol) (Anastasiou ac eraill, 2023). Gall gwasgaru manwl hefyd gyfrannu at leihau costau mewnbwn, gan fod plaladdwyr yn cael eu defnyddio mewn ffordd fwy effeithlon. Yn Lloegr, mae cyllid grant wedi bod ar gael i ffermwyr a thyfwyr drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Ffermio i’w cefnogi i brynu eitemau cyfalaf sy’n ceisio gwella cynhyrchiant ffermio, ochr yn ochr â chynaliadwyedd amgylcheddol, fel ffermio manwl gywir ac atebion robotig.
Gallai Cerbydau Awyr Di-griw, neu ddronau, ei gwneud yn bosibl gwasgaru plaladdwyr mewn ffordd fwy penodol, a disodli offer llaw dan rai amgylchiadau. Gallai’r canlyniad fod yn fanteision amgylcheddol ac iechyd yn sgil lleihau’r defnydd o blaladdwyr a manteision economaidd i ffermwyr o ran costau mewnbwn is a’r gallu i drin tir sy’n anodd ei gyrraedd fel arall.
Mae defnyddio dronau i’r diben hwn yn dechnoleg sy’n datblygu ac ar hyn o bryd dim ond o dan drwyddedau cyfyngol y’i caniateir.
Byddwn yn gweithio ar draws adrannau a gyda rhanddeiliaid i ddeall yn llawn fanteision ac anfanteision posibl gwasgaru plaladdwyr gan ddronau. Byddwn yn ystyried a fyddai newidiadau i’r canllawiau a’r rheolau presennol, er enghraifft, y rheini sy’n gofyn am ganiatáu gweithrediadau chwistrellu unigol, yn helpu i wireddu’r manteision.
Sganio’r gorwel
Byddwn yn datblygu gallu sganio’r gorwel seiliedig ar dystiolaeth yn y DU, gan ymgynghori ag amrywiaeth o arbenigwyr, i sicrhau bod gennym ddull rhagweithiol o ddeall effeithiau posibl unrhyw fylchau rheoli plâu sy’n codi o ganlyniad i dynnu plaladdwyr oddi ar y farchnad. Byddai hyn yn ein galluogi i weld ble mae’r angen mwyaf i ddatblygu dewisiadau amgen ac i nodi meysydd ymchwil a datblygu sy’n flaenoriaethau i ni. Byddai sganio’r gorwel yn canolbwyntio ar y sectorau hynny sy’n fwyaf tebygol o golli rhagor o blaladdwyr a bydd yn cael ei ddefnyddio i archwilio opsiynau rheoli a lliniaru posibl, gan gynnwys technolegau newydd ac opsiynau eraill i reoli plâu.
Datblygu bioblaladdwyr â risg is
Mae bioblaladdwyr yn cynnwys microbau (bacteria, ffyngau a feirysau), semiogemegau (er enghraifft fferomonau), cemegau sy’n deillio o blanhigion a chynhyrchion amgen newydd eraill. Mae bioblaladdwyr yn faes twf – dim ond 2 sylwedd bioblaladdwr actif gafodd eu cymeradwyo yn y Deyrnas Unedig yn 1997, gyda’r nifer hwnnw wedi codi i 44 yn 2020 – a thrwy arloesi parhaus rydym yn disgwyl i fwy o dechnolegau newydd ddod i’r fei yn y dyfodol.
Nid yw pob bioblaladdwr yn cael eu dosbarthu fel rhai risg isel, ond o’r 24 o sylweddau actif risg isel sydd wedi’u cymeradwyo ar hyn o bryd ym Mhrydain Fawr, mae 20 yn fioblaladdwyr. Rydym am iddynt fod ar gael yn rhwyddach ar draws ystod ehangach o gnydau, gan gynyddu’r arfau y gellir eu defnyddio fel rhan o ddull gweithredu IPM drwy hynny i sicrhau dyfodol sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol ac yn economaidd. Gall bioblaladdwyr fod yn gymhleth i’w rheoleiddio, gan arwain at weithdrefnau cymeradwyo hir sy’n rhwystr ariannol i weithgynhyrchwyr llai.
Ar hyn o bryd, mae cyngor wedi ei deilwra a ffioedd gostyngol ar gael yn y Cynllun Bioblaladdwyr presennol i’r rhai sy’n ymgeisio am gymeradwyaeth ym Mhrydain. Mae Gogledd Iwerddon yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth yr UE i sylweddau actif yn rhinwedd Fframwaith Windsor ac felly nid yw’n dod o dan y cynllun hwn.
Astudiaeth achos: Bioblaladdwyr
Defnyddio dulliau biolegol i leihau dibyniaeth ar ffwngladdwyr synthetig wrth gynhyrchu gwenith
Daeth ffermwyr ac arbenigwyr gwyddonol ynghyd i ymchwilio i effeithiolrwydd cynhyrchion biolegol i amddiffyn cnydau fel amnewidion, neu atchwanegiadau, i ffwngladdwyr synthetig wrth gynhyrchu gwenith yng Ngogledd Lloegr.
Mae pryder cynyddol y bydd ffermwyr yn colli’r offer y maent yn dibynnu arnynt i drin pathogenau ffwngaidd mewn cnydau gwenith wrth i bathogenau ddatblygu mwy o ymwrthedd i blaladdwyr confensiynol. Arweiniodd y Rhwydwaith Ffermwyr Wyddonwyr, gyda chefnogaeth Cymdeithas Amaethyddol Swydd Efrog, brosiect i brofi gwahanol strategaethau trin ar sawl math o wenith dros 3 blynedd mewn 3 lleoliad gwahanol yng ngogledd y Deyrnas Unedig. Dewiswyd y lleoliadau i brofi effeithiolrwydd bioblaladdwyr mewn ardaloedd daearyddol amrywiol.
Roedd y triniaethau’n cynnwys plaladdwyr confensiynol yn unig, bioblaladdwyr yn unig, neu ddull IPM yn cynnwys bioblaladdwyr a phlaladdwyr confensiynol. Canfuwyd y gellir defnyddio technolegau bioblaladdwyr, ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â chemegau confensiynol ar gyfer cnydau, i gynhyrchu gwenith, gan gynnal cynhyrchiant tebyg a grawn o ansawdd debyg. Er mwyn annog trosglwyddo gwybodaeth, cynhaliwyd diwrnodau agored ar bob un o’r 3 safle treialu a dosbarthwyd y canlyniadau drwy wahanol fforymau yn cynnwys cynhadledd flynyddol Cymdeithas yr Ymgynghorwyr Cnydau Annibynnol a Farmers Weekly.
Camau gweithredu i annog pobl i ddefnyddio IPM
Cam gweithredu 1
Cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am strategaethau IPM drwy hyrwyddo adnoddau cynllunio a chefnogi penderfyniadau, canllawiau ymarferol a mynediad at ddysgu a thystiolaeth o ymchwil a datblygu.
Cam gweithredu 2
Gweithio gyda gwasanaethau cyngor ffermio i wella’r cyngor IPM a gynigir ar hyn o bryd, fel ei fod yn cefnogi mwy o ddefnydd o IPM.
Cam gweithredu 3
Gweithio gyda darparwyr hyfforddiant i adolygu’r cynnig IPM er mwyn nodi unrhyw fylchau a meysydd i’w gwella i hybu’r niferoedd sy’n manteisio ar IPM.
Cam gweithredu 4
Archwilio cyfleoedd am gyllid hwyluso IPM ar gyfer rhwydweithiau sy’n cael eu harwain gan ffermwyr, tyfwyr a choedwigwyr.
Cam gweithredu 5
Casglu mwy o ddata ar IPM a’r defnydd o blaladdwyr yn y sectorau amatur ac amwynder er mwyn deall y defnydd yn well, sut mae’r rhain yn cyfrannu at y llwyth plaladdwyr cyffredinol a dulliau IPM posibl.
Cam gweithredu 6
Adolygu rhwystrau rheoleiddiol rhag arloesi, yn enwedig o ran technolegau defnydd manwl: archwilio manteision ac anfanteision posibl defnyddio plaladdwyr gan ddronau ac ystyried a oes angen diwygio rheolau a chanllawiau.
Cam gweithredu 7
Datblygu gallu mewnol i sganio’r gorwel ar sail tystiolaeth i ganfod, deall a lliniaru bylchau rheoli plâu.
Cam gweithredu 8
Parhau i ddarparu cymorth ychwanegol ar ddefnyddio bioblaladdwyr.
Cam gweithredu 9
Ystyried sut gallwn wneud gwelliannau i’r trefniadau ar gyfer bioblaladdwyr yn y Deyrnas Unedig i leihau beichiau heb beryglu safonau amgylcheddol ac iechyd pobl.
Cam gweithredu 10
Parhau i gyfeirio cyllid i hwyluso ymchwil a datblygu cymhwysol ar feysydd blaenoriaeth lle mae dewisiadau amgen yn lle plaladdwyr cemegol confensiynol yn brin, yn enwedig mewn cnydau o bwys.
Amcan 2: Gosod targedau a mesurau clir i fonitro’r defnydd o blaladdwyr

Rydym yn gosod y targed gostyngiad domestig cyntaf ar gyfer plaladdwyri leihau’r defnydd o blaladdwyr yn y Deyrnas Unedig. Yn hollbwysig, mae hyn yn cael ei wneud ar sail pwysau amgylcheddol posibl yn hytrach na dim ond ar sail y pwysau neu’r cyfaint a ddefnyddir. Wrth osod targed lleihau’r defnydd o blaladdwyr yn y cynllun gweithredu, rydym am gael targed sy’n seiliedig ar ganlyniadau y gellir eu mesur, sy’n ymestynnol, yn fesuradwy, â therfyn amser ac sy’n gofyn am weithredu parhaus gan yr holl bartneriaid cyflenwi.
Gallai gosod targed uchelgeisiol fod yn gatalydd ar gyfer arloesi a gwella, er enghraifft, drwy hyrwyddo arferion gwell. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried pa mor gyraeddadwy yw targedau a sicrhau ein bod yn gallu monitro cynnydd a bod yn atebol, gan gynnal cystadleurwydd amaethyddiaeth y DU ar yr un pryd.
Mae ein targed yn ystyried priodweddau cemegol plaladdwyr yn ogystal â faint a ddefnyddir. Mae canolbwyntio ar ddim ond faint o blaladdwyr sy’n cael eu defnyddio (yn ôl pwysau) a’r ardal y cânt eu defnyddio arni yn anwybyddu amrywiadau ym mhriodweddau cemegol y sylweddau actif a ddefnyddir a’u heffeithiau posibl ar yr amgylchedd. Mae perygl i dargedau o’r fath greu canlyniadau anfwriadol: er enghraifft, ni fyddai gostyngiad yn y pwysau a ddefnyddir o reidrwydd yn golygu gostyngiad yn y risg, pe bai plaladdwyr risg is yn cael eu disodli gan rai â risg uwch. Mae angen metrigau arnom sy’n dangos yn dda y pwysau posibl y mae plaladdwyr yn eu rhoi ar yr amgylchedd, i nodi a monitro’r defnydd o blaladdwyr a sylweddau mwy peryglus sy’n peri pryder penodol. Felly, rydym yn cynnig targed ar sail Dangosydd Llwyth Plaladdwyr (PLI) y DU.
Dangosydd Llwyth Plaladdwyr (PLI)
Dros y 4 blynedd diwethaf, rydyn ni wedi datblygu’r Dangosydd Llwyth Plaladdwyr (PLI) cyntaf i’r DU. Mae’r PLI yn ddangosydd aml-gydran, sy’n cyfuno data ar y defnydd o blaladdwyr â gwybodaeth am briodweddau plaladdwyr. Mae’r PLI yn ystyried:
-
y niwed y gallai plaladdwyr ei achosi i wahanol grwpiau o rywogaethau
-
y ffordd y mae plaladdwyr yn ymddwyn yn yr amgylchedd
-
faint sy’n cael ei ddefnyddio
Mae’r PLI yn cynnwys 4 metrig ymddygiad ac 16 metrig niwed posibl. Mae’r 20 metrig hyn wedi’u cynllunio o amgylch y profion rheoleiddio safonol ar gyfer cymeradwyo sylweddau actif ac maen nhw’n cael eu mesur yn unol â methodoleg wyddonol drylwyr. Daw’r data a ddefnyddir i gyfrifo’r PLI o Arolwg Defnyddio Plaladdwyr y DU (PUS) a’r Gronfa Ddata Priodweddau Plaladdwyr (PPDB).
Dim ond i’r sector tir âr amaethyddol y mae’r PLI yn berthnasol ar hyn o bryd, ond mae i gyfrif am oddeutu 90% o’r defnydd drwyddo draw mewn amaeth a garddwriaeth. Felly, gellir adrodd ar y PLI bob 2 flynedd ar sail y cylch PUS âr. Mae gennym ddata hefyd ar sut y defnyddir plaladdwyr ar gnydau ar wahân i rai âr, ond nid yw’r rhain wedi’u hymgorffori yn y PLI ar hyn o bryd. Nid oes gennym ddata cadarn ar hyn o bryd ar y defnydd yn y sectorau amwynder ac amatur. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried sut gallwn sicrhau gwybodaeth fwy cynhwysfawr am natur y defnydd o blaladdwyr yn y sectorau hyn er mwyn llywio’r broses o feddwl am unrhyw gamau pellach y gallwn eu cymryd i reoli’r risg a’r defnydd o blaladdwyr.
Metrigau niwed posibl
Mae’r PLI yn ystyried gwenwyndra acíwt (tymor byr) a chronig (tymor hir) sylweddau actif unigol ar ystod o organebau nad ydynt yn cael eu targedu gan y plaladdwr. Mae’r organebau hyn yn cynrychioli grwpiau bywyd gwyllt fel creaduriaid di-asgwrn-cefn (gan gynnwys peillwyr), adar, mamaliaid a physgod, ac maent wedi’u rhestru isod. Mae’r metrigau acíwt yn canolbwyntio ar ddos neu grynodiad plaladdwyr sy’n achosi marwolaeth ar ôl cael cysylltiad ag ef am gyfnod byr. Mae’r metrigau cronig yn canolbwyntio ar ddos neu grynodiad plaladdwr lle na welir unrhyw niwed ym mhob rhywogaeth ddangosol a defnyddir mesurau iechyd pwysig fel twf ac atgenhedlu wrth eu hasesu. Dyma’r metrigau niwed posibl:
-
pysgod (acíwt)
-
pysgod (cronig)
-
chwain dŵr (acíwt)
-
chwain dŵr (cronig)
-
algae (acíwt)
-
planhigion dyfrol (acíwt)
-
mamaliaid (acíwt)
-
mamaliaid (cronig)
-
adar (acíwt)
-
adar (cronig)
-
pryfed genwair (acíwt)
-
pryfed genwair (cronig)
-
gwenyn (acíwt cyswllt)
-
gwenyn (acíwt geneuol)
-
cacwn parasitig (acíwt)
-
gwiddon rheibus (acíwt)
Metrigau ymddygiad
Mae’r PLI hefyd yn ystyried sut mae plaladdwyr yn ymddwyn yn y byd go iawn. Mae pedwar metrig ychwanegol yn ein helpu i ddeall:
-
pa mor hir y mae plaladdwr yn aros yn yr amgylchedd cyn iddo ddiraddio
-
pa mor hawdd y mae’n symud i mewn i ddŵr a phridd a thrwyddynt – ac felly pa mor hawdd y gallai ymledu o fewn yr amgylchedd lleol
-
tueddiad plaladdwr i fiogronni neu gael ei gymryd i mewn i blanhigion neu anifeiliaid ac aros yn eu meinwe dros gyfnodau estynedig o amser
Dyma’r metrigau ymddygiad:
-
parhad (mewn pridd)
-
llif draenio (symudedd dŵr wyneb)
-
symudedd dŵr daear
-
ffactor biogronni
Faint a ddefnyddiwyd
Ar bob metrig, cyfunir y sgoriau ar gyfer pob plaladdwr â faint o’r plaladdwr hwnnw a ddefnyddiwyd ar draws y DU mewn blwyddyn benodol. Yna caiff y gwerthoedd hyn eu cyfansymio i gynhyrchu sgôr cyffredinol ar gyfer pob blwyddyn a asesir, sy’n ein galluogi i asesu tueddiadau yn y metrigau PLI dros amser. Fel hyn, gallwn fesur sut mae’r pwysau posibl ar yr amgylchedd o ddefnyddio plaladdwyr yn newid. Mae gallu’r PLI i ddisgrifio’r tueddiadau hyn, a chysylltu newid â chyfraniad sylweddau actif penodol (a nodi’r sylweddau sy’n peri pryder), yn gwella’r gallu i fonitro effaith gweithredoedd polisi yn sylweddol.
Lefel darged
Yn y cynllun gweithredu hwn, rydym yn gosod targed domestig gofynnol i leihau pob un o elfennau metrigau PLI y DU o 10% o leiaf erbyn 2030, gan ddefnyddio ffigurau ar gyfer 2018 fel llinell sylfaen. Rydym wedi dewis 2018 fel y flwyddyn sylfaen ar gyfer y targed oherwydd roedd hon yn flwyddyn gymharol nodweddiadol o ran defnyddio plaladdwyr, sy’n darparu o leiaf 10 mlynedd o amser ar gyfer asesu cynnydd hyd at 2030. Rydym wedi osgoi ffigurau o 2020 gan fod hon yn flwyddyn lle roedd y defnydd o blaladdwyr yn sylweddol is na’r holl flynyddoedd blaenorol, yn bennaf am fod tywydd heriol wedi effeithio ar batrymau cnydau.
Mae’r targed yn ystyried y metrigau unigol, yn hytrach nag un dangosydd cyffredinol o’r llwyth plaladdwyr. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar sbarduno gweithredu ar draws amrediad y metrigau yn hytrach nag, er enghraifft, gwneud cynnydd ar leihau niwed posibl i bysgod ond peidio â rhoi sylw i wenyn.
Mae pob un o’r 20 metrig yn bwysig. Fodd bynnag, bydd rhai yn llawer mwy heriol i’w cyflawni. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, bydd angen gweithredu gan y 4 llywodraeth, diwydiant a rheolwyr tir. Bydd angen newid sylweddol yn y defnydd o IPM, mabwysiadu dewisiadau amgen risg is a defnyddio plaladdwyr risg is, fel bioblaladdwyr.
Bydd yn bwysig olrhain cynnydd tuag at ein targed domestig gan y bydd hyn yn rhoi sicrwydd ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithredu’n gyfrifol ac yn gynaliadwy. Bydd cyflawni’r targed hwn yn dangos ein bod yn lleihau’r pwysau amgylcheddol posibl sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr.
Gwyddom mai ffactorau fel y tywydd sy’n sbarduno’r defnydd o blaladdwyr, a fydd yn effeithio ar lefelau gwahanol blâu, chwyn a chlefydau a welir mewn blwyddyn benodol. Felly, byddwn yn siŵr o gyflwyno unrhyw gymhariaeth pwynt-i-bwynt rhwng blynyddoedd penodol yng nghyd-destun y tueddiadau cyffredinol.
Yn bwysig, bydd y targed yn cael ei adolygu’n gyson. Cawn ein harwain gan y dystiolaeth, a byddwn yn adolygu’r cynnydd yn barhaus yn erbyn y targed ac yn ystyried a oes angen ei addasu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn uchelgeisiol. O ystyried y cynhelir Arolygon Defnyddio Plaladdwyr bob dwy flynedd ac y gall fod oedi o flwyddyn neu 2 flynedd cyn cael y canlyniadau, nid yw’n debygol y bydd gennym ddigon o ddata i olrhain cynnydd ledled y Deyrnas Unedig tan 2026.
I gael esboniad manwl o darged Plaladdwyr y cynllun gweithredu a sut caiff ei gyflawni, darllenwch ddogfen ‘esbonio targed’ y cynllun gweithredu.
Targedau rhyngwladol
Bydd y targed domestig hefyd yn cyfrannu at Darged 7 Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal y cytunwyd arno yn COP15, i leihau’r risgiau cyffredinol sy’n deillio o blaladdwyr a chemegau peryglus iawn o leiaf hanner erbyn 2030.
Rydym wedi cyflwyno i’r Cytundeb ar Amrywiaeth Biolegol dargedau’r DU sy’n cyd-fynd yn llwyr â nodau a thargedau Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal. Mae’r targedau hyn ar gyfer y DU gyfan yn ein hymrwymo i gyflawni pob un o’r targedau byd-eang (gan gynnwys Targed 7). Rydym wedi cyhoeddi ein Strategaeth a’n Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Cenedlaethol a byddwn yn ystyried sut mae ein holl dargedau a’n camau gweithredu domestig yn cyfrannu at yr ymrwymiadau hyn yn y DU.
Mesur cynnydd
Ochr yn ochr â’r prif darged ar sail y Dangosydd Llwyth Plaladdwyr (PLI), rydym hefyd yn bwriadu parhau i fonitro ac adrodd yn erbyn fframwaith ehangach o’r canlynol:
-
dangosyddion sy’n seiliedig ar weithredu, er enghraifft y nifer sy’n defnyddio IPM (nifer y cynlluniau a gwblheir), argaeledd bioblaladdwyr a nifer y defnyddwyr PPP proffesiynol sydd wedi cwblhau eu hyfforddiant
-
dangosyddion sy’n seiliedig ar ganlyniadau, fel y rhai sy’n ymwneud â defnyddio plaladdwyr, dod i gysylltiad â nhw, a’r risgiau i’r amgylchedd ac i iechyd pobl. Gellir olrhain tueddiadau o ran y defnydd o sylweddau sy’n peri risgiau penodol, gan gynnwys i iechyd pobl, drwy’r Dangosyddion Risg wedi’u Cysoni (HRIs), sy’n monitro tueddiadau o ran gwerthiant a nifer yr awdurdodiadau brys ar gyfer 4 categori o sylweddau: risg isel, risg safonol, risg uwch (y gellid eu hamnewid) a heb eu cymeradwyo
Rydym yn cynnig parhau i fonitro’r dangosyddion a ddefnyddiwyd yn fframwaith dangosydd blaenorol 2013 i ddangos sut rydym yn symud ymlaen yn erbyn amcanion yng Nghyfarwyddeb 2009/128/EC ar ddefnyddio plaladdwyr mewn modd cynaliadwy, gan ddiweddaru ac ehangu’r rhain i ddangos cynnydd yn glir. Darperir rhagor o gyd-destun drwy ddolenni i adroddiadau perthnasol eraill sy’n rhoi manylion am sut rydym yn nodi materion blaenoriaeth y mae angen rhoi sylw iddynt. Byddwn yn cysoni’r dangosyddion â’r amcanion canlynol yn y Cynllun Gweithredu:
-
annog a chefnogi rheoli plâu yn integredig
-
cefnogi cydymffurfiaeth
Camau gweithredu i bennu targedau, mesurau a dangosyddion i fonitro cynnydd
Cam gweithredu 11
Cysylltu â sefydliadau sy’n gyfrifol am gasglu’r data sylfaenol y tu ôl i’r dangosyddion a gafodd eu cynnwys yn y Cynllun Gweithredu blaenorol i bennu unrhyw bosibilrwydd o ddiweddaru, gwella neu ddisodli’r dangosyddion presennol.
Cam gweithredu 12
Bydd y pedair gweinyddiaeth yn cynnal trafodaethau â phartneriaid mewnol ac allanol, er enghraifft yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Rheoleiddwyr Amgylcheddol y DU, i gytuno ar fframwaith dangosyddion, ac i ddatblygu cynllun ar gyfer cynhyrchu adroddiadau monitro (ar bwy fydd yn rhoi mewnbwn, sut byddant yn cael eu hadolygu ac yn derbyn sicrwydd o ran ansawdd).
Cam gweithredu 13
Asesu cynnydd yn erbyn y targed, gan adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i asesu a ddylid addasu’r lefel darged isaf i gynnal lefel heriol o uchelgais.
Cam gweithredu 14
Cyhoeddi adroddiadau bob dwy flynedd ar ganlyniadau monitro’r dangosydd, gan gynnwys cynnydd yn erbyn y targed PLI.
Amcan 3: Cryfhau cydymffurfiaeth i sicrhau diogelwch a chanlyniadau amgylcheddol gwell

Mae deddfwriaeth sy’n llywodraethu gwerthu a defnyddio plaladdwyr (Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2011, Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Gogledd Iwerddon) 2011, a Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012) ar waith i sicrhau bod unrhyw un sy’n gweithio gyda phlaladdwyr yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel. Rydym eisiau cefnogi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r gofynion cyfreithiol hyn i sicrhau cydymffurfiaeth dda ar draws pob sector.
Cefnogi arferion gorau
Rhaid i ddefnyddwyr neu ddosbarthwyr proffesiynol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw eu gweithrediadau’n peryglu iechyd pobl na’r amgylchedd. Nodir y rhain yn y Codau Ymarfer ar gyfer defnyddio plaladdwyr, a gyhoeddir gan bedair gwlad y DU (gweler y Codau Ymarfer ar gyfer Cymru a Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon).
Mae’r Codau Ymarfer yn darparu ffynhonnell bwysig o gyngor ymarferol i’r rheini sy’n gweithio yn y sectorau amaethyddiaeth, amwynder, garddwriaeth a choedwigaeth ar sut mae defnyddio plaladdwyr yn ddiogel ac felly sut mae bodloni’r rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n ymwneud â defnyddio plaladdwyr. Yn ogystal, mae’r Cod Ymarfer ar gyfer y rheini sy’n cyflenwi plaladdwyr i amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth, yn rhoi canllawiau ymarferol i gyflenwyr plaladdwyr ym Mhrydain Fawr. Mae’r Cod Ymarfer hefyd yn rhoi cyngor ar sut gall defnyddwyr proffesiynol atal plaladdwyr rhag halogi dŵr wyneb a dŵr daear a thrwy hynny ddiogelu dŵr yfed.
Mae ffermwyr yn cael eu cefnogi hefyd drwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol, a chynlluniau a arweinir gan ddiwydiant. Mae rhaglenni’r llywodraeth fel Ffermio Sensitif i Ddalgylch Afon hefyd yn rhoi cyngor a mynediad at grantiau i helpu i warchod yr amgylchedd dyfrol.
Mae amddiffyniadau hefyd wedi’u cynnwys yn y system reoleiddio pan awdurdodir cynhyrchion fel bod yn rhaid i ddefnyddwyr plaladdwyr ddilyn amodau defnyddio. Er enghraifft, mae modd awdurdodi cynnyrch a allai beri risg annerbyniol i’r amgylchedd dyfrol drwy roi mesur lliniaru risg ar waith na ellir ei ddefnyddio o fewn pellter penodol i gyrff dŵr.
Storio, trin a gwaredu
Rhaid i ddefnyddwyr proffesiynol plaladdwyr gymryd pob cam rhesymol i sicrhad nad yw eu gweithrediadau storio, trin, gwanhau, cymysgu, glanhau a gwaredu yn peryglu iechyd pobl na’r amgylchedd. Rhaid i ddefnyddwyr hefyd gyfyngu defnydd i ardaloedd targed, defnyddio cyn lleied â phosibl ohono mewn ardaloedd penodol a gwneud hynny mor anaml â phosibl ac efallai y bydd angen iddynt fodloni gofynion ychwanegol wrth weithio yn yr amgylchedd dyfrol neu o’i gwmpas.
Byddwn yn diweddaru’r Codau Ymarfer ar gyfer defnyddwyr ac ar gyfer cyflenwyr er mwyn adlewyrchu’r safonau rheoleiddio presennol a sefydlwyd gan y SUD a chefnogi’r rheini sy’n gweithio gyda phlaladdwyr yn well.
Gofynion offer
Mae trefniadau profi offer wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn, yn unol â Rheoliadau 2012. Mae’r rhain yn sicrhau bod offer sy’n cael ei ddefnyddio’n broffesiynol yn cael ei archwilio’n rheolaidd. Defnyddir y Cynllun Cenedlaethol Profi Chwistrellwyr (NSTS) i weithredu systemau archwilio offer yn y DU a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n ei ddynodi ar ran y pedair llywodraeth. Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi pa mor gyson yw’r gofynion archwilio. Yn ôl y ddeddfwriaeth mae’n ofynnol bod defnyddwyr proffesiynol yn cynnal profion technegol a graddnodi rheolaidd ar offer chwistrellu PPP.
Rhaid archwilio offer sy’n cael ei ddefnyddio’n broffesiynol ac sy’n dod o dan y categorïau a restrir yn rheoliad 11(1) o Reoliadau 2012, sy’n cynnwys offer chwistrellu a osodir ar drenau neu awyrennau, chwistrellwyr bŵm hirach na 3 metr a rhai chwistrellwyr a osodir neu a dynnir ar gerbydau penodol, o fewn 5 mlynedd i’r dyddiad prynu a phob 3 blynedd wedi hynny. Rhaid archwilio offer chwistrellu plaladdwyr eraill sy’n cael eu defnyddio’n broffesiynol (ar wahân i offer llaw a chwistrellwyr cefn) bob 6 blynedd. Mae rhestr o’r gofynion profi offer ar gael ar wefan NSTS.
Hyfforddiant
Mae gan ddosbarthwyr, cynghorwyr a defnyddwyr proffesiynol plaladdwyr fynediad at hyfforddiant gan gyrff a gymeradwywyd gan y rheoleiddiwr (rhestr o gyrff dynodedig yn y DU a thystysgrifau penodedig cydnabyddedig), fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau 2012. Mae hefyd yn ofyniad statudol i ddefnyddwyr plaladdwyr a awdurdodwyd i’w defnyddio’n broffesiynol feddu ar dystysgrif achrededig (oni bai eu bod yn gweithio dan oruchwyliaeth uniongyrchol rhywun sy’n dal tystysgrif, er enghraifft, mewn sefyllfa lle maent yn cael eu hyfforddi).
Mae’r farchnad breifat yn darparu systemau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i roi hyfforddiant, datblygiad a sicrwydd parhaus. Er enghraifft, mae’n rhaid i agronomegwyr gyflawni pwyntiau DPP i gynnal eu haelodaeth o Gofrestr Broffesiynol BASIS ac mae yna hefyd gynllun Archwilio Storfeydd BASIS blynyddol sy’n ei gwneud yn ofynnol i arbenigwr annibynnol addas asesu cyfleusterau a threfniadau rheoli’r storfeydd unwaith y flwyddyn.
O dan Reoliadau 2012, mae’n ofynnol i ddosbarthwyr (ac eithrio micro-ddosbarthwyr sy’n cyflogi llai na 10 o weithwyr am y rhan fwyaf o flwyddyn ariannol) sy’n gwerthu cynhyrchion diogelu planhigion i ddefnyddwyr, sicrhau bod ganddynt staff adeg gwerthu sy’n dal tystysgrif cynghorydd. Mae’n ofynnol i bob dosbarthwr cynhyrchion i bobl amatur roi gwybodaeth gyffredinol am y risg a berir gan gynhyrchion diogelu planhigion i iechyd pobl ac i’r amgylchedd.
Rheolaethau swyddogol ac archwiliadau sy’n seiliedig ar risg
Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) (Gogledd Iwerddon) 2020 yn galluogi awdurdodau rheoleiddio i orfodi gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i werthu PPPs ar y farchnad a’u defnyddio’n ddiogel.
Mae’r rheoliadau hyn yn creu rhwymedigaeth ar y rheini sy’n gweithio gyda phlaladdwyr yn broffesiynol i gofrestru â’r Awdurdod Cymwys perthnasol (Ysgrifennydd Gwladol Lloegr, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a DAERA ar gyfer Gogledd Iwerddon). Ym Mhrydain, Defra sy’n rheoli’r cofrestriadau hyn ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, ac mae DAERA wedi datblygu cofrestr debyg ar gyfer gweithredwyr yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r gofrestr yn helpu rheoleiddwyr i ddarparu rhaglen o ymweliadau archwilio ar sail risg, a fydd yn ein helpu i ddeall cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth yn well. Gall defnyddwyr plaladdwyr nodi a ydynt yn aelod o gynllun sicrwydd pan fyddant yn cofrestru.
Swyddogion Gorfodi Plaladdwyr (PEO) yn yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n cynnal yr archwiliadau hyn ledled Prydain a bydd DAERA yn cynnal rhaglen debyg. Ein nod yw targedu cymorth rhagweithiol i’r mannau lle mae ei angen fwyaf, gan gydnabod yr arferion da sydd eisoes yn digwydd. Mae’r archwiliadau’n gwirio bod gweithredwyr yn defnyddio PPPs yn unol â’r amodau a nodir ar y label, gan gadw cofnodion o’r defnydd a bodloni gofynion Rheoliadau 2012 sydd â’r nod o sicrhau bod PPPs yn cael eu defnyddio’n ddiogel. Darllenwch ragor o wybodaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ymweliadau PEO. Maent hefyd yn rhoi cyngor ar sut mae cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth ar blaladdwyr. Dros gyfnod y Cynllun Gweithredu hwn, bydd gwybodaeth a ddysgir drwy’r ymweliadau hyn yn rhoi darlun o gydymffurfiaeth. Byddwn am werthuso a yw’n cyflawni ein hamcanion ei fod wedi’i dargedu, yn gymesur, yn gyson, yn dryloyw ac yn atebol.
Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth sy’n deillio o waith archwilio, gorfodi a gweithgareddau rheoli swyddogol eraill, yn ogystal â chasglu gwybodaeth ehangach, i lywio dull gweithredu wedi’i dargedu ar gyfer ymyriadau, gan gynnwys archwiliadau yn y dyfodol.
Astudiaeth achos: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol - ymweld â dosbarthwyr
Ymwelwyd â siop cynnyrch cefn gwlad a oedd yn dosbarthu PPPs at ddefnydd proffesiynol, ac yn ystod yr ymweliad nodwyd nifer o faterion. Roedd y cwmni’n storio eu PPPs at ddefnydd proffesiynol mewn ardal heb ei byndio, sy’n golygu y gallai’r amgylchedd cyfagos fod wedi cael ei niweidio drwy ryddhau plaladdwyr yn ddamweiniol. Nid oedd unrhyw staff wedi’u hyfforddi i ddarparu cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid wrth werthu iddynt o ran pa PPPs y dylent eu defnyddio, y risgiau i iechyd ac i’r amgylchedd sy’n deillio o’r cynhyrchion hynny, a’r cyfarwyddiadau diogelwch i reoli’r risgiau hynny. Yn ogystal, roedd aelod o staff nad oedd wedi’i hyfforddi’n briodol yn defnyddio cynhyrchion at ddefnydd proffesiynol ar dir y siop.
Cymerwyd camau gorfodi, a rhoddwyd cefnogaeth a chyngor i helpu’r cwmni i gydymffurfio. Yn y tymor byr, symudwyd y cynhyrchion at ddefnydd proffesiynol i ardal dros dro lle’r oedd modd rheoli gollyngiadau, ac ar ôl hynny prynodd y cwmni gabinet cemegol wedi’i fyndio ar gyfer storio cynnyrch. Daeth y cwmni hefyd i gytundeb gyda’u cyflenwyr i roi’r cyngor angenrheidiol i’w cwsmeriaid cyn gwerthu cynnyrch. Yn olaf, defnyddiodd y cwmni gontractwyr cymwys i wneud gwaith chwistrellu ar eu safle eu hunain yn y dyfodol.
Gwerthu PPPs ar-lein
Rydym hefyd am wella ein dealltwriaeth o ble mae bylchau o ran cydymffurfiaeth mewn sectorau penodol a sut gellir eu cau. Dangosodd astudiaethau a gomisiynwyd gennym yn 2022 ac yn 2023 i gasglu tystiolaeth o PPPs a gaiff eu gwerthu ar-lein, y gallai aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn gymwys i ddefnyddio PPPs at ddefnydd proffesiynol ddewis prynu rhywbeth anniogel, heb wybod bod cyfyngiadau’n berthnasol i gynnyrch a’r defnydd a wneir ohono. Gallai’r defnydd hwn arwain at niwed i iechyd y cyhoedd neu i’r amgylchedd.
Yn dilyn hynny, fe wnaethom gomisiynu ymchwil i brofi baneri gwerthu ar-lein ar gyfer plaladdwyr i ddylunio a phrofi baneri neu rybuddion y gellid eu cynnwys mewn rhestrau gwerthu ar-lein i roi gwybod i brynwyr pa gynhyrchion y mae’r gyfraith yn caniatáu iddynt eu defnyddio. Byddwn yn bwrw ymlaen ag argymhellion yr ymchwil hon gyda’r nod o wella ymwybyddiaeth ar-lein o’r cyfyngiadau ar werthu PPPs.
Camau gweithredu i adeiladu a chryfhau cydymffurfiaeth
Cam gweithredu 15
Comisiynu prosiect tystiolaeth i adolygu lle gall data o amryw o ddangosyddion a metrigau lywio ymhellach ddull seiliedig ar risgiau ar gyfer cydymffurfio.
Cam gweithredu 16
Adolygu sut gellid ystyried aelodaeth o gynlluniau sicrwydd/diwydiant fel rhan o’r gwaith o asesu proffiliau risg defnyddwyr, i dargedu archwiliadau’n well.
Cam gweithredu 17
Sicrhau bod y canllawiau ar ddefnyddio PPPs, yn enwedig y ‘Codau Ymarfer ar gyfer defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion’ (a’r ‘Cod Ymarfer ar gyfer y rheini sy’n cyflenwi plaladdwyr i amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth’), yn cael eu diweddaru i fod yn gyfredol ac i barhau i fod yn glir ac yn hygyrch, gan gefnogi cydymffurfiaeth a gwreiddio IPM fel rhan allweddol o’n dull hirdymor o reoli plâu.
Cam gweithredu 18
Ymgysylltu â marchnadoedd ar-lein i drafod canfyddiadau ymchwil ynghylch gwerthu PPPs proffesiynol ar-lein, a dulliau o gynyddu gwelededd gofynion cyfreithiol o ran y defnydd a wneir ohonynt ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol.
Cyfeiriadau
Anastasiou E ac eraill, ‘Precision Farming Technologies for Crop Protection: A Meta-analysis’ Smart Agricultural Technology 2023, cyfrol 5, Erthygl 100323 (gwelwyd 18 Medi 2024)
Beaumelle L ac eraill ‘Pesticide Effects on Soil Fauna Communities – A Meta-analysis’ Journal of Applied Ecology 2023, cyfrol 60, rhifyn 7, tudalennau 1239-1253 (gwelwyd 20 Medi 2024)
Cook S ac eraill ‘Integrated Pest Management (IPM) for Biodiversity Enhancement. NECR575’ Natural England 2024 (gwelwyd 20 Medi 2024)
Creissen HE ac eraill, ‘Identifying the Drivers and Constraints to Adoption of IPM Among Arable Farmers in the UK and Ireland’ Pest Management Science 2021, cyfrol 77 (rhifyn 9), tudalennau 4148-4158. (gwelwyd 18 Medi 2024)
Garry F ac eraill. ‘Future Climate Risk to UK Agriculture from Compound Events’ Climate Risk Management 2021, cyfrol 32, Erthygl 100282 (gwelwyd 20 Medi 2024)
Garthwaite D ac eraill, ‘Pesticide Usage Survey Report 302: Amenity Pesticide Usage in the United Kingdom’ Fera Science Ltd 2020 (gwelwyd 18 Medi 2024)
Gunstone T ac eraill ‘Pesticides and Soil Invertebrates: A Hazard Assessment’ Frontiers in Environmental Science 2021, cyfrol 9, Erthygl 643847 (gwelwyd 20 Medi 2024)
Hallman C ac eraill ‘More Than 75 Percent Decline Over 27 years in Total Flying Insect Biomass in Protected Areas’ PLoS ONE 2017, cyfrol 12, rhifyn 10, erthygl e0185809 (gwelwyd 20 Medi 2024)
He D ac eraill ‘Problems, Challenges and Future of Plant Disease Management: from an Ecological Point of View’ Journal of Integrative Agriculture 2016, cyfrol 15, rhifyn 4, tudalennau 705-715 (gwelwyd 18 Medi 2024)
Pollard KM ac eraill ‘Battling the Biotypes of Balsam: the Biological Control of Impatiens glandulifera Using the Rust Fungus Puccinia komarovii var. glanduliferae in GB’ Fungal Biology 2021, cyfrol 125 (rhifyn 8), tudalennau 637-645 (gwelwyd 20 Medi 2024)
Serrao J and others ‘Side-effects of Pesticides on Non-target Insects in Agriculture: a Mini-review’ The Science of Nature 2022, cyfrol 109, Erthygl 17 (gwelwyd 20 Medi 2024)
Varah A ac eraill ‘The Costs of Human-induced Evolution in an Agricultural System’ Nature Sustainability 2020, cyfrol 3, tudalennau 63-71 (gwelwyd 20 Medi 2024)
Atodiad 1: Rhwymedigaethau statudol ar gyfer Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Blaladdwyr
Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun Gweithredu wneud y canlynol:
-
cynnwys targedau, mesurau, amserlenni ac amcanion meintiol i leihau risgiau ac effeithiau defnyddio plaladdwyr ar iechyd pobl ac ar yr amgylchedd ac i annog dull rheoli plâu yn integredig (IPM) a defnyddio dulliau neu dechnegau amgen i leihau dibyniaeth ar ddefnyddio plaladdwyr
-
cynnwys dangosyddion i fonitro’r defnydd o PPPs sy’n cynnwys sylweddau actif sy’n peri pryder penodol (yn enwedig os oes dewisiadau eraill ar gael) a thargedau ar gyfer lleihau’r defnydd a wneir ohonynt
-
disgrifio sut mae sicrhau bod egwyddorion cyffredinol rheoli plâu yn integredig (a nodir yn Atodiad 2) yn cael eu gweithredu gan bob defnyddiwr proffesiynol erbyn 1 Ionawr 2014
-
rhestru offer defnyddio PPPs y mae rheoliad 12(1) yn berthnasol iddo (yn unol ag Erthygl 8 (3)(a) o’r SUD) (fel y’i disgrifir o dan Amcan 3 ‘Gofynion offer’)
-
disgrifio sut bydd mesurau yn unol ag Erthyglau 5 i 15 yn cael eu rhoi ar waith, fel y nodir isod.
Crynodeb o Erthyglau 5 i 15 y SUD a sut maent wedi cael eu rhoi ar waith
-
Mae’n mynnu bod hyfforddiant priodol (a ddarperir gan gyrff dynodedig) ar gael i ddefnyddwyr proffesiynol, dosbarthwyr a chynghorwyr (Erthygl 5 a weithredir gan Reoliad 5 o Reoliadau 2012)
-
Mae’n mynnu bod gan ddosbarthwyr ddigon o staff ar gael adeg gwerthu, a bod gwerthu plaladdwyr sydd wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio’n broffesiynol yn cael ei gyfyngu i bobl sydd wedi’u hardystio i ddefnyddio plaladdwyr o’r fath (Erthygl 6 a weithredir gan Reoliad 9 o Reoliadau 2012)
-
Mae’n mynnu bod dosbarthwyr sy’n gwerthu plaladdwyr i ddefnyddwyr nad ydynt yn broffesiynol yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am risgiau i iechyd pobl ac i’r amgylchedd (Erthygl 6 a weithredir gan Reoliad 9 o Reoliadau 2012)
-
Mae’n mynnu bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r risgiau a’r effeithiau posibl i iechyd pobl, organebau nad ydynt yn dargedau a’r amgylchedd yn sgil defnyddio plaladdwyr ac opsiynau eraill nad ydynt yn cynnwys cemegau (Erthygl 7 a weithredir drwy Ymchwiliad Arfaethedig i Iechyd Pobl sy’n Defnyddio Plaladdwyr a Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth am Wenwyn y DU)
-
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff sy’n gyfrifol am weithredu systemau archwilio gael eu dynodi ac i offer penodol ar gyfer defnyddio plaladdwyr at ddefnydd proffesiynol fod yn destun archwiliadau rheolaidd (Erthygl 8 a weithredir gan Reoliad 6 o Reoliadau 2012)
-
Mae’n mynnu bod chwistrellu o’r awyr yn cael ei wahardd. Mae’n caniatáu rhanddirymiad rhag gwahardd chwistrellu o’r awyr mewn achosion arbennig penodol (drwy ofyn am drwydded chwistrellu o’r awyr sydd ag amodau penodol) (Erthygl 9 a weithredir gan Reoliadau 15 ac 16 o Reoliadau 2012)
-
Mae’n mynnu bod mesurau priodol yn cael eu mabwysiadu i ddiogelu’r amgylchedd dyfrol a chyflenwadau dŵr yfed rhag effaith plaladdwyr (Erthygl 11 a weithredir gan Reoliad 10 o Reoliadau 2012)
-
Mae’n ei gwneud yn ofynnol lleihau’r risgiau neu’r defnydd o blaladdwyr mewn ardaloedd penodol (Erthygl 12 a weithredir gan Reoliad 10 o Reoliadau 2012)
-
Mae’n mynnu bod mesurau angenrheidiol yn cael eu mabwysiadu i sicrhau nad yw gweithrediadau storio, trin, gwanhau, cymysgu, glanhau a gwaredu yn peryglu iechyd pobl na’r amgylchedd; bod mesurau angenrheidiol yn cael eu cymryd ynghylch plaladdwyr a ddefnyddir gan ddefnyddwyr nad ydynt yn broffesiynol i osgoi gweithrediadau trin peryglus; a bod mannau storio ar gyfer plaladdwyr at ddefnydd proffesiynol yn cael eu hadeiladu mewn ffordd sy’n atal rhyddhau diangen (Erthygl 13 a weithredir gan Reoliad 17 o Reoliadau 2012)
-
Mae’n mynnu bod yr holl fesurau angenrheidiol yn cael eu cymryd i hyrwyddo rheoli plâu mewn modd sy’n defnyddio llai o blaladdwyr, gan roi blaenoriaeth i ddulliau nad ydynt yn gemegol lle bynnag y bo modd. Drwy hyn byddai defnyddwyr proffesiynol plaladdwyr yn newid i arferion a chynhyrchion sydd â’r risg isaf i iechyd pobl ac i’r amgylchedd yn hytrach na’r opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer yr un broblem plâu (Erthygl 14 a weithredir gan Reoliad 4 o Reoliadau 2012, Cynllun Gweithredu 2013 a’r Cynllun Gweithredu hwn)
-
Mae’n ei gwneud yn ofynnol cyfrifo dangosyddion risg, nodi tueddiadau a nodi meysydd blaenoriaeth ac arferion da y gellir eu defnyddio i gefnogi cyflawni amcanion y SUD (Erthygl 15, a weithredir drwy Gynllun Gweithredu 2013 a’r Cynllun Gweithredu hwn)
Atodiad 2: Egwyddorion rheoli plâu yn integredig
Mae rheoli plâu yn integredig (IPM) yn ddull cyfannol sy’n gwneud y canlynol:
-
ystyried yn ofalus yr holl ddulliau diogelu planhigion sydd ar gael a defnyddio mesurau priodol i (a) annog pobl i beidio â datblygu poblogaethau o organebau niweidiol (sy’n cynnwys anifeiliaid di-asgwrn-cefn, clefydau a chwyn), neu (b) rheoli poblogaeth sefydledig
-
cadw’r defnydd o gynhyrchion diogelu planhigion a mathau eraill o ymyrraeth i lefelau y gellir eu cyfiawnhau’n ecolegol ac yn economaidd
-
lleihau’r risgiau i iechyd pobl ac i’r amgylchedd
Mae dulliau IPM yn datblygu ac yn cynnal ecosystemau gwydn i blâu a chlefydau, gan gefnogi mecanweithiau rheoli plâu naturiol ar yr un pryd.
Er bod llawer o fesurau IPM wedi cael eu datblygu i ddechrau ar gyfer defnyddiau amaethyddol a garddwriaethol, mae’n ddull cynaliadwy y gellir ei ddefnyddio hefyd yn y sectorau amwynder ac amatur, yn ogystal â choedwigaeth.
Beth mae IPM yn ei olygu’n ymarferol?
Mae IPM yn golygu dilyn rhai egwyddorion cyffredinol allweddol. Cyfeirir at y rhain yn Rheoliadau 2012, a ddaeth i rym ar 18 Gorffennaf 2012 ac maent yn trawsosod y SUD, 2009/128/EC, mewn perthynas â defnyddio plaladdwyr sy’n PPPs.
Atal
Mae defnyddio dulliau ataliol a diwylliannol yn lleihau’r risg y bydd plâu yn ymsefydlu. Gall y rhain gynnwys cylchdroi cnydau, arferion trin ac amaethu (sut mae’r tir yn cael ei baratoi i dyfu cnydau), tyfu amrywiaethau sy’n gwrthsefyll plâu, mesurau hylendid (er enghraifft, glanhau peiriannau ac offer yn rheolaidd), ysgubo arwynebau caled ac annog ysglyfaethwyr naturiol.
Monitro
Nid oes angen rheoli pob math o bryfed a chwyn a allai fod yn niweidiol. Gall anifeiliaid a phlanhigion sy’n cael eu hystyried yn blâu neu chwyn fod yn bwysig i strwythur a swyddogaeth ecosystemau lleol.
Mae monitro effeithiol yn cynnwys archwilio, canfod plâu, rhagweld ac asesu lefelau poblogaethau plâu. Mae’n sicrhau mai dim ond pan fo hynny’n angenrheidiol y defnyddir plaladdwyr a bod y rheolaeth gywir yn cael ei dewis a’i defnyddio yn y ffordd gywir ar yr adeg iawn.
Dylai monitro gynnwys sylwadau wyneb yn wyneb a lle bo hynny’n ymarferol, systemau rhagweld a diagnosis cynnar sy’n wyddonol gadarn, yn ogystal â defnyddio cyngor gan unigolion, cynghorwyr neu agronomegwyr sydd â chymwysterau proffesiynol.
Trothwyon
Mae trothwyon cadarn a gwyddonol gadarn (gan ystyried pwysau pla, rhanbarth, cnydau ac amodau hinsoddol penodol) yn elfennau hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau ac maent yn dibynnu ar fonitro effeithiol.
Unwaith y bydd unrhyw fesuriad yn mynd y tu hwnt i’r trothwy, neu drothwy a ragwelir, fel pan fydd lefelau poblogaeth plâu, difrod gan blâu neu fynychder chwyn yn dod yn anghynaliadwy yn economaidd neu’n amgylcheddol, dylid cymryd camau i reoli’r pla. Mae’r pwyslais ar reoli yn hytrach na dileu, gan y gallai caniatáu i blâu oroesi ar lefelau rhesymol fod o fudd i ysglyfaethwyr naturiol a phryfed peillio a helpu hefyd i atal ymwrthedd rhag datblygu drwy leihau’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â phlaladdwyr.
Ymyrraeth a rheolaeth
Dylid dewis y dulliau rheoli plâu ar sail effeithiolrwydd a risg. Rhaid ffafrio dulliau ffisegol, biolegol a dulliau anghemegol cynaliadwy yn hytrach na dulliau cemegol os ydynt yn ymarferol ac yn rheoli plâu yn foddhaol.
Ffisegol – gan gynnwys chwynnu â llaw, chwynnu mecanyddol, rhwystrau ffisegol fel rhwydi dros ffrwythau bach a sugno pryfed i gael gwared arnynt.
Biolegol – gan gynnwys defnyddio rhywogaethau ysglyfaethus, technegau sy’n tarfu ar bryfed i’w hatal rhag paru a bioblaladdwyr. Mae’n bwysig cydnabod bod gwahanol gategorïau o fioblaladdwyr, ac nad ydynt yn peri llai o risg i’r amgylchedd yn eu hanfod. Dylid eu defnyddio hefyd mewn ffordd gyfrifol ac wedi’i thargedu.
Pan ddefnyddir plaladdwyr cemegol, dylid eu defnyddio ar lefelau sy’n angenrheidiol. Er enghraifft, y dos effeithiol lleiaf a’r amlder defnyddio lleiaf yn ogystal â thargedu’r defnydd er mwyn lleihau’r effeithiau negyddol posibl. Bydd defnyddio technoleg fanwl, trin yn y fan â’r lle, Weed Wiper, lleihau drifft, ac offer a thechnegau tebyg eraill yn helpu i’w defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.
Rheoli ymwrthedd
Dylid defnyddio strategaethau sy’n lleihau ymwrthedd. Lle rydym yn gwybod fod y risg o ymwrthedd yn erbyn mesur diogelu planhigion a lle mae lefel yr organebau niweidiol yn golygu bod angen rhoi plaladdwyr ar y cnydau dro ar ôl tro, dylid defnyddio’r strategaethau atal ymwrthedd sydd ar gael i gynnal effeithiolrwydd y cynhyrchion.
Adolygu a gwerthuso
Dylid mynd ati’n rheolaidd i adolygu llwyddiant yr holl fesurau diogelu planhigion a rheoli plâu er mwyn gallu asesu, addasu a theilwra eu heffeithiolrwydd i bob sefyllfa. Gellir gwneud hyn drwy gynlluniau effeithiol i reoli plâu yn integredig sy’n cael eu hadolygu o un flwyddyn i’r llall.
Atodiad 3: Ffigurau a ffeithiau am blaladdwyr
Mae’r data canlynol wedi dod gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) ac roedd yn gywir ym mis Awst 2024.
Ers 1990, bu cynnydd graddol yn y defnydd o blaladdwyr amaethyddol ledled y byd. Mae’r FAO yn amcangyfrif bod 3,441 o gilodunelli metrig (kT) o blaladdwyr wedi cael eu defnyddio ledled y byd yn 2020. Mae hyn yn dangos cynnydd o 91% ers 1990 pan ddefnyddiwyd amcangyfrif o 1,806 kT (mae’r gwerthoedd hyn yn agored i ddiweddariadau ôl-weithredol gan FAO os daw data newydd i law).
Dros yr un cyfnod yn y DU, mae cyfanswm pwysau’r sylwedd actif a ddefnyddir gan ffermwyr a thyfwyr wedi gostwng bron i 60% ers 1990 (gan gynnwys asid sylffwrig) neu draean (ac eithrio asid sylffwrig) (PUS). Defnyddiwyd 19.96 kT ar gnydau âr yn 1990 (ac eithrio asid sylffwrig), o’i gymharu â 12.55 kT yn 2020 (Arolwg Defnyddio Plaladdwyr, 2020). Defnyddiwyd asid sylffwrig fel dysychydd (cyfrwng sychu) ar datws a rhoddwyd y gorau i’w ddefnyddio rhwng 2004 a 2010. Defnyddiwyd cyfraddau sawl gwaith yn uwch ohono na phlaladdwyr eraill ond mewn ardaloedd gofodol llai o faint (tua 0.2% o gyfanswm yr arwynebedd â chnydau arnynt). O ganlyniad, roedd yn cynnwys cyfran anghymesur o’r pwysau a ddefnyddiwyd.
Mae amryw o ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ba blaladdwyr a fydd yn cael eu defnyddio yn y dyfodol – gan effeithio ar y pwysau a ddefnyddir a’r llwyth. Trafodir isod rai o’r prif ffactorau - colli bioamrywiaeth, ymwrthedd i blaladdwyr, newid yn yr hinsawdd ac argaeledd cynhyrchion.
Mae bioamrywiaeth a niferoedd pryfed yn hanfodol i’n ffyniant economaidd. Mae pryfed peillio’n darparu buddion o tua £630 miliwn y flwyddyn i gynhyrchu cnydau yn y DU. Mae’r ffactorau sy’n cyfrannu at golli bioamrywiaeth yn gymhleth ac yn amrywiol, yn enwedig gan fod cysylltiad yn aml rhwng ffactorau eraill sy’n sbarduno colli bioamrywiaeth fel newid defnydd tir a cholli cynefinoedd ac arferion amaeth dwys. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gynyddol y gall plaladdwyr effeithio ar rywogaethau nad ydynt yn darged fel pryfed peillio a chreaduriaid di-asgwrn-cefn sy’n byw yn y pridd (Beaumelle ac eraill, 2023). Canfu adolygiad o 400 o astudiaethau fod plaladdwyr wedi cael effaith negyddol ar 70.5% o fesurau bioamrywiaeth ar gyfer creaduriaid di-asgwrn-cefn y pridd (Gunstone ac eraill, 2021) gan ddangos eu bod yn ffactor sy’n cyfrannu at y dirywiad rydym ni’n ei weld mewn bioamrywiaeth. Fel enghraifft arall, tynnodd adolygiad diweddar sylw at effeithiau niweidiol plaladdwyr ar bryfed llesol fel pryfed peillio ac ysglyfaethwr parasitaidd (Serrao ac eraill, 2022).
Mae bioamrywiaeth wedi bod yn dirywio ers degawdau (Hallman ac eraill, 2017) a bydd yn her sylweddol i atal dirywiad rhywogaethau yn ystod amserlen targed niferoedd rhywogaethau 2030 yn Lloegr (a tharged 2030 sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru) a bydd angen gweithredu ar draws yr ystod lawn o bwysau amgylcheddol. Gall IPM arwain at fanteision sylweddol o ran lleihau’r pwysau a gwella’r amgylchedd. Mae astudiaethau wedi dangos y gall IPM helpu i wella cyfalaf naturiol, gan gynnwys iechyd pridd ac ansawdd dŵr, a gall arwain at fwy o niferoedd ac amrywiaeth o bryfed llesol (Cook ac eraill, 2024).
Mae gorddibyniaeth ar gynhyrchion unigol yn sbardun i wrthsefyll plaladdwyr, sy’n arwain at broblemau lle nad yw plaladdwyr yn darparu rheolaeth effeithiol mwyach. Yn Lloegr, mae ymwrthedd cynffonwellt du i chwynladdwyr yn gyffredin iawn ac amcangyfrifir ei bod yn costio bron i £400 miliwn y flwyddyn i ffermwyr yn yr elw gros a gollir (prisiau 2014) (Varah ac eraill, 2020).
Mae hefyd yn debygol y bydd heriau rheoli plâu ychwanegol yn deillio o newid yn yr hinsawdd yn y blynyddoedd i ddod oherwydd tywydd mwy anrhagweladwy a newidiadau i ystod ac amlder rhai plâu a chlefydau (rhagor o wybodaeth ar wefan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig). Yn y tymor hwy (30 i 50 mlynedd), rhagwelir y bydd malltod tatws hwyr – clwyf sy’n effeithio ar gnydau tatws sy’n digwydd mewn tywydd cynnes a llaith – yn debygol o ddigwydd yn amlach ledled y DU, gyda’r cynnydd mwyaf mewn rhanbarthau gorllewinol a gogleddol. Yn nwyrain yr Alban, rhanbarth sydd â chrynodiad uchel o ffermio tatws ar hyn o bryd, gall malltod tatws hwyr ddigwydd tua 70% yn amlach (Garry ac eraill, 2021).
Bydd cyfansoddiad y cynhyrchion sydd ar gael yn newid dros amser. Efallai y bydd nifer o sylweddau actif cymeradwy yn cael eu tynnu ôl yn y dyfodol. Gallai hyn fod oherwydd nad ydynt wedi pasio’r asesiad risg gyda’r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf, neu oherwydd bod deiliaid awdurdodiad wedi penderfynu peidio â gwneud cais am adolygiad am resymau masnachol. Erbyn hyn, mae tua 14% yn llai o sylweddau actif ar gael ym Mhrydain nag oedd yna yn 2016.
Bydd y dewisiadau mae defnyddwyr yn eu gwneud ynghylch plaladdwyr penodol hefyd yn newid wrth fabwysiadu technegau amgen ac yn sgil datblygiadau technolegol arloesol.