Papur polisi

Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025

Mae’r cynllun hwn yn nodi blaenoriaethau pedair llywodraeth y DU ar gyfer rheoli plâu, chwyn a chlefydau yn gynaliadwy. Mae’n ceisio lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr ac effaith hynny ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl, gan gefnogi cynhyrchiant amaethyddol ar yr un pryd.

Dogfennau

Manylion

Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025 wedi’i fframio yn erbyn ein rhwymedigaethau statudol i reoleiddio plaladdwyr. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth rhwng Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac mae’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig i gyd.

Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn nodi’r strategaeth ar gyfer rheoli’r defnydd o blaladdwyr a lleihau’r risg. Mae’n adlewyrchu blaenoriaethau ac uchelgeisiau pob un o’r 4 llywodraeth, a’i nod yw hyrwyddo defnydd cynaliadwy o blaladdwyr i leihau’r effeithiau ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl, gan gefnogi diogelwch bwyd a rheoli plâu ac ymwrthedd i blaladdwyr yn effeithiol.

Mae’r cynllun yn cynnwys camau gweithredu sydd wedi’u strwythuro o amgylch 3 amcan:

  • annog pobl i ddefnyddio dulliau rheoli plâu yn integredig (IPM)

  • pennu amserlenni a thargedau ar gyfer lleihau’r defnydd o blaladdwyr

  • cryfhau cydymffurfiaeth i sicrhau diogelwch a chanlyniadau amgylcheddol gwell

Mae dwy ddogfen ar y dudalen hon:

  1. Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025.

  2. ‘Esbonio targed y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol’, sy’n esbonio’n fanylach y targed lleihau domestig ar gyfer plaladdwyr yn y DU a sut bydd y targed yn cael ei gyflawni.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2025

Argraffu'r dudalen hon