Papur polisi

Esbonio targed y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol: esboniad manwl o darged Plaladdwyr y Cynllun Gweithredu a sut y caiff ei gyflawni

Cyhoeddwyd 21 Mawrth 2025

Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol 2025 ar gyfer Plaladdwyr yn y DU yn gosod y targed domestig i leihau’r defnydd o blaladdwyr yn y DU. Mae’r ddogfen hon yn egluro beth yw ein targed a pham y cafodd ei ddewis, yn cyflwyno’r cynnydd cychwynnol a wnaed, ac yn edrych ar beth arall y mae angen ei wneud i’w gyflawni.

Targed y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol

Yn y cynllun gweithredu, rydym yn gosod targed domestig gofynnol i leihau pob un o elfennau metrigau Dangosydd Llwyth Plaladdwyr (PLI) tir âr y Deyrnas Unedig (DU) o 10% o leiaf erbyn 2030, gan ddefnyddio ffigurau ar gyfer 2018 fel llinell sylfaen.

Mae targed y cynllun gweithredu yn seiliedig ar y defnydd o blaladdwyr yn y sector amaethyddol âr. Mae ffermio tir âr i gyfrif am oddeutu 85% i 90% o’r holl blaladdwyr a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth yn y DU. Dyma lle mae gennym y data mwyaf dibynadwy, ac mae PLI y DU wedi cael ei ddylunio a’i brofi’n helaeth ar ddata âr. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n cyfrifo PLI y DU ar gyfer yr arolygon plaladdwyr amaethyddol eraill a gynhaliwyd fel rhan o’r Arolwg Defnyddio Plaladdwyr (er enghraifft, ffrwythau meddal, perllannau, cnydau gwarchodedig bwytadwy), ond nid yw’r rhain yn rhan o’r targed ar hyn o bryd. Darllenwch ein hymchwil ddiweddaraf ar y gwaith hwn. Ar hyn o bryd nid oes gennym ddata cadarn ar y defnydd o blaladdwyr yn y sectorau amwynder ac amatur, felly nid yw’r rhain yn cael eu hystyried yn y PLI, ond mae’r cynllun gweithredu yn ymrwymo i sicrhau gwybodaeth fwy cynhwysfawr am natur y defnydd o blaladdwyr yn y sectorau hyn.

Yn bwysig, bydd y targed yn cael ei adolygu’n gyson. Cawn ein harwain gan y dystiolaeth, a byddwn yn adolygu’r cynnydd yn rheolaidd yn erbyn y targed. Byddwn yn ystyried a oes angen addasu’r cwmpas a’r lefel darged i sicrhau ein bod yn cael y darlun mwyaf cyflawn posibl o bwysau plaladdwyr ar yr amgylchedd, ac yn sicrhau bod y targed yn parhau i gynnal lefel heriol o uchelgais.

Nod y targed

Nod y targed yw helpu’r llywodraeth i ddeall a ydym yn cyflawni ein huchelgais i leihau peryglon plaladdwyr yn yr amgylchedd. Dylai roi sicrwydd ein bod yn gweithredu’n gyfrifol ac yn gynaliadwy yn ein hymdrech i leihau’r risg amgylcheddol yn sgil defnyddio plaladdwyr, gan gynnal cystadleurwydd amaethyddiaeth y DU ar yr un pryd.

Mae’r targed wedi’i gynllunio i fod yn gyraeddadwy, yn seiliedig ar y set uchelgeisiol o gamau gweithredu a amlinellir yn y cynllun gweithredu, ynghyd â chamau gweithredu sydd eisoes ar y gweill. Er enghraifft, y cymhellion ariannol am ddefnyddio dulliau rheoli plâu integredig (IPM), a gynigiwyd drwy’r cynllun Cymhelliant Ffermio Cynaliadwy. Nid yw’r targed yn gosod unrhyw gyfyngiadau na gofynion newydd ar ffermwyr. Fodd bynnag, ni fydd cyrraedd y targed yn hawdd a bydd yn gofyn am weithredu parhaus gan bedair llywodraeth y DU, y diwydiant a rheolwyr tir.

Bydd y targed domestig i leihau’r defnydd o blaladdwyr a osodir yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol hefyd yn cyfrannu at Darged 7 Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal (GBF) y cytunwyd arno yn COP15, i leihau’r risgiau cyffredinol sy’n deillio o blaladdwyr a chemegau peryglus iawn o’r hanner o leiaf erbyn 2030. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r targedau y cytunwyd arnynt ym Montreal. Roedd arweinyddiaeth ddiplomyddol y DU yn hanfodol i gael cytundeb ar y fframwaith a byddwn yn parhau i hyrwyddo gweithrediad y fframwaith.

Mae targed y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yn un a rennir, a bydd gwledydd unigol yn dechrau o wahanol linell sylfaenol wrth wneud eu cyfraniadau at y targed byd-eang cyffredinol o 50%. Wrth edrych dros y 30 mlynedd diwethaf, mae’r DU eisoes wedi gwneud cynnydd da tuag at leihau’r defnydd o blaladdwyr, o’i chymharu â gweddill y byd. Er bod cyfanswm pwysau’r sylwedd plaladdwyr actif a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth wedi cynyddu tua 90% yn fyd-eang rhwng 1990 a 2020, gwelodd y DU ostyngiad o bron 60% dros yr un cyfnod. Ond gallwn wneud mwy eto. Dyna pam yr ydym wedi gosod targed y DU i leihau’r defnydd o blaladdwyr yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol.

Nid yw’n fwriad i darged y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang gael ei fesur gan PLI y DU. Felly, ni fydd yn bosibl cyfatebu newid yn PLI y DU yn uniongyrchol i gynnydd tuag at darged y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Rhaid cytuno ar y dangosydd ar gyfer targed y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang a’i gyfrifo cyn y gellir asesu cynnydd y DU. Bydd cyflawni ein targed domestig sy’n seiliedig ar PLI yn gyfraniad credadwy at darged cyffredinol y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang.

Bu’r DU hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chytuno ar Fframwaith Byd-eang newydd ar Gemegau. Mae hyn yn cynnwys targedau i gael gwared â phlaladdwyr peryglus iawn mewn amaethyddiaeth yn raddol a rhoi polisïau a rhaglenni ar waith i gynyddu’r gefnogaeth i arferion amaethyddol mwy diogel a mwy cynaliadwy, y bydd y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn helpu i’w cyflawni.

Sut bydd y targed yn cael ei fesur

Bydd y targed yn cael ei fesur gan ddefnyddio Dangosydd Llwyth Plaladdwyr y DU (PLI y DU). Roedd y dangosydd hwn wedi’i seilio’n wreiddiol ar PLI Denmarc ond mae wedi’i addasu ar gyfer cyd-destun y DU. Fe’i datblygwyd dros nifer o flynyddoedd gan dîm o arbenigwyr yn y maes, cafodd fewnbwn gan weithgorau arbenigol, ac mae wedi bod drwy adolygiad annibynnol gan gymheiriaid.

Nid yw PLI y DU yn mesur niwed nac yn adlewyrchu canlyniadau amgylcheddol, gan nad yw’n ystyried unrhyw arferion lliniaru nac yn cyfrifo’r cysylltiad â sylweddau a gaiff poblogaethau bywyd gwyllt go iawn. Nid yw ychwaith yn canolbwyntio ar iechyd pobl. Yn hytrach, nod y PLI yw dangos tueddiadau yn y pwysau posibl ar yr amgylchedd sy’n deillio o ddefnyddio plaladdwyr.

I gyflawni hyn, mae PLI y DU yn cyfuno data ar y defnydd o blaladdwyr â gwybodaeth am briodweddau plaladdwyr, megis pa mor niweidiol ydyn nhw i wahanol grwpiau o fywyd gwyllt a’r ffordd maen nhw’n ymddwyn yn yr amgylchedd. Mae’n cynnwys pedwar metrig tynged amgylcheddol (sy’n cwmpasu ymddygiad yn yr amgylchedd fel pa mor gyflym mae plaladdwyr yn dadelfennu) ac 16 o fetrigau ecowenwyndra (sy’n cwmpasu gwenwyndra plaladdwyr i fywyd gwyllt nad yw’n cael ei dargedu, fel gwenyn a physgod). Mae’r 20 metrig hyn wedi’u cynllunio o amgylch y profion rheoleiddio safonol ar gyfer cymeradwyo sylweddau actif ac maen nhw’n cael eu mesur yn unol â methodoleg wyddonol drylwyr. Daw’r data a ddefnyddir i gyfrifo’r PLI o Arolwg Defnyddio Plaladdwyr y DU (PUS) a’r Gronfa Ddata Priodweddau Plaladdwyr (PPDB).

Mae’r PLI yn ystyried gwenwyndra acíwt (tymor byr) a chronig (tymor hir) sylweddau actif unigol ar ystod o organebau nad ydynt yn cael eu targedu gan y plaladdwr. Mae’r metrigau acíwt yn canolbwyntio ar ddos neu grynodiad plaladdwyr sy’n achosi marwolaeth ar ôl cael cysylltiad ag ef am gyfnod byr. Mae’r metrigau cronig yn canolbwyntio ar ddos neu grynodiad plaladdwr lle na welir unrhyw niwed ym mhob rhywogaeth ddangosol a defnyddir mesurau iechyd pwysig fel twf ac atgenhedlu wrth eu hasesu. Darllenwch y fethodoleg fanwl ar gyfer PLI y DU sydd wedi’i chyhoeddi i gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fetrigau a sut mae PLI y DU wedi cael ei ddatblygu dros amser.

Drwy ddefnyddio PLI y DU, mae ein targed yn ystyried priodweddau cemegol plaladdwyr sy’n cael eu defnyddio. Mae’n golygu ein bod yn mesur newidiadau yn y pwysau posibl sy’n cael eu rhoi ar yr amgylchedd o ddefnyddio plaladdwyr dros amser, yn hytrach na dim ond newidiadau yn faint o blaladdwyr sy’n cael eu defnyddio.

Pam mae’r targed hwn wedi cael ei ddewis

I fod yn effeithiol, mae’r targed yn seiliedig ar ganlyniadau y gellir eu mesur ac fe’i cynlluniwyd i fod yn ymestynnol, yn fesuradwy ac â therfyn amser.

Mae angen inni osod targed sy’n dangos newid gwirioneddol, ond cynaliadwy. Gallai gosod targed uchelgeisiol fod yn gatalydd ar gyfer arloesi a gwella, ond mae angen i darged hefyd fod yn gyraeddadwy er mwyn bod yn effeithiol. Os yw’n afrealistig, gallai’r targed arwain at ddiffyg cymhelliant ac ni fydd yn arf effeithiol i annog gweithredu. Rydyn ni’n credu bod y targed rydyn ni wedi’i ddewis yn gymesur, gan daro’r cydbwysedd cywir rhwng uchelgais a’r gallu i gyflawni.

Mae’r targed yn ystyried metrigau unigol PLI y DU, yn hytrach nag un dangosydd cyffredinol o’r llwyth plaladdwyr. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar sbarduno gweithredu ar draws amrediad y metrigau yn hytrach nag, er enghraifft, gwneud cynnydd ar leihau niwed posibl i bysgod ond peidio â rhoi sylw i wenyn.

Rydym am gyrraedd y targed erbyn 2030. Mae’r pwynt gorffen hwn wedi cael ei ddewis i gyd-fynd â Tharged arfaethedig 7 o dan y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Oherwydd amlder arolygon defnyddio plaladdwyr, mae PLI y DU wedi’i gyfrifo ar hyn o bryd bob dwy flynedd gan ddechrau o 2010 tan 2022. Rydym wedi dewis 2018 fel y flwyddyn sylfaen ar gyfer y targed gan fod hon yn flwyddyn gymharol nodweddiadol o ran y defnydd o blaladdwyr. Mae hefyd yn rhoi cyfnod o 10 mlynedd o leiaf i asesu cynnydd hyd at 2030. Gwnaethom osgoi defnyddio 2020 fel y flwyddyn sylfaen gan fod hon yn flwyddyn lle’r oedd y defnydd o blaladdwyr yn sylweddol is na’r holl flynyddoedd blaenorol, yn bennaf am fod tywydd heriol wedi effeithio ar batrymau cnydau. Felly, ni fyddai defnyddio 2020 yn bwynt cyfeirio priodol er mwyn deall i ba gyfeiriad y mae’r PLI yn symud.

Gwyddom fod ffactorau fel y tywydd yn dylanwadu ar y defnydd o blaladdwyr, a fydd yn effeithio ar y cnydau a dyfir yn ogystal â lefelau gwahanol blâu, chwyn a chlefydau a welir mewn blwyddyn benodol. Fel y gwelwyd yn 2020, gall hyn arwain at amrywiadau sylweddol yn y defnydd o blaladdwyr rhwng blynyddoedd a fydd wedyn yn cael eu hadlewyrchu yn PLI y DU (gweler Ffigur 1). Fel y cyfryw, wrth adrodd yn y dyfodol byddwn yn cyflwyno cynnydd tuag at y targed (wedi’i asesu drwy gymariaethau pwynt i bwynt rhwng blynyddoedd penodol) yng nghyd-destun tueddiadau cyffredinol, er mwyn i ni ystyried yr amrywiadau hyn.

Mae’r tueddiadau hyn i’w gweld yn Ffigur 1, sy’n dangos y newid yn y llwyth ar gyfer pob un o’r 20 metrig PLI y DU rhwng 2010 a 2022. Dyma’r cyfnod amser llawn y mae gennym ddata PLI ar ei gyfer ar hyn o bryd. Mae’r metrigau’n dangos tueddiadau amrywiol, sy’n adlewyrchu gwahanol briodweddau’r plaladdwyr a ddefnyddir yn y DU a’r newid yn y defnydd o’r plaladdwyr hyn dros amser. Darllenwch yr adroddiad cyhoeddedig diweddaraf ar ddata PLI y DU i gael rhagor o wybodaeth.

Ffigur 1. Tueddiadau yn Nangosydd Llwyth Plaladdwyr y DU (PLI y DU)

Mae Ffigur 1 yn dangos tueddiadau yn yr 20 metrig sy’n cynnwys PLI y DU ar gyfer cnydau âr rhwng 2010 a 2022. Mynegir gwerthoedd fel canran (%) o’r newid o’i gymharu â 2010. Mae’r graddliwio o amgylch y llinellau tuedd yn adlewyrchu’r cyfwng hyder o 90%.

Mae’r data ffynhonnell ar gyfer Ffigur 1 ar gael yn Atodiad 1 yr adroddiad Cam 5 PLI, a gynhyrchwyd gan Fera Science Ltd a Phrifysgol Swydd Hertford ar ran Defra.

Cynnydd presennol tuag at darged y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol

Mae Ffigur 2 yn dangos y newid a welwyd ar gyfer pob un o’r 20 metrig PLI rhwng 2018 (y flwyddyn sylfaen darged) a 2022 (y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ddata ar ei chyfer). Rydym eisoes yn gweld cynnydd da tuag at y targed, oherwydd bod nifer o blaladdwyr risg uchel wedi cael eu tynnu’n ôl dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â gostyngiad cyffredinol yn y defnydd o blaladdwyr ers 2018.

O’r 20 metrig PLI, mae 16 wedi dangos gostyngiad cymedrig o 10% neu fwy rhwng 2018 a 2022.

Daw’r data am y defnydd o blaladdwyr sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo PLI y DU o’r Arolwg Defnyddio Plaladdwyr. Daw’r data hwn o sampl o ddaliadau ac felly, wrth amcangyfrif gwerthoedd cenedlaethol a rhanbarthol, mae lefel o ansicrwydd yn gysylltiedig â’r amcangyfrifon hyn. Wrth asesu cynnydd tuag at darged y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol, mae’n bwysig rhoi cyfrif am yr ansicrwydd hwn. Gwelir yr ansicrwydd hwn yn y bariau gwall yn Ffigur 2, sy’n cynrychioli’r cyfwng hyder o 90%. Byddem yn asesu bod tebygolrwydd o 90% bod gwir werth pob metrig yn disgyn rhwng y bariau. 

O’r 20 metrig PLI, mae 12 wedi dangos gostyngiad cymedrig o 10% neu fwy rhwng 2018 a 2022 ac mae ganddynt gyfwng hyder o 90% sy’n gyfan gwbl uwch na gostyngiad o 10%. Ar gyfer y 12 metrig hyn, gallwn felly fod yn fwy hyderus bod y llwyth wedi lleihau o leiaf 10% rhwng 2018 a 2022. 

Dim ond un metrig, sy’n ystyried gwenwyndra i gacwn parasitig, sydd wedi dangos cynnydd mewn llwyth rhwng 2018 a 2022 (er bod cryn dipyn o ansicrwydd yn yr amcangyfrif hwn). Mae graddfa’r cynnydd yn dangos rhai o’r heriau o ran cyflawni targed y Cynllun Gweithredu ar gyfer pob metrig, wrth i gyfansoddiad y plaladdwyr a ddefnyddiwyd dros amser newid yn sgil newidiadau o ran awdurdodi a defnyddio plaladdwyr.

Ffigur 2. Newid yn PLI y DU rhwng 2018 a 2022

Mae’r siart yn dangos canran (%) y newid ym mhob un o 20 metrig PLI y DU rhwng 2018 (llinell sylfaen darged y Cynllun Gweithredu) a 2022 (y flwyddyn ddiweddaraf y mae data PLI ar gael). Mae’r bariau solet yn dangos yr amcangyfrif gorau o’r newid rhwng y blynyddoedd hyn, ac mae’r bariau gwall yn dangos y cyfwng hyder o 90%.

Mae Ffigur 2 yn dangos ystod eang o ganlyniadau ar draws metrigau PLI. Mae’r rhain yn amrywio o ostyngiad o fwy na 90% ar gyfer gwenyn (geneuol), i gynnydd o bron 50% ar gyfer cacwn parasitig, dros yr un cyfnod. O’r 20 metrig, roedd pob un yn dangos rhywfaint o ostyngiad yn y llwyth plaladdwyr, ar wahân i gacwn parasitig.

Tabl 1. Newid yn PLI y DU rhwng 2018 a 2022: data ffynhonnell

Mae Tabl 1 yn rhoi’r data ffynhonnell a ddefnyddiwyd ar gyfer Ffigur 2.

Dangosydd Newid cymedrig yn y PLI cyfwng hyder o 90% - isel cyfwng hyder o 90% - uchel
Gwenyn — geneuol –98 –103 –92
Gwenyn — cyswllt –81 –88 –73
Adar — cronig –59 –64 –53
Pysgod — acíwt –47 –52 –42
Mamaliaid — cronig –41 –46 –35
Adar — acíwt –38 –57 –19
Chwain dŵr — cronig –35 –45 –24
Gwiddon rheibus –28 –39 –16
Pysgod — cronig –27 –38 –17
Pryfed genwair — acíwt –26 –30 –22
Mamaliaid — acíwt –22 –34 –10
(wedi’i dalgrynnu i fyny)
Chwain dŵr — acíwt –18 –28 –9
Pryfed genwair — cronig –16 –20 –12
Ffactor biogronni –12 –16 –9
Symudedd dŵr daear –12 –15 –10
(wedi’i dalgrynnu i lawr)
Llif draenio –10 –13 –7
Planhigion dyfrol –9 –14 –4
Parhad pridd –8 –11 –6
Algae –3 –9 0
Cacwn parasitig 45 0 112

Sut bydd y targed yn cael ei gyflawni

Rydym wedi gweld cynnydd da hyd yma, ond mae llawer i’w wneud o hyd i gyflawni’r targed. Ar gyfer y metrigau sydd heb weld gostyngiad o 10% o leiaf rhwng 2018 a 2022, bydd gostyngiadau sylweddol yn y llwyth plaladdwyr yn hanfodol. Fodd bynnag, nid yw gweithredu wedi’i gyfyngu i’r metrigau hyn. Nid yw’r ffaith bod nifer o fetrigau PLI mewn sefyllfa gref nawr yn golygu o reidrwydd y byddant yn aros felly yn awtomatig. Unwaith y bydd metrig yn dangos gostyngiad o 10% dros gyfnod penodol, nid dyma ddiwedd y stori gan fod metrigau PLI yn gallu cynyddu yn ogystal â gostwng. Yn wir, mae’r tueddiadau tymor hwy yn y PLI (gweler Ffigur 1) yn dangos bod y metrigau’n gallu dangos amrywiadau cryf dros amser. Bydd newid amodau yn y dyfodol, fel newid hinsawdd, ymwrthedd i blaladdwyr sy’n esblygu, a phwysau cynyddol o ran plâu, yn ei gwneud yn anodd cadw’r PLI ar lefelau isel.

Bydd angen i bawb weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r newid i ddewisiadau amgen nad ydynt yn gemegol ar gyfer rheoli plâu. Mae’r Cynllun Gweithredu yn amlinellu cyfres o gamau y bydd y llywodraeth yn eu cymryd, a fydd yn golygu bod pawb sy’n rheoli ein tir yn gallu bod yn hyderus i newid i ddewisiadau mwy cynaliadwy, gan wybod eu bod yn dal i allu rheoli plâu yn effeithiol. Drwy weithredu parhaus gan y llywodraeth, y diwydiant, rheolwyr tir a rhanddeiliaid ehangach, credwn y gallwn weld gostyngiad cyffredinol yn y defnydd o blaladdwyr dros amser, ac yn enwedig gostyngiad yn y plaladdwyr mwyaf niweidiol, a fydd yn ei gwneud yn haws cyflawni’r targed hwn.

Gan fod yr Arolwg Defnyddio Plaladdwyr âr yn cael ei gynnal bob dwy flynedd, a gall fod oedi o hyd at flwyddyn i ddwy flynedd cyn derbyn a phrosesu’r canlyniadau, mae’n debygol na fydd diweddariad nesaf PLI y DU âr ar gael tan 2026. Bydd hyn yn caniatáu i asesiad manylach o gynnydd ledled y DU gael ei gynnal a’i adrodd. Drwy gydol oes y Cynllun Gweithredu, byddwn yn asesu cynnydd yn rheolaidd yn erbyn y targed. Nid yw cynnydd wedi’i gyfyngu i ostyngiad o 10% ar draws pob metrig PLI. Dyma’r isafswm rydym am ei weld. Byddwn yn adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael yn rheolaidd i asesu a ddylid addasu’r lefel darged isaf i gynnal lefel heriol o uchelgais.

Yr hyn sy’n bwysig yw na ddylid ystyried y targed ar ei ben ei hun. Ochr yn ochr â’r prif darged, yn seiliedig ar PLI y DU, rydym hefyd yn bwriadu parhau i adrodd yn erbyn fframwaith ehangach o ddangosyddion sy’n seiliedig ar weithredu ac ar ganlyniadau, a fydd yn cefnogi’r gwaith o fonitro, gwerthuso ac arwain mentrau’r Cynllun Gweithredu. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau bob 2 flynedd ar ganlyniadau monitro’r dangosydd, gan gynnwys cynnydd yn erbyn y targedau PLI.