Canllawiau

Credyd Cynhwysol a'ch Ymrwymiad Hawlydd

Diweddarwyd 31 October 2024

Eich ymrwymiad hawlydd

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi dderbyn eich ymrwymiad hawlydd.

Bydd eich ymrwymiad hawlydd yn gosod allan beth rydych wedi’i gytuno i’w wneud i baratoi at ac i chwilio am waith, neu i gynyddu eich enillion os ydych eisoes yn gweithio. Bydd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn barhaus. Bob tro bydd yn cael ei ddiweddaru bydd angen i chi dderbyn ymrwymiad hawlydd newydd i barhau i gael Credyd Cynhwysol.

Yr ymrwymiad hawlydd yw eich cofnod o’r gofynion rydych wedi’u derbyn mewn cyfnewid am gael Credyd Cynhwysol ar goblygiadau o beidio a’u cwrdd.

Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu torri os na fyddwch yn cwrdd â’ch gofynion. Gelwir hwn yn sancsiwn.

Gallwch edrych ar eich ymrwymiad hawlydd diweddaraf ar-lein. Byddwch hefyd yn gallu diweddaru eich cynnydd ar eich nodau drwy ddefnyddio’r cyfrif hwnnw.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai fod gennych lai na 12 mis i fyw, ni fydd angen ymrwymiad hawlydd arnoch.

Os ydych yn byw gyda phartner

Os ydych yn byw gyda phartner, mae’n rhaid i’r ddau ohonnoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd angen i’r ddau ohonoch dderbyn ymrwymiad hawlydd.

Wedi’i deilwra i’ch sefyllfa

Mae Credyd Cynhwysol yn newid fel mae pethau’n newid yn eich bywyd. Bydd eich cyfrifoldebau yn eich ymrwymiad hawlydd yn amrywio yn dibynnu ar bethau fel eich teulu, eich iechyd a’ch potensial ar gyfer enillion yn y dyfodol.

Os ydych yn gallu gweithio ac rydych ar gael i weithio, bydd angen i chi wneud popeth y gallwch yn rhesymol i roi’r cyfle gorau i chi ddod o hyd i waith. Dylai paratoi ar gyfer a chael swydd fod yn ffocws llawn amser i chi.

Os na fyddwch yn gwneud hyn heb reswm da, efallai y bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Pan efallai y bydd eich gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith gael eu lleihau

Efallai y bydd eich gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith gael eu lleihau yn yr amgylchiadau canlynol: 

  • rydych wedi bod yn ddioddefwr trais neu gamdrin yn y cartref 

  • rydych yn cefnogi plentyn sydd wedi gweld neu brofi trais neu gamdriniaeth, yn cynnwys trais yn y cartref 

  • rydych yn berson sydd wedi gadael gofal mewn addysg llawn amser nad yw’n addysg uwch – darganfyddwch fwy am Universal Credit and students 

  • rydych yn mynd dramor i dderbyn triniaeth feddygol, gwella o driniaeth feddygol neu i fynd gyda phlentyn neu bartner – darganfyddwch fwy am wneud cais am Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn teithio dramor 

  • rydych yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref 

  • rydych yn cael eich asesu fel bod gennych ‘allu cyfyngedig i weithio’ ar ôl i chi gael asesiad gallu i weithio. Bydd disgwyl i chi baratoi ar gyfer gwaith cyn belled ag y bo modd

  • ar ôl marwolaeth eich partner, plentyn neu berson ifanc roeddech yn gyfrifol amdanynt. Efallai y bydd eich gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn cael eu lleihau am hyd at 6 mis 

  • rydych yn cefnogi plentyn y mae eu rhiant, brawd neu chwaer neu brif ofalwr wedi marw. Efallai y bydd eich gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn cael eu lleihau am hyd at un mis ym mhob 6 mis, am hyd at 2 flynedd 

  • rydych yn cael eich trin am ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol. Efallai y bydd eich gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn cael eu lleihau am hyd at 6 mis 

  • rydych yn sâl am hyd at 14 diwrnod – darganfyddwch fwy am roi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd 

  • rydych chi mewn amddiffyniad tystion (dan amddiffyniad tra’n ymwneud ag ymchwiliad neu gamau troseddol) – efallai y bydd eich gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn cael eu lleihau am hyd at 3 mis 

  • rydych wedi cael argyfwng domestig, fel angladd neu dân

  • rydych angen gofal plant dros dro

Pan fydd eich gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith yn cael eu dileu 

Bydd gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith yn cael eu dileu os: 

Yn gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos am rywun sy’n cael budd-dal sy’n gysylltiedig ag iechyd neu anabledd

Ni fydd angen i chi wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith os ydych yn gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos am rywun sy’n cael: 

  • Lwfans Gweini 

  • Lwfans Presenoldeb Cyson 

  • Lwfans Byw i’r Anabl (cyfradd ganol neu uwch) 

  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) cyfradd bywyd bob dydd

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog 

Cyflawni dyletswydd gyhoeddus 

Ni fydd angen i chi wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith os ydych yn gwneud y rolau canlynol: 

  • diffoddwyr tân gwirfoddol, aelod o griw’r bad achub neu wylwyr y glannau 

  • cynghorydd (rhywun sy’n eistedd, yn pleidleisio neu sy’n aelod o gyngor) 

  • cwnstabl arbennig 

  • Lluoedd Wrth Gefn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y Fyddin, y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, Llu Awyr Cynorthwyol Brenhinol a Lluoedd Arbennig wrth gefn

  • gwasanaeth rheithgor 

  • cyfranogwr craidd ymchwiliad cyhoeddus neu annibynnol 

  • mynd i’r llys neu dribiwnlys fel cyfranogwr neu dyst 

  • mynychu gwersyll preswyl fel rhan o gwrs Prifysgol Agored 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Os yw unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, rhaid i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.

Os oes gennych blant

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac mae gennych blant, bydd angen i chi benodi prif ofalwr.

Os ydych yn rhiant unigol neu’r prif ofalwr, bydd eich cyfrifoldebau’n newid wrth i’ch plentyn ieuengaf fynd yn hŷn a byddant yn cael eu teilwra i’ch amgylchiadau personol.

Oedran eich plentyn ieuengaf: Eich cyfrifoldebau
Dan 1 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith.
1 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith. Yr unig weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith y bydd disgwyl i chi ei wneud yw i gael apwyntiadau rheolaidd i drafod cynlluniau i symud i mewn i waith yn y dyfodol.
2 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith. Yr unig weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith y bydd disgwyl i chi eu gwneud yw i gael apwyntiadau rheolaidd gyda Chredyd Cynhwysol a gweithgareddau paratoi at waith, fel ysgrifennu eich CV.
Rhwng 3 a 12 oed Bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 30 awr yr wythnos, neu dreulio hyd at 30 awr yr wythnos ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith fel gwneud cais am swyddi.
13 oed a throsodd Bydd disgwyl i chi weithio hyd at 35 awr yr wythnos, neu dreulio hyd at 35 awr yr wythnos ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith fel gwneud cais am swyddi.

Cymorth gan eich anogwr gwaith

Os oes angen i chi chwilio am waith, byddwch yn cael cymorth gan ‘anogwr gwaith’. Gall eich anogwr gwaith helpu gyda phethau fel ysgrifennu CV, cael mynediad at hyfforddiant a chwilio am waith yn eich ardal.

Byddant yn canolbwyntio ar eich mentora a’ch hyfforddi, i’ch helpu i gwrdd â’r gofynion sydd wedi’u cofnodi yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Os ydych yn gallu chwilio am neu baratoi am waith, bydd eich ymrwymiad hawlydd yn cynnwys pethau fel eich nodau swyddi, gweithgaredd chwiliad gwaith rheolaidd neu unrhyw gamau i baratoi ar gyfer gwaith mae’n rhaid i chi eu cwblhau i gael Credyd Cynhwysol.

 Bydd rhain yn yr adran ‘cynllun gwaith’ yn eich cyfrif ar-lein. Gallai gweithgarwch chwilio am waith gynnwys cofrestru gyda ‘Dod o hyd i swydd’ neu asiantaeth recriwtio, neu wneud cais am swyddi gwag a awgrymir.

Gallai gweithgareddau paratoi at waith gynnwys paratoi CV neu fynychu a chwblhau cwrs hyfforddi. Gall hefyd fod disgwyl i chi fynychu apwyntiadau rheolaidd i drafod eich cynnydd. Dylech feddwl am geisio gwiath fel swydd llawn amser.

Bydd yn ddisgwyl i chi edrych neu baratoi at waith am 35 awr yr wythnos, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Os nad ydych yn gwneud beth sydd yn eich ymrwymiad hawlydd

Bydd eich ymrwymiadau yn datgan yn glir beth fydd yn digwydd os byddwch yn methu â bodloni pob un o’ch gofynion. Efallai y byddwch yn cael gostyngiad yn eich budd-dal, a elwir yn sancsiwn, os nad ydych yn bodloni un o’ch gofynion ac yn methu rhoi rheswm da i egluro pam.

Mae pa mor hir y mae sancsiynau’n para yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi methu â’i wneud a faint o weithiau rydych wedi methu â chyflawni’ch cyfrifoldebau, heb reswm da.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai bod gennych lai na 12 mis i fyw, ni fyddwch yn wynebu sancsiynau.