Rhoi gwybod am eich cyflwr meddygol (ffurflen VOCH1W)
Rhoi gwybod am rai mathau o gyflyrau’r galon i DVLA os ydych yn gyrru lori, bws neu fws moethus.
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am y cyflyrau meddygol canlynol:
- angina
- trawiad ar y galon (cnawdnychiant myocardiaidd)
- syndrom coronaidd difrifol
- angioplasteg/stent
- llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon (CABG)
- rhythm calon afreolaidd
- syndrom Brugada
- rheolydd calon
- diffibriliwr
- afiechyd fasgwlaidd rhydwelïol perifferol
- ymlediad aortaidd
- methiant y galon
- trawiad ar y galon
- murmur y galon
- trawsblaniad y galon TIA/strôc
- angioplasti balŵn (coes)
- problemau cardiaidd
- stenosis rhydweli garotid
- abladiad cathetr
- dyraniad aortaidd cronig
- clefyd y galon cynhenid
- grafftiad i ddargyfeirio’r rhydwelïau coronaidd
- cardiomyopathi ymledu
- crychguriadau’r galon
- cardiomyopathi hypertroffedd
- clefyd isgemia’r galon
- bloc cangen sypyn chwith
- syndrom Long QT
- syndrom Marfan
- chwimguriad y galon
- syndrom Wolff-Parkinson-White
- cyflyrau cysylltiedig eraill
Gwiriwch y rhestr o gyflyrau iechyd os nad yw un chi wedi ei restri.
Defnyddiwch ffurflen wahanol i roi gwybod am y cyflyrau hyn os oes gennych drwydded car neu feic modur yn unig.
Cael gwybod beth sydd yn digwydd ar ôl i chi rhoi gwybod i DVLA.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 August 2022 + show all updates
-
Updated PDF.
-
Updated PDF
-
To add Brugada Syndrome and Long QT Syndrome to the list of medical conditions you need to report.
-
Added translation
-
PDF updated
-
PDF updated.
-
PDF updated as questions changed on questionnaire.
-
First published.