Yr achos dros weld Cymru mewn UE Ddiwygiedig
Alun Cairns: "Gadewch inni sicrhau bod ein dylanwad a’n llais yn cael ei glywed, a hynny gyda balchder a hyder"
Cyflwyniad
Foneddigion a Boneddigesau, diolch o galon i chi am fy ngwahodd i yma heddiw i roi fy araith fawr gyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Ac rwy’n hynod falch fy mod yn gallu gwneud hynny yma yn Abertawe - fy ninas enedigol, mor agos at bentref Clydach lle cefais fy magu.
Ac mae’n arbennig iawn siarad yng nghartref yr Elyrch a’r Gweilch.
Rydym hefyd wrth gwrs yng Nglandŵr, yn agos at galon treftadaeth ddiwydiannol Abertawe. Dyma lle agorodd y gwaith copr cyntaf yn 1717 ac un o weithiau dur mwyaf y byd yn yr 1870au.
O’i dechreuad fel man lle sefydlodd y Llychlynwyr hyd at ei rôl hollbwysig yn y chwyldro diwydiannol, mae Abertawe wedi bod yn ddinas hyderus ac uchelgeisiol, sydd wedi meithrin cysylltiadau â’r byd ehangach.
A dyna beth rwyf am sôn amdano fore heddiw - fy ngweledigaeth o genedl Gymreig sy’n uchelgeisiol, yn hyderus ac yn flaengar, sy’n manteisio ar gyfleoedd ar gyfer adfywiad economaidd.
Fel Ysgrifennydd Gwladol, rwy’n awyddus iawn i weld pethau da’n digwydd yn Abertawe.
Lle mae Llywodraeth y DU yn sbarduno cynlluniau rhanbarthol cyffrous fel Bargen Ddinesig Abertawe a’i syniadau arloesol am ryngrwydi ynni, lles a thechnoleg….
I drydaneiddio’r brif lein o Abertawe i Lundain fel rhan o’r buddsoddiad mwyaf yn ein rheilffyrdd ers oes Fictoria; neu
Y straeon llwyddiant mewn busnes rhyngwladol fel Lumishore yn Abertawe… enillwyr Gwobr Fenter y Frenhines yn ddiweddar - cwmni datblygu goleuadau LED ar gyfer cychod sy’n allforio 40% o’u cynnyrch i Ewrop.
Heddiw, mae Abertawe yn ddinas uchelgeisiol flaengar sy’n meithrin mwy a mwy o gysylltiadau ag Ewrop a’r byd.
Ble well, foneddigion a boneddigesau, ar gyfer y weledigaeth rwyf am ei chyflwyno heddiw
Gweledigaeth o wlad sy’n uchelgeisiol ac yn edrych at allan….
Er mwyn i hyn barhau, mae angen i ni fod yn rhan gref o’r Deyrnas Unedig ond yn ymgysylltu hefyd ag Ewrop a’r byd ehangach.
A heddiw, hoffwn esbonio pam mae hyn mor bwysig drwy nodi enghreifftiau, yn lleol ac yn genedlaethol, sy’n dangos pam mae cael mynediad i’r farchnad Ewropeaidd sengl ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd mor hanfodol.
Heriau Cymru ei hun
Wrth gwrs, yma yng Nghymru rydym yn wynebu ein heriau ein hunain ar hyn o bryd.
Mae gennym argyfwng yn ein diwydiant dur. Byddwch yn gwybod bod llawer yn cael ei wneud a’i gynnig gan Lywodraeth y DU i ddenu prynwr ac i gefnogi diwydiant sydd mor bwysig i ni’n lleol ac yn genedlaethol.
Dylwn bwysleisio ar y cychwyn na allaf ddweud llawer am ddur oherwydd rydym yn dilyn proses…. Proses werthu lle mae’n rhaid inni barchu cyfrinachedd y ddau barti. Ond ar bob cam - a hyd yn oed cyn i’r materion ddod yn gyhoeddus, gadewch i mi ddweud fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio gyda Tata mewn cysylltiad â phroses werthu. Ar wahanol gamau, rydym wedi gorfod aros yn ddistaw i barchu’r broses honno, er gwaetha’r galwadau am ddatganiadau cyhoeddus.
Ond gadewch imi esbonio un camsyniad mewn perthynas â’r heriau sy’n wynebu diwydiant dur Cymru.
Rydym yn gweithio mewn cyd-destun lle mae gormod o gyflenwadau o ddur yn y byd.
Credaf yn gryf fod ein diwydiant dur yn well fel rhan o’r UE - fel bloc gallwn weithredu yn erbyn y broses o ddympio dur yn llawer mwy effeithiol nag y gallem ar ein pen ein hunain a chael y fargen orau i’n diwydiant dur yn eu marchnad fwyaf.
Er na ellir gwarantu dim, does dim amheuaeth y mae’n fwy tebygol o lawer y byddwn yn canfod y prynwr hwnnw ac yn amddiffyn ein diwydiant os ydym yn aelod o’r UE.
Gadewch imi esbonio pam:
Yn gyntaf, mae mynediad i farchnad yr UE yn hanfodol i unrhyw gynhyrchwr dur - gyda 69% yn cael ei allforio i Ewrop y llynedd.
Yn ail, mae’r gweithredu ar y cyd ledled Ewrop i amddiffyn ein diwydiant rhag y broses o ddympio dur wedi arwain at ostyngiad mawr yn y mewnforion dur i’r UE.
Rydym wedi pwyso ar y Comisiwn Ewropeaidd i weithredu’n fwy cadarn ac yn gyflymach yn erbyn dympio annheg ac rydym yn falch fod yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrando ac wedi gweithredu ar y mater.
Bellach, mae 37 o fesurau diogelu masnach ar waith mewn perthynas â mewnforio cynnyrch dur, gyda naw ymchwiliad yn parhau. Mae’r ffeithiau hyn yn siarad drostynt eu hunain. Y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ni fyddem ychwaith yn gallu amddiffyn ein hunain gystal rhag cystadleuaeth annheg oddi wrth drydydd gwledydd. O’r 37 mesur yn erbyn cynhyrchion dur, mae 16 ar fewnforion o Tsieina.
O ganlyniad, mae mewnforion o fariau atgyfnerthu a rhodenni weiren wedi gostwng 99% yr un.
Yn drydydd, mae bod yn aelod o’r UE yn hanfodol i ddenu buddsoddwyr oherwydd manteision cael un farchnad o 28 o wledydd.
Ac yn bedwerydd - dychmygwch y camau y gallai aelod-Wladwriaethau eraill eu cymryd petaem y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Byddem yn wynebu’r un tariffau sydd bellach yn cael effaith gadarnhaol ar ddympio rhad; a byddai cystadleuwyr Tata yn Ewrop yn naturiol yn llunio ymateb marchnad yr Undeb Ewropeaidd i fod yn gydnaws â’u gweithrediadau hwy, yn hytrach nag un a fydd yn ein cynnwys ni.
Ac mae unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am ddur - Tata, yr undebau, buddsoddwyr neu (feiddia i ddweud) y llywodraeth - i gyd yn cydnabod y cyfleoedd a geir gan y farchnad sengl - trafod o gwmpas y bwrdd, yn hytrach na bod yn wylwyr yn disgwyl effaith eu penderfyniadau hwy ar ein diwydiant a’n swyddi.
Felly mae’r rhagolygon y bydd swyddi’n cael eu cadw ym Mhort Talbot ac yng ngweithfeydd eraill Tata yn Shotton yng ngogledd Cymru, yn Llanwern ac yn Nhrostre yn fwy lleol yn llawer cryfach oherwydd ein bod yn aelod o’r UE.
Allforion o Gymru a’r Farchnad Sengl
Yn ogystal â chefnogi ein Diwydiant Dur, mae’r Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn i economi Cymru yn ehangach.
Mae’r farchnad sengl yn rhoi mynediad i fusnesau Prydain at 500 miliwn a mwy o gwsmeriaid - wyth gwaith maint marchnad y DU.
Mae busnesau yng Nghymru eisoes yn cydnabod gwerth y cyfleoedd hyn - mae nifer y busnesau sy’n allforio yng Nghymru yn tyfu chwe gwaith yn gynt na’r DU yn gyffredinol.
Does dim ond rhaid i chi edrych ar y ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2014. Roedd gwerth allforion Cymru yn £12.2Bn, sydd gyfwerth â £4,300 y person, gyda’r Undeb Ewropeaidd yn derbyn 43% o holl allforion Cymru ac 11% o holl allbwn Cymru.
Os oedd unrhyw amheuaeth, yr Undeb Ewropeaidd yw partner masnachu mwyaf Cymru ac yn anadl einioes 100,000 o swyddi yma yng Nghymru.
Yr Undeb Ewropeaidd fel Sbardun i Fuddsoddi
Mae bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd hefyd yn sbarduno buddsoddi - ystyriwch straeon llwyddiant cwmnïau fel Toyoda Gosei, dafliad carreg o’r fan hon a lle bu’r Prif Weinidog ar ymweliad ychydig wythnosau yn ôl; Airbus ym Mrychdyn neu Toyota ar Lannau Dyfrdwy.
Mae Airbus yn gartref i un o ffatrïoedd gweithgynhyrchu mwyaf y DU. Mae safle Brychdyn yn cyflogi dros 6,000 o bobl ac mewn blynyddoedd diweddar mae wedi darparu oddeutu £100 miliwn y flwyddyn mewn cyflogau i weithwyr Cymru.
Mae wedi gwario oddeutu £120 miliwn y flwyddyn drwy ei gadwyn gyflenwi yng Nghymru.
A dros y degawd diwethaf, mae safle Airbus wedi gweld buddsoddiadau sylweddol o dros £2 biliwn mewn gwelliannau i seilwaith a chyfleusterau.
Mae’n rhan allweddol o economi Prydain, yn gwneud adenydd tra thechnegol ar gyfer holl awyrennau masnachol Airbus, fel rhan o gwmni byd-eang llawer mwy.
Mae’r gwaith hyfedr a gwerth uchel hwn yn dibynnu ar Brydain yn aros yn gystadleuol yn y byd busnes.
Mae Airbus ei hun wedi dweud bod ein haelodaeth yn allweddol i’r cwmni i’w alluogi i gefnogi buddsoddi, hwyluso twf ac ysgogi gwelliannau mewn cynhyrchiant yn y DU.
Dywedodd hyd yn oed Paul Kahn, Llywydd Airbus: “Petai’r amodau economaidd ym Mhrydain yn llai ffafriol ar gyfer busnes ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd nag mewn rhannau eraill o Ewrop, neu y tu hwnt, a fyddai Airbus yn ailystyried buddsoddi yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol? Byddai, yn bendant.”
Ac fel y sector awyrofod, mae cynhyrchu cerbydau yn sector sy’n ffynnu ac yn ehangu o fewn economi Cymru. Mae’n ddiddorol nodi bod Sunderland bellach yn allforio mwy o geir na’r Eidal i gyd, ac mae Cymru yn rhan hanfodol o’r gadwyn gyflenwi hon. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y sector i economïau lleol ledled y DU.
Mae 18,000 o bobl yn gwneud rhannau ceir yng Nghymru a gyda’i gilydd maent yn cael tâl o ryw £500m y flwyddyn.
Mae’n ddiwydiant sy’n rhoi £3.3bn i economi Cymru.
Roeddwn yn falch iawn fod Aston Martin wedi atgyfnerthu safle Cymru fel arloeswr ac arweinydd yn y sector modurol, gyda buddsoddiad a sicrhawyd wrth i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio.
Mae gan Toyota, y cwmni sydd wedi gwerthu’r nifer mwyaf o geir yn y byd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bresenoldeb sylweddol yng Nghymru.
Mae eu ffatri ar Lannau Dyfrdwy yn cyflogi 540 o bobl, ac mae’n creu 950 o injans bob diwrnod sy’n cael eu hallforio yn rhyngwladol.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y cwmni fuddsoddiad pellach o £7 miliwn yn eu ffatri yng Ngogledd Cymru - enghraifft arall o ffatri yng Nghymru yn sicrhau buddsoddiad oherwydd llwyddiant ei weithrediadau presennol.
Mae buddsoddiadau fel hyn yn Toyota yn hollbwysig i’n heconomi. Maent yn pwysleisio dro ar ôl tro pa mor bwysig ydy’r farchnad sengl i’w presenoldeb a’u gweithrediadau; gan ddweud yn benodol, “Bod yn aelod o’r UE sydd orau i’n gweithrediadau ……. a’n cystadleurwydd hirdymor.”
Dim ond dwy enghraifft ydy Airbus a Toyota o’r hyn y mae angen i Gymru wneud mwy ohono - bod yn uchelgeisiol, yn hyderus ac yn edrych at allan.
Mae’r cwmnïau hyn yn gweithredu mewn diwydiannau byd-eang y mae eu llwyddiant yn dibynnu ar eu gallu i fod yn gystadleuol. Mae eu llwyddiant wedi’i seilio ar fodel busnes integredig, gyda’r gallu i symud cynnyrch, pobl a syniadau o gwmpas Ewrop heb unrhyw gyfyngiadau.
Mae cwmnïau fel hyn sy’n buddsoddi yng Nghymru yn sbarduno twf mewn cadwyni cyflenwi yn ogystal â’r miloedd o swyddi sy’n cael eu creu’n uniongyrchol ganddynt. Allwn ni fforddio peryglu hynny?
Mae llawer o gadwyni cyflenwi yn elwa o fuddsoddiadau o’r fath sydd, yn eu tro, yn creu cyfoeth a ffyniant. Gallent fod yn fusnesau peirianneg neu’n gwmnïau trydanol bach, fel y rhai yr ymwelais â nhw’n ddiweddar sy’n cyflenwi TATA, i’r cwmnïau mwy hynny sy’n cyflenwi Airbus a Toyota.
Ystyriwch Toyoda Gosei,- heb fod yn bell o’r fan hon. Mae cyflenwr cydrannau ceir y mae ei berchennog yn dod o Japan, wedi buddsoddi dros £65 miliwn yn eu safle yng Ngorseinon.
Mae gweithlu’r cwmni wedi tyfu o 13 yn unig yn 2010 i dros 600 heddiw, a bellach maent yn cyflenwi Nissan, BMW, Jaguar Land Rover, a Toyota.
Mae hyn yn dangos yn glir sut mae cwmnïau mawr o rannau eraill o’r DU yn cael effaith leol fawr. A gellid dweud yr un peth am Airbus ar raddfa ryngwladol. Pencadlys yn Toulouse ond yn gwmni mawr yma yng Nghymru.
Mae Ewrop hefyd yn cynnig nodweddion eraill sy’n cefnogi buddsoddiadau eraill hefyd. Ystyriwch Fanc Buddsoddi Ewrop. Dyma sefydliad benthyca mwyaf y byd a 28 aelod-Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd sy’n berchen arno. Maent yn codi’r rhan fwyaf o’u hadnoddau benthyca ar y marchnadoedd cyfalaf rhyngwladol drwy fondiau - mae eu sgôr rhagoriaeth yn fodd iddynt roi benthyg am gost is.
Yn 2015 darparwyd £5.6 biliwn ganddynt i gefnogi dros £16 biliwn o fuddsoddiad yn y DU - record o flwyddyn.
Yng Nghymru, maent wedi cefnogi buddsoddi mewn tai cymdeithasol, trafnidiaeth, ynni, dŵr ac addysg ers deugain mlynedd a mwy.
Yn fwyaf diweddar, mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi’n helaeth yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Norgine yn Hengoed.
Ond roedd y banc hefyd yn allweddol i un o’r buddsoddiadau mwyaf cyffrous ar ein carreg drws - campws newydd Prifysgol Abertawe - campws y Bae.
Dyma gampws newydd gwych gwerth £450m, sy’n lletya’r Ysgol Reolaeth a’r Coleg Peirianneg sy’n dal i dyfu. Roedd yn brosiect a sicrhaodd £40 miliwn o fuddsoddiad gan yr UE. Yn 2014, dywedodd yr Is-ganghellor: Y rhaglen hon i ddatblygu’r campws anferth yw’r prosiect economi wybodaeth mwyaf i gael ei arwain gan brifysgol yn y DU ac yn un o’r enghreifftiau gorau yn Ewrop. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth ariannol gan Fanc Buddsoddi Ewrop a wfftiodd y ddadl fod y prosiect yn rhy fawr i Gymru”.
Mae’n un o brosiectau mwyaf yr economi wybodaeth yn Ewrop, sy’n darparu cyfleoedd ymchwil ar y cyd rhwng diwydiant a’r byd academaidd, ac sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Ni fyddai’r datblygiad wedi bod yn bosibl heb gymorth ariannol o’r fath.
Amcangyfrifir bod effaith economaidd adeiladu campws y Bae ei hun yn fwy na £3 biliwn.
Yr UE yn Cefnogi Addysg Uwch
Ac mae rôl Ewrop ym maes Addysg Uwch yn llawer ehangach.
Mae buddsoddiadau blaengar wedi’u gwneud mewn Prifysgolion ledled Cymru. Mae gennym sector addysg uwch sy’n werth un biliwn o bunnoedd a hwnnw’n sector sy’n ffynnu. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnig rhai o’r llwybrau gorau allan o dlodi i unigolion ac i wella cynhyrchiant ein gwlad.
Mae gan Ewrop rôl bwysig yn dod â’r canlynol at ei gilydd - rhwydweithiau Addysg Uwch, academyddion rhyngwladol, y rhagoriaeth ymchwil a hyd yn oed y myfyrwyr sy’n dewis astudio yn y sefydliadau o safon uchel y gallwn ymfalchïo ynddynt.
Mae wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr i fusnesau lleol drwy gymorth ymchwil, drwy gyflogi pobl leol a thrwy ddarparu’r gallu i ddatblygu sgiliau hanfodol ar y safle.
Mae miloedd o fyfyrwyr Cymru wedi elwa o Gynllun Cyfnewid Erasmus, Erasmus Plus erbyn hyn, cynllun a sefydlwyd yn 1987 gan Ceri Hywel Jones, brodor o Bort Talbot.
Mae’r buddsoddiadau hyn yn mynd i galon ein cymunedau lleol ledled Cymru a thu hwnt.
Mae’r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd ym Mangor yn darparu gwasanaethau ymgynghori arbenigol ac adroddiadau prosiect. Yma mae’r llyfrgell fwyaf cynhwysfawr yn Ewrop a’r un sydd wedi’i sefydlu hiraf, sy’n canolbwyntio dim ond ar ddeunydd y sector bancio a chyllid.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael 27 miliwn Ewro o gyllid Erasmus ar gyfer cynlluniau’n ymwneud â mudoledd myfyrwyr a staff i wella dysgu ac addysgu, dros 10 miliwn Ewro gan Gronfeydd Strwythurol Ewrop i wella prosiectau masnacheiddio a menter, a dros 2 filiwn Ewro ar gyfer prosiectau ymchwil yn unig.
Ac ar ddechrau’r flwyddyn, cyhoeddwyd y bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cael £2.4 miliwn o gyllid gan yr UE i ddatblygu sgiliau gweithwyr ledled de orllewin Cymru drwy Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith y Brifysgol.
Y tu hwnt i hynny, mae Horizon 2020 yn rhoi mynediad i’n prifysgolion at raglen Ymchwil ac Arloesi fwyaf yr UE erioed.
Mae’r rhaglen yn sicrhau bod Ewrop yn cynhyrchu gwyddoniaeth o’r radd flaenaf; mae’n cael gwared â rhwystrau i arloesi; ac yn ei gwneud yn haws i’r sectorau cyhoeddus a phreifat gydweithio i ddarparu arloesedd.
Yng Nghymru, mae Prifysgol Caerdydd wedi cael arian gan yr UE ar gyfer 34 prosiect sy’n werth £14.6 miliwn drwy’r rhaglen ac, yng nghylch cyntaf cyllid Horizon 2020, llwyddodd Prifysgol Abertawe i gael chwe grant a oedd yn werth dros 2 filiwn Ewro.
Mae ein prifysgolion yn ffynnu oherwydd buddsoddiad a chydweithrediad yr UE ac allwn ni ddim diystyru hynny.
Mae’r prosiectau hyn yn ganolog i’r nod hwnnw o Gymru uchelgeisiol, hyderus sy’n edrych at allan.
Ffermio yng Nghymru
Rwyf eisoes wedi cyfeirio at ddur ac AU. Felly gadewch i mi sôn yn fyr am sector cwbl wahanol: bwyd môr ac amaethyddiaeth. Diwydiannau sy’n bwysig i Abertawe ac i Gymru. Mae’r UE yn derbyn dros 90% o allforion amaeth o Gymru, sef 98% o allforion cynhyrchion llaeth, 97% o gig oen a 92% o gig eidion.
Gallai gadael yr UE olygu bod tariffau o hyd at 70% yn cael eu gosod ar ein cynnyrch a byddai’n peryglu sylfaen llawer o economïau lleol.
Mae gan Gig eidion Cymru, Cig oen Cymru, Tatws Cynnar Sir Benfro a Halen Môn statws gwarchodedig o dan gyfreithiau’r UE. Ni chaiff yr un cwmni na rhanbarth geisio atgynhyrchu’r cynhyrchion hyn mewn man arall nac ychwaith ddweud eu bod yn gynnyrch amgen.
Gallai ffermwyr Cymru golli cannoedd o filiynau o bunnoedd ar allforion cig oen a chig eidion pe na allent gael mynediad i’r farchnad sengl.
Credaf ei bod yn deg dweud y gallem ystyried marchnadoedd eraill ac mae gennym berthynas arbennig â’r Unol Daleithiau ond nid y w hynny o anghenraid yn chwalu rhwystrau masnachu. Er ein perthynas, ni allforiwyd dim cig eidion a chig oen o Gymru i’r Unol Daleithiau y llynedd.
Byddai hyn yn gam i’r tywyllwch na all Cymru fforddio ei chymryd o’i gymharu â mynediad digyfyngiad i’r farchnad a’r brandiau pwysig sy’n cael eu gwarchod y mae llwyddiant ein hallforion wedi’i adeiladu arno.
Casgliad
Felly, dyna’r achos cadarnhaol y byddwn i yn ei gyflwyno i ddangos y dylai Cymru aros yn yr UE.
Dydw i ddim yma heddiw i ddadlau dros y status quo.
Rwy’n sicr bod pawb yn yr ystafell hon , ac yn wir ar draws y cyfandir, yn cydnabod bod yn rhaid i Ewrop wneud newidiadau sylfaenol er mwyn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r heriau mae’n eu hwynebu.
A dyna beth a gyflawnodd y Prif Weinidog gyda’i gytundeb hanesyddol ym mis Chwefror.
Cydnabyddiaeth ymysg arweinwyr Ewrop bod angen addasu i anghenion gwahanol wledydd gan roi statws arbennig i’r DU.
….Mae hyn yn caniatáu inni osgoi rhai o’r agweddau ar yr UE sydd heb fod yn gweithio i Brydain – pethau fel yr Ewro, ffiniau agored neu’r siawns o fwy fyth o uno.
Ynghyd ag opsiwn i beidio â gorfod talu budd-daliadau i ymfudwyr am gyfnodau.
Ond, yn y pen draw, mae gennym lais cryf yng nghalon yr UE fel y gallwn ddylanwadu ar y ffordd y mae’r UE yn delio â heriau mewnfudo, terfysgaeth ac ansicrwydd y tu hwnt i ffiniau, yn hytrach na dim ond ymateb i’w gweithredoedd.
Dyma’r achos dros Gymru sy’n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy cyfoethog mewn UE ddiwygiedig.
Mae manteision bod yn aelod yn effeithio ar ein bywydau i gyd - o gefnogi buddsoddi mewn seilwaith ac addysg i weithgynhyrchu a rhaglenni cymdeithasol.
Mae’n sicrhau mynediad at floc masnachu o 500 miliwn o bobl.
Ac yn sicrhau bod ein prifysgolion yn ffynnu fel sefydliadau ymchwil ac academaidd
Fel y mae Abertawe wedi bod yn gwneud ei marc ar Ewrop a’r byd am gannoedd o flynyddoedd, mae fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru yn un o wlad uchelgeisiol ac arloesol sy’n edrych at Ewrop a’r byd ehangach.
Dyma achos cadarnhaol dros aros yn rhan o’r UE a’i fynediad at y farchnad sengl.
Peidiwn â chymryd cam i’r tywyllwch, peidiwn â llechu rhag y frwydr.
Gadewch inni sicrhau bod ein dylanwad a’n llais yn cael ei glywed, a hynny gyda balchder a hyder.
Diolch yn fawr.