Cymorth i ddefnyddwyr ag anghenion o ran hygyrchedd
Sut yr ydym yn helpu defnyddwyr y mae arnynt angen cymorth oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd.
Mae ein gwasanaethau wedi cael eu cynllunio i fod yn hygyrch ac yn hawdd eu deall. Gallwn hefyd ddarparu addasiadau rhesymol i ddefnyddwyr sydd â:
- namau ar y golwg
- namau ar y clyw
- namau echddygol
- namau gwybyddol
- namau ar y lleferydd
- anhwylderau ffitiau
- cyflyrau iechyd meddwl
I gael cymorth hygyrchedd, cysylltwch â ni:
- enquiries@companieshouse.gov.uk
- Ffôn: 0303 1234 500
- Minicom neu ffôn testun: 029 2022 6788
- Cymraeg: 0303 123 4500 (gofyn am siaradwr Cymraeg)
Gallwch hefyd ysgrifennu atom:
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX 33050
Byddwn yn trafod pa gymorth y gallwn ei ddarparu i’ch helpu i gyflawni’ch cyfrifoldebau. Gyda’ch caniatâd, byddwn yn rhoi nodyn ar ein system fewnol.
Enghraifft Os oes gennych nam ar eich golwg ac y byddai’n well gennych inni gysylltu â chi dros y ffôn - gallwn ffonio i’ch atgoffa pan fydd yn bryd cyflwyno’ch datganiad cadarnhau neu gyfrifon.
Darllenwch ein polisi dogfennau hygyrch (yn Saesneg) i ddarganfod pa mor hygyrch yw ein dogfennau a beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd.
Gallwch hefyd wneud addasiadau i’ch cyfrifiadur, gliniadur, tabled neu ffôn clyfar i’w gwneud yn haws i’w ddefnyddio. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd - er enghraifft, newid lliwiau gwefan a ffyrdd defnyddiol o wneud eich bysellfwrdd, llygoden a dyfais symudol yn haws i’w defnyddio. Mae hefyd yn rhoi cyfarwyddyd ar ddefnyddio adnabod llais i siarad â’ch dyfais.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Mae ein gwasanaeth trosglwyddo fideo yn caniatáu i ddefnyddwyr byddar Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i ffonio Tŷ’r Cwmnïau drwy dîm o gyfieithwyr SignVideo.
Ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 6pm.
Defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau.
Ymchwil defnyddwyr a phrofion hygyrchedd
Wrth gynllunio ein gwasanaethau, mae ein hymchwilwyr defnyddwyr yn gweithio’n galed i ganfod a deall ein defnyddwyr. Rydym yn casglu gwybodaeth trwy:
- arolygon
- dadansoddi data
- adolygu ymddygiadau presennol
- sesiynau defnyddioldeb mewn gwahanol leoliadau
- profion ar lein o bell
- siarad â phobl ac arsylwi arnynt yn eu gweithle
Rydym hefyd yn rhoi prawf ar ein gwasanaethau i sicrhau bod pobl sydd ag anghenion o ran hygyrchedd yn gallu eu defnyddio.
Rydym yn gweithio gydag asiantaethau allanol i recriwtio cwsmeriaid ar gyfer ymchwil defnyddioldeb mewn dinasoedd mawr yn y Deyrnas Unedig. Rydym hefyd yn recriwtio cwsmeriaid trwy ein panel defnyddwyr (tudalen Saesneg) i gymryd rhan mewn sesiynau defnyddwyr yn ein labordy defnyddioldeb ein hunain yng Nghaerdydd.
Gallwch ddarllen ein blogiau am ddefnyddioldeb (yn Saesneg) i ddysgu mwy am ein gwaith ymchwil defnyddwyr.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 November 2022 + show all updates
-
New Relay UK number to replace minicom.
-
Users can contact Companies House using our British Sign Language (BSL) video relay service.
-
Added information on AbilityNet which gives advice on how to make your device easier to use if you have a disability.
-
Added translation
-
Welsh language telephone number updated.
-
Welsh translation added.
-
First published.