Canllawiau

Apelio yn erbyn penderfyniad iawndal gwaed heintiedig

Apêl yn erbyn penderfyniad iawndal gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).

Trosolwg

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad am eich cais cynllun iawndal gwaed heintiedig.

Penderfynir ar apeliadau gan y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant a gefnogir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF). Mae’r tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth a’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).

Bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth a gwrando ar y ddwy ochr.

Cyn i chi apelio

Rhaid i chi ofyn i’r penderfyniad am eich cais gael ei ystyried eto cyn y gallwch apelio - gelwir hyn yn ‘penderfyniad adolygu’. Ar ôl yr adolygiad, bydd hysbysiad o benderfyniad yn cael ei anfon atoch gyda chanlyniad yr adolygiad.

Sut i apelio

Nid yw’n costio arian i apelio yn erbyn penderfyniad gan y Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig.

Rhaid i chi apelio i’r tribiwnlys o fewn un mis calendr i chi gael eich hysbysiad o benderfyniad adolygu. Os yw eich apêl yn hwyrach nag un mis calendr, bydd yn rhaid i chi esbonio pam a bydd y tribiwnlys yn penderfynu a all eich apêl fynd yn ei blaen.

Penderfynir ar eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys, a gallwch ddewis p’un a ydych am fynd i’r gwrandawiad hwnnw ai peidio.

Cymorth a chyngor

Gallwch gael cymorth a chyngor rhad ac am ddim gan: 

Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.

Cyflwyno eich apêl

I apelio i’r tribiwnlys bydd arnoch angen:

  • eich cyfeirnod IBCA

  • manylion y cynrychiolydd sy’n eich helpu gyda’ch apêl (os ydych yn defnyddio un)

  • eich hysbysiad o benderfyniad adolygu - bydd hwn yn cael ei anfon atoch ar ôl i chi ofyn i benderfyniad yr IBCA gael ei ailystyried

Dechrau eich apêl

Dechrau eich apêl ar-lein

Mewngofnodwch i barhau gydag apêl wedi’i chadw

Apelio drwy’r post

Gwneud cais am ffurflen apêl

I apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch iawndal gwaed heintiedig, ffoniwch y rhif perthnasol i ofyn am ffurflen apelio.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu dramor

Ffoniwch: 0300 1312850
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 4pm
Gwybodaeth am brisiau galwadau

Os ydych yn byw yn yr Alban

Ffoniwch: 0300 790 6234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am to 5pm
Gwybodaeth am brisiau galwadau

Ar gyfer siaradwyr Cymraeg

Ffoniwch: 0300 303 5170
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am to 5pm
Gwybodaeth am brisiau galwadau

Cofrestru cynrychiolydd i helpu gyda’ch apêl

Gallwch enwebu rhywun fel ‘cynrychiolydd’ i’ch helpu gyda’ch apêl. Gall cynrychiolydd:

  • eich helpu i gyflwyno eich apêl neu baratoi eich tystiolaeth

  • gweithredu ar eich rhan

  • rhoi cyngor i chi

Gall unrhyw un fod yn gynrychiolydd, gan gynnwys ffrindiau a theulu.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i gynrychiolydd trwy lyfrgell leol neu o sefydliad yn eich ardal sy’n rhoi cyngor ar geisiadau Iawndal Gwaed Heintiedig, megis Cyngor ar Bopeth.

Bydd gan eich cynrychiolydd ganiatâd i weithredu ar eich rhan, er enghraifft i ymateb i lythyrau. Bydd yr holl wybodaeth am eich apêl yn cael ei hanfon atynt, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol.

I gofrestru cynrychiolydd, gallwch naill ai:

  • enwi eich cynrychiolydd pan fyddwch yn cyflwyno eich apêl

  • cofrestru cynrychiolydd ar unrhyw adeg ar ôl i chi gyflwyno eich apêl

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Ionawr 2025 show all updates
  1. New link to an online appeal service added

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon