Canllawiau

Gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW

Defnyddiwch ffurflen VAT600AA os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW ac am ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol.

Pwy ddylai wneud cais

Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TAW a bod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, gallwch fynd ati i gofrestru ar gyfer TAW a gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol ar yr un pryd.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich enw busnes — dyma enw’ch busnes, a dylai fod ar eich Tystysgrif Cofrestru TAW

  • cyfeiriad eich busnes — dyma’ch prif leoliad busnes

  • eich rhif cofrestru TAW — os nad ydych wedi cael y rhif hwn, nodwch gyfeirnod eich cais i gofrestru ar gyfer TAW (os yw’n hysbys)

  • eich rhif ffôn — byddwn ond yn ei ddefnyddio os bydd angen i ni gysylltu â chi ynghylch eich cais

  • diwedd blwyddyn cyfrifyddu flynyddol — dyma’r mis yr hoffech i’ch datganiad blynyddol ddod i ben

  • amlder eich taliadau — gallwch ddewis talu’n fisol neu wneud taliadau interim chwarterol

  • eich dull o wneud taliadau interim

Sut i wneud cais

Bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch i wneud cais ar-lein. Os nad oes gennych ID, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.

Gwneud cais i ymuno

Ffyrdd eraill o wneud cais

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

  1. Llenwch ffurflen VAT600AA (yn agor tudalen Saesneg).

  1. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon at CThEF drwy’r post gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi wneud cais

Os gwnaethoch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i wneud eich cais, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Os nad oedd modd i chi wneud eich cais ar-lein, mae’n syniad da i gadw copi o’ch ffurflen – bydd gwneud hyn yn eich helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich cais.

Mae’n rhaid i chi roi digon o amser i ni brosesu’ch cais. Mae hyn oherwydd bod eich awdurdodiad i ddefnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol fel arfer yn dod i rym o ddiwrnod cyntaf y cyfnod pan gaiff eich cais ei gadarnhau.

Os ydych wedi dewis wneud taliadau TAW drwy Ddebyd Uniongyrchol, dylech ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein i drefnu’r Debyd Uniongyrchol hwnnw.

Pryd y gallwch ddechrau defnyddio’r cynllun

Byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig i roi gwybod a yw’ch cais yn llwyddiannus neu beidio. Os yw’ch cais yn llwyddiannus, bydd y llythyr yn rhoi’r wybodaeth ganlynol i chi:

  • swm y taliadau interim yr ydym wedi’u cyfrifo ar eich cyfer, a phryd i wneud y taliadau hyn

  • y dull electronig o dalu a ddewiswyd gennych

  • y dyddiad cau ar gyfer eich ffurflen flynyddol a thaliad mantoli

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 November 2024

Sign up for emails or print this page