Canllawiau

Carchar Bullingdon

Mae Bullingdon yn garchar i ddynion ger Bicester yn Swydd Rydychen.

Yn berthnasol i England and Gymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Bullingdon

I ymweld â rhywun yn Bullingdon, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad o leiaf ddiwrnod ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Bullingdon.

Cysylltwch â Bullingdon os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Os bydd argyfwng teuluol, defnyddiwch y llinell gymorth Dalfa mwy diogel drwy ffonio: 01869 356 893.

Gwybodaeth am gostau galwadau

Mewn argyfwng, ffoniwch y prif switsfwrdd a gofyn am y swyddog y dydd neu’r llywodraethwr ar ddyletswydd.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Bullingdon
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein.

Gallwch drefnu eich ymweliad dros y ffôn.

E-bost: socialvisits.bullingdon@justice.gov.uk
Ffôn: 01869 353 176
Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus) rhwng 9:30am ac 11:30am, 1:30pm a 4pm. 
Costau galwadau

I ganslo ymweliad, ffoniwch 01869 353 176 neu anfonwch e-bost at socialvisits.bullingdon@justice.gov.uk

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau: 2:15pm i 3:45pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul: 1:45pm i 3:45pm

Rydym ond yn gwarantu uchafswm o 1 Awr ond byddwn yn ymdrechu i roi mwy os yn bosibl.

Gall ymwelwyr gyrraedd y ganolfan ymweliadau o 12:15pm ymlaen.

Prif Lywodraethwr Swyddogaethol: Paul Reeve.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Ymweliadau Cyfreithiol Wyneb yn Wyneb:

Rhaid bwcio drwy anfon e-bost at Legalvisits.Bullingdon@justice.gov.uk neu dros y ffôn ar 01869 353414

Mae Bullingdon yn cynnal nifer cyfyngedig o ymweliadau, cynhelir ymweliadau cyfreithiol ar yr amseroedd canlynol:

  • Dydd Llun a dydd Gwener: 9am i 11:30am
  • Dydd Mawrth i ddydd Iau: 9am i 11:30am a 2pm i 4:30pm
  • Dydd Sadwrn: ar gau
  • Dydd Sul: ar gau

Ymweliadau Cyfreithiol Cyswllt Fideo:

Rhaid bwcio drwy anfon e-bost at VCCbullingdon@justice.gov.uk neu dros y ffôn ar 01869 353154 Mae Ymweliadau Cyfreithiol drwy Gyswllt Fideo ar gael ar yr amseroedd canlynol.

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 8:30am i 12:30pm a 1:30pm i 5:30pm

Ni fyddwn yn cynnig Ymweliadau Cyfreithiol ar unrhyw Wyliau Banc yn y DU.

Diffinnir ymwelwyr cyfreithiol fel Cyfreithwyr, Cynghorwyr Cyfreithiol, Swyddogion Prawf, yr Heddlu, Asiantaethau’r Llywodraeth a Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Mynd i Bullingdon

Dod o hyd i Bullingdon ar fap

Mae Bullingdon oddeutu 5 milltir o orsaf Pentref Bicester ac oddeutu 6 milltir o orsaf Gogledd Bicester. Mae bws rheolaidd yn rhedeg o’r ddwy orsaf i’r carchar.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Mae llefydd parcio ar gael, gan gynnwys llefydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Cyrraedd Bullingdon

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae gan Bullingdon bolisi cod gwisg sy’n addas i deuluoedd, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Efallai y cewch eich troi i ffwrdd os ydych chi’n gwisgo dillad y gellir gweld drwyddynt neu ddillad sy’n dangos gormod o gnawd fel festiau, topiau isel, trowsus neu ffrogiau byr neu jîns wedi’u rhwygo. Hefyd, ni allwch wisgo hwdis nac unrhyw beth sydd â phatrymau neu sloganau sarhaus. Bydd gofyn i chi dynnu siacedi, menig, sgarffiau a dillad pen ar wahân i’r rhai a wisgir am resymau crefyddol.

Caniateir i bob grŵp o ymwelwyr gymryd uchafswm o £30 mewn darnau arian (ni chaniateir arian papur). Gellir defnyddio’r arian i brynu bwyd a diod yn neuadd ymweliadau.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Bullingdon. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan ymwelwyr yn cael ei rhedeg gan elusen Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT).

Mae lluniaeth ar gael yn y neuadd ymweliadau.

Diwrnodau teulu

Cynhelir ymweliadau/diwrnodau i deuluoedd bob mis yng Ngharchar EF Bullingdon fel rhan o strategaeth plant a theuluoedd y carchar a’r strategaeth lleihau aildroseddu ehangach.  Fe’u cynlluniwyd i helpu carcharorion a’u teuluoedd i ymdopi â’r pwysau y gall gwahanu hirdymor ei gael ar y berthynas rhwng unedau teuluol, yn enwedig y berthynas rhwng y plant a’u Tad.  Byddant yn cynnig gwell ansawdd o ryngweithio rhwng dynion a’u plant.  I helpu i ddatblygu cysylltiadau agosach gyda’u plant a helpu i sylweddoli sut mae troseddoldeb yn effeithio ar y ddwy ochr.

Cymhwysedd Carcharorion

Er mwyn sicrhau bod carcharorion a’u teuluoedd yn gallu mwynhau’r diwrnod mewn awyrgylch hamddenol, mae meini prawf y mae’n rhaid i’r dynion eu bodloni, a bydd hyn yn cael ei egluro i’r dynion yn ystod y cyfnod ymgeisio.

Cymhwysedd Ymwelwyr

Y drefn llai llym ar gyfer ymweliadau dydd teuluol yw caniatáu i garcharorion ddatblygu a chynnal perthynas agosach â’u plant, eu hwyrion a’u hwyresau neu eu nithod / neiaint.  Rhaid cael perthynas gredadwy â’r plentyn/plant, ond bydd pob cais yn cael ei farnu ar ei deilyngdod ei hun.  Wedi dweud hynny, rhoddir blaenoriaeth bob amser i blant carcharorion.  Felly, dylai pob carcharor sy’n dod i’r diwrnod teulu gael plant yn ymweld, neu nid yw’n wahanol i ymweliad cymdeithasol arferol.  Dylai’r ymwelwyr sy’n ymweld â phlant fod yn:

  • Wraig
  • Mam Plant Carcharorion
  • Mam / Tad
  • Llys Dad / Mam
  • Brawd / Chwaer
  • Gwarchodwr cyfreithiol
  • Oedolyn priodol a benodwyd gan y llys
  • Gweithiwr cymdeithasol

Y nifer mwyaf o ymwelwyr gaiff fynychu yw tri oedolyn (mae plant dros 10 oed yn cael eu hystyried yn oedolion at ddibenion ymweliadau) a thri phlentyn dan 10 oed.  Bydd ceisiadau am rifau y tu hwnt i’r terfynau hyn yn cael eu hystyried yn unigol.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Bullingdon

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser y Bullingdon.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.

Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ond nid yw’r rhain yn derbyn galwadau. Maen nhw’n gallu gwneud galwadau bob dydd rhwng 7:30am ac 11pm. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Bullingdon drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yn Bullingdon.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Bullingdon.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Gall pobl yn Bullingdon wneud cais am ganiatâd i ymwelwyr roi eitemau i mewn yn ystod ymweliad.

Bydd pob eiddo yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion. Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Cysylltwch â Bullingdon i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Bywyd yn Bullingdon

Mae Bullingdon wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yn Bullingdon hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Bullingdon am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Bullingdon yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 1,100 o garcharorion yn Bullingdon ar draws 6 bloc tai (A i F). Mae’r rhan fwyaf o garcharorion yn rhannu celloedd.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu a ddarperir gan Goleg Milton Keynes. Mae’r rhain yn amrywio o sgiliau sylfaenol, fel Saesneg a mathemateg, i ddysgu o bell gyda’r Brifysgol Agored.

Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant mewn amrywiaeth o grefftau a phroffesiynau, yn cynnwys:

  • argraffu
  • glanhau diwydiannol
  • adeiladu
  • technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (ICT)
  • torri gwallt
  • cerddoriaeth
  • coginio
  • lletygarwch
  • iechyd a lles
  • maeth a bwyta’n iach
  • busnes

Mae gwaith ar gael ledled y carchar mewn meysydd fel golchi dillad a’r ffermydd a’r gerddi. Gall carcharorion ennill cymwysterau wrth weithio.

Mae Bullingdon hefyd yn cynnal nifer o gyrsiau raglenni ymddygiad troseddol achrededig.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cefnogaeth yn Bullingdon

Gall tîm gwasanaethau teulu PACT ddarparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion. Gofynnwch i’r ganolfan ymwelwyr i gael mwy o wybodaeth.

Ffôn: 08088 082 003

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01869 353 100 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01869 356 893 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Bullingdon.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Bullingdon mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Bullingdon

Llywodraethwr: Laura Sapwell

Ffôn: 01869 353 100
Ffacs: 01869 353 101
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP Bullingdon
PO Box 50
Bicester
OXON
OX25 1PZ

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 August 2022 + show all updates
  1. Secure video calls update.

  2. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  3. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  4. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  5. Updated rules for sending in money and gifts.

  6. Updated physical contact guidance

  7. New visiting times and booking information added.

  8. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  9. Updated visits information in line with national tier restrictions

  10. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  11. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  12. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  13. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  14. Updated header

  15. Added survey link

  16. Updated tel no's

  17. First published.

Sign up for emails or print this page