Cyfraddau a lwfansau Treth Enillion Cyfalaf
Defnyddiwch y cyfraddau a’r lwfansau hyn ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf er mwyn cyfrifo cyfanswm eich enillion sydd dros eich lwfans rhydd o dreth. Mae hyn yn cael ei adnabod fel y swm blynyddol wedi’i esemptio.
Byddwch yn cael lwfans rhydd o dreth blynyddol – sy’n cael ei adnabod fel y swm blynyddol wedi’i esemptio (AEA) – os ydych yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf pob blwyddyn dreth. Yr eithriad i hyn yw os nad yw eich domisil yn y DU, a’ch bod chi wedi hawlio’r sail trosglwyddo at ddibenion trethiant ar eich incwm ac enillion tramor.
Dim ond os bydd cyfanswm eich enillion ar gyfer y flwyddyn dreth (ar ôl didynnu unrhyw golledion a rhyddhadau) yn uwch na’r swm blynyddol wedi’i esemptio y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Mae un swm blynyddol wedi’i esemptio ar gyfer y canlynol:
-
y mwyafrif o bobl sy’n byw yn y DU
-
ysgutorion neu gynrychiolwyr personol ystâd person sydd wedi marw
-
ymddiriedolwyr ar gyfer pobl ag anabledd
Mae cyfradd is o swm blynyddol wedi’i esemptio yn berthnasol ar gyfer y mwyafrif o ymddiriedolwyr eraill.
Mae pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU, sy’n cael gwared ar eiddo preswyl yn y DU, yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf. Yn y rhan fwyaf o achosion gallant hawlio’r swm blynyddol wedi’i esemptio, yn yr un ffordd a phreswylwyr yn y DU. Nid yw hyn ar gael i gwmnïau sy’n cael gwared ar eiddo preswyl yn y DU, gan ei fod yn bosibl iddynt hawlio lwfansau eraill.
Terfynau symiau blynyddol wedi’u hesemptio
Gallwch ddefnyddio eich swm blynyddol wedi’i esemptio yn erbyn yr enillion sy’n cael eu trethu ar y cyfraddau uchaf er mwyn gostwng swm y dreth sy’n ddyledus gennych.
Blwyddyn dreth | Swm blynyddol wedi’i esemptio ar gyfer unigolion, cynrychiolwyr personol ac ymddiriedolwyr ar gyfer pobl ag anabledd | Swm blynyddol wedi’i esemptio ar gyfer ymddiriedolwyr eraill |
|—————-|————————————————————————|—————|
2025 to 2026 | £3,000 | £1,500 |
2024 to 2025 | £3,000 | £1,500 |
2023 to 2024 | £6,000 | £3,000 |
2022 to 2023 | £12,300 | £6,150 |
2021 to 2022 | £12,300 | £6,150 |
2020 to 2021 | £12,300 | £6,150 |
Ysgutorion neu gynrychiolwyr personol
Os ydych yn gweithredu fel ysgutor neu gynrychiolydd personol ar gyfer ystâd person sydd wedi marw, efallai y cewch y swm blynyddol wedi’i esemptio yn llawn yn ystod y cyfnod gweinyddu.
Y cyfnod gweinyddu yw’r amser sy’n cael ei gymryd i setlo materion y person sydd wedi marw. Bydd y cyfnod hwn yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y farwolaeth, ac yn gorffen pan fydd popeth wedi’i drosglwyddo i’r buddiolwyr.
Bydd gennych hawl i’r swm blynyddol wedi’i esemptio ar gyfer y flwyddyn dreth y digwyddodd y farwolaeth ynddi, a’r ddwy flynedd dreth olynol. Mae hyn yn golygu un swm blynyddol wedi’i esemptio yn erbyn enillion ym mhob un o’r blynyddoedd hynny. Ar ôl hynny, nid oes lwfans rhydd o dreth y gellir ei ddefnyddio yn erbyn enillion yn ystod y cyfnod gweinyddu.
Dysgwch ragor am sut i ddelio ag ystâd rhywun sydd wedi marw.
Ymddiriedolwyr ar gyfer pobl ag anabledd
Os ydych yn gweithredu fel ymddiriedolwr ar gyfer person ag anabledd, defnyddiwch y cyfraddau sydd i’w gweld yn y tabl o dan y pennawd ‘unigolion, cynrychiolwyr personol ac ymddiriedolwyr ar gyfer pobl ag anabledd’.
At ddibenion Treth Enillion Cyfalaf, mae person ag anabledd yn berson sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sy’n cael Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganolig neu’r gyfradd uwch.
Dysgwch ragor am ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad yw eich domisil yn y DU
Ni fyddwch yn cael y swm blynyddol wedi’i esemptio os nad yw eich domisil yn y DU, a’ch bod chi wedi hawlio’r sail trosglwyddo at ddibenion trethiant ar eich incwm ac enillion tramor.
Mae’n bosibl nad yw’ch domisil yn y DU os cawsoch eich geni mewn gwlad arall, ac yn bwriadu mynd yn ôl yno.
Os oes gennych incwm ac enillion tramor, a’ch bod wedi penderfynu y byddai o fudd i chi gael eich trethu ar yr incwm a’r enillion yr ydych yn eu trosglwyddo i’r DU, yn hytrach na’r holl incwm ac enillion sy’n deillio o dramor, yna mae’n bosibl eich bod wedi hawlio’r sail trosglwyddo.
Mae materion ynghylch domisil a threth ar enillion tramor yn gymhleth. Mae llawer yn dibynnu ar ffeithiau’r achos.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad ynghylch mannau preswylio, domisil a’r sail trosglwyddo: RDR1, a chysylltwch â CThEF os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Cyfraddau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf
Mae’r gyfradd Treth Enillion Cyfalaf yr ydych yn ei defnyddio yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm trethadwy. Bydd angen i chi gyfrifo cyfanswm eich incwm trethadwy yn gyntaf felly.
6 Ebrill 2025 ac ymlaen
Dyma’r cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
-
18% a 24% ar gyfer unigolion (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
-
32% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
24% ar gyfer ymddiriedolwyr
-
24% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
32% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
14% ar gyfer enillion sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) a Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
30 Hydref 2024 i 5 Ebrill 2025
Dyma’r cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
-
18% a 24% ar gyfer unigolion (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
-
18% a 28% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
24% ar gyfer ymddiriedolwyr
-
24% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
28% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
10% ar gyfer enillion sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) a Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
6 Ebrill 2024 i 29 Hydref 2024
Dyma’r cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
-
10% a 20% ar gyfer unigolion (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
-
18% a 24% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o eiddo preswyl
-
18% a 28% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
20% ar gyfer ymddiriedolwyr (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl)
-
24% ar gyfer ymddiriedolwyr, ar gyfer enillion o eiddo preswyl
-
20% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
24% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o eiddo preswyl
-
28% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
10% ar gyfer enillion sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes a Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
6 Ebrill 2019 i 5 Ebrill 2024
Dyma’r cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
-
10% a 20% ar gyfer unigolion (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
18% a 28% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o eiddo preswyl ac enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
20% ar gyfer ymddiriedolwyr (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl)
-
28% ar gyfer ymddiriedolwyr, ar gyfer enillion o eiddo preswyl
-
20% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
28% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o eiddo preswyl ac enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
10% ar gyfer enillion sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) (Rhyddhad Entrepreneuriaid yn gynt), a Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
Updates to this page
-
Annual exempt amount limits and rates for Capital Gains Tax have been updated for the 2025 to 2026 tax year.
-
Annual exempt amount limits and rates for Capital Gains Tax have been updated for the 2024 to 2025 tax year.
-
Annual exempt amount limits have been updated.
-
Annual exempt amount limits have been added for 2022 to 2023.
-
AEA limits have been added for 2020 to 2021.
-
First published.