Elusennau: apeliadau trychineb ac argyfwng
Sut y gall eich elusen ymateb i drychineb neu argyfwng a sut i redeg apêl lwyddiannus.
Yn berthnasol i England and Gymru
Ymateb i drychineb
Gall eich elusen ddefnyddio ei chronfeydd ar gyfer y dibenion a nodir yn eich dogfen lywodraethol yn unig.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod ymateb i apêl drychineb wedi’i gynnwys o fewn dibenion eich elusen:
Hefyd, meddyliwch am y canlynol:
- gallu’ch elusen i ymateb i’r trychineb
- a yw elusennau eraill mewn sefyllfa well i weithredu
Sut i newid dibenion eich elusen i ymateb i drychineb
Efallai y bydd gan eich elusennau ddiben sy’n caniatáu iddi weithio o fewn ardal benodol neu gyda rhai buddiolwyr yn unig. Os ydych chi am newid eich dibenion i ymateb i drychineb, fel arfer bydd rhaid i chi ofyn i’r Comisiwn Elusennau am ei gymeradwyaeth.
Dylech chi allu dangos bod y newid er lles eich elusen a’i buddiolwyr. Dylech chi hefyd ystyried pa effaith y gallai’r newid hwn ei chael ar eich buddiolwyr presennol - er enghraifft, a fydd ymateb i drychineb yn golygu bod angen i chi leihau’r gwasanaethau rydych yn eu cynnig ar hyn o bryd.
Gall ysgrifennu dibenion newydd fod yn gymhleth. Mae gofyn i’r comisiwn i’w cymeradwyo yn cymryd amser hefyd. Os yw hyn yn broblem, gallech chi ystyried ffyrdd eraill o helpu.
Codi arian gydag elusennau eraill
Gall eich elusen weithio gydag elusennau eraill i godi arian ar gyfer eich gweithgareddau lleddfu effeithiau trychineb eich hun, neu ei drosglwyddo i elusen neu sefydliad arall sydd eisoes yn gweithio yn y maes. Rhaid i unrhyw gydweithredu i godi arian:
- fod er lles buddiolwyr eich elusen
- hyrwyddo dibenion eich elusen
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cytundeb ysgrifenedig yn ei le rhwng pob parti perthnasol. Dylai amlinellu manylion ymarferol y bartneriaeth, gan gynnwys:
- dibenion cydweithredu
- am faint y bydd y cydweithredu yn para
- beth fydd yn digwydd gydag unrhyw arian dros ben
- a fydd yr arian a godir yn ffurfio cronfa elusennol ar wahân
- sut y caiff arian ac adnoddau pob sefydliad eu defnyddio
- y prosesau, y rolau a’r cyfrifoldebau ar gyfer rheoli’r arian a godir
- trefniadau paratoi cyfrifon ac adroddiadau
Darllenwch ganllawiau’r comisiwn ar weithio gydag elusennau eraill .
Sut i redeg apeliadau
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol o y gyfraith codi arian ac arferion da pan fyddwch yn rhedeg apeliadau. Dylai’ch apêl:
- nodi’n glir pwy yw’ch elusen a beth y mae’n ei wneud
- egluro at beth y caiff yr arian ei godi a sut y caiff ei ddefnyddio
- rhoi gwybod i’r cyhoedd sut i gyfrannu at yr apêl
- esbonio’r trefniadau cymorth rhodd
- dweud beth fydd yn digwydd i unrhyw arian dros ben a beth fydd yn digwydd os nad yw digon o arian yn cael ei godi
Rhoddion personol
Os nad yw codi arian ar gyfer trychineb wedi’i gynnwys o fewn dibenion eich elusen, gallwch dal i roi neu drefnu casgliadau personol. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n:
- casglu arian yn enw neu ar ran eich elusen
- symud unrhyw arian o’r fath drwy gyfrif banc eich elusen