Masnachu gan elusennau: gwerthu nwyddau a gwasanaethau
Pryd y gall elusennau fasnachu, rheolau treth a phryd i fasnachu trwy gwmni ar wahân.
Yn berthnasol i England and Gymru
Beth yw masnachu
Os ydych am werthu nwyddau neu wasanaethau, bydd rhaid i chi wybod a yw’ch gweithgareddau yn cael eu hystyried yn fath o fasnachu, ac os ydynt, pa fath o fasnachu y byddwch yn ei wneud. Efallai y bydd rhaid talu treth ar yr elw sy’n codi o rai mathau o fasnachu.
Mae penderfynu a ydych yn masnachu neu beidio yn gallu dibynnu ar nifer ac amlder eich trafodion, ymysg ffactorau eraill. Er enghraifft, nid yw gwerthu nwyddau a roddwyd mewn siop elusennol yn cael ei ystyried yn fath o fasnachu felly ni fyddai’n rhaid talu treth ar unrhyw elw.
Cewch wybod rhagor yma am yr hyn sy’n, a’r hyn nad yw’n, cael ei ystyried yn fath o fasnachu.
Mathau o fasnachu
Mae dau brif fath o fasnachu i elusennau: ‘masnachu prif ddiben’ a masnachu ‘heb fod yn brif ddiben’. Mae goblygiadau treth gwahanol i’r mathau gwahanol hyn o fasnachu.
Cewch wybod rhagor am fasnachu gan elusennau a threth gan Gyllid a Thollau EM.
Masnachu prif ddiben: gwerthu i hyrwyddo nod eich elusen
Mae gwerthu nwyddau neu wasanaethau sy’n hyrwyddo nod eich elusen yn uniongyrchol fel y’u nodir yn eich dogfen lywodraethol yn cael ei alw masnachu prif ddiben.
Mae enghreifftiau o fasnachu prif ddiben yn cynnwys:
- cartref gofal sy’n codi tâl am ddarparu gwasanaethau tai a gofal i bobl hŷn
- elusen i’r anabl sy’n gwerthu cynnyrch wedi’i wneud gan ei fuddiolwyr
- theatr elusennol sy’n gwerthu tocynnau ar gyfer ei gynhyrchiad
Gallech hefyd werthu nwyddau neu wasanaethau sy’n cefnogi eich masnachu prif ddiben - er enghraifft, gwerthu bwyd a diod i aelodau cynulleidfa yng nghaffi theatr. Gelwir hyn yn ‘fasnachu ategol’.
Gall yr elw o fasnachu prif ddiben a masnachu ategol gael ei eithrio o dreth, ond dim ond os yw’r elw yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl i hyrwyddo nod eich elusen.
Masnachu heb fod yn brif ddiben: gwerthu i godi arian
Gallwch hefyd werthu nwyddau neu wasanaethau i godi arian yn unig: yr enw am hyn yw masnachu heb fod yn brif ddiben. Nid oes gan y math hwn o fasnachu gysylltiad uniongyrchol â nod eich elusen.
Gallai masnachu heb fod yn brif ddiben gynnwys:
- gwerthu cardiau cyfarch neu eitemau tebyg
- theatr elusennol sy’n rhedeg caffi sy’n gwerthu bwyd a diod i aelodau’r cyhoedd, yn hytrach nag i aelodau’r gynulleidfa
Gall elusennau ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben os nad oes unrhyw risg arwyddocaol y gallai’r elusen golli arian o’r fenter hon.
Fel arfer bydd yr elw o fasnachu heb fod yn brif ddiben yn drethadwy, er y caiff ei ddefnyddio i hyrwyddo nod yr elusen.
Masnachu cymysg
Gall rhai gweithgareddau masnachu gymysgu masnachu prif ddiben a masnachu heb fod yn brif ddiben. Er enghraifft, gall siop amgueddfa werthu llyfrau sy’n ymwneud ag arddangosfa (cysylltiedig â’u nodau) a rhai pennau hyrwyddo (heb fod yn gysylltiedig â’r nodau o gwbl). Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gofnodi’r gwerthiannau hyn ar wahân yn eich cyfrifon os ydych chi’n cymysgu mathau o fasnachu fel hyn.
Sut i ddiogelu eich elusen rhag colli arian
Mae pob elusen yn agored i risg os ydynt yn masnachu, ond os yw’ch elusen yn disgwyl gwneud swm sylweddol o fasnachu, gallai’ch elusen fod yn agored i fwy o risg o golli arian. Er enghraifft, gall poblogrwydd eich busnes bylu, gan droi elw yn golled. Un ffordd o leihau’r risg i’ch elusen yw sefydlu ‘is-gwmni masnachu’.
Mae is-gwmni masnachu yn gwmni y mae’ch elusen yn ei reoli. Yn ôl y gyfraith mae ganddo’r un statws cyfreithiol ag unigolyn. Felly, gall cwmni, fel unigolyn, berchen ar dir a llunio contractau yn ei enw ei hun.
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio is-gwmni masnachu ar gyfer masnachu heb fod yn fasnachu prif ddiben os oes risg arwyddocaol y gallai’ch elusen golli arian.
Gwybod rhagor am y risg i elusennau sy’n masnachu fel hyn.
Mae rhai costau ychwanegol yn gysylltiedig â sefydlu cwmni sy’n cael ei reoleiddio gan Dŷ’r Cwmnïau.
Gall y ffordd hon o weithredu fod yn gymhleth i’w sefydlu. Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi cyngor ar faterion treth ac is-gwmnïau masnachu, ac mae’n bosib y bydd rhaid i chi ymgynghori â chyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol tebyg: