Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio lwfans gwariant llawn neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50%

Os ydych yn gwmni, gallwch gael gwybod a allwch hawlio lwfans gwariant llawn, neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50%, ar gyfer costau am offer neu beiriannau.

Mae’r lwfans gwariant llawn a’r lwfans blwyddyn gyntaf o 50% yn lwfansau cyfalaf blwyddyn gyntaf y gallwch eu hawlio ar gyfer costau am offer neu beiriannau.

Mae’n bosibl y gallwch hawlio’r lwfansau hyn os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn gwmni sy’n agored i Dreth Gorfforaeth
  • codwyd y gwariant hwn arnoch ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023 

Os na allwch hawlio’r lwfansau hyn, gwiriwch pa lwfansau sydd ar gael i chi

Os ydych yn gwerthu neu’n cael gwared ar ased (yn agor tudalen Saesneg), a’ch bod wedi hawlio’r lwfansau hyn ar gyfer yr ased hwnnw, mae’n rhaid i chi gyfrifo’r tâl cywir i’w ddefnyddio wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.

Gwirio a fydd eich offer neu beiriannau yn gymwys 

Mae’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ‘offer a pheiriannau’ yn dibynnu ar natur eich busnes. 

I wneud hawliad am lwfans gwariant llawn neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50%, mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am yr offer a’r peiriannau: 

  • maen nhw’n newydd a heb gael eu defnyddio 
  • mae’n rhaid iddynt heb:
    • fod wedi’u rhoi i chi fel rhodd 
    • fod yn gar (mae’n bosibl y gall cerbydau eraill fod yn gymwys ar gyfer lwfans gwariant llawn) — dysgwch sut i hawlio lwfansau cyfalaf ar geir 
    • fod wedi’u prynu er mwyn cael eu prydlesu (oni bai mai offer neu beiriannau cefndirol o fewn adeilad sydd dan sylw) 
    • fod wedi’u prynu yn ystod y cyfnod cyfrifyddu pan ddaeth y gweithgareddau busnes i ben

Os ydych yn prydlesu offer neu beiriannau cefndirol 

Os ydych yn prydlesu eiddo masnachol, mae’n bosibl y gallwch hawlio ar gyfer offer neu beiriannau cefndirol yn yr adeiladau sy’n cael eu prydlesu. Hynny yw, y pethau sy’n cael eu gosod mewn adeilad er mwyn gallu ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): 

  • gosod golau 
  • gosod gwifrau 
  • gosod gwres canolog 

Gwirio pa lwfansau y gallwch eu hawlio

Os ydych yn gwneud hawliad ar gyfer offer neu beiriannau prif gyfradd (yn agor tudalen Saesneg), gallwch ddidynnu’r holl gost o dan lwfans gwariant llawn wrth gyfrifo’ch elw trethadwy. 

Os ydych yn gwneud hawliad ar gyfer offer neu beiriannau cyfradd arbennig (yn agor tudalen Saesneg), gallwch ddidynnu hanner y gost o dan lwfans blwyddyn gyntaf o 50% wrth gyfrifo’ch elw trethadwy. Adiwch falans y gwariant at eich cronfa cyfradd arbennig yn y cyfnod cyfrifyddu dilynol er mwyn hawlio lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg)

Mae’n bosibl y gall gwariant ar offer neu beiriannau cyfradd arbennig fod yn gymwys i gael 100% o’r lwfans buddsoddi blynyddol

Gwirio cymhwystra’ch asedion o ran hawlio 

Gallwch wirio a allwch hawlio lwfans gwariant llawn neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50% os ydych yn gwybod y canlynol: 

  • cyfnod cyfrifyddu (yn agor tudalen Saesneg) y busnes 
  • gwybodaeth am yr offer neu beiriannau, gan gynnwys: 
    • cost yr ased (gan gynnwys costau dosbarthu a chostau gosod) 
    • sut y daeth yr ased i law (er enghraifft, a gafodd yr ased ei brynu’n llwyr neu ar hurbwrcas?) 

Dechrau nawr

Gwneud hawliad 

Gallwch wneud hawliad ar gyfer lwfans gwariant llawn neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 March 2024

Sign up for emails or print this page