Trosolwg

Mae lwfansau cyfalaf yn fath o ryddhad treth i fusnesau. Maent yn gadael i chi ddidynnu rhywfaint neu’r cyfan o werth eitem oddi wrth eich elw cyn i chi dalu treth.

Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer:

  • offer
  • peiriannau
  • cerbydau busnes, er enghraifft faniau, lorïau neu geir busnes

Gelwir y rhain yn ‘offer a pheiriannau’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a bod gennych incwm o £150,000 neu lai y flwyddyn, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio system symlach o’r enw’r sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.

Mathau o lwfansau cyfalaf ar gyfer offer a pheiriannau

Gallwch hawlio gwahanol symiau, yn dibynnu ar ba lwfans cyfalaf a ddefnyddiwch.

Y lwfansau cyfalaf (a elwir hefyd yn lwfansau offer a pheiriannau) yw:

Os yw eitem yn gymwys ar gyfer mwy nag un lwfans cyfalaf, gallwch ddewis pa un i’w ddefnyddio.

Cyfrifo gwerth eich eitem

Yn y rhan fwyaf o achosion, y gwerth yw’r hyn a dalwyd gennych am yr eitem. Defnyddiwch y gwerth marchnadol (y swm y byddech yn disgwyl ei werthu amdano) yn lle hynny os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn berchen arni cyn i chi ddechrau ei defnyddio yn eich busnes
  • roedd yn rhodd

Costau busnes eraill

Rydych yn hawlio cost pethau nad ydynt yn asedion busnes mewn ffordd wahanol. Mae hyn yn cynnwys:

  • costau rhedeg eich busnes o ddydd i ddydd
  • eitemau rydych yn eu prynu a’u gwerthu fel rhan o’ch masnach
  • taliadau llog neu gostau cyllid am brynu asedion

Hawliwch y costau hyn fel treuliau busnes (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, neu didynnwch y costau oddi wrth eich elw fel cost busnes os ydych yn gwmni cyfyngedig.

Lwfansau cyfalaf eraill

Yn ogystal ag offer a pheiriannau, gallwch hefyd hawlio lwfansau cyfalaf am y canlynol:

Os ydych yn rhoi eiddo preswyl ar osod

Dim ond os yw’ch busnes yn gymwys fel busnes llety gwyliau wedi’i ddodrefnu y gallwch gyflwyno hawliad am eitemau i’w defnyddio mewn eiddo preswyl. Ym mhob blwyddyn mae’n rhaid i’r eiddo fod: 

  • ar gael i gael ei osod fel llety gwyliau am 210 diwrnod
  • ar osod am 105 diwrnod neu fwy