Eiddo deallusol a’ch gwaith

Skip contents

Beth yw eiddo deallusol

Mae cael y math cywir o ddiogelwch eiddo deallusol yn eich helpu i atal pobl rhag dwyn neu gopïo:

  • enwau eich cynhyrchion neu frandiau
  • eich dyfeisiadau
  • cynllun eich cynhyrchion neu sut maen nhw’n edrych
  • y pethau rydych yn eu hysgrifennu, eu creu neu eu cynhyrchu

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae hawlfraint, patentau, dyluniadau a nodau masnach oll yn fathau o ddiogelwch eiddo deallusol. Rydych yn cael rhai mathau o ddiogelwch yn awtomatig, mae’n rhaid i chi wneud cais am eraill.

Beth sy’n cyfri fel eiddo deallusol

Mae eiddo deallusol yn rhywbeth yr ydych yn ei greu gan ddefnyddio eich meddwl – er enghraifft, stori, rhywbeth a ddyfeisiwyd, gwaith artistig neu symbol.

Bod yn berchen ar eiddo deallusol

Rydych yn berchen ar eiddo deallusol os:

  • ydych wedi ei greu (ac mae’n ateb y gofynion ar gyfer hawlfraint, patent neu gynllun)
  • ydych wedi prynu eich hawliau deallusol gan yr un a greodd yr eiddo neu berchennog blaenorol
  • oes gennych frand a allai fod yn nod masnach, er enghraifft, enw cynnyrch adnabyddus

Gall eiddo deallusol:

  • gael mwy nag un perchennog
  • fod yn eiddo i bobl neu fusnesau
  • gael ei werthu neu ei drosglwyddo

Mae hawliau eiddo deallusol yn gadael i chi wneud arian o’r eiddo deallusol yr ydych yn berchen arno.

Eiddo deallusol os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych yn hunangyflogedig, rydych fel arfer yn berchen ar yr eiddo deallusol hyd yn oed os cafodd eich gwaith ei gomisiynu gan rywun arall – heblaw bod eich contract gyda nhw’n rhoi’r hawliau iddyn nhw.

Fyddwch chi ddim fel arfer yn berchen ar yr eiddo deallusol am rywbeth a grëwyd gennych yn rhan o’ch gwaith pan oeddech yn gyflogedig gan rywun arall.