Trosolwg

Mae cofrestriad dyluniad yn helpu i ddiogelu ymddangosiad cynnyrch, fel ei siâp neu batrwm.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae cofrestru’ch dyluniad yn ei gwneud hi’n haws profi:

  • eich bod yn berchen ar y dyluniad yn gyfreithiol
  • pryd y gwnaethoch ei greu

Bydd hyn yn helpu os bydd unrhyw un yn ceisio copïo neu ddefnyddio’ch dyluniad heb eich caniatâd.

Mae cofrestriad dyluniad yn parhau am bum mlynedd. Rhaid i chi adnewyddu’ch cofrestriad dyluniad bob pum mlynedd i’w gadw’n ddiogel - hyd at uchafswm o 25 mlynedd.

Beth y gallwch ei gofrestru

Rhaid i’ch dyluniad fod yn newydd.

Gall dyluniad rhywbeth gynnwys un neu fwy o’r canlynol:

  • siâp corfforol
  • ffurfweddiad (neu sut mae gwahanol rannau o ddyluniad yn cael eu trefnu gyda’i gilydd)
  • addurniad neu liw
  • patrwm

Beth na allwch ei gofrestru

Ni allwch gofrestru:

  • deunydd annymunol, er enghraifft geiriau rhegi neu ddelweddau pornograffig
  • dyluniadau sy’n defnyddio baneri cenedlaethol nad oes gennych ganiatâd i’w defnyddio
  • dyluniadau sy’n defnyddio arwyddluniau neu nodweddion swyddogol, er enghraifft y cylchoedd Olympaidd neu arfbeisiau
  • ymarferoldeb dyluniad, er enghraifft cadair sy’n plygu i lawr yn gyflymach nag eraill o’r un math

Beth mae’n ei gostio

Mae cofrestru dyluniad yn costio o £50 am un dyluniad i £150 am hyd at 50.

Y broses ymgeisio

Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post.

Rhaid i chi anfon darluniadau manwl o’ch dyluniadau i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), gan gynnwys unrhyw nodiadau i ddisgrifio’n union beth rydych yn ei gofrestru.

Byddwch yn cael penderfyniad ar eich cais o fewn tair wythnos.

Gweld llinell amser o’r broses.