Paratoi eich cais

Rhaid i chi baratoi darluniadau manwl o’ch dyluniad. 

Gallwch gynnwys hyd at 12 darluniad os ydych yn gwneud cais ar-lein. Os oes angen i chi gynnwys mwy na 12 darluniad, rhaid i chi wneud cais drwy’r post yn lle hynny. 

Os oes angen i chi gynnwys mwy nag un olwg o’r dyluniad, er enghraifft golwg o’r brig i lawr ac o’r ochr, rhaid i chi ddangos hyn fel darluniadau ar wahân. 

Os ydych yn gwneud cais drwy’r post, rhaid i’ch darluniadau fod ar bapur A4 plaen.

Rheolau ar gyfer darluniadau 

Dylai eich darluniadau:

  • dangos y dyluniad fel y mae’n ymddangos i’r llygad, gan ddefnyddio ffotograffau, lluniadau llinell, dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) neu CAD wedi’i rendro 
  • bod yr un math o ddelwedd (er enghraifft, i gyd yn lluniadau llinell neu i gyd yn ffotograffau) 
  • dangos y dyluniad yn erbyn cefndir plaen 
  • cynnwys y patrwm cyflawn a dangos sut mae’n ailadrodd, os ydych chi am gofrestru patrwm arwyneb 
  • dylech gynnwys gwrthrychau sydd eu hangen i arddangos eich dyluniad yn unig (er enghraifft, peidiwch â chynnwys eich llaw, neu wrthrych nad yw’n gysylltiedig â’ch dyluniad) 
  • bod yn glir (er enghraifft, os ydych yn defnyddio ffotograffau mae’n rhaid iddynt fod yn eglur) 
  • heb unrhyw fanylion wedi’u cuddio gan gysgodion neu adlewyrchiadau 
  • heb gynnwys testun, mesuriadau na gwybodaeth dechnegol arall

Os yw eich darluniadau’n cynnwys cyferbyniadau lliw neu arlliw, bydd y rhain yn cael eu hystyried yn elfennau o’ch dyluniad oni bai eich bod yn dweud yn wahanol.

Os yw eich darluniadau’n cynnwys pethau nad ydych am eu cofrestru

Rhaid i chi ddangos neu esbonio:

  • pa rannau o ddarluniad rydych am eu cofrestru fel dyluniad - gelwir hyn yn ‘gyfyngiad’ 

  • y rhannau o ddarluniad nad ydych am eu cofrestru fel dyluniad - gelwir hyn yn ‘ymwadiad’ 

Gallwch wneud hyn drwy ‘lwydo allan’ neu gylchu rhannau o’r darluniad, neu drwy ychwanegu llinell o destun.

Enghraifft 1

Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer rhai coesau bwrdd. Mae eich darluniadau’n dangos y bwrdd cyfan. Amlygwch y coesau (er enghraifft, trwy eu hamlinellu) i’w gwneud yn glir mai dyma’r unig ran o’r bwrdd rydych chi am ei chofrestru.

Enghraifft 2

Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer beic. Mae’r beic yn eich darluniadau’n binc. Ychwanegwch nodyn eich bod yn cofrestru siâp y beic, nid y lliw, i amddiffyn eich hawl i ddefnyddio unrhyw liw.

Enghraifft 3

Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer tebot. Mae’r darluniadau’n dangos patrwm ond mae eich dyluniad yn ymwneud â siâp y tebot. Ychwanegwch nodyn yn egluro nad yw’r patrwm yn rhan o’r dyluniad.