Cofrestru dyluniad
Anfon eich cais
Rhaid bod gennych ddarluniau o’ch dyluniad cyn y gallwch wneud cais i gofrestru dyluniad.
Os nad ydych am i’ch dyluniad gael ei gofrestru cyn gynted â phosibl, gallwch ddewis ‘gohirio’ eich cais am hyd at 12 mis. Ni fydd eich dyluniad yn cael ei ddiogelu fel dyluniad cofrestredig tra bydd eich cais yn cael ei ohirio.
Mae faint rydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar nifer y dyluniadau rydych chi’n eu cofrestru, nid nifer y darluniau rydych chi’n eu cynnwys.
Nifer y dyluniadau | Ffi ffeilio ar-lein |
---|---|
Un | £50 |
Hyd at 10 | £70 |
Hyd at 20 | £90 |
Hyd at 30 | £110 |
Hyd at 40 | £130 |
Hyd at 50 | £150 |
Os na allwch wneud cais ar-lein
Llenwch ffurflen gais a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Cynhwyswch eich darluniau a’r ffi. Mae’n costio mwy na gwneud cais ar-lein.
Nifer y dyluniadau | Ffi ffeilio papur |
---|---|
Un | £60 |
Pob dyluniad ychwanegol | £40 |