Eiddo deallusol a’ch gwaith

Skip contents

Amddiffyn eich eiddo deallusol

Mae diogelu eich eiddo deallusol yn ei gwneud yn haws i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n ei ddwyn neu ei gopïo.

Mae gwahanol fathau o ddiogelwch yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi’i greu.

Math o amddiffyniad Eiddo deallusol y mae’n ei gynnwys Amser i ganiatáu cais
Cofrestru nod masnach Enwau cynnyrch, logos, jingles 4 mis
Cofrestru dyluniad Ymddangosiad cynnyrch, gan gynnwys ei siâp, pecynnu, patrymau, addurniad 3 wythnos
Hawlfreinio eich gwaith Gwaith ysgrifennu a llenyddol, celf, ffotograffiaeth, ffilmiau, teledu, cerddoriaeth, cynnwys gwe Dim angen gwneud cais
Patentio dyfais Dyfeisiadau a chynhyrchion, er enghraifft peiriannau, meddyginiaethau Tua 5 mlynedd

Rydych yn cael amddiffyniad awtomatig cyfyngedig dros eiddo deallusol, er enghraifft hawl dyluniad. Fodd bynnag, mae’n haws profi eich bod yn berchen ar eiddo deallusol yn gyfreithlon os yw wedi’i gofrestru.

Cadwch eich eiddo deallusol yn gyfrinach nes ei fod wedi’i gofrestru. Os oes angen i chi drafod eich syniad gyda rhywun, defnyddiwch gytundeb peidio â datgelu.

Defnyddio mwy nag un math o amddiffyniad

Gallai mwy nag un math o amddiffyniad fod yn gysylltiedig ag un cynnyrch, er enghraifft, gallwch:

  • cofrestru’r enw a’r logo fel nod masnach
  • diogelu siâp unigryw cynnyrch fel dyluniad cofrestredig
  • patent darn weithio gwbl newydd
  • defnyddio hawlfraint i ddiogelu lluniadau’r cynnyrch

Cael help

Ystyriwch pa fath o amddiffyniad sydd ei angen arnoch. Gallwch: