Trosolwg

Gall patent y DU helpu os ydych am gymryd camau cyfreithiol yn erbyn rhywun sy’n defnyddio’ch dyfais heb eich caniatâd. Er enghraifft, os ydynt yn gwerthu neu weithgynhyrchu’ch cynnyrch yn y DU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn gwneud cais am batent, gwiriwch mai dyma’r math cywir o amddiffyniad ar gyfer eich eiddo deallusol.

Mae patent yn parhau am bum mlynedd. Os ydych am iddo aros mewn grym ar ôl hynny, rhaid i chi ei adnewyddu bob blwyddyn, hyd at uchafswm o 20 mlynedd.

Beth allwch chi gael patent arno

Rhaid i’ch dyfais fod yn:

  • newydd - mae’n rhaid nad oedd ar gael i’r cyhoedd yn unrhyw le yn y byd, er enghraifft ni ddylid cael ei ddisgrifio mewn cyhoeddiad
  • dyfeisgar - er enghraifft, ni all fod yn newid amlwg i rywbeth sy’n bodoli eisoes
  • naill ai rhywbeth y gellir ei wneud a’i ddefnyddio, proses dechnegol, neu ddull o wneud rhywbeth

Beth na allwch chi gael patent arno

Ymhlith y pethau na allwch gael patent amdanynt mae:

  • gweithiau llenyddol, dramatig, cerddorol neu artistig
  • ffordd o wneud busnes, chwarae gêm neu feddwl
  • dull o driniaeth feddygol neu ddiagnosis
  • darganfyddiad, theori wyddonol neu ddull mathemategol
  • y ffordd y cyflwynir gwybodaeth
  • prosesau ‘yn eu hanfod yn fiolegol’ fel anifeiliaid sy’n croesfridio neu fathau o blanhigion
  • meddalwedd sydd â phwrpas ‘annhechnegol’

Dim ond meddalwedd â phwrpas technegol y gellir rhoi patent iddo. Er enghraifft, gallai meddalwedd i reoli car heb yrrwr gael patent, er na allai ap chwarae gwyddbwyll. Os mai meddalwedd yw eich dyfais, efallai y bydd angen cyngor proffesiynol arnoch a ellir ei phatentu (er enghraifft, gan dwrnai patentau).

Gwylio fideo byr am batentau (2 funud).

Beth mae’n ei gostio

Rhaid i chi dalu ffioedd i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) pan ydych yn ffeilio’ch cais ac am brosesu’ch cais ar ôl i chi ffeilio. Bydd yn costio o leiaf £310 os byddwch yn cwblhau’r broses.

Er mwyn cael y siawns orau o gael patent fel arfer bydd angen i chi hefyd dalu twrnai patentau am gymorth a chyngor. Gall hyn gostio rhai miloedd o bunnoedd.

Y broses ymgeisio

Mae cael patent yn gymhleth - rydych yn annhebygol o gael patent heb gymorth proffesiynol a gall gymryd sawl blwyddyn.

Os ydych chi’n hyderus bod eich dyfais yn newydd a bod patent yn bodloni’ch anghenion, rhaid i chi:

  • paratoi dogfennau manwl sy’n disgrifio’ch dyfais
  • ffeilio’r dogfennau hyn gyda’r IPO

Rhaid i chi wedyn ofyn i’r IPO gynnal eu gwiriad eu hunain i weld a yw eich dyfais yn newydd ac yn ddyfeisgar (‘chwiliad’).

Tua 18 mis ar ôl i chi wneud cais bydd yr IPO yn cyhoeddi’ch cais yn llawn.

Yna mae’n rhaid i’r IPO wneud gwiriad trylwyr o’ch cais i benderfynu a oes modd rhoi patent ar eich dyfais (a elwir yn ‘archwiliad sylweddol’). Gallai hyn ddigwydd sawl blwyddyn ar ôl i chi wneud cais.

Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi ddiwygio’ch cais yn seiliedig ar argymhellion yr IPO. Dim ond os gallwch ddatrys yr holl faterion a godwyd gan yr archwiliad y rhoddir eich patent.

Gweld llinell amser o’r broses.

Ffyrdd eraill o gael patent y DU

Gall rhai sefydliadau rhyngwladol roi patentau’r DU yn ogystal â phatentau ar gyfer gwledydd eraill. Darllen canllawiau ar ddiogelu’ch eiddo deallusol dramor.