Chwilio, cyhoeddi ac 'archwiliad sylweddol'

Cyn y gellir caniatáu eich patent rhaid i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO): 

  • cynnal chwiliad i gadarnhau bod eich dyfais yn newydd ac yn ddyfeisgar 
  • cyhoeddi eich cais 
  • cynnal ‘archwiliad sylweddol’ o’ch cais

Os na wnaethoch ofyn am eich chwiliad a’ch archwiliad sylweddol pan wnaethoch gais 

Fel arfer mae’n rhaid i chi ofyn am: 

  • eich chwiliad o fewn 12 mis i’ch dyddiad ffeilio 
  • eich archwiliad o fewn 6 mis i’w gyhoeddi

Efallai y bydd gennych fwy neu lai o amser yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd yr IPO yn rhoi gwybod i chi beth yw eich union ddyddiadau cau ar gyfer gofyn am y rhain.

Os na fyddwch yn gwneud cais ac yn talu am y rhain mewn pryd, gallai eich cais gael ei derfynu. 

Gwneud cais am chwiliad ac archwiliad

Os na allwch wneud cais ar-lein, lawrlwythwch a llenwch: 

Ar ôl ei chwblhau anfonwch eich ffurflen i’r cyfeiriad post ar y ffurflen. 

Chwiliad patent

Mae’r chwiliad patent yn gwirio a oes unrhyw ddogfennau’n bodoli sy’n nodi nad yw eich dyfais yn newydd ac yn ddyfeisgar, yn seiliedig ar eich ‘honiadau’. 

Fel arfer bydd yn digwydd o fewn 6 mis i chi ofyn amdano, a gallwch wneud hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn ffeilio eich cais cychwynnol.

Bydd yr IPO yn anfon adroddiad atoch gyda chanfyddiadau’r chwiliad. Darllen dalen ffeithiau’r adroddiad chwilio am ragor o fanylion.

Cyhoeddi 

Os yw’ch cais wedi’i gwblhau bydd yr IPO yn ei gyhoeddi - fel arfer 18 mis ar ôl eich dyddiad ffeilio. 

Nid yw cyhoeddi yn golygu bod eich patent wedi’i ganiatáu. 

Bydd eich cais llawn, gan gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad, ar gael yn gyhoeddus ar-lein. 

Ni all yr IPO atal manylion eich cais rhag cael eu rhannu neu eu hatgynhyrchu, er enghraifft os yw gwefannau trydydd parti hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi a’ch dyfais.

Archwiliad sylweddol 

Mae’r archwiliad sylweddol yn wiriad trylwyr i weld a yw eich dyfais yn newydd ac yn ddyfeisgar. Mae’r archwiliad hefyd yn gwirio a oes unrhyw reswm arall na all yr IPO roi patent, er enghraifft os nad yw eich dogfennau’n disgrifio’ch dyfais yn ddigon manwl. 

Rhaid i chi ofyn i’r IPO gynnal archwiliad sylweddol - ni fydd yn digwydd yn awtomatig. 

Gallai’r archwiliad sylweddol gael ei gynnal o fewn 6 mis i’ch cais os gofynnwch amdano pan fyddwch yn ffeilio’ch cais cychwynnol. Os byddwch yn gofyn amdano yn ddiweddarach, efallai y bydd sawl blwyddyn cyn iddo gael ei wneud. 

Unwaith y bydd eich patent wedi’i archwilio

Os nad yw’ch cais yn bodloni’r gofynion bydd yr IPO yn dweud wrthych pam. 

Gallwch chi naill ai: 

  • diwygio’ch cais a threfnu iddo gael ei archwilio eto 

  • atal eich cais 

Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch ddiwygio’ch cais i geisio bodloni’r gofynion. Os ydych yn bodloni’r gofynion, bydd eich bydd-y-patent yn cael ei ganiatáu.