Ar ôl i chi wneud cais

Unwaith y byddwch wedi ffeilio cais byddwch yn cael derbynneb gyda’ch rhif cais a’ch dyddiad ffeilio (y dyddiad y derbynnir eich cais). 

Bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn gwneud gwiriad sylfaenol i sicrhau bod eich cais yn gyflawn a bod eich dogfennau yn y fformat cywir. 

‘Patent yn yr arfaeth’

Gallwch ychwanegu bod gennych ‘batent y DU yn yr arfaeth’ neu ‘gwnaed cais am batent y DU’ ar eich dyfais ei hun, neu ar eich deunydd pacio neu ddeunyddiau marchnata.

Gallwch naill ai ddangos rhif y cais neu roi cyfeiriad gwe lle dangosir manylion eich dyfais a rhif eich cais am batent yn glir.

Os byddwch yn atal eich cais neu os bydd yn cael ei derfynu, rhaid i chi ddileu unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu bod gan eich dyfais batent yn yr arfaeth.

Os na wnaethoch ffeilio’ch holl ddogfennau neu os na wnaethoch dalu pan wnaethoch gais

Os na wnaethoch ffeilio’r holl ddogfennau ar gyfer eich cais neu dalu ffioedd ffeilio pan wnaethoch gais, bydd yr IPO yn rhoi gwybod i chi erbyn pryd y bydd rhaid i chi eu hanfon.

Ychwanegu ffurflenni a dogfennau i’ch cais am batent. 

Os terfynir eich cais 

Bydd eich cais yn cael ei derfynu os na fyddwch yn anfon y dogfennau, ffurflenni neu daliadau cywir mewn pryd. Byddwch yn cael gwybod os yw eich cais wedi dod i ben a pham. 

Mae’n bosibl y gallech chi ailgychwyn eich cais am ffi. Os byddwch eisiau ei ailgychwyn byddwch yn cael gwybod beth sy’n rhaid i chi ei wneud a faint o amser sydd gennych i’w ailgychwyn.