Gwneud cais am batent
Ffeilio eich cais cychwynnol
Rhaid eich bod wedi paratoi eich dogfennau cyn gwneud cais.
Rhaid i’ch cais cychwynnol gynnwys:
-
eich disgrifiad
-
unrhyw luniadau rydych chi am eu cynnwys
Mae’n bosibl ychwanegu eich hawliadau a’ch crynodeb yn ddiweddarach, ond gallai anfon popeth gyda’i gilydd osgoi oedi a chamgymeriadau (er enghraifft, nid yw eich hawliadau’n cyfateb i’ch disgrifiad).
Gallwch dalu ffioedd ffeilio pan fyddwch yn anfon eich cais cychwynnol neu’n ddiweddarach - ond rhaid i chi dalu cyn y bydd eich cais yn symud ymlaen ymhellach.
Gallwch hefyd wneud cais a thalu am eich ‘chwiliad’ pan fyddwch yn ffeilio’ch cais cychwynnol. Gallai hyn helpu i wneud y broses yn gyflymach.
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cyhoeddi eich enw a’r ffaith eich bod wedi gwneud cais am batent yn eu cyfnodolyn.
Os na allwch ffeilio ar-lein
Gallwch llenwi ffurflen a’i e-bostio neu ei phostio i’r IPO.
Ffioedd ffeilio a phrosesu
Rhaid i chi dalu ffioedd i’r IPO am:
- prosesu cychwynnol eich cais
- cynnal chwiliad ac ‘archwiliad sylweddol’ o’ch cais ar ôl i chi wneud cais
Nid yw ffioedd IPO yn cynnwys unrhyw gymorth neu gyngor proffesiynol. Os ydych yn defnyddio twrnai patent neu gynghorydd proffesiynol arall bydd yn rhaid i chi eu talu ar wahân.
Cam | Gwneud cais ar-lein | Gwneud cais drwy’r post neu e-bost |
---|---|---|
Ffeilio cais (os ydych yn talu pan fyddwch yn gwneud cais) | £60 | £90 |
Ffeilio cais (os talwch yn hwyrach) | £75 | £112.50 |
Chwiliad | £150 (ynghyd ag £20 am bob hawliad dros 25 hawliad) | £180 (ynghyd ag £20 am bob hawliad dros 25 hawliad) |
Arholiad sylweddol | £100 (a £10 am bob tudalen o ddisgrifiad dros 35 tudalen) | £130 (ynghyd â £10 am bob tudalen o ddisgrifiad dros 35 tudalen) |
Sicrhewch eich patent yn gyflymach
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael eich cais wedi’i brosesu’n gynt os, er enghraifft:
- mae gan eich dyfais fudd amgylcheddol (sianel werdd)
- mae gennych chi reswm busnes da dros fod angen patent yn gyflymach, er enghraifft efallai y byddwch yn colli allan ar fuddsoddiad yn eich busnes
Darllen y canllawiau ar sut i brosesu cais am batent yn gyflymach.