Paratoi eich cais

Rhaid i gais patent gynnwys: 

  • disgrifiad o’ch dyfais sy’n caniatáu i eraill weld sut mae’n gweithio a sut y gellid ei wneud

  • datganiadau cyfreithiol sy’n nodi nodweddion technegol eich dyfais (sydd i’w diogelu (a elwir yn ‘hawliadau’) 

  • crynhoad o holl agweddau technegol pwysig eich dyfais (a elwir yn ‘grynodeb’) 

Mae rheolau ar yr hyn y mae’n rhaid i’r dogfennau hyn ei gynnwys a sut y mae’n rhaid eu cyflwyno. Efallai y bydd rhaid i chi ddiwygio dogfennau nad ydynt wedi’u paratoi’n gywir. 

Dysgu sut i baratoi eich disgrifiad, hawliadau a chrynodeb

Gallwch hefyd gynnwys unrhyw luniadau sydd eu hangen arnoch i arddangos eich disgrifiad. 

Ni allwch newid eich dyfais ar ôl i chi ffeilio’ch cais cychwynnol, er enghraifft trwy ychwanegu nodweddion cwbl newydd. 

Os byddwch yn gwneud camgymeriad neu’n methu rhywbeth, gallai eich cais gael ei wrthod ac efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais am yr un ddyfais eto. 

Gall twrnai patent eich helpu i baratoi eich dogfennau.