Trosolwg

Mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith ac yn atal eraill rhag ei ddefnyddio heb eich caniatâd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rydych chi’n cael eich diogelu gan hawlfraint yn awtomatig - nid oes rhaid i chi wneud cais na thalu ffi. Nid oes cofrestr o weithiau hawlfraint yn y DU.

Rydych yn cael eich diogelu gan hawlfraint yn awtomatig pan ydych yn creu:

  • gwaith llenyddol, dramatig, cerddorol ac artistig gwreiddiol, gan gynnwys darlunio a ffotograffiaeth
  • gwaith ysgrifenedig anllenyddol gwreiddiol, megis meddalwedd, cynnwys gwe a chronfeydd data
  • recordiadau sain a cherddoriaeth
  • recordiadau ffilm a theledu
  • darllediadau
  • cynllun argraffiadau cyhoeddedig o weithiau ysgrifenedig, dramatig a cherddorol

Gallwch farcio’ch gwaith gyda’r symbol hawlfraint (©), eich enw a blwyddyn ei greu. Nid yw p’un a ydych yn marcio’r gwaith ai peidio’n effeithio ar lefel y diogelu sydd gennych.

Sut mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith

Mae hawlfraint yn atal pobl rhag:

  • copïo’ch gwaith
  • dosbarthu copïau ohono, boed yn rhad ac am ddim neu ar werth
  • rhentu neu fenthyg copïau o’ch gwaith
  • perfformio, dangos neu chwarae’ch gwaith yn gyhoeddus
  • gwneud addasiad o’ch gwaith
  • ei roi ar y rhyngrwyd

Hawlfraint dramor

Gallai eich gwaith gael ei ddiogelu gan hawlfraint mewn gwledydd eraill trwy gytundebau rhyngwladol, er enghraifft Confensiwn Berne.

Yn y rhan fwyaf o wledydd mae hawlfraint oes yr awdur a 50 mlynedd ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o weithiau ysgrifenedig, dramatig ac artistig, ac o leiaf 25 mlynedd ar gyfer ffotograffau. Gall fod yn wahanol ar gyfer mathau eraill o waith.

Cysylltwch â’r Ganolfan Cymorth i Gwsmeriaid IPO os oes gennych gwestiwn am hawlfraint ryngwladol.

Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid IPO
information@ipo.gov.uk
Ffôn: 0300 300 2000
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dysgu am gostau galwadau