Sut mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith

Skip contents

Trwyddedu a gwerthu eich hawlfraint

Gallwch drwyddedu defnydd eich gwaith os mai chi sy’n berchen ar yr hawlfraint. Gallwch hefyd benderfynu sut y defnyddir eich gwaith. 

Gallwch gofrestru eich gwaith gyda chorff trwyddedu, er enghraifft cymdeithas gasglu, a fydd yn cytuno ar drwyddedau gyda defnyddwyr ar eich rhan ac yn casglu breindaliadau i chi.

Gwerthu neu drosglwyddo eich hawlfraint 

Bydd angen i chi ysgrifennu a llofnodi dogfen (a elwir weithiau yn ‘aseiniad’) i ddangos bod gwerthiant neu drosglwyddiad wedi digwydd. 

Gall eich hawlfraint gael ei drosglwyddo trwy etifeddiaeth a bydd yn ddilys cyhyd â bod y gwaith yn parhau i fod dan hawlfraint - gwirio pa mor hir y mae’r amddiffyniad yn parhau.

Hawliau moesol 

Gallwch gadw neu ildio eich ‘hawliau moesol’, sy’n cynnwys yr hawl i: 

  • cael eich adnabod fel awdur eich gwaith 
  • gwrthwynebu sut mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno, er enghraifft os ydych chi’n meddwl ei fod yn ‘ddirmygus’ neu’n niweidiol i chi neu’ch enw da 
  • gwrthwynebu newidiadau a wneir i’ch gwaith

Hawliau perfformwyr 

Mae gennych hawliau yn eich perfformiadau ar wahân i hawlfraint os ydych yn berfformiwr.

Er enghraifft, os ydych chi’n actor mewn drama efallai fod gennych chi ‘hawliau economaidd’ mewn unrhyw recordiadau neu ddarllediadau o’u perfformiad, hyd yn oed os yw’r hawlfraint yn cael ei werthu.