Sut mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith

Skip contents

Atal pobl rhag defnyddio eich gwaith

Chi sy’n gyfrifol am amddiffyn eich deunydd hawlfraint yn erbyn tor-hawlfraint. 

Efallai y bydd rhai pobl neu sefydliadau (megis llyfrgelloedd neu ysgolion) yn gallu defnyddio gwaith hawlfraint heb ganiatâd. Dylech wirio a ganiateir defnydd rhywun o’ch gwaith cyn ceisio eu hatal. 

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn defnyddio’ch gwaith ac nad ydyn nhw’n gwybod mai chi sy’n berchen ar yr hawliau 

Mae’n rhaid i bobl neu sefydliadau wneud cais am drwydded os ydynt am ddefnyddio gwaith sy’n destun hawlfraint ond nad ydynt yn gwybod pwy yw deiliad yr hawliau. 

Gwiriwch y gofrestr trwyddedau i weld a yw unrhyw un wedi trwyddedu’ich gwaith neu yn y broses o wneud cais am drwydded. Os yw eich gwaith ar y gofrestr gallwch:

  • gwneud cais i atal cais 
  • hawlio ffi’r drwydded a dalwyd (os yw trwydded eisoes wedi’i rhoi) 

Os oes gennych anghydfod ynghylch trwyddedu

Gall eich cymdeithas gasglu gysylltu â’r Tribiwnlys Hawlfraint a gofyn iddynt benderfynu ar rai anghydfodau ynghylch trwyddedu.

Tribiwnlys Hawlfraint 
copyright.tribunal@ipo.gov.uk 
Ffôn: 01633 814 044 
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dysgu am gostau galwadau

Gallant hefyd gysylltu â nhw drwy’r post.

The Secretary
Copyright Tribunal
10 Victoria Street
Llundain
SW1H ONN

Help gyda chyfraith hawlfraint 

Mae Canolfan Cymorth Cwsmeriaid yr IPO yn cynnig cyngor cyffredinol ar gyfraith hawlfraint. 

Canolfan Cymorth Cwsmeriaid IPO
information@ipo.gov.uk
Ffôn: 0300 300 2000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dysgu am gostau galwadau

Gallwch gael cyngor ar faterion cyfreithiol penodol gan weithiwr eiddo deallusol proffesiynol (IP). 

Os hoffech ragor o arweiniad am faes cyfraith hawlfraint

Gallwch hefyd ofyn i IPO gyhoeddi canllawiau ar faes cyfraith hawlfraint. 

Efallai y byddant yn cyhoeddi ‘hysbysiad hawlfraint’ cyhoeddus os yw eich cwestiwn yn amlygu bwlch yn y canllawiau hawlfraint cyffredinol.