Sut mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith

Skip contents

Pa mor hir mae hawlfraint yn parhau

Mae diogelu hawlfraint yn dechrau cyn gynted ag y bydd gwaith yn cael ei greu. Unwaith y bydd eich hawlfraint wedi dod i ben, gall unrhyw un ddefnyddio neu gopïo’ch gwaith. 

Mae hyd hawlfraint yn dibynnu ar y math o waith. 

Math o waith Pa mor hir mae hawlfraint yn parhau fel arfer
Gwaith ysgrifenedig, dramatig, cerddorol ac artistig 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur
Recordio sain a cherddoriaeth 70 mlynedd ers ei gyhoeddi gyntaf 
Ffilmiau 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y cyfarwyddwr, awdur sgript a chyfansoddwr
Darllediadau 50 mlynedd o’i ddarlledu gyntaf 
Cynllun argraffiadau cyhoeddedig o weithiau ysgrifenedig, dramatig neu gerddorol 25 mlynedd o’i gyhoeddi gyntaf 

Mae hyd hawlfraint hefyd yn dibynnu ar ba mor bell yn ôl y crëwyd y gwaith.

Gallwch ddarllen rhagor o ganllawiau am ba mor hir mae hawlfraint yn parhau.

Cysylltwch â Chanolfan Cymorth Cwsmeriaid yr IPO os oes gennych chi gwestiynau am hawlfraint gwaith hŷn. 

Canolfan Cymorth Cwsmeriaid IPO
information@ipo.gov.uk
Ffôn: 0300 300 2000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dysgu am gostau galwadau