Trosolwg

Gallwch gofrestru’ch nod masnach i ddiogelu’ch brand, er enghraifft enw eich cynnyrch neu wasanaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pan fyddwch yn cofrestru’ch nod masnach, byddwch yn gallu:

  • cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n defnyddio’ch brand heb eich caniatâd, gan gynnwys ffugwyr
  • rhoi’r symbol ® wrth ymyl eich brand - i ddangos mai eich brand chi ydyw a rhybuddio eraill rhag ei ddefnyddio
  • gwerthu a thrwyddedu’ch brand

Mae nod masnach yn parhau am 10 mlynedd. Rhaid i chi adnewyddu’ch nod masnach bob 10 mlynedd er mwyn iddo aros mewn grym.

Beth y gallwch ei gofrestru

Gall eich nod masnach gynnwys:

  • geiriau
  • seiniau
  • logos
  • lliwiau
  • cyfuniad o unrhyw rai o’r rhain

Beth na allwch ei gofrestru

Ni all eich nod masnach:

  • bod yn annymunol, er enghraifft cynnwys geiriau rhegi neu ddelweddau pornograffig
  • disgrifio’r nwyddau neu’r gwasanaethau y bydd yn berthnasol iddynt, er enghraifft ni all y gair ‘cotwm’ fod yn nod masnach ar gyfer cwmni tecstilau cotwm
  • bod yn gamarweiniol, er enghraifft defnyddio’r gair ‘organig’ ar gyfer nwyddau nad ydynt yn organig
  • bod yn rhy gyffredin a heb fod yn nodedig, er enghraifft datganiad megis ‘ni sy’n arwain y ffordd’
  • bod yn siâp generig yn unig sy’n gysylltiedig â’ch busnes, er enghraifft os ydych chi’n gwerthu afalau ni allwch nodi siâp afal fel nod masnach
  • gwneud defnydd o faneri cenedlaethol nad oes gennych ganiatâd i’w defnyddio
  • gwneud defnydd o arwyddluniau neu ddilysnodau swyddogol, er enghraifft arfbeisiau

Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cofrestru’ch nod masnach os yw yr un peth â, neu’n debyg i, nod masnach busnes arall sy’n gwerthu’r un nwyddau neu wasanaethau.

Gwylio fideo byr am nodau masnach (2 funud).

Beth mae’n ei gostio

Mae cofrestru nod masnach yn costio o leiaf £170. Fel arfer bydd yn costio mwy yn dibynnu ar eich amgylchiadau, er enghraifft sawl math o nwyddau neu wasanaethau rydych am ddiogelu’ch brand ynddynt.

Y broses ymgeisio

Rhaid i chi anfon manylion eich nod masnach a’r nwyddau neu wasanaethau rydych am ddefnyddio’ch nod masnach arnynt i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO).

Gallwch anfon eich cais ar-lein neu drwy’r post.

Bydd yr IPO yn:

  • gwirio nad yw eich nod masnach yr un peth ag unrhyw nodau masnach presennol, neu’n debyg iddynt
  • cyhoeddi manylion eich cais yn y cyfnodolyn, rhag ofn bod unrhyw un eisiau ei wrthwynebu

Os oes unrhyw broblemau bydd yr IPO yn rhoi gwybod i chi. Bydd rhaid i chi eu datrys cyn y gallwch gofrestru’ch nod masnach.

Os nad oes unrhyw broblemau, fel arfer mae’n cymryd tua thri i bedwar mis o wneud cais i’ch nod masnach gael ei roi.

Gweld llinell amser o’r broses.

Cofrestru’ch nod masnach dramor

Mae cofrestru nod masnach yn y DU yn diogelu’ch brand yn y DU ac Ynys Manaw yn unig.

Mae prosesau gwahanol ar gyfer: