Anfon eich cais

I wneud cais, bydd angen:

  • manylion am yr hyn rydych chi am ei gofrestru, er enghraifft y geiriau neu’r slogan rydych chi am eu defnyddio, neu eglureb
  • manylion personol neu gwmni perchennog arfaethedig y nod masnach
  • y math o nwyddau neu wasanaethau (a elwir yn ‘ddosbarthiadau’ a ‘thermau’) yr hoffech ddefnyddio eich nod masnach ar eu cyfer - darllenwch ganllawiau ar beth i’w wneud cyn i chi wneud cais

Mae faint mae’n ei gostio yn dibynnu ar y math o gais rydych chi’n ei wneud a faint o ddosbarthiadau rydych chi’n eu dewis.

Os oes gennych sawl fersiwn o’ch nod masnach (er enghraifft, lliwiau gwahanol o’ch logo), efallai y byddwch yn gallu gwneud cais cyfres. Mae hyn yn cynnwys hyd at 6 amrywiad ac mae’n costio llai na’u cofrestru i gyd ar wahân.

Dewiswch gais Dechrau Cywir (Right Start) os ydych am wirio bod eich cais yn bodloni’r rheolau ar gyfer cofrestru cyn i chi ymrwymo i dalu’r ffi lawn.

Bydd eich cais yn cael ei gyhoeddi ar GOV.UK cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cais. Mae hyn yn golygu y gallai rhywun arall ddefnyddio manylion ohono, er enghraifft gallent brynu parth y wefan ar gyfer eich enw brand.

Gwneud cais ar-lein

Beth mae’n ei gostio

Cais safonol

Mae’n costio £170 i gofrestru nod masnach sengl mewn un dosbarth. Mae’n costio £50 am bob dosbarth ychwanegol.

Os ydych chi’n gwneud cais cyfres mae’r 2 fersiwn cyntaf o’r nod masnach wedi’u cynnwys yn y ffi. Yna byddwch yn talu £50 am bob fersiwn ychwanegol o’ch nod masnach, hyd at gyfanswm o 6.

Cais Dechrau Cywir (Right Start)

Rydych yn talu £100 a £25 am bob dosbarth ychwanegol i wirio a yw’ch cais yn bodloni’r rheolau ar gyfer cofrestru.

Byddwch yn cael adroddiad yn dweud wrthych a yw’ch cais wedi bodloni’r rheolau ai peidio.

Bydd angen i chi dalu £100 arall (ynghyd â £25 am bob dosbarth ychwanegol) i naill ai:

  • barhau â’ch cais, os yw’n bodloni’r rheolau
  • herio’r penderfyniad neu drafod y manylion, os nad yw eich cais yn cwrdd â’r rheolau

Cewch 28 diwrnod i benderfynu a ydych am barhau â’ch cais, herio’r penderfyniad neu ei drafod.

Os na allwch wneud cais ar-lein

Llenwch ffurflen gais bapur i wneud cais drwy’r post.

Mae’n costio £200 i wneud cais am un dosbarth, ynghyd â £50 ar gyfer pob dosbarth ychwanegol.