Ar ôl i chi wneud cais

Bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn archwilio’ch cais ac yn anfon ‘adroddiad archwiliad’ atoch o fewn 2 i 3 wythnos.

Mae’r adroddiad yn dweud wrthych os oes problemau gyda’ch cais (a elwir yn ‘wrthwynebiadau’), a allai olygu na fyddech yn gallu cofrestru’ch nod masnach.

Mae gennych 2 fis i ddatrys unrhyw wrthwynebiadau.

Bydd yr IPO hefyd yn chwilio am nodau masnach presennol sydd yr un fath, neu’n debyg i’ch un chi. Os byddant yn dod o hyd i rai, byddant yn cysylltu â chi a’r deiliaid cofrestredig. 

Os nad oes unrhyw wrthwynebiadau neu os byddwch yn eu datrys, bydd eich cais yn cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn nodau masnach am 2 fis. Gall unrhyw un ‘wrthwynebu’ eich cais yn ystod y cyfnod hwn. 

Os bydd rhywun yn gwrthwynebu’ch cais 

Bydd yr IPO yn dweud wrthych os bydd rhywun yn gwrthwynebu’ch cais. 

Os bydd eich cais yn cael ei wrthwynebu ni fyddwch yn gallu cofrestru’ch nod masnach yn y dosbarthiadau neu’r telerau perthnasol hyd nes y byddwch wedi datrys y mater. 

Gallwch naill ai: 

  • siarad â’r sawl sy’n gwrthwynebu 
  • tynnu’ch cais yn ôl 
  • amddiffyn eich cais yn gyfreithiol - bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol 

Gweler penderfyniadau nod masnach blaenorol i’ch helpu ag anghydfod a pharatoi ar gyfer gwrandawiad.^