Canllawiau

Gwirio a fydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch a allwch roi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth a’ch incwm o eiddo, a rhoi diweddariadau, gan ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Pwy fydd angen cofrestru

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a defnyddio’r cynllun hwn, os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn unigolyn sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
  • mae’ch incwm cymwys yn fwy na £30,000

Fel arall, mae’n bosibl y gallwch fynd ati i gofrestru’n wirfoddol nawr. Bydd hyn yn helpu CThEF i brofi a datblygu’r gwasanaeth.

Y rhai na fydd angen iddynt gofrestru

Does dim angen i chi gofrestru os yw’ch incwm cymhwysol yn £30,000 neu’n llai.

Os ydych wedi’ch eithrio, neu os ydych yn dewis peidio â chofrestru’n wirfoddol, mae’n rhaid i chi barhau i roi gwybod am eich incwm a’ch enillion gan ddefnyddio Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Pwy sydd wedi’i eithrio’n awtomatig

Rydych wedi’ch eithrio’n awtomatig, ac ni allwch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn ymddiriedolwr, gan gynnwys ymddiriedolwr elusennol neu ymddiriedolwr cynlluniau pensiwn anghofrestredig
  • nid oes gennych rif Yswiriant Gwladol — mae hyn ond yn berthnasol i flwyddyn dreth lle nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol ar 31 Ionawr cyn dechrau’r flwyddyn dreth
  • rydych yn gynrychiolydd personol i rywun sydd wedi marw
  • rydych yn aelod o Lloyd’s, mewn perthynas â’ch busnes tanysgrifennu
  • rydych yn gwmni dibreswyl

Ni fydd angen i chi wneud cais am eithriad.

Pryd mae angen i chi wneud cais am eithriad

Nid ydych wedi’ch eithrio’n awtomatig, gallwch wneud cais am eithriad, os gallwch ddangos nad yw’n rhesymol nac yn ymarferol i chi ddefnyddio cyfrifiaduron neu’r rhyngrwyd.

Gwirio beth sydd wedi’i gynnwys yn eich incwm cymhwysol

Eich incwm cymhwysol yw cyfanswm yr incwm a gewch mewn blwyddyn dreth drwy hunangyflogaeth ac eiddo. Rydym yn asesu’ch incwm gros (a elwir hefyd yn ‘trosiant’), cyn i chi ddidynnu treuliau.

I asesu’ch incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth, byddwn yn edrych ar y Ffurflen Dreth roedd yn rhaid i chi ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn flaenorol. 

Er enghraifft, i asesu’ch incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, byddwn yn edrych ar y Ffurflen Dreth rydych wedi’i chyflwyno ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025. Dylai’r Ffurflen Dreth hon fod wedi’i chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2026.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich holl incwm cymwys gan ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach neu’n fyrrach na 12 mis, a bod gennym y data angenrheidiol, byddwn yn cyfrif eich incwm cymwys yn flynyddol. Er enghraifft, os ydych wedi dod yn unig fasnachwr, ond dim ond am 6 mis rydych wedi bod yn masnachu yn ystod eich blwyddyn dreth gyntaf, yna byddwn yn dyblu eich incwm i gyfrifo’ch incwm cymwys.

Nid yw ffynonellau incwm eraill a ddatgenir drwy Hunanasesiad, megis incwm o gyflogaeth, partneriaeth neu gynilion, yn cyfrif tuag at eich incwm cymwys. Bydd angen i chi roi gwybod am incwm o’r ffynonellau hyn gan ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol (os oes ganddi’r swyddogaeth honno)
  • eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF

Os ydych yn cael incwm o fwy nag un ffynhonnell

Bydd incwm o bob ffynhonnell berthnasol yn cyfrif tuag at eich incwm cymwys. Er enghraifft, gallai eich incwm gros (incwm cyn i chi ddidynnu treuliau) fod yn:

  • £25,000 o incwm rhent
  • £27,000 o incwm hunangyflogaeth

Yn yr enghraifft hon, cyfanswm eich incwm cymwys fyddai £52,000.

Os ydych yn cael incwm o eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd

Bydd eich cyfran chi o’r incwm o eiddo yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Er enghraifft, gallech fod:

  • yn berchen ar eiddo ar y cyd gyda’ch brawd neu chwaer, a bod yr eiddo hwnnw yn cynhyrchu £50,000 mewn incwm
  • mae’r ddau ohonoch yn cael cyfran gyfartal
  • yn peidio â chael unrhyw incwm o hunangyflogaeth

Yn yr enghraifft hon, eich incwm cymhwysol fyddai £25,000.

Os ydych yn berchen ar eiddo a dim ond yn cael hysbysiad o’ch cyfran chi o’r incwm ar ôl i’r treuliau gael eu didynnu, yna byddwn yn asesu’r ffigwr hwnnw ar gyfer eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn ofalwr sy’n gymwys i gael rhyddhad gofal cymwys

Ni fydd y derbyniadau gofal cymwys a gewch yn cyfrif tuag at eich incwm cymwys.

Os ydych yn cael incwm o bartneriaeth

Nid yw incwm o bartneriaeth yn cyfrif tuag at eich incwm cymwys, oni bai eich bod yn cael ffioedd rheoli buddsoddiadau cudd neu fuddiant a drosglwyddir ar sail incwm.

Os ydych yn cael ffioedd rheoli buddsoddiadau cudd neu fuddiant a drosglwyddir ar sail incwm

Mae’r mathau hyn o incwm yn cael eu trin fel yr elw o fasnach dybiedig, a byddant yn rhan o’ch incwm cymwys.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag

Bydd unrhyw incwm o eiddo neu incwm masnachu y mae gennych hawl iddo yn cyfrif tuag at eich incwm cymwys.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant

Bydd unrhyw incwm o eiddo neu incwm masnachu a delir yn uniongyrchol i chi, ac sy’n osgoi’r ymddiriedolwyr, yn cyfrif tuag at eich incwm cymwys.

Sut mae man preswylio a domisil yn effeithio ar eich incwm cymwys

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fannau preswylio, domisil a’r sail trosglwyddo (yn agor tudalen Saesneg) a’r rheolau domisil tybiedig (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw’ch man preswylio a’ch domisil yn y DU

Bydd eich incwm o eiddo tramor neu’ch incwm o hunangyflogaeth dramor yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Er enghraifft, gallech fod:

  • yn unig fasnachwr yn y DU
  • yn rhoi eiddo ar osod mewn gwlad arall

Os yw’ch man preswylio a’ch domisil yn y DU, bydd y ddwy ffynhonnell incwm yn cyfrannu tuag at eich incwm cymhwysol.

Os tybir bod eich domisil yn y DU

Bydd incwm o eiddo tramor neu incwm o hunangyflogaeth dramor yn cyfrif tuag at eich incwm cymwys, os cewch eich trin fel pe bai eich domisil yn y DU ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Os ydych yn trosglwyddo incwm tramor o flwyddyn pan oedd y sail trosglwyddo’n berthnasol i chi, ni fydd yr incwm hwnnw’n cyfrif tuag at eich incwm cymwys.

Os yw’ch man preswylio neu’ch domisil y tu allan i’r DU

Dim ond incwm o hunangyflogaeth yn y DU ac incwm o eiddo yn y DU fydd yn cyfrif tuag at eich incwm cymwys. Does dim angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer eich incwm tramor.

Er enghraifft, gallech fod:

  • â’ch domisil yn Ffrainc
  • yn rhoi eiddo ar osod yn Ffrainc
  • yn rhedeg busnes yn y DU

Dim ond eich incwm o hunangyflogaeth yn y DU fyddai’n cyfrannu at eich incwm cymwys.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau’ch statws domisil pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 July 2024 + show all updates
  1. Information added to confirm how HMRC assess your qualifying income for a tax year and how we assess your qualifying income if you jointly own a property and only receive notice of your share of the income after expenses have been deducted.

  2. Information about who will and who will not need to sign up has been updated.

  3. The guidance has been updated to clarify when you will need to sign up for Making Tax Digital for Income Tax and when you will not need to.

  4. Thresholds for meeting the requirements for Making Tax Digital for Income Tax have been added for April 2026 and April 2027.

  5. Information has been added for you to check if you can use Making Tax Digital for Income Tax. Additional information has been added for what is included in your qualifying income, how you should report other income and how residence and domicile affect your qualifying income.

  6. You only need to follow the Making Tax Digital for Income Tax rules for your UK self-employment and property income if you're resident or domiciled outside the UK.

  7. Added translation

  8. First published.

Sign up for emails or print this page