Canllawiau

Gwirio beth y gallai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu i’ch busnes

Defnyddiwch yr offeryn hwn i amcangyfrif beth y gallai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu i’ch busnes.

Os ydych chi’n ystyried cofrestru ar gyfer TAW, gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i gael gwybod beth y gallai ei olygu i’ch busnes.

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os yw un o’r canlynol yn wir:

  • mae cyfanswm eich trosiant trethadwy dros £90,000 — hynny yw, y trothwy TAW
  • rydych yn disgwyl i’ch trosiant fod yn uwch na’r trothwy TAW yn ystod y 30 diwrnod nesaf
  • rydych chi a’ch busnes wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU, ac rydych yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu rydych yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf)

Eich trosiant trethadwy yw cyfanswm gwerth popeth rydych yn ei werthu nad yw wedi’i eithrio rhag TAW.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer TAW os yw’ch trosiant trethadwy yn llai na £90,000, hynny yw, cofrestru’n wirfoddol.

Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i amcangyfrif faint o TAW a allai fod ar eich busnes neu a allai gael ei hadennill ganddo pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer TAW. Gallwch hefyd ddefnyddio’r offeryn hwn sawl gwaith i gymharu gwahanol sefyllfaoedd a allai fod yn berthnasol i’ch busnes yn y dyfodol.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen rhywfaint o wybodaeth arnoch am werthiannau’ch busnes a ffigurau o ran costau nwyddau a gwasanaethau a werthir yn y DU. Gallai hyn gynnwys:

  • incwm rydych wedi ei gael
  • faint rydych wedi’i dalu am stoc neu ddeunyddiau
  • costau gorbenion o ran rhedeg eich busnes

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn eich:

  • cofnodion busnes presennol
  • cofnodion busnes blaenorol, er enghraifft eich set olaf o gyfrifon blynyddol
  • cynlluniau busnes ar gyfer y dyfodol, os ydych yn ystyried dechrau neu dyfu eich busnes

Bydd yn rhaid i chi wybod y canlynol hefyd:

  • pa gyfraddau TAW sy’n berthnasol i’ch incwm a’ch costau
  • pa gyfran o’ch incwm a’ch costau sydd wedi’i heithrio neu sydd y tu allan o gwmpas ar gyfer TAW

Os nad ydych yn siŵr ble i ddod o hyd i’r wybodaeth hon, gallwch wirio:

Mae angen yr wybodaeth hon arnom i roi amcangyfrif i chi o faint o TAW ar gyfartaledd y gallai fod angen i chi ei thalu neu ei hadennill ym mhob cyfnod Ffurflen TAW. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW yn cyflwyno Ffurflen TAW bob 3 mis.

Mae’r offeryn hwn yn amcangyfrif beth y gallai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu i’ch busnes. Ni ddylech ddefnyddio unrhyw un o’r ffigurau hyn i gwblhau Ffurflen TAW os ydych yn cofrestru ar gyfer TAW.

Dechrau nawr

Mae rhai costau na allwch adennill TAW arnynt, fel unrhyw beth sydd at ddefnydd personol yn unig a nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir i wneud cyflenwadau sydd wedi’u heithrio rhag TAW. Darllenwch ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ac na allwch hawlio TAW arno.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 July 2024

Sign up for emails or print this page