Hawlio Rhyddhad Treth Ffilm ar gyfer Treth Gorfforaeth
Gwirio a yw’ch cwmni yn gymwys i gael Rhyddhad Treth Ffilm ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.
Pwy all hawlio
Mae’n rhaid i’ch cwmni fod yn gyfrifol am y canlynol:
- cyn-gynhyrchu
- prif ffotograffiaeth
- ôl-gynhyrchu
- cyflawni’r ffilm orffenedig
Bydd yn rhaid i’ch cwmni hefyd wneud y canlynol:
- cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu
- gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau
Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu cyn hawlio’r rhyddhad.
Prawf o ran diwylliant
Er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhadau treth y Diwydiant Creadigol, mae’n rhaid bod pob ffilm fod wedi’u hardystio i fod yn Brydeinig. Mae’n rhaid i’r ffilm basio prawf o ran diwylliant, neu fod yn gymwys drwy gytuniad cydgynhyrchu a gytunwyd yn rhyngwladol.
Sefydliad Ffilm Prydain sy’n rheoli’r broses o bennu cymhwyster a dyrannu tystysgrifau ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Bydd Sefydliad Ffilm Prydain yn dyrannu:
-
tystysgrif dros dro ar gyfer gwaith sydd ar y gweill
-
tystysgrif derfynol ar gyfer cynhyrchiad sydd wedi’i gyflawni
Gwirio a yw’r ffilm yn gymwys i gael y rhyddhad treth
Gall eich cwmni hawlio’r rhyddhad ar ffilm os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’r ffilm wedi’i hardystio i fod yn Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain
-
bwriedir rhyddhau’r ffilm yn theatraidd
-
mae o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
-
dechreuodd y brif ffotograffiaeth ar neu cyn 31 Mawrth 2025
Costau craidd yw’r hyn a wariwyd ar gyn-gynhyrchu, prif ffotograffiaeth ac ôl-gynhyrchu.
Gallwch wirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.
Yr hyn y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio didyniad ychwanegol i ostwng eich elw, neu i gynyddu colled. Bydd hyn yn gostwng swm unrhyw Dreth Gorfforaeth y bydd yn rhaid i chi ei dalu.
Y didyniad ychwanegol yw’r isaf o’r canlynol:
-
80% o gyfanswm y costau craidd
-
swm costau craidd sy’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
Os byddwch yn gwneud colled, gall yr holl golled, neu ran ohoni, gael ei hildio yn gyfnewid am gredyd treth taladwy, a hynny ar gyfradd o 25%.
Pryd y gallwch hawlio
Gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Ffilm, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu’n ôl, hyd at un flwyddyn ar ôl dyddiad cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Ffilm, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu’n ôl, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddo.
Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau.
Sut i hawlio
Gallwch hawlio’r rhyddhad treth ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi gyfrifo’r symiau canlynol:
-
y didyniad ychwanegol sy’n ddyledus i’ch cwmni
-
unrhyw gredyd taladwy sy’n ddyledus
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn ategu’ch hawliad.
Ar gyfer pob cynhyrchiad, dylech roi’r canlynol:
-
tystysgrif ddiwylliannol Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain — os byddwch yn anfon tystysgrif dros dro, bydd yn rhaid i chi anfon y dystysgrif derfynol pan fydd y ffilm wedi’i chwblhau a bydd yn rhaid i’r dystysgrif fod â dyddiad dilys pan fyddwch yn ei chyflwyno
-
datganiad o’r costau craidd, wedi’u rhannu rhwng costau’r DU a chostau tu allan i’r DU
-
dadansoddiad o’r costau fesul categori
Rhyddhad Treth Ffilm yn cau o 1 Ebrill 2027 ymlaen
Ni allwch hawlio Rhyddhad Treth Ffilm ar gyfer unrhyw gynyrchiadau sy’n cychwyn prif ffotograffiaeth ar ôl 31 Mawrth 2025.
Bydd y rhyddhad yn cau ar gyfer pob cynhyrchiad o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio Credyd Gwariant Clyweledol ar gyfer unrhyw gynyrchiadau na allwch hawlio Rhyddhad Treth Ffilm ar eu cyfer.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut mae’r rhyddhad yn cael ei gyfrifo, yn y Llawlyfr i Gwmnïau Cynhyrchu Ffilm (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
The need to include a CT600P creative industries supplementary page with your Company Tax Return from April 2025 has been removed.
-
Added Welsh translation.
-
Guidance added to check if the production qualifies for the tax relief. Added in information about CT600P supplementary page.
-
We have updated the page with information on the Audio-Visual Expenditure Credit scheme and the closure of the Film Tax Relief scheme from 1 April 2027
-
The 'How to claim' section has been updated with a link to 'Support your claim for creative industry tax reliefs' which explains how to provide evidence to support your creative industry reliefs claim.
-
First published.