Canllawiau

Hawlio Rhyddhad Treth Gemau Fideo ar gyfer Treth Gorfforaeth

Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys i gael Rhyddhad Treth Gemau Fideo ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.

Pwy all hawlio

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am eich cwmni: 

  • mae’n gyfrifol am ddylunio, cynhyrchu a phrofi’r gêm fideo 

  • mae’n cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu 

  • mae’n gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau 

  • mae’n gwario o leiaf 25% o’i ‘gostau craidd’ ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r tu mewn i’r DU neu’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, sef yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)

Costau craidd yw’r hyn sy’n cael ei wario ar ddylunio, cynhyrchu a phrofi’r gêm.

Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu (yn agor tudalen Saesneg) cyn hawlio’r rhyddhad.

Prawf o ran diwylliant 

Er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhadau treth y diwydiant creadigol, mae’n rhaid i bob gêm fideo basio prawf o ran diwylliant a chael ei hardystio yn un Brydeinig. 

Sefydliad Ffilm Prydain sy’n rheoli’r broses o bennu cymhwyster a dyrannu tystysgrifau ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Bydd Sefydliad Ffilm Prydain yn dyrannu: 

  • tystysgrif dros dro ar gyfer gwaith sydd ar y gweill 

  • tystysgrif derfynol ar gyfer cynhyrchiad sydd wedi’i gyflawni 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses ardystio a sut i wneud cais ar wefan Sefydliad Ffilm Prydain.

Gwirio a yw’r gêm fideo yn gymwys i gael rhyddhad treth 

Gall eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’r canlynol yn wir am y gêm fideo: 

  • mae wedi’i hardystio yn un Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain 

  • bwriedir bod y gêm ar gael i’r cyhoedd 

  • dechreuodd y gwaith cynhyrchu ar neu cyn 31 Mawrth 2025

Ni all eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’ch gêm yn cael ei chynhyrchu ar gyfer: 

  • dibenion hysbysebu neu hyrwyddo 

  • dibenion hapchwarae 

Gallwch wirio a yw’r rhaglen yn gymwys i gael y rhyddhad.

Yr hyn y gallwch ei hawlio 

Gallwch hawlio didyniad ychwanegol i ostwng eich elw, neu i gynyddu colled. Bydd hyn yn gostwng swm unrhyw Dreth Gorfforaeth y bydd angen i chi ei thalu.

Y didyniad ychwanegol yw’r isaf o’r canlynol: 

  • 80% o gyfanswm y costau craidd

  • swm y costau craidd ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r DU a’r AEE 

Os byddwch yn gwneud colled, gall yr holl golled, neu ran ohoni, gael ei hildio yn gyfnewid am gredyd treth taladwy, a hynny ar gyfradd o 25%.

Pryd y gallwch hawlio 

Gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Gemau Fideo, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu’n ôl, hyd at un flwyddyn ar ôl dyddiad cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni. 

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Gemau Fideo, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu’n ôl, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod rhoi cyfrif y mae’r hawliad yn berthnasol iddo. 

Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau. 

Sut i hawlio

Gallwch hawlio’r rhyddhad treth ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

O fis Ebrill 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi gynnwys tudalen atodol CT600P ar gyfer y diwydiannau creadigol gyda’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Bydd angen i chi gyfrifo’r symiau canlynol: 

  • y didyniad ychwanegol sy’n ddyledus i’ch cwmni 

  • unrhyw gredyd taladwy sy’n ddyledus 

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn ategu’ch hawliad.

Ar gyfer pob cynhyrchiad, mae’n rhaid i chi roi’r canlynol: 

  • tystysgrif ddiwylliannol Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain — os byddwch yn anfon tystysgrif dros dro, bydd yn rhaid i chi anfon y dystysgrif derfynol pan fydd y gêm wedi’i chwblhau a bydd yn rhaid i’r dystysgrif fod â dyddiad dilys pan fyddwch yn ei chyflwyno 

  • datganiad o’r costau craidd, wedi’u rhannu fel y ganlyn: 

    • costau o’r DU neu’r AEE 

    • costau nad ydynt o’r DU na’r AEE 

  • dadansoddiad o’r costau fesul categori

Rhyddhad Treth Gemau Fideo yn cau o 1 Ebrill 2027 ymlaen 

Ni allwch hawlio Rhyddhad Treth Gemau Fideo gyfer unrhyw gynyrchiadau sy’n dechrau’r cam cynhyrchu ar ôl 31 Mawrth 2025.

Bydd y rhyddhad yn cau ar gyfer pob cynhyrchiad o 1 Ebrill 2027 ymlaen.

Efallai y byddwch yn gallu hawlio Credyd Gwariant Gemau Fideo ar gyfer unrhyw gynyrchiadau na allwch hawlio Rhyddhad Treth Gemau Fideo ar eu cyfer.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut mae’r rhyddhad yn cael ei gyfrifo, yn y Llawlyfr i Gwmnïau Datblygu Gemau Fideo (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Chwefror 2025 + show all updates
  1. Guidance added to check if the production qualifies for the tax relief. Added in information about CT600P supplementary page.

  2. We have updated the page with information on the Video Games Expenditure Credit scheme and the Closure of Video Games Tax Relief scheme from 1 April 2027.

  3. The 'How to claim' section has been updated with a link to 'Support your claim for creative industry tax reliefs' which explains how to provide evidence to support your creative industry reliefs claim.

  4. First published.

Print this page